Atodiad 5: Datblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol mewn Ysgolion Bro
Gwybodaeth i helpu ysgolion i ddatblygu eu darpariaeth ymgysylltu amlasiantaethol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Ysgolion Bro yn elfen allweddol o'n map trywydd Cenhadaeth ein cenedl: Safonau a Dyheadau Uchel i Bawb. Mae'r map trywydd hwn yn dwyn ynghyd ein polisïau a'n huchelgeisiau ar gyfer:
- addysg
- mynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad
- rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen ar bob dysgwr i fod yn ddinesydd iach, addysgedig a mentrus yng Nghymru a ledled y byd
Mae Ysgolion Bro yn rhan o'r dull systemau cyfan a pharhaus sy'n cefnogi plant a phobl ifanc ar bob cam o'u haddysg, o'r cyfnod cyn ysgol i'r cyfnod ôl-16. Mae Atodiad 1 i'r canllawiau ar Ysgolion Bro yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cysylltiadau rhwng Ysgolion Bro a meysydd polisi eraill.
Rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro, gan feithrin partneriaethau cryfach â theuluoedd, ymgysylltu â'r gymuned ehangach a chydweithio'n effeithiol â sectorau a gwasanaethau eraill. Nid yw hyn yn fater o ofyn i ysgolion wneud mwy, mae'n ymwneud â deall y partneriaethau a all:
- effeithio ar gyrhaeddiad, dyheadau a llesiant plant
- hybu cydweithio ac integreiddio ar draws sectorau gwahanol er mwyn gwella effeithiolrwydd
Mae gan ysgolion gydberthynas unigryw â'u dysgwyr a chymuned yr ysgol. Mae hyn yn golygu eu bod mewn sefyllfa ddelfrydol i nodi anghenion unigol a chyfunol a'u diwallu. Maent yn ganolfannau integreiddio naturiol ac yn cynnig amrywiaeth o wybodaeth, cymorth a gwasanaethau. Dylai fod gan uwch-arweinwyr mewn ysgolion a llywodraethwyr ysgolion gynllun clir o ran y ffordd y maent yn datblygu fel Ysgol Fro. Dylai'r cynllun hwn gynnwys y cyfraniad y maent yn bwriadu ei wneud at gydweithio amlasiantaethol ystyrlon yn eu hysgol eu hunain ac mewn ysgolion clwstwr a chymunedau ymarfer.
Mae'r canllawiau hyn yn nodi sut y gall ysgolion ddatblygu eu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol a gweithio gydag amrywiaeth o sectorau a gwasanaethau. Gall helpu ysgolion ac asiantaethau eraill i ddatblygu gwaith partneriaeth mwy effeithiol. Mae'r canllawiau hyn yn nodi:
- beth yw ymgysylltu amlasiantaethol a pham mae'n bwysig
- egwyddorion gwaith amlasiantaethol effeithiol
- cyfeiriaduron gwasanaethau i ysgolion mewn 4 sector allweddol
- astudiaethau achos ac adnoddau pellach
Mae'r canllawiau hyn yn ategu'r canlynol
Diffiniad o waith amlasiantaethol
Mae ymgysylltu amlasiantaethol yn cyfeirio at sefydliadau, asiantaethau a rhanddeiliaid yn cydweithio i ddiwallu anghenion amrywiol plant a phobl ifanc. Mae hyn yn cydnabod bod addysg yn ymestyn y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth ac yn cynnwys partneriaeth rhwng:
- ysgolion
- asiantaethau
- sefydliadau cymunedol
- teuluoedd
- partïon perthnasol eraill
Nod ymgysylltu amlasiantaethol yw gwella ansawdd addysg a chefnogi datblygiad cyfannol drwy gyfuno adnoddau, arbenigedd a gwasanaethau sy'n diwallu anghenion academaidd, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a pherthynol pob plentyn a pherson ifanc.
Polisïau allweddol lle mae angen ymgysylltu amlasiantaethol
Mae ymchwil wedi dangos nad yw dysgu yn digwydd ar wahân. Mae cysylltiad agos rhwng iechyd, llesiant, tlodi a chyrhaeddiad. Mae plant a phobl ifanc â gwell iechyd, llesiant a mynediad at adnoddau yn fwy tebygol o lwyddo. Mae hynny oherwydd nad ydynt yn wynebu heriau sy'n effeithio ar eu gallu i ddysgu, archwilio neu ddatblygu hyd eithaf eu potensial.
Mae angen ymgysylltu amlasiantaethol er mwyn rhoi'r canlynol ar waith yn effeithiol:
- dull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol
- y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Dull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol
Mae cydnabod a chefnogi anghenion iechyd meddwl a llesiant pob dysgwr yn allweddol i'w gefnogi i wneud y canlynol:
- ymgysylltu'n llawn ag addysg
- cymryd rhan weithredol mewn addysg
- llwyddo
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol. Nod y canllawiau statudol hyn yw helpu ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion a lleoliadau addysg eraill i adolygu eu tirwedd llesiant eu hunain. Mae'n ofynnol i ysgolion ac awdurdodau lleol ystyried y Fframwaith hwn wrth ddatblygu cynlluniau gweithredu, strategaethau a pholisïau eraill ar gyfer llesiant dysgwyr, staff ac eraill sy'n gweithio yn amgylchedd yr ysgol.
Mae'r Fframwaith yn cydnabod bod amgylchedd dysgwyr a'r oedolion y maent yn dod i gysylltiad â nhw yn effeithio ar eu llesiant. Felly, mae'n rhoi cyfeiriad a llwybr clir i ddatblygu ac ymgorffori polisïau ac arferion cyson mewn ysgolion ac yn y gymuned ehangach. Mae hyn yn cynnwys gwella cydberthnasau ysgolion â rhieni a gofalwyr i gefnogi dysgwyr. Dylai hyn helpu dysgwyr i ffynnu a gwireddu eu potensial personol ac academaidd. Dylai ysgolion ac asiantaethau a sefydliadau eraill ystyried y dull ysgol gyfan bob amser wrth gydweithio i gefnogi dysgwyr.
Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n rhoi plant a'u teuluoedd wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r Cod yn sicrhau bod pob sector a gwasanaeth yn cydweithio dros blentyn neu berson ifanc ag ADY.
Mae'n bwysig bod teuluoedd a gofalwyr yn gallu cael gafael ar y cymorth cywir a deall yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw a'u plant. Drwy fabwysiadu partneriaethau a threfniadau ymgysylltu amlasiantaethol, gall ysgolion weithio ochr yn ochr â'r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) a CADY y blynyddoedd cynnar ac asiantaethau eraill i gydlynu a darparu cymorth yn yr ysgol.
Egwyddorion gwaith amlasiantaethol effeithiol
Mae'r egwyddorion canlynol yn gymwys ar lefel strategol a gwasanaeth ac maent wedi'u hymgorffori yn y model Ysgolion Bro ehangach:
- mabwysiadu dull systemau cyfan
- ffocws ar ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
- atal drwy ddarpariaeth o ansawdd uchel
- arweinyddiaeth gydweithredol
- y gallu i gael gafael ar arbenigedd yn hawdd
- cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt
- cyfathrebu effeithiol
Mabwysiadu dull systemau cyfan
Cydnabyddir fod cyflawniad addysgol yn deillio o lwybrau cymhleth. Mae cysylltiad annatod rhwng iechyd a llesiant meddyliol da a dysgu. Mae mynd i'r afael â ffactorau y tu allan i'r ysgol yn hanfodol i wella cyrhaeddiad addysgol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio map systemau. Mae'r map hwn yn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r cysylltiadau ar draws systemau a'r effaith y mae'r ffactorau hyn yn ei chael ar gyrhaeddiad addysgol. Mae'r map systemau a gwybodaeth am y ffactorau sy'n effeithio ar gyrhaeddiad addysgol yng Nghymru i'w gweld ar wefan GIG Cymru.
Bydd mwy o ymgysylltu amlasiantaethol yn sicrhau bod systemau ehangach, gan gynnwys addysg, yn gallu cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd. Er mwyn i ysgolion wneud y mwyaf o'u rôl o fewn y systemau hyn, mae angen iddynt ddeall pa gymorth sydd ar gael a gallu cael gafael ar y cymorth hwnnw yn hawdd. Mae angen sicrhau bod gan y systemau eu hunain ddigon o gapasiti i ymateb a chynnig y cymorth hwnnw.
Mae'r systemau ehangach o amgylch yr ysgol, gan gynnwys y sector iechyd, gofal cymdeithasol a gwirfoddol, yn gweithio yn unol â Fframwaith NYTH ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant plant. Mae capasiti ac ymatebolrwydd y system ehangach yn allweddol i gyrhaeddiad, dyheadau a llesiant plant. Mae NYTH yn galluogi'r system ehangach i gefnogi ysgolion a'u dysgwyr yn y ffordd orau posibl.
Ceir rhagor o wybodaeth yn Atodiad A: Enghreifftiau o ddulliau systemau cyfan yng Nghymru.
Ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn
Mae ymarfer sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn rhoi'r plentyn, ei rieni, neu'r person ifanc wrth wraidd penderfyniadau. Mae amrywiaeth o adnoddau i gefnogi ymarferwyr wrth ddefnyddio dulliau ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person ar gael ar-lein. Un enghraifft o'r adnoddau yw Ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion mewn addysg: canllaw ar gyfer blynyddoedd cynnar, ysgolion a cholegau yng Nghymru.
Bydd cefnogi plant, eu rhieni a phobl ifanc i gymryd rhan mewn modd ystyrlon yn eu helpu i wneud y canlynol:
- teimlo'n hyderus y gwrandewir ar eu barn, eu dymuniadau a'u teimladau ac y cânt eu gwerthfawrogi, hyd yn oed os byddant yn ei chael hi'n anodd eu mynegi
- bod yn ymwybodol o'u hawliau ac o'r cymorth a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt
- datblygu ymdeimlad o gyfrifoldeb am eu dysgu a rheolaeth drosto
Atal drwy ddarpariaeth o ansawdd uchel
Dylid cynnig darpariaeth gyffredinol o ansawdd uchel i bob plentyn a pherson ifanc. Weithiau, bydd angen cymorth ar blant a phobl ifanc sy'n ychwanegol at y ddarpariaeth gyffredinol. Fodd bynnag, bydd angen i wahanol asiantaethau gydweithio â'i gilydd i gefnogi'r ddarpariaeth hon.
Gall yr ysgol ac asiantaethau allanol gynnig darpariaeth wedi'i thargedu. Cynigir darpariaeth arbenigol ychwanegol i blant a phobl ifanc a theuluoedd sydd ag anghenion a ddiwellir gan wasanaethau arbenigol a gweithwyr proffesiynol cymwysedig. Mae'r dull fesul cam hwn yn dangos pwysigrwydd atal anawsterau rhag codi yn y lle cyntaf a chynnig cymorth ac ymyriadau cyn gynted â phosibl er mwyn atal anawsterau rhag gwaethygu.
Mae angen ymateb mwy graddedig ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Arweinyddiaeth gydweithredol
Mae arweinyddiaeth gydweithredol yn ystyried bod model arweinyddiaeth a rennir yn fwy creadigol ac effeithiol nag arweinydd neu grŵp o staff yn gweithio'n annibynnol. Er mwyn i hyn lwyddo, mae angen arweinyddiaeth ymrwymedig ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol a ffocws ar gydweithio. Mae hyn yn sicrhau llais, penderfyniadau a nodau a rennir.
Agwedd bwysig ar weithio mewn partneriaeth yw deall disgwyliadau'r naill bartner a'r llall o'r dechrau. Mae sawl achlysur pan fydd ysgolion yn cydweithio â sectorau a gwasanaethau gwahanol. Mae'n bwysig bod arweinwyr yn ystyried y canlynol:
- diben y cydweithio hwn
- yr aelodau a'r rhanddeiliaid sy'n allweddol i'r cydweithio
- rolau a chyfrifoldebau pawb dan sylw
- sut mae’r gwaith yn cael ei rannu a'i gydnabod
- a oes atebolrwydd a rennir
Gall arweinyddiaeth gydweithredol:
- gael ei gefnogi gan ddatblygiad proffesiynol a hyfforddiant
- cael ei gefnogi gan gyfathrebu clir, gan sicrhau bod pob rhanddeiliad yn meddu ar wybodaeth allweddol am feysydd gwasanaeth a sefydliadau partner
- cysoni adnoddau a chyllid ar draws asiantaethau
- sicrhau nad yw gwasanaethau'n cael eu dyblygu
Cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt
Dylai arweinwyr greu diwylliant yn eu sefydliadau lle mae gwaith amlasiantaethol yn cael ei werthfawrogi a'i ddathlu. Dylent hefyd fuddsoddi amser i feithrin cydberthnasau ac ennyn ymddiriedaeth.
Bydd heriau yn codi wrth gydweithio â phartneriaid. Gall yr heriau hyn ymwneud â'r canlynol:
- cydberthnasau rhwng unigolion
- anghydbwysedd pŵer
- adnoddau cyfyngedig neu newidiadau o ran staff
- strwythurau
- blaenoriaethau
- pwysau mewn sefydliadau unigol
Gellir goresgyn heriau o'r fath drwy wneud y canlynol:
- cynnal ffocws ar amcanion a gwerthoedd craidd cyffredin
- meithrin cydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt drwy gyfathrebu'n onest â phawb dan sylw
Mae fframwaith NYTH yn rhoi rhagor o wybodaeth am gydberthnasau y gellir ymddiried ynddynt a'r ffordd y gallant gefnogi newid.
Y gallu i gael gafael ar arbenigedd yn hawdd
Mae sicrhau bod plant, pobl ifanc a theuluoedd yn cael y gwasanaethau priodol yn hollbwysig. Gall lleoli gwasanaethau mewn un lle (cyd-leoli) sicrhau bod modd cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau o dan un to. Gall hyn fod mewn hyb cymunedol sy'n bodoli eisoes. Fodd bynnag, mae rhai ysgolion yn cynnig gwasanaethau wedi'u cyd-leoli ar safle'r ysgol, yn dibynnu ar anghenion eu plant a'u pobl ifanc. Mae astudiaethau gan Gampws Dysgu Queensferry ac Ysgol Gogarth yn tynnu sylw at y dull gweithredu hwn.
Fel rhan o'r grant cyllid cyfalaf, mae £40 miliwn wedi'i ddyrannu i flynyddoedd ariannol 2023 i 2024 a 2024 i 2025 er mwyn gwneud newidiadau penodol i adeiladau ysgolion, er mwyn iddynt ddod yn Ysgolion Bro. Ystyrir dyrannu lleoedd ar gyfer defnydd amlbwrpas a chyd-leoli gwasanaethau fel rhan o'r grant hwn.
Ceir rhagor o wybodaeth yn rhaglen dreigl Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.
Cyfathrebu effeithiol
Asiantaethau y gall ysgolion ymgysylltu â nhw
Mae 4 prif sector y gall ysgolion ymgysylltu â nhw:
- addysg (gan gynnwys gofal plant, gwaith chwarae a gwasanaethau cymorth ieuenctid)
- iechyd
- cymorth i deuluoedd
- diogelwch cymunedol
Mae gan bob un o'r sectorau hyn:
- strwythur presennol
- fframweithiau presennol
- rolau staff penodol
Gall bod yn ymwybodol o'r strwythurau, y fframweithiau a'r rolau staff hyn helpu ysgolion i gael gafael ar y cymorth sydd ar gael drwy lwybrau priodol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn yr atodiadau.
Nid yw'r cyfeiriaduron gwasanaethau sydd wedi'u cynnwys yn y canllawiau hyn yn hollgynhwysfawr. Dylai'r asiantaethau y mae ysgolion yn ymgysylltu â nhw adlewyrchu eu blaenoriaethau neu anghenion. Mae'r sector gwirfoddol neu'r trydydd sector yn cynnig gwasanaethau ym mhob un o'r pedwar sector ac yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar gymunedau yng Nghymru. Gellir cael gwybodaeth, gan gynnwys manylion cyswllt ar gyfer sefydliadau yn y trydydd sector a all weithio gydag ysgolion a lleoliadau, yn y Cyfeiriadur sefydliadau sy'n cefnogi tegwch a chynwysoldeb neu drwy gysylltu â'r Cyngor Gwirfoddol Sirol.
Datblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol ym myd addysg
Mae rolau penodol mewn ysgolion a all gefnogi a hwyluso'r broses o ddatblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol. Mae'r wybodaeth ganlynol yn manylu ar rai o'r rolau hyn a'r hyn y maent yn ei wneud.
Pennaeth ac uwch-arweinwyr
Mae angen i'r pennaeth a'r uwch-arweinwyr yn yr ysgol werthfawrogi'r canlynol:
- cydweithio
- tegwch
- llesiant teuluoedd a'r gymuned
Rhaid iddynt allu meithrin cydberthnasau cryf â theuluoedd, sefydliadau cymunedol ac asiantaethau er mwyn gweithio mewn partneriaeth.
Arweinydd iechyd a lles
Mae Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles yn darparu strwythur holistaidd ar gyfer deall iechyd a lles. Bydd arweinydd iechyd a lles yn cydlynu'r meysydd canlynol:
- iechyd a datblygiad corfforol
- iechyd meddwl
- llesiant emosiynol a chymdeithasol
Swyddog ymgysylltu â theuluoedd
Bydd swyddog ymgysylltu â theuluoedd yn gweithio'n agos gyda theuluoedd a chymuned yr ysgol. Un agwedd bwysig ar rôl swyddog ymgysylltu â theuluoedd yw bod yn bwynt cyswllt allweddol a chyson i deuluoedd, staff yr ysgol a staff o asiantaethau allanol.
Rheolwr ysgolion bro
Mae gan bob awdurdod lleol o leiaf un rheolwr ysgolion bro. Mae gan reolwyr ysgolion bro gysylltiadau strategol â llawer o asiantaethau ehangach a gallant helpu i drefnu cymorth i ysgolion.
Arweinydd dynodedig ar gyfer plant sy'n derbyn gofal
Mae cyfrifoldeb statudol ar ysgolion i ddynodi'r arweinydd hwn. Bydd yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol ac yn aml gyda'r trydydd sector hefyd i gael gafael ar wasanaethau ar gyfer y plant hyn.
Arweinydd gyrfaoedd
Dylai arweinydd gyrfaoedd mewn ysgolion ddatblygu dull ysgol gyfan o ymgorffori gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith ym mhob rhan o gwricwlwm yr ysgol. Dylai rhaglen gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith gynnwys amrywiaeth eang o brofiadau dysgu a chyfraniadau gan amrywiaeth o randdeiliaid. Dylai gynnwys cyfleoedd i ddysgu o amrywiaeth eang o fodelau rôl.
Cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol (CADY)
Rhaid i bob ysgol brif ffrwd a gynhelir a phob sefydliad addysg bellach yng Nghymru ddynodi unigolyn, neu fwy nag un unigolyn, a fydd yn gyfrifol am gydlynu darpariaeth ar gyfer dysgwyr ag ADY. Yr enw ar yr unigolyn hwn (neu'r unigolion hyn) fydd cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol, neu CADY. Bydd y CADY yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer amrywiaeth o bobl, sectorau a gwasanaethau, gan gynnwys:
- gwasanaethau cynhwysiant a chymorth yr awdurdod lleol perthnasol
- asiantaethau allanol
- sefydliadau annibynnol a gwirfoddol
- gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol
- seicolegwyr addysg
Cyfeiriadur gwasanaethau addysg
Mae amrywiaeth eang o wasanaethau addysg ar gael i gefnogi dysgwyr o bob oedran. Caiff y gwasanaethau hyn eu darparu mewn ysgolion a'r tu allan iddynt, yn dibynnu ar y gwasanaeth, yr angen a'r math o ddysgwr. Mae nifer o'r gwasanaethau hyn wedi'u cynnwys yn y cyfeiriadur gwasanaethau addysg.
Cymorth ADY
Mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol ddynodi Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar. Y swyddog hwn sy'n cydlynu swyddogaethau'r awdurdod lleol o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY) mewn perthynas â phlant o dan oedran ysgol gorfodol nad ydynt yn mynychu ysgolion a gynhelir nac unedau cyfeirio disgyblion.
At hynny, mae'n ofynnol i fyrddau iechyd lleol ddynodi swyddog sy'n gyfrifol am gydlynu swyddogaethau'r bwrdd iechyd mewn perthynas â phlant a phobl ifanc ag ADY. Yr enw ar yr unigolyn hwnnw yw Swyddog Arweiniol Clinigol Dynodedig Addysg (SACDA). Mae gan y SACDA swyddogaeth allweddol i gydweithio ag eraill a chodi ymwybyddiaeth o'r system ADY ym mhob rhan o'r bwrdd iechyd lleol.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Y Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol
Gwaith ieuenctid a gwasanaethau ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid
Mae hyn yn rhywbeth y mae gan bob person ifanc yr hawl iddo. Mae gwasanaethau ieuenctid yn cynnwys gwasanaethau a ddarperir mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill, fel ysgolion a sefydliadau yn y sector gwirfoddol.
Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid i blant a phobl ifanc 11 i 18 oed yn amlinellu sut y gall awdurdodau lleol ddod ag ysgolion a sefydliadau partner ynghyd i nodi pobl ifanc sy'n wynebu risg o ddod yn bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu sy'n ddigartref. Mae'n gweithio i roi cymorth ataliol priodol ar waith. Mae gwaith amlasiantaethol yn un o nodweddion allweddol y Fframwaith.
O dan y Fframwaith, mae gan bob awdurdod lleol gydgysylltydd ymgysylltiad a chynnydd. Mae’n chwarae rôl hanfodol a strategol wrth oruchwylio'r Fframwaith ar lefel awdurdod lleol, er mwyn atal pobl ifanc rhag dod yn NEET.
Mae gan bob awdurdod lleol gydgysylltydd digartrefedd ymysg pobl ifanc. Nod y rôl hon yw sicrhau bod pobl ifanc sy'n wynebu risg o ddod yn ddigartref yn cael eu nodi'n gynt, a bod camau ataliol yn cael eu rhoi ar waith i'w cefnogi.
Rhagor o adnoddau ar waith ieuenctid a gwasanaethau ymgysylltiad a chynnydd ieuenctid
- Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru
- Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro: adroddiad terfynol
- Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Trosolwg
- Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: Llawlyfr
- Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid: canllawiau ar adnabod yn gynnar
Gyrfa Cymru
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig cymorth i ddysgwyr i'w helpu i ddeall y canlynol yn well:
- byd gwaith
- y sgiliau sydd eu hangen arnynt
- y cyfleoedd sydd ar gael iddynt
At hynny, mae Gyrfa Cymru hefyd yn cynnig cymorth i ysgolion a lleoliadau i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru, gyda rhai mentrau’n dechrau mewn ysgolion cynradd.
Maent hefyd yn cynnig gwasanaeth ymgynghori pwrpasol proffesiynol i ysgolion. Mae hyn yn cynnwys calendr o gyfleoedd dysgu proffesiynol er mwyn:
- cefnogi ysgolion sy'n gweithio tuag at Wobr Ansawdd
- rhoi cymorth ymarferol i athrawon ddatblygu eu cwricwlwm gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith, gan gynnwys y cyfle i gwblhau cymhwyster arweinydd gyrfaoedd Lefel 6
Consortiwm plant CWLWM
Gall consortiwm plant CWLWM helpu ysgolion i ystyried sut i ddatblygu trefniadau partneriaeth agos rhwng yr ysgol a lleoliadau gofal plant i gefnogi rhieni sy'n gweithio.
Meic: Llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl ifanc
Llywodraeth Cymru sy'n ariannu MEIC, y llinell gymorth gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth i blant a phobl. Mae'r llinell gymorth hon i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnig llinell ffôn a thecstio, yn ogystal â gwefan sy'n rhoi cyngor ac arweiniad ar unrhyw faterion a allai effeithio ar blant a phobl ifanc.
Chwarae Cymru
Chwarae Cymru yw'r elusen genedlaethol yng Nghymru sy'n cefnogi chwarae plant. Gall helpu ysgolion i annog y cysylltiad rhwng chwarae a llesiant. Mae wedi datblygu cronfa o adnoddau i ysgolion.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Ysgol chwarae-gyfeillgar: Canllaw ar gyfer agwedd ysgol gyfan’.
Seicoleg addysgol
Mae seicolegwyr addysg yn cydweithio â phlant, teuluoedd a rhanddeiliaid eraill. Maent yn defnyddio seicoleg i ddatblygu fformwleiddiadau a damcaniaethau sy'n helpu i wneud synnwyr o'r systemau y mae plant yn byw ac yn dysgu oddi mewn iddynt. Ar sail y fformwleiddiadau hyn, gallant gynnig cymorth ac arweiniad i randdeiliaid i'w helpu i greu newid cadarnhaol ar gyfer y plentyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Seicolegwyr addysg yng Nghymru’.
Y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Mae'r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn gweithio i atal plant rhag troseddu ac aildroseddu. Mae gan bob awdurdod lleol dîm troseddwyr ifanc. Mae Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru yn goruchwylio'r system cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru.
Y Gwasanaeth Lles Addysg
Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn gweithio'n agos gydag ysgolion, dysgwyr a'u teuluoedd i nodi problemau, materion personol, a materion cymdeithasol a all effeithio ar bresenoldeb, cynnydd a llesiant plant a phobl ifanc.
Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn cynnwys swyddogion lles addysg. Mae'r swyddogion hyn yn chwarae rôl ddeuol. Maent yn gwneud y canlynol:
- darparu gwasanaeth i'r ysgol
- gweithredu fel cyfryngwr rhwng y cartref a'r ysgol
Fel arfer, bydd gan ysgolion swyddog lles addysg a enwyd sy'n ymweld â'r ysgol yn rheolaidd.
Mae swyddogion lles addysg yn cyflawni nifer o dasgau, megis ymgyngoriadau ar gofrestrau ysgolion er mwyn trafod y ffordd orau o gefnogi'r plentyn, y teulu a'r ysgol i wella lefelau presenoldeb a lleihau absenoldeb cyson.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi’.
Y Warant i Bobl Ifanc
Mae'r Warant i Bobl Ifanc yn cefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed sy'n byw yng Nghymru i wneud y canlynol:
- cael lle ar gwrs addysg neu hyfforddiant
- cael swydd neu ddod yn hunangyflogedig
Cyfeiriadur gwasanaethau iechyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yn chwarae rôl hanfodol i gefnogi plant a theuluoedd, fel bod plant yn gallu gwireddu eu potensial wrth ddysgu. Mae Rhaglen Plant Iach Cymru yn nodi sut y caiff iechyd a lles pob plentyn hyd at 7 oed eu cefnogi gan y canlynol:
- Llywodraeth Cymru
- partneriaethau ag awdurdodau lleol
- cymunedau
- addysg
- y trydydd sector
Mae Rhan 2 y Rhaglen yn nodi'r cysylltiadau arfaethedig y gall plant, pobl ifanc a'u teuluoedd eu disgwyl gan eu byrddau iechyd. Mae'r cyswllt hwn yn dechrau pan fyddant yn dechrau addysg orfodol yn 5 oed ac mae'n dod i ben yn eu blwyddyn olaf o addysg orfodol (pan fyddant yn 16 oed). Bydd y Rhaglen yn cael ei chynnig i bob plentyn a theulu a byddant yn cael lefel ofynnol o ymyriadau allweddol beth bynnag fo'u hanghenion. Bydd angen mwy o ymyriadau ar rai teuluoedd er mwyn hwyluso cymorth mwy dwys.
Caiff gwasanaeth eu darparu:
- drwy'r awdurdod lleol, mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill
- mewn partneriaeth rhwng yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd
- drwy'r bwrdd iechyd
Gwasanaethau statudol a ddarperir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd
Cymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu
Mae therapyddion lleferydd ac iaith ac ymarferwyr eraill yn gweithio gyda phlant, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd ac addysg i gefnogi datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys:
- clinigau cymunedol
- ysbytai
- ysgolion prif ffrwd ac arbennig
- meithrinfeydd
- cartrefi teuluoedd
Siarad Gyda Fi yw'r cynllun cyflawni ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu. Ei nod yw gwella'r ffordd y caiff plant yng Nghymru eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Lleferydd iaith a chyfathrebu a Dechrau’n Deg: canllawiau’.
Gwasanaeth cwnsela
Mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddarparu gwasanaeth cwnsela ar gyfer:
- plant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed yn eu hardal
- dysgwyr ym mlwyddyn 6 yr ysgol gynradd
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol gynnig cymorth cwnsela i blant islaw trothwy Blwyddyn 6, gan fod plant yn dangos anghenion llesiant yn iau na hyn. Dylai CAMHS a'r gwasanaeth cwnsela gydweithio i ddarparu'r driniaeth fwyaf priodol.
Gwasanaethau cymorth arbenigol
Bydd pob awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau arbenigol er mwyn sicrhau cymorth priodol i ysgolion, plant a phobl ifanc. Gall y gwasanaethau hyn gynnwys cymorth sy'n gysylltiedig â'r canlynol:
- nam ar y synhwyrau
- anhwylderau sbectrwm awtistiaeth
- anghenion corfforol a meddygol
- anghenion gwybyddol a dysgu
Gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed (CAMHS)
Mae dyletswydd ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i weithio gyda'i gilydd i sefydlu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol. Mae CAMHS yn helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu anawsterau emosiynol ac ymddygiadol yn ogystal ag anawsterau seicolegol eraill. Maent yn gwneud hynny o adeg eu geni hyd at 18 oed. Maent hefyd yn cynnig cymorth i'w teuluoedd. Gall meddyg teulu neu unrhyw weithiwr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a theuluoedd, er enghraifft ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol, ymwelwyr iechyd neu ganolfannau plant, wneud cais am gymorth gan CAMHS.
Gall CAMHS hefyd gynnig gwasanaeth mewngymorth i ysgolion i'w helpu i ddatblygu eu capasiti i gefnogi plant a phobl ifanc nad ydynt o bosibl yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwaith uniongyrchol CAMHS. Mae'r gwasanaeth hwn yn helpu ysgolion i wneud y canlynol:
- deall pryd mae angen gwneud atgyfeiriad
- rheoli problemau llesiant lefel isel, na fyddent yn cyrraedd y trothwyon ar gyfer gwasanaethau arbenigol
- cyfeirio at ffynonellau cymorth a chyngor eraill, mwy priodol
Mae byrddau iechyd yn rhoi rhagor o wybodaeth am wasanaethau a lleoliadau CAMHS yn eu hardal.
Nyrsys iechyd y cyhoedd cymunedol arbenigol mewn ysgolion (nyrsys ysgol)
Mae nyrsys ysgol yn ymarferwyr annibynnol. Maent bob amser yn cefnogi hawliau plant a phobl ifanc o oedran ysgol. Gan weithio ar draws gwasanaethau iechyd, addysg ac asiantaethau eraill, ac fel rhan annatod o'r gwasanaeth iechyd cyhoeddus ehangach, nod nyrsys ysgol yw sicrhau bob plentyn a pherson ifanc o oedran ysgol mor iach â phosibl. Maent yn ceisio gwneud yn siŵr bod gwasanaethau:
- yn deg
- yn gynhwysol
- yn gyfiawn
- ddim yn gwahaniaethu
- yn dylanwadu'n gadarnhaol ar iechyd a llesiant
Mae rhagor o wybodaeth am nyrsys ysgol ar gael yn ‘Fframwaith ar Gyfer Gwasanaeth Nyrsio mewn Ysgolion i Gymru’.
Ymwelwyr iechyd
Mae ymwelwyr iechyd wedi'u hyfforddi i nodi teuluoedd y mae angen cymorth ychwanegol neu ddwys arnynt. Maent yn defnyddio eu sgiliau a'u barn clinigol a phroffesiynol ar y cyd â'r tîm amlddisgyblaethol ehangach a theuluoedd i ddatblygu cynlluniau unigol.
Mae rhagor o wybodaeth am ymwelwyr iechyd ar gael yn ‘Rhaglen Plant Iach Cymru'.
Rhaglenni cenedlaethol sy'n helpu i ddatblygu darpariaeth iechyd ac addysg
Byw Bywyd
Rhaglen atal smygu mewn ysgolion yw Byw Bywyd. Ar gyfer dysgwyr Blwyddyn 8 (12 a 13 oed) mae’r rhaglen. Mae'n rhoi'r cyfle iddynt drafod risgiau smygu a manteision byw bywyd di-fwg. Datblygwyd y rhaglen gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Cynllun Gwên
Cynllun Gwên yw'r rhaglen iechyd deintyddol i fynd i'r afael â phydredd dannedd ymhlith plant. Mae'n gweithio gyda theuluoedd a phlant bach 0 i 7 oed. Mae'n annog arferion da o ran hylendid y geg drwy wneud y canlynol:
- rhoi cyngor i deuluoedd
- darparu brwshys dannedd a phast dannedd fflworid
- annog rhieni i fynd â'u plant at y deintydd cyn iddynt droi'n flwydd oed
Mae rhagor o wybodaeth am y Cynllun Gwên ar gael yn ‘Rhaglen Gwella Iechyd y Geg Cynllun Gwên’.
Cynllun Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles
Darperir Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy’n Hybu Iechyd a Lles yn genedlaethol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn lleol gan awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd. Mae ysgol sy'n hybu iechyd a lles yn gwneud ymdrech gyson a pharhaus i sicrhau lleoliad addysg, dysgu a gwaith diogel ac iach.
Mae gan bob bwrdd iechyd lleol gydlynydd a thîm ysgolion iach sy'n cynnig cymorth ar gyfer gweithgareddau mewn ysgolion. Mae timau ysgolion iach yn gwneud y canlynol:
- cydlynu'r rhaglen yn lleol
- rhoi cyngor a chymorth i ysgolion
- hwyluso mynediad at hyfforddiant a deunyddiau
- gofal plant rhan-amser o safon uchel am ddim i blant 2 a 3 oed
- gwasanaeth estynedig gan ymwelwyr iechyd
- mynediad at gymorth rhianta
- cymorth i ddatblygu lleferydd, iaith a chyfathrebu
Dechrau'n Deg
Dechrau'n Deg yw rhaglen blynyddoedd cynnar Llywodraeth Cymru sydd wedi'i thargedu at deuluoedd â phlant dan 4 oed mewn ardaloedd incwm isel. Mae'r rhaglen yn cynnwys 4 hawl sy'n cynnig:
Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol roi cyngor ar ba ardaloedd sy'n rhan o gwmpas Dechrau'n Deg a pha gymorth a all fod ar gael i deuluoedd a phlant.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Gofal plant Dechrau'n Deg: canllawiau’.
Dull gweithredu ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol
Mae Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliolyn rhoi'r cyfle i ysgolion, drwy wella'n barhaus, wneud y canlynol:
- hybu llesiant meddyliol cadarnhaol
- atal salwch meddwl
- cymryd camau i gefnogi unigolion lle bo angen
Mae Offeryn Hunanwerthuso Dull Ysgol Gyfan o Ymdrin â Llesiant Emosiynol a Meddyliol wedi'i ddatblygu. Mae'n helpu ysgolion i archwilio a chynllunio ar gyfer gwella fel rhan o'u proses hunanwerthuso. Mae gan bob ardal ranbarthol neu fwrdd iechyd arweinydd dynodedig sy'n gyfrifol am roi'r dull ysgol gyfan ar waith, a all gynorthwyo gyda'r broses hon.
Fframwaith Cymru sy'n ystyriol o Drawma
Mae Fframwaith Cymru sy'n ystyriol o Drawma yn rhoi:
- diffiniad i Gymru o ddull sy’n ystyriol o drawma
- cyfres o bum egwyddor, o dan bedair lefel ymarfer, sy'n disgrifio rolau posibl pobl a sefydliadau wrth gefnogi pobl y mae trawma’n effeithio arnynt
Ceir rhagor o wybodaeth am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod a gwaith sy'n ystyriol o drawma, gan gynnwys hyfforddiant i ysgolion, ar Hwb.
Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru (Hyb ACE Cymru)
Sefydlwyd Hyb ACE Cymru er mwyn helpu i greu Cymru sy'n ystyriol o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn arweinydd o ran mynd i’r afael â'r profiadau hynny, eu hatal, a'u lliniaru. Mae gwefan yr Hyb yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth ac adnoddau am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac arferion sy'n ystyriol o drawma.
NYTH (iechyd Meddwl a llesiant)
Mae Fframwaith NYTH yn dangos:
- dull system gyfan o wella gwasanaethau iechyd a llesiant meddwl i fabanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd
- sut mae'r dull system gyfan yn cyd-fynd ag asiantaethau eraill yn y sector iechyd, y sector gofal cymdeithasol a'r sector gwirfoddol
- Llywodraeth Cymru
- byrddau partneriaeth rhanbarthol
- awdurdodau lleol
- byrddau iechyd
- y sector gwirfoddol
Mae fframwaith NYTH yn adnodd cynllunio ar gyfer:
Fel rhan o'r broses o roi NYTH ar waith, gofynnir i wasanaethau iechyd meddwl a llesiant gwblhau hunanasesiad NYTH. Nid oes angen i ysgolion gwblhau hunanasesiad NYTH. Dim ond cwblhau hunanasesiad a chynllun gweithredu'r dull ysgol gyfan ar gyfer iechyd a llesiant emosiynol y disgwylir i ysgolion ei wneud. Drwy wneud hynny, mae ysgolion yn bodloni egwyddorion allweddol NYTH.
Argymhellir y dylai staff sy'n gyfrifol am weithio gydag asiantaethau allanol (megis CAMHS, elusennau sy'n gweithio gyda'r ysgol, nyrsys ysgol, arweinydd iechyd a llesiant) ddeall fframwaith NYTH. Er mwyn cefnogi'r ddealltwriaeth hon, rydym wedi datblygu fideo hyfforddiant ar-lein byr i godi ymwybyddiaeth o NYTH a hawliau plant. Gall staff ysgolion wylio'r fideo hyfforddiant hwn pan fydd yn addas iddynt.
Cyfeiriadur gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Mae awdurdodau lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau cymorth i deuluoedd. Drwy ymgysylltu â'r gwasanaethau hyn, gellir sicrhau cymorth cynhwysfawr i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae nifer o'r gwasanaethau hyn wedi'u cynnwys yn y cyfeiriadur hwn o wasanaethau cymorth i deuluoedd.
Rhaid i awdurdodau lleol, ysgolion a chyrff llywodraethu fodloni'r gofynion diogelu cenedlaethol a nodir yn Cadw dysgwyr yn ddiogel.
Adoption UK Cymru
Drwy linell gymorth am ddim yr elusen, mae Adoption UK Cymru yn rhoi cyngor a chymorth i blant a phobl ifanc sydd wedi'u mabwysiadu, a'u teuluoedd. Mae gwybodaeth, help a chymorth hefyd ar gael ar ei gwefan.
Gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd
Ym mhob awdurdod lleol, y gwasanaeth gwybodaeth i deuluoeddyw'r pwynt cyswllt cyntaf am help neu wybodaeth am faterion teuluol. Maent yn darparu help, cymorth a chyngor diduedd ac am ddim ar amrywiaeth o faterion teuluol, gan gynnwys:
- gofal plant a'i gostau
- hyfforddiant
- rhaglenni i deuluoedd
- addysg
- iechyd
- materion ariannol
- hamdden
Gweithdrefnau Diogelu Cymru
Mae'r gweithdrefnau yn nodi rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu ac yn amddiffyn plant ac oedolion sy'n wynebu risg o gael eu cam-drin neu eu hesgeuluso. Bwriedir iddynt lywio ymarfer diogelu i bawb yn y meysydd canlynol:
- y sector statudol, y trydydd sector (gwirfoddol) a'r sector preifat
- y sector iechyd
- gofal cymdeithasol
- addysg
- yr heddlu
- y system gyfiawnder
- gwasanaethau eraill
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ‘Diogelu Cymru’.
Magu plant. Rhowch Amser Iddo.
Mae ‘Magu plant. Rhowch Amser Iddo.’ yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni â phlant hyd at 18 oed. Mae rhagor o gyngor, gwybodaeth ac adnoddau ar gael drwy:
- gwefan ddwyieithog benodol
- hysbysebion digidol
- y cyfryngau cymdeithasol (drwy ymgyrch Teulu Cymru Llywodraeth Cymru i deuluoedd a rhieni)
Siarter Rhianta Corfforaethol
Mae'r Siarter Rhianta Corfforaethol yn nodi 11 egwyddor y dylai pob corff cyhoeddus a'i arweinwyr eu dilyn er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phob plentyn neu berson ifanc arall yng Nghymru. Rhaid i'w hawliau gael eu parchu'n gydradd, a rhaid i'w lleisiau gael eu clywed a'u hadlewyrchu mewn camau gweithredu.
Gall unrhyw gorff cyhoeddus, sefydliad trydydd sector ymuno â'r Siarter.
Teuluoedd yn Gyntaf
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo'r gwaith o ddatblygu systemau cymorth amlasiantaethol i deuluoedd sy'n wynebau cyfnodau anodd, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn tlodi. Mae'r rhaglen yn ffocysu ar ymyrryd yn gynnar ac atal ac ar ddod â sefydliadau ynghyd i weithio gyda'r teulu cyfan. Nod hyn yw nodi rhesymau sylfaenol unrhyw faterion a'u deall, gan gynnwys problemau yn ymwneud â'r ysgol ac addysg, ac atal problemau rhag gwaethygu. Mae'r cymorth a roddir gan raglen Teuluoedd yn Gyntaf yn bwrpasol, yn ddwys ac yn seiliedig ar angen. Mae gan y rhaglen gysylltiadau strategol â nifer o asiantaethau a welir yn y ffordd y cyflawnir model y Tîm o Amgylch y Teulu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng ’Nghanllawiau Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf’.
Y Rhwydwaith Maethu
Mae'r Rhwydwaith Maethu yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ddarpar ofalwyr maeth a gofalwyr maeth cymeradwy yn ogystal â'r rhai sy'n eu cefnogi. Mae'r cymorth yn cwmpasu amrywiaeth o faterion sy'n effeithio ar rôl gofalwr maeth, gan gynnwys:
- honiadau
- cymeradwyaethau
- deddfwriaeth ar gyllid
- cydberthnasau â gwasanaethau maethu
Cyfeiriadur gwasanaethau diogelwch cymunedol
Mae ymgysylltu â thimau diogelwch cymunedol, megis yr heddlu, y gwasanaeth tân, a gwasanaethau cludiant, yn hanfodol i ysgolion er mwyn sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i blant a phobl ifanc. Mae'r cydweithio hwn yn helpu ysgolion i wneud y canlynol:
- mynd i'r afael â phryderon am ddiogelwch
- paratoi ar gyfer argyfyngau
- codi ymwybyddiaeth o weithdrefnau diogelwch
Drwy weithio'n agos gyda'r timau hyn, gall ysgolion creu dull rhagweithiol o ymdrin â diogelwch, gan feithrin ymdeimlad o sicrwydd a llesiant yng nghymuned yr ysgol.
Crucial Crew
Mae Crucial Crew [CH1] yn rhoi'r cyfle i blant a phobl ifanc gael cyngor hanfodol ar ddiogelwch gan ddetholiad o asiantaethau mewn un lle.
Cynyddu incwm cymaint â phosibl
Mae'n bwysig bod teuluoedd yn cael y budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl i'w cael. Gall y rhain gynnwys y canlynol:
- prydau ysgol am ddim
- Grant Hanfodion Ysgol: cymorth i deuluoedd brynu pethau fel gwisg ysgol ac offer
- Lwfans Cynhaliaeth Addysg: taliad i bobl ifanc 16-18 oed sy'n aros mewn addysg
Mae hyfforddiant am ddim ar gael i bob gweithiwr yn y sector cyhoeddus i'w helpu i ddeall y cymorth a'r cyngor sydd ar gael i deuluoedd a ble y gellir cael gafael arno.
Rhagor o wybodaeth am gynyddu incwm gymaint â phosib
Dyletswydd Prevent
Mae dyletswydd Prevent yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol megis addysg, iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol (carchardai a'r gwasanaeth prawf) helpu i atal pobl rhag dod yn derfysgwyr neu gefnogi terfysgaeth. Mae'n mynd law yn llaw â dyletswyddau diogelu hirsefydlog ar weithwyr proffesiynol i ddiogelu pobl rhag mathau amrywiol eraill o niwed, gan gynnwys:
- camddefnyddio sylweddau
- ymwneud â gangiau
- camfanteisio corfforol a rhywiol
[CH1]Need link
Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc
Mae'r Fframwaith hwn gan Cymru Heb Drais yn amlinellu'r elfennau allweddol sydd eu hangen i ddatblygu strategaethau ymyrryd yn gynnar ac atal sylfaenol yn llwyddiannus er mwyn rhoi diwedd ar drais ymhlith plant a phobl ifanc drwy ddull iechyd y cyhoedd system gyfan.
Tai
Mae gan awdurdodau lleol ddyletswyddau statudol a bennir mewn deddfwriaeth graidd ar ddigartrefedd. Mae'r dyletswyddau hyn yn atal ac yn lliniaru digartrefedd i unigolion yng Nghymru sy'n ddigartref ar hyn o bryd neu sy'n wynebu risg o ddod yn ddigartref.
Mae cymdeithasau tai yn sefydliadau nid er elw annibynnol. Eu prif ddiben yw darparu tai fforddiadwy i'r rhai sydd eu hangen.
Rhagor o wybodaeth am dai
- Cymorth os ydych chi’n ddigartref neu ar fin dod yn ddigartref
- Mae Atodiad 4: Datblygu trefniadau ar gyfer ymgysylltu â’r gymuned mewn Ysgolion Bro yn rhoi enghreifftiau o'r ffordd y mae cymdeithasau tai wedi cefnogi ysgolion a gwaith datblygu cymunedol ehangach.
- Cartrefi Cymunedol Cymru
Y Gwasanaeth Arian a Phensiynau
Corff hyd braich a noddir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yw'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau. Ei nod yw helpu pobl, yn enwedig y rhai mwyaf anghenus, i wella eu llesiant ariannol.
Yr heddlu
Mae gwaith partneriaeth agos rhwng yr heddlu ac ysgolion yn bwysig. Mae swyddogion a swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu lleol yn rhoi cyngor i ysgolion ac yn eu cefnogi gyda materion diogelu, megis troseddau mewn ysgolion. Mae swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yn gweithio i nodi materion lleol a'u deall, gan fabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar y plentyn. Maent yn galluogi ffocws ar ymyrryd yn gynnar, gan sicrhau bod gwasanaethau cymorth lleol yn gallu cydweithio a chyflawni dros gymunedau.
Partneriaeth rhwng yr heddlu ac ysgolion yw Ymgyrch Encompass, sydd ar waith ym mhob un o'r 4 heddlu yng Nghymru. Nod y rhaglen yw sicrhau bod pob plentyn sy'n profi camdriniaeth ddomestig yn cael cymorth amserol yn yr ysgol.
Mae rhai heddluoedd yn gweithredu cynllun Heddlu Bach. Mae'r plant a'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun yn helpu i fynd i'r afael â materion, a nodir gan y plant, yn eu cymuned eu hunain.
I gael rhagor o wybodaeth ‘cysylltwch â'ch heddlu lleol’.
Helpu i ddatblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol
Bydd pob ysgol yn rhan o ryw fath o drefniant ymgysylltu amlasiantaethol. Gall y cwestiynau canlynol helpu ysgolion i werthuso effeithiolrwydd yr ymgysylltu hwnnw a chynllunio i'w ddatblygu ymhellach. Dylai hyn fod yn rhan o hunanwerthusiad ehangach yr ysgol a chefnogi'r dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol, safonau gofynnol Cynllun Ysgolion Iach a Fframwaith Arolygu Estyn.
Cwestiynau i gefnogi hunanwerthusiad
- A yw'r rheolwyr wedi paratoi canllawiau ar ddefnyddio gwasanaethau allanol, ac os felly, a ydynt wedi cael eu rhannu â phob aelod o'r staff?
- Gan bwy y gallwn gael help?
- A yw effeithiolrwydd mewnbwn asiantaethau cymorth yn cael ei fonitro?
- A yw pawb yn glir am ddiben yr ymgysylltu?
- Sut mae'r ymgysylltu yn sicrhau bod gwahaniaeth yn cael ei ddathlu ac nad oes un sefydliad neu grŵp sy'n dominyddu?
- I ba raddau y mae'r ysgol yn hyrwyddo ac yn cefnogi rhaglenni a gwasanaethau pob asiantaeth?
- A yw pob arweinydd yn gallu ystyried materion o safbwyntiau eraill ar wahân i'w safbwyntiau ei hun?
- I ba raddau y mae safbwyntiau a blaenoriaethau plant a theuluoedd yn cael eu bwydo i mewn i drefniadau ymgysylltu amlasiantaethol?
- Pa mor effeithiol yw'r ysgol wrth sicrhau bod rhieni a gofalwyr yn cael eu cynnwys mewn trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol?
- A yw pob asiantaeth yn glir ynghylch y llwyfannu cyfathrebu a ddefnyddir?
- A fu cytundeb rhwng asiantaethau o ran yr iaith gyffredin a ddefnyddir?
- I ba raddau y mae'r adnoddau sydd ar gael, gan gynnwys rhai ariannol, wedi cael eu defnyddio i gefnogi'r ymgysylltu hwn?
- A oes cyfleoedd i ymarferwyr wrando a dysgu oddi wrth ei gilydd?
- A oes ffocws i'r cyfarfodydd?
- A yw'r agendâu yn cael eu rhannu ymlaen llaw?
- A yw'r cylchoedd gwaith a'r llwybrau yn glir?
A roddir ystyriaeth i weithio mewn clystyrau neu gymunedau dysgu gydag ysgolion neu leoliadau eraill wrth ddarparu cyrsiau a chynnal rhaglenni, ac ati?
Rôl awdurdodau lleol wrth ddatblygu cysylltiadau amlasiantaethol
Er mwyn datblygu dull systemau cyfan, mae'n bwysig bod pob gwasanaeth:
- yn deall y rôl allweddol y mae'n ei chwarae
- yn osgoi gweithio'n annibynnol
Ar lefel genedlaethol, mae Cenhadaeth ein cenedl yn cydnabod ymrwymiad i gydweithio. Fodd bynnag, gellir cyflawni llawer ar lefel leol hefyd.
Mae awdurdodau lleol yn dod â'r gwasanaethau allweddol ynghyd ac maent yn gyfrifol am bennu'r cyfeiriad strategol a darparu gwasanaethau. Mae ganddynt rôl allweddol i'w chwarae wrth sicrhau dull mwy cydgysylltiedig.
Tynnodd adolygiad thematig Estyn, Ysgolion cymunedol: teuluoedd a chymunedau wrth wraidd bywyd ysgol sylw at fanteision ymgysylltu amlasiantaethol, gan:
- edrych yn benodol ar weithio gyda gwasanaethau cymdeithasol, tai ac iechyd
- cydnabod y rôl y gall awