Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno amcangyfrifon dangosol o nifer y ffermydd yng Nghymru y gallai’r terfyn blynyddol o 170kg yr hectar y flwyddyn o nitrogen o dda byw effeithio arnynt. Caiff y terfyn hwnnw ei ragnodi dan y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru). At hynny, caiff amcangyfrifon dangosol eu cyflwyno o gyfanswm y costau cydymffurfio, ar lefel ffermydd ac yn y gadwyn gyflenwi. Gallai’r canfyddiadau a gyflwynir gyfrannu i unrhyw Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y dyfodol.

Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn gwneud defnydd pragmatig o’r data gorau sydd ar gael. Fodd bynnag, rhaid i’r amcangyfrifon gael eu trin yn ofalus fel amcangyfrifon sy’n cynnig darluniau dangosol yn hytrach na chasgliadau pendant. Mae hynny’n adlewyrchu sawl elfen o ansicrwydd ynghylch data a sawl cyfyngiad sy’n perthyn i’r dull modelu a’i ragdybiaethau. Dylai’r canlyniadau gael eu dehongli yn ofalus, felly, gan ystyried eu cafeatau, y cyd-destun a’r angen am waith ymchwil pellach. 

Er enghraifft, nid yw’r data am dda byw yr adroddwyd yn ei gylch yn Arolwg Amaethyddol Mehefin yn cyd-fynd yn berffaith â chategorïau’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol, mae ardaloedd ffermydd a niferoedd da byw yn amrywio ar draws gwahanol ffynonellau swyddogol o ddata, ac mae’n bosibl nad yw cyfartaledd costau unedau ar gyfer allforio nitrogen, rhentu tir a/neu leihau stoc er mwyn cydymffurfio â’r terfyn 170kg o nitrogen yn adlewyrchu amgylchiadau lleol. Yn yr un modd, mae dadansoddi effeithiau ehangach yn y gadwyn gyflenwi yn gofyn am ragdybiaethau ychwanegol. Caiff cafeatau o’r fath eu nodi a’u trafod ym mhob rhan o’r adroddiad.

Yn ogystal, mae’r dadansoddiad yn canolbwyntio’n llwyr ar y terfyn o 170kg o nitrogen, ond mae ffermydd Cymru hefyd yn rhwym wrth fesurau rheoli rheoleiddiol cysylltiedig eraill. Mae’r rheini yn cynnwys nid yn unig capasiti gofynnol sylfaenol i storio slyri ac amserlenni wedi’u rhagnodi ar gyfer gwasgar slyri ond hefyd, ac yn bwysig, cyfyngiadau’n ymwneud â lefelau ffosffadau o ffynonellau da byw (dan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2010). Mae cyfyngiadau ar ddata’n golygu, fodd bynnag, nad oedd asesiad o’r newidiadau rheoleiddiol cyfun hyn yn bosibl. 

Mae’r trothwy blynyddol unffurf o 170kg o nitrogen yn un elfen mewn pecyn o fesurau i leihau allyriadau nitradau ac allyriadau ffosfforaidd. Mae mesurau o’r fath yn mynd i’r afael â’r risgiau byrdymor sy’n gysylltiedig â chostau ôl-weithredol sylweddol torri rheolau’r UE, ac yn mynd i’r afael â gofynion tymor hwy yr UE o ran cystadleuaeth er mwyn cynnal Tegwch yn y Farchnad. Mae amrywio dulliau rheoleiddio yn gydnaws â’r ail beth, cyhyd â bod y dulliau’n dal i arwain at ganlyniad cyfwerth. Fodd bynnag, er bod y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng yr UE a’r DU yn caniatáu gwahaniaethau rheoleiddiol, gallai methu â sicrhau canlyniadau cyfwerth fygwth allforion o ffermydd y DU i’r UE (a oedd yn werth tua £2.8 biliwn yn 2023, ac yr oedd gwerth tua £0.3 biliwn ohonynt yn dod o Gymru ac yn ymwneud i raddau helaeth â da byw).

