Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb

Mae'r papur hwn yn crynhoi'r cynigion allweddol yn y Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd. Nid yw'n nodi pob cynnig unigol ond, yn hytrach, mae'n grwpio cynigion er mwyn rhoi darlun cyffredinol a thynnu sylw at y diwygiadau allweddol.

Ceir rhagor o fanylion am y cynigion a manylion am y cyd-destun a'r nodau polisi ehangach yn y Papur Gwyn.

Cyflwyniad

Mae'r cynigion yn y Papur Gwyn yn rhan o broses hirdymor o drawsnewid y system digartrefedd a thai, fel y nodir yn y Rhaglen Lywodraethu a'r Cytundeb Cydweithio.

Mae'r Papur Gwyn yn rhoi'r cefndir a'r cyd-destun polisi ar gyfer y diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig cyn amlinellu ein cynigion o dan bum prif thema, sef:

  • Diwygio’r ddeddfwriaeth graidd bresennol sy’n ymwneud â digartrefedd.
  • Rôl gwasanaeth cyhoeddus Cymru o ran atal digartrefedd.
  • Cynigion wedi'u targedu i atal digartrefedd i'r rhai yr effeithir arnynt yn anghymesur.
  • Mynediad i dai.
  • Sut i weithredu.

Egwyddorion allweddol

Mae pob un o'r cynigion yn helpu i gyflawni un neu fwy o'n hegwyddorion gwaith allweddol:

  • Bydd y diwygiadau yn helpu i gyflawni nod Llywodraeth Cymru i sicrhau bod digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw'n ailddigwydd.
  • Bydd y diwygiadau yn hwyluso'r gwaith o ddarparu gwasanaethau sy'n ystyriol o drawma (yn seiliedig ar y ddealltwriaeth y gall amlygiad i drawma effeithio ar ddatblygiad ac ymddygiad niwrolegol, biolegol, seicolegol a chymdeithasol unigolyn) ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn (anghenion, cryfderau a dymuniadau'r cleient unigol sy'n ffurfio'r sail ar gyfer cynllunio ei wasanaeth).
  • Bydd y diwygiadau'n helpu i gyflawni nod polisi hirdymor Llywodraeth Cymru mewn perthynas ag Ailgartrefu Cyflym (gall pobl ddigartref gael tai hirdymor yn gyflym, dod yn fwy hunangynhaliol ac aros yn eu tai) a chynnal y newid sylweddol mewn arferion a gyflawnwyd mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws.
  • Bydd y diwygiadau hyn yn sicrhau mai holl wasanaeth cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am atal digartrefedd.

Drwy'r diwygiadau arfaethedig a'r arferion a'r canllawiau ategol, rydym yn anelu at gyflawni'r canlynol:

  • Caiff y risg o ddigartrefedd ei hatal cyn gynted â phosibl a bydd y cyfrifoldeb am nodi ac atal digartrefedd yn cael ei rannu gan bob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru.
  • Bydd yr awdurdod tai lleol yn cynnig gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar unigolion ac sy'n ystyriol o drawma a arweinir gan anghenion y cleient, lle y bo modd.
  • Bydd y system yn haws i'w defnyddio ac, i'r rhai y bydd angen iddynt ei defnyddio, bydd yn cynnig mwy o gymorth cydgysylltiedig amlasiantaethol er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion cymorth.
  • Bydd safonau'r llety dros dro sydd ar gael yn well a bydd gwelliannau pellach yn digwydd dros amser.  Bydd y defnydd o lety dros dro, yn gyffredinol, yn lleihau dros amser.
  • Byddwn yn manteisio i'r eithaf ar y defnydd o dai cymdeithasol i roi diwedd ar ddigartrefedd ac yn defnyddio amrywiaeth o opsiynau eraill.
  • Caiff camau wedi'u targedu eu cymryd er mwyn gwella profiad y bobl sydd fwyaf tebygol o wynebu effeithiau digartrefedd.

Mae'r tabl isod yn rhoi crynodeb o'r ffordd y mae'r diwygiadau a gynigir yn y Papur Gwyn yn cyflawni'r egwyddorion fel y'u nodwyd uchod

Diwygiadau a gynigiwyd yn y papur gwyn

Egwyddor waith: Digartrefedd yn brin

Mae digartrefedd yng Nghymru yn beth prin a byrhoedlog, nad yw'n ailddigwydd.

Bwriad polisi

Caiff y risg o ddigartrefedd ei nodi'n gynnar ac mae ymyrryd ar yr adeg hon yn atal y mwyafrif o achosion o ddigartrefedd rhag digwydd.

Mae defnyddwyr gwasanaethau yn bartneriaid gweithredol yn y gwasanaethau a ddarperir iddynt, sy'n hawdd eu deall, yn cyd-fynd â'u hanghenion ac yn cynnig ymyriadau effeithiol.

Crynodeb o'r cynnig

Rydym yn cynnig y dylai'r cyfnod o amser pan ddisgwylir i awdurdodau lleol wneud gwaith atal ystyrlon gael ei ymestyn o 56 diwrnod i chwe mis neu, pan fydd Hysbysiad Adennill Meddiant wedi'i gyflwyno, gyfnod yr hysbysiad hwnnw.

Rydym yn cynnig y dylai fod gan bob ymgeisydd Gynllun Tai Personol sy'n cael ei adolygu'n rheolaidd, sy'n ystyried eu barn ac sydd wedi'i deilwra at eu hanghenion. Bydd y cynllun yn cofnodi'r camau sydd i'w cymryd gan yr awdurdod tai lleol er mwyn atal yr ymgeisydd rhag bod yn ddigartref a/neu sy'n debygol o sicrhau llety.

Egwyddor waith: Darperir gwasanaethau

Darperir gwasanaethau mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn

Bwriad polisi

Mae'r system ddigartrefedd ar gael i bob person cymwys y mae ei hangen arno.

Crynodeb o'r cynnig

Rydym yn cynnig y dylid dileu'r prawf “angen blaenoriaethol”. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, mae 11 o gategorïau o bobl mewn angen blaenoriaethol. Mae p'un a oes gan unigolyn angen blaenoriaethol ai peidio yn effeithio ar y dyletswyddau a fydd gan yr awdurdod lleol er enghraifft, dim ond i unigolion mewn angen blaenoriaethol y mae'r prif ddyletswyddau sy'n ymwneud â digartrefedd yn gymwys. Bydd dileu'r prawf hwn yn golygu na fydd angen i ymgeiswyr digartref cymwys ddangos eu bod yn bodloni'r prawf “angen blaenoriaethol” mwyach er mwyn cael budd o ddyletswyddau o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (neu'r dyletswyddau cyfatebol mewn deddfwriaeth ddiwygiedig).

Rydym yn cynnig y dylid dileu'r “prawf bwriadoldeb” o ddeddfwriaeth. O dan y ddeddfwriaeth bresennol, os bydd ymgeisydd wedi gwneud unrhyw beth neu wedi methu â gwneud unrhyw beth yn fwriadol sydd wedi achosi iddo roi'r gorau i feddiannu llety, ystyrir ei fod yn fwriadol ddigartref. Gallai hyn effeithio ar y dyletswyddau sy'n ddyledus iddo gan yr awdurdod lleol. Byddai dileu'r prawf hwn yn golygu na fyddai pobl sy'n agored i niwed wedi'u heithrio rhag cael cymorth digartrefedd a byddai'n helpu i greu system sy'n ystyriol o drawma ac sy'n ei gwneud yn bosibl i wasanaethau gael eu darparu mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.

Rydym yn cynnig y dylid ychwanegu grwpiau eraill o bobl at y rhestr o eithriadau o dan y “prawf Cysylltiad Lleol”, er mwyn darparu ar gyfer cysylltiadau â chymunedau nad ydynt yn rhai teuluol a rhoi mwy ystyriaeth i'r rhesymau pam na all unigolyn ddychwelyd i'r awdurdod cartref Bydd hyn yn hwyluso system sy'n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn.

Rydym yn cynnig y dylid cyfyngu ar y defnydd o'r prawf methiant afresymol i gydweithredu (a allai, o dan y ddeddfwriaeth bresennol, fod yn rheswm i awdurdod lleol ddod â'i ddyletswyddau i ben) i fod yn fwy ystyriol o drawma.

Rydym yn cynnig y dylid rhoi mwy o gyfleoedd i ymgeisydd wneud cais am adolygiad o benderfyniadau allweddol yn ei achos.

Egwyddor waith: Ailgartrefu Cyflym

Ailgartrefu Cyflym: gall pobl ddigartref gael tai hirdymor yn gyflym, dod yn fwy hunangynhaliol ac aros yn eu tai.

Parhau â'r newid sylweddol mewn arferion a gyflawnwyd mewn ymateb i bandemig y Coronafeirws.

Bwriad polisi

Mae'r system ddigartrefedd yng Nghymru mor syml â phosibl; o ran ei defnyddio fel ymgeisydd, ac o ran ei chynnal fel awdurdod lleol.

Mae'r bobl sydd ei angen yn cael cymorth parhaus sy'n eu helpu i gadw eu contract meddiannaeth mewn llety dros dro a llety sefydlog.

Mae'r cartref dros dro a'r cartref sefydlog a roddir i berson sy'n ddigartref yn y lle cywir, yn cael ei ddyrannu ar yr adeg gywir ac yn addas i'w anghenion.

Caiff tai cymdeithasol eu dyrannu i fwy o aelwydydd digartref.

Mae'r bobl sydd ei angen yn cael cymorth parhaus sy'n eu helpu i gadw eu contract meddiannaeth mewn llety dros dro a llety sefydlog.

Crynodeb o'r cynnig

Rydym wedi adolygu'r dyletswyddau digartrefedd presennol ac wedi cynnig cyfres ddiwygiedig o ddyletswyddau rydym yn gobeithio y byddant yn haws eu deall i ymgeiswyr ac yn symlach i'r awdurdod lleol eu cyflawni. Byddai hyn yn cynnwys dileu'r “ddyletswydd rhyddhad”. (pan fo'n rhaid i awdurdod tai lleol helpu i sicrhau llety addas i'w feddiannu gan ymgeisydd os bydd yn fodlon bod yr ymgeisydd yn ddigartref ac yn gymwys i gael cymorth, daw'r ddyletswydd hon i ben ar ôl 56 diwrnod).Nod y cynnig i ddileu'r ddyletswydd rhyddhad yw creu proses lle y bydd y ddyletswydd atal yn ddyledus i unigolyn sydd gan fygythiad o ddigartrefedd a lle y bydd y brif ddyletswydd tai yn ddyledus i unigolyn digartref (oni wneir atgyfeiriad o dan y “prawf cysylltiad lleol”).

Rydym yn cynnig y dylid cyfathrebu'n amlach gan ddefnyddio iaith sy'n fwy dealladwy.

Rydym yn cynnig y dylid gwella safonau sy'n ymwneud ag addasrwydd llety. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod llety â Pheryglon Categori 1 bob amser yn anaddas.
  • Gwahardd lleoedd cysgu a rennir.
  • Defnyddio'r un safonau ar gyfer llety preifat nad yw'n llety hunangynhwysol a llety nad yw'n hunangynhwysol sy'n eiddo i awdurdod tai lleol/landlord cymdeithasol cofrestredig neu sy'n cael ei reoli ganddo.
  • Sicrhau nad yw lleoli unigolion mewn llety gorlawn byth yn addas ar adeg cyflawni'r brif ddyletswydd tai.
  • Gwahardd llety dros dro heb gymorth rhag cael ei ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc.
  • Ni ddylid caniatáu i lety dros dro anaddas, gan gynnwys llety Gwely a Brecwast a llety a rennir, gael ei ddefnyddio ar gyfer pobl ifanc o dan 25 oed am unrhyw gyfnod o amser. 
  • Sicrhau na ellir ystyried bod llety yn addas oni fydd wedi'i leoli o fewn pellter teithio rhesymol i gyfleusterau addysgol, cyflogaeth, cyfrifoldebau gofalu a chyfleusterau meddygol presennol neu newydd.
  • Gofyniad bod yr awdurdod tai lleol yn ystyried unrhyw anghenion iechyd penodol ac arwyddocâd unrhyw darfu a achosir gan leoliad y llety, yn ogystal â gofyniad i ddarparu ar gyfer rhoi sylw mwy cyffredinol i lesiant ymgeisydd a'i allu i gael cymorth yn fwy cyffredinol, gan gynnwys rhwydweithiau nad ydynt yn rhai teuluol.
  • Darpariaeth ddeddfwriaethol i ystyried, ar y cyfan, mai safleoedd (yn hytrach na llety brics a morter) yw'r llety mwyaf addas i ymgeisydd o'r gymuned deithio (Sipsiwn, Roma a Theithwyr).
  • Ffurfioli Cynllun Digartref Gartref yn genedlaethol er mwyn rhoi dewis i unigolion aros yn eu llety a bod yn gymwys o hyd i wneud cais am gymorth digartrefedd.
  • Casglu Data: adeiladu ar waith sydd eisoes yn mynd rhagddo drwy ddatblygu Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym awdurdodau llai, yr Asesiad o'r Farchnad Dai Leol a chynlluniau Adeiladu er mwyn sicrhau, yn lleol ac yn genedlaethol, y gallwn broffilio argaeledd llety dros dro a'r stoc llety dros dro yng Nghymru, proffil y rhai sy'n ei ddefnyddio (gan gynnwys profiad grwpiau gwarchodedig) a faint o amser y mae pobl  yn aros mewn llety dros dro.
  • Gofyniad i adolygu safonau addasrwydd bob tair blynedd er mwyn asesu a yw datblygiadau o ran y cyflenwad o lety yn ein galluogi i gyflwyno lefel uwch o safonau gofynnol.

Rydym yn cynnig y dylid deddfu er mwyn cynyddu dyraniadau tai cymdeithasol i aelwydydd digartref. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Darpariaeth ddeddfwriaethol newydd a fydd yn nodi'n glir na all landlord cymdeithasol cofrestredig wrthod yn afresymol atgyfeiriad gan awdurdod tai lleol, o fewn cyfnod penodol o amser, ac eithrio o dan amgylchiadau penodol.
  • Mai dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig penodol y dylai'r prawf presennol ar gyfer ymddygiad annerbyniol, sy'n caniatáu i awdurdod tai lleol eithrio ymgeiswyr o'i gynllun dyrannu, neu ddileu unrhyw ffafriaeth resymol a roddir iddynt, fod yn gymwys.
  • Cyflwyno pŵer arfaethedig i dynnu enwau pobl nad oes angen tŷ arnynt neu bobl sy'n berchen ar eiddo domestig oddi ar y rhestr aros.
  • Rhoi ffafriaeth ychwanegol i bobl ddigartref, pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy'n ddigartref a phobl sy'n ffoi rhag camdriniaeth dros grwpiau eraill â blaenoriaeth yr ystyrir bod ‘angen tŷ ar frys arnynt’.
  • Gofyniad statudol i ddefnyddio'r Gofrestr Tai Cyffredin/Polisïau Dyraniadau Cyffredin.
  • Cyflwyno ‘prawf camddefnydd bwriadol’ er mwyn cyfyngu ar unrhyw flaenoriaeth uchel a roddir ar sail digartrefedd neu ei dileu a fyddai wedi'i gyfyngu i unigolion y ceir eu bod wedi camddefnyddio'r system ddigartrefedd yn fwriadol, er mwyn cael mantais wrth wneud cais am dai cymdeithasol.

Rydym yn cynnig amrywiaeth ehangach o opsiynau ar gyfer cyflawni'r brif ddyletswydd tai, gan gynnwys llety cynaliedig, llety â chymorth ac aros mewn llety blaenorol, gan gynnwys cartref y teulu, neu ddychwelyd yno.

Rydym yn cynnig y dylid cyflwyno dyletswydd newydd er mwyn helpu i gadw contract meddiannaeth.

Egwyddor waith: Atal digartrefedd

Mae holl wasanaeth cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am atal digartrefedd.

Bwriad polisi

Caiff y risg o ddigartrefedd ei nodi yn gynharach ac mae gweithgarwch i'w hatal yn digwydd ynghynt.

Gwasanaeth cyhoeddus Cymru sy'n gyfrifol am atal digartrefedd, ac mae'n cydweithio i ymateb i'r rhybuddion a chynnig cymorth cyfannol i bobl ag anghenion cymhleth.

Mae ymyriadau wedi'u targedu ar waith er mwyn diogelu'r rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddigartrefedd.

Crynodeb o'r cynnig

Rydym yn cynnig y dylid cyflwyno dyletswyddau newydd i nodi, atgyfeirio a chydweithredu i atal digartrefedd, a fydd yn gymwys i bob rhan o wasanaeth cyhoeddus Cymru a thu hwnt. Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Dyletswydd newydd i nodi'r rhai sy'n wynebu risg o ddigartrefedd a'u hatgyfeirio at gyrff penodedig yn y gwasanaeth cyhoeddus, er mwyn i awdurdod lleol gael ei hysbysu cyn gynted â phosibl os bydd unigolyn dan fygythiad o ddigartrefedd neu'n ddigartref eisoes.
  • Mae'r ddyletswydd i atgyfeirio yn cael ei hategu gan ddyletswydd ar y cyrff penodedig yn y gwasanaethau cyhoeddus i gymryd camau o fewn eu swyddogaethau eu hunain er mwyn cynnal contractau meddiannaeth safonol neu ddiogel a lliniaru'r risg o ddigartrefedd.
  • Dyletswydd ehangedig i gydweithredu (a osodir gan adran 95 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ar hyn o bryd), er mwyn sicrhau y bydd mwy o wasanaethau cyhoeddus yn cael eu defnyddio ac y byddant yn gyfrifol am sicrhau bod digartrefedd yn beth prin a byrhoedlog nad yw'n ailddigwydd. 
  • Atgyfnerthu arweinyddiaeth strategol ym maes digartrefedd yn rhanbarthol.
  • Dull statudol o gydgysylltu achosion ar gyfer pobl sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd ac sydd â nifer o anghenion cymorth cymhleth.

Byddwn yn ystyried ffyrdd y gallwn atgyfnerthu arweinyddiaeth strategol ym maes digartrefedd yn rhanbarthol.

Rydym yn cynnig y dylid cyflwyno diwygiadau ataliol wedi'u targedu ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf:

Plant, pobl ifanc a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal

Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Rydym yn bwriadu atgyfnerthu cyfrifoldeb rhianta corfforaethol presennol er mwyn sicrhau bod unigolion 16-17 oed sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o ddigartrefedd yn syrthio rhwng gwasanaethau, a bod gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau digartrefedd yn gweithio mewn partneriaeth wirioneddol er mwyn sicrhau llety addas ac unrhyw gymorth ehangach sydd ei angen ar y bobl ifanc hyn.
  • Sicrhau na ddylai unrhyw blentyn 16 neu 17 oed gael ei letya mewn llety dros dro heb gymorth ac i'r rhai sy'n gadael gofal  cymdeithasol neu'r system cyfiawnder ieuenctid, bod defnyddio'r system ddigartrefedd fel llwybr allan o ofal neu gyfiawnder ieuenctid wedi'i wahardd yn benodol.
  • Sicrhau, os bydd awdurdodau lleol yn nodi bod ymgeisydd yn unigolyn sydd wedi gadael gofal, y dylent gynnig gwasanaethau perthnasol i'w gefnogi, yn ôl yr angen.
  • Ystyried ymhellach, drwy'r ymgynghoriad, a ddylid diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 er mwyn galluogi pobl ifanc 16-17 oed i fod yn ddeiliaid contract meddiannaeth.
  • Dylid ystyried bod pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn angen blaenoriaethol (oni chaiff y prawf ei ddiddymu).
  • Yn achos pobl ifanc sy'n gadael yr ystad ddiogel, rydym yn cynnig y dylai deddfwriaeth a chanllawiau nodi'n glir mai'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol am bobl ifanc 16-17 oed, y disgwylir iddynt gael eu rhyddhau o'r system cyfiawnder ieuenctid.
Pobl ag anghenion iechyd cymhleth, gan gynnwys salwch meddwl, camddefnyddio sylweddau a'r rhai sy'n gadael yr ysbyty

Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Cryfhau arferion amlddisgyblaethol rhwng gwasanaethau digartrefedd, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
  • Sicrhau bod asesiadau allweddol a chynlluniau megis Cynlluniau Gofal a Thriniaeth yn ystyried anghenion tai a sefydlogrwydd llety unigolyn fel mater o drefn. Byddwn yn adolygu'r fframwaith cyfreithiol presennol er mwyn pwysleisio pwysigrwydd cynnwys “llety” mewn cynllun gofal a thriniaeth pan fo llety yn ffactor sy'n cyfrannu at salwch meddwl unigolyn neu pan allai fod risg i lety unigolyn (er enghraifft, os bydd y landlord o'r farn bod yr unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd annerbyniol neu os na all yr unigolyn weithio a thalu biliau sy'n gysylltiedig â'i lety.
  • Gofyniad bod asesiadau rhyddhau yn cynnwys rhoi ystyriaeth i anghenion tai claf.
  • Dyletswydd ar y cyd i'r sector iechyd a'r awdurdod tai lleol gydweithio i atal digartrefedd ar adeg rhyddhau claf o'r ysbyty.
Goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol

Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • ehangu'r diffiniad o “cam-drin domestig” i gynnwys ymddygiad rheoli drwy orfodaeth a cham-drin economaidd a seicolegol yn fwy penodol.
  • Sicrhau bod y brif ddyletswydd tai yn cynnwys dyletswydd i helpu'r ymgeisydd i gadw ei lety presennol (ar unwaith neu yn yr hirdymor) os dymuna a'i bod yn ddiogel gwneud hynny.
Pobl anabl

Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Cyflwyno gofyniad statudol i gwblhau Cynlluniau Tai Personol, a fydd yn gwella'r gwasanaeth a ddarperir i bobl anabl drwy ystyried anghenion tai unigol a'r cymorth sydd ei angen i gadw llety,  yn ogystal â chynnwys unrhyw amhariadau sydd gan yr ymgeisydd neu unrhyw aelod o'i aelwyd.
  • Gwella effeithlonrwydd y broses o ddyrannu llety hygyrch, rydym  yn cynnig y dylai fod yn ofynnol yn gyfreithiol i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio cofrestr tai hygyrch a chynnal adolygiad rheolaidd o'r llety hygyrch sy'n rhan o'i stoc.
Cyn-aelodau o'r lluoedd arfog

Yn ogystal â'r cynigion a amlinellir ar gyfer cysylltiad lleol yn y Papur Gwyn, rydym hefyd yn cynnig y dylid adolygu'r Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau o'r Lluoedd Arfog a cheisio ffyrdd o sicrhau ei fod yn cael ei gymhwyso'n gyson gan awdurdodau lleol.

Pobl sy'n Gadael y Carchar

Mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Gwneud asesiad, pan fydd unigolyn yn mynd i'r carchar, ynghylch a yw'n debygol o golli unrhyw lety tra bydd yn bwrw ei ddedfryd yn y carchar ac, os felly, a yw hefyd yn debygol o golli ei eiddo ac a yw'n debygol o gael ei ryddhau, a bod yn ddigartref, o fewn chwe mis.
  • Na fydd pobl yn y carchar yn cael eu hystyried yn ddigartref tra byddant yn bwrw eu dedfryd yn y carchar. Bydd effaith y cynnig hwn yn golygu mai'r unig beth y gall ymgeisydd yn y carchar fod yw bod yn destun y ddyletswydd atal.
  • Lle y bo'n bosibl, ystyried a ellid cynnig llety i rywun yn y carchar o dan y ddyletswydd atal, gyda'r nod o sicrhau ei fod ar gael ar adeg rhyddhau, naill ai o dan gontract meddiannaeth neu ar sail fwy anffurfiol.
  • Cynigion eraill a nodir yn y Papur Gwyn, gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â'r canlynol: pobl sy'n gadael y carchar, atal a chysylltiad lleol; rhyddhau'n gynnar; newid perthnasol mewn amgylchiadau; cyflawni dyletswydd; trefniadau cilyddol; dyletswydd i ddarparu gwybodaeth; cyngor a chymorth i gael help; cadw llety/eiddo.
Pobl heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus

Mae cynigion yn cynnwys caffael hyfforddiant, adnoddau ar-lein ac adnoddau eraill y gall awdurdod lleol a rhanddeiliaid eraill eu defnyddio i asesu'n gywir y cymorth y gellir ei roi i bobl  ag amod dim hawl i gyllid cyhoeddus a phenderfynu'n gyfreithiol ar y cymorth hwnnw. Bydd hyn yn adeiladu ar y canllawiau cyfredol ar heb hawl i gyllid cyhoeddus ac yn helpu i'w mireinio. Byddwn hefyd yn ystyried opsiynau i sefydlu lleoliad annibynnol i gynnal swyddog arbenigol a fydd yn cynghori awdurdod lleol ac yn ei helpu i reoli achosion pobl heb hawl i gyllid cyhoeddus.

Rydym hefyd wedi dechrau adolygu'r holl ysgogiadau sydd ar gael i'w defnyddio er mwyn atgyfnerthu camau gweithredu a, lle y bo angen, orfodi ein diwygiadau arfaethedig.