O safbwynt dadansoddi darperir ar gyfer yr amryw elfennau o ansicrwydd, sy’n rhyngweithio â’i gilydd, drwy frasamcanu’r arffin isaf a’r arffin uchaf. Caiff amcangyfrifon eu dangos ar gyfer ffermydd a oedd yn cael taliadau cymorth cyhoeddus yn 2019; ar gyfer pob fferm; ac yna ar gyfer unedau masnachol yn unig. Fel blwyddyn sylfaen, mae 2019 yn cynrychioli’r sefyllfa cyn iddi fod yn debygol bod ffermydd wedi mabwysiadu mesurau lliniaru, sy’n golygu na fydd effeithiau amcangyfrifedig y Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn cael eu gwanhau gan unrhyw newidiadau mwy diweddar i arferion rheoli.

Y prif ganlyniadau yw yr amcangyfrifir ei bod yn bosibl y byddai’r terfyn o 170kg yn effeithio ar leiafrif y ffermydd yn unig yn gyffredinol. Fodd bynnag, mae’r math o fferm yn dylanwadu llawer ar ba mor debygol yw hi y byddai’r terfyn o 170kg yn effeithio ar fferm unigol. Yn benodol, yn ôl y disgwyl, mae’r terfyn o 170kg yn fwy tebygol o effeithio ar ffermydd dofednod a ffermydd llaeth, oherwydd bod eu systemau rheoli’n tueddu i fod yn fwy dwys. Mae’r terfyn o 170kg yn llai tebygol o effeithio ar ffermydd tir âr yr iseldir a ffermydd tir pori’r ucheldir. 

Mae’r tebygolrwydd amcangyfrifedig y gallai’r terfyn o 170kg effeithio ar fferm yn cynyddu hefyd gyda maint y fferm, fel y caiff ei fesur gan y Gofyniad Safonol am Lafur. Mae hynny’n adlewyrchu’r tuedd i ffermydd mwy o faint fod â niferoedd uwch o dda byw a reolir yn fwy dwys. Yn yr un modd, amcangyfrifir bod cyfran yr unedau masnachol y gallai’r terfyn o 170kg effeithio arnynt yn fwy na’r gyfran ar gyfer pob fferm. Mae hynny’n adlewyrchu’r ffaith bod pob fferm yn cynnwys unedau bach iawn y mae dwysedd eu lefelau stocio’n eithaf isel, a bod unedau masnachol ar y llaw arall yn tueddu i fod yn fwy o faint ac yn tueddu i gael eu rheoli’n fwy dwys.

Mae’r gwahaniaeth rhwng yr amcangyfrifon ar gyfer arffin isaf ac arffin uchaf yn eithaf bach ar gyfer y rhan fwyaf o wahanol fathau o ffermydd. Fodd bynnag, mae’r gwahaniaeth yn fwy amlwg yn achos y ddau fath o fferm y gallai’r terfyn o 170kg effeithio fwyaf arnynt, sef ffermydd llaeth a ffermydd dofednod. Yn achos unedau masnachol, o ran ffermydd llaeth mae’r ganran yn amrywio o oddeutu 33% (462 o ffermydd) i oddeutu 63% (843 o ffermydd), ac o ran ffermydd dofednod mae’n amrywio  o oddeutu 41% (40 o ffermydd) i oddeutu 51% (50 o ffermydd). Mae hynny’n adlewyrchu sensitifrwydd i ragdybiaethau ynghylch categorïau da byw, a chyfernodau nitrogen felly. Yn benodol, mae dylanwad y band cynnyrch llaeth tybiedig ar gyfer gwartheg godro yn drwm. At hynny, bydd gan lawer o unedau dofednod fesurau lliniaru ar waith yn barod, tra bydd y mesurau hynny heb eu cyflwyno ar ffermydd llaeth.

Mae’r mesurau lliniaru ar gyfer y ffermydd yr effeithir arnynt, er mwyn cydymffurfio â’r terfyn o 170kg o nitrogen, yn cynnwys allforio unrhyw nitrogen gormodol, rhentu tir ychwanegol a lleihau stoc. Lleihau stoc yw’r mesur sy’n tarfu fwyaf ar ffermydd ac sy’n costio fwyaf i’w weithredu, felly mae’n llai tebygol o gael ei ddewis na rhentu tir neu allforio nitrogen. Amcangyfrifir mai oddeutu £46 miliwn i oddeutu £113 miliwn fyddai cyfanswm y costau ar lefel ffermydd, pe bai’r lliniaru i gyd yn digwydd drwy leihau stoc. Mae amcangyfrifon o gostau effaith, o reidrwydd, yn tybio bod yr holl ffermydd yr effeithir arnynt yn mabwysiadu’r mesur lliniaru a ystyrir yn unig. Mewn gwirionedd, mae’n debygol y bydd ffermydd yn mabwysiadu cymysgedd o ddulliau gweithredu sy’n addas i’w hamgylchiadau penodol nhw. 

Y ffigurau cyfatebol ar gyfer rhentu tir yn unig yw oddeutu £10 miliwn i £22 miliwn, a’r ffigurau cyfatebol ar gyfer allforio nitrogen yn unig yw oddeutu £6 miliwn i oddeutu £14 miliwn (er bod gosod tir ar rent yn ffrwd bosibl o incwm hefyd i ffermwyr eraill). Fodd bynnag, os oes llawer o angen lleol am dir ychwanegol i’w rentu neu i allforio nitrogen gormodol iddo, fel yn ne-orllewin Cymru, byddai disgwyl i brisiau lleol a phellteroedd cludo allforion gynyddu. 

Mae gan fesurau lliniaru ar y fferm oblygiadau i’r gadwyn gyflenwi ehangach. Er enghraifft, un o’r goblygiadau mwyaf nodedig yw bod lleihau stoc yn golygu’n syth y byddai yna lai o alw am fewnbwn cyflenwyr sydd ymhellach i fyny’r gadwyn gyflenwi ac y byddai llai o ddeunyddiau crai ar gael ar gyfer proseswyr sydd ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi. Mae goblygiadau rhentu tir ac allforio nitrogen yn llai uniongyrchol, ond byddai disgwyl o hyd i’r mesurau hynny arwain at rai sgil-effeithiau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai tir a gaiff ei rentu wedi cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill o’r blaen, ac mae allforio nitrogen yn dasg ychwanegol y mae angen darparu ar ei chyfer.

Ceir ansicrwydd ynghylch cysylltiadau yn y gadwyn gyflenwi (ac unrhyw beth sy’n croesi’r ffin), ond mae dadansoddiad economaidd dangosol o luosyddion yn awgrymu y byddai lleihau stoc yn arwain at golli rhwng oddeutu £64 miliwn ac oddeutu £156 miliwn o Werth Ychwanegol Gros yng Nghymru, o’r sector llaeth yn bennaf. Oddeutu £25 miliwn i oddeutu £56 miliwn yw’r ffigurau cyfatebol ar gyfer rhentu tir (er y byddent efallai’n cael eu gwrthbwyso’n rhannol gan incwm ar ffurf rhent i ffermwyr eraill) ac oddeutu £7 miliwn i oddeutu £17 miliwn yw’r ffigurau cyfatebol ar gyfer allforio nitrogen gormodol. Mae hyn unwaith eto yn dangos mai lleihau stoc yw’r mesur lliniaru mwyaf costus.

At hynny, mae dadansoddiad dangosol o luosyddion yn awgrymu y byddai yna ostyngiadau yn yr angen am lafur ar draws y gadwyn gyflenwi. Mae’r gostyngiadau hynny’n seiliedig ar y Gofyniad Safonol am Lafur ar lefel ffermydd, sy’n cuddio llawer o effeithlonrwydd amrywiol ar draws ffermydd ac yn cuddio gwelliannau i gynhyrchiant gydag amser. Maent hefyd yn tybio mai 1900 o oriau yw blwyddyn waith ffermwyr, sy’n llai na nifer yr oriau mewn gwirionedd. Felly, ni ddylai’r newidiadau a amcangyfrifir i gyfansymiau’r Gofyniad Safonol am Lafur gael eu dehongli’n llythrennol yn nhermau niferoedd y swyddi; yn hytrach dylid tybio eu bod yn arwydd o faint cymharol unrhyw bwysau i newid. 

Yr arffin isaf a’r arffin uchaf a amcangyfrifir ar gyfer gostyngiadau yn y Gofyniad Safonol am Lafur, sy’n gysylltiedig â lleihau stoc, yw rhwng oddeutu 1560 ac oddeutu 5501. Y ffigurau cyfatebol ar gyfer rhentu tir yw rhwng oddeutu 579 ac oddeutu 2374 (sef effaith cefnu ar y modd y câi’r tir ei ddefnyddio o’r blaen). Tybir nad yw allforio nitrogen yn achosi unrhyw ostyngiadau. Unwaith eto, mae hynny’n dangos mai lleihau stoc yw’r mesur lliniaru mwyaf costus o’i gymharu â’r mesurau eraill. Mae’n dangos hefyd mor sensitif yw’r amcangyfrifon i ansicrwydd ynghylch y data sylfaenol.

Bydd y dull gweithredu a ddewisir gan unrhyw fferm yn dibynnu ar amgylchiadau’r fferm unigol ac ar gyfleoedd yn lleol; y disgwyl yw y byddai yna gymysgedd o fesurau lliniaru ar draws y boblogaeth. Nid oes amheuaeth na fydd rhai ffermwyr efallai’n penderfynu rhoi’r gorau i fasnachu, yn penderfynu ymddeol neu’n penderfynu arallgyfeirio. Er hynny, mae’n annhebygol mai llwytho nitrogen yw’r unig ffactor fyddai’n sbarduno rhywun i leihau stoc, arallgyfeirio neu ymadael â’r diwydiant. Mae’n bosibl y byddai ffactorau eraill sy’n gysylltiedig neu beidio â’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn chwarae rhan mewn unrhyw benderfyniad o’r fath, er enghraifft yr angen am gapasiti ychwanegol i storio slyri, yr angen i fuddsoddi mewn parlwr godro newydd, diffyg proffidioldeb neu salwch. 

Er hynny, yn ymarferol, mae lleihau maint buches yn annhebygol o fod yn ddewis cyntaf ar gyfer cydymffurfio yn y rhan fwyaf o achosion. Yn ogystal, hyd yn oed os dyna’r opsiwn a ddewisir, mae’n annhebygol o olygu gostyngiad pro rata ym mhob categori da byw. Yn hytrach, efallai mai’r opsiwn a gaiff ei ffafrio yw cyflwyno newidiadau mwy cynnil i gyfansoddiad buches, er enghraifft rhoi contract i rywun arall fagu heffrod, neu ddidol anifeiliaid sy’n llai cynhyrchiol. Mae addasiadau o’r fath yn debygol o leihau’r effeithiau i raddau.

Yn yr un modd, er bod rhentu tir ac allforio nitrogen gormodol yn opsiynau mwy deniadol ar gyfer cydymffurfio, mae eu hymarferoldeb yn dibynnu ar faint o dir sydd ar gael yn lleol. O ganlyniad, bydd ffactorau sydd y tu hwnt i’r Rheoliadau Rheoli Llygredd Amaethyddol yn dylanwadu ar hynny, sy’n cynnwys pa mor fywiog yw’r farchnad eiddo mewn ardaloedd gwledig yn gyffredinol a’r pwysau i greu coetir. 

Amcangyfrifon hollol ddangosol, o reidrwydd, a gyflwynir yn yr adroddiad ond maent yn ddigon i ddangos patrymau a maint cymharol tebygol unrhyw effeithiau. I fireinio’r amcangyfrifon a/neu i lunio Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn y dyfodol, byddai angen data ychwanegol sy’n fwy cadarn a/neu byddai angen cynnal profion uniongyrchol ar ganlyniadau. Er enghraifft, o ran band cynnyrch llaeth ffermydd llaeth unigol, byddai angen cynnal profion uniongyrchol ar gyfrif da byw misol ffermydd unigol, nifer a maint ffermydd da byw, a chysylltiadau gwirioneddol yn y gadwyn gyflenwi. Er ei bod yn fwy tebygol y bydd ffermydd â llawer o stoc yn cael eu cyfyngu gan derfynau ar ffosffadau, bydd angen i unrhyw asesiad meintiol o effeithiau posibl cyfyngiadau ar wasgar ffosffadau gael mynegsgorau ffosffadau mewn pridd a gesglir ar draws Cymru gyfan. Mae natur fregus benodol y sector llaeth yn amlwg ac yn teilyngu gwaith ymchwil pellach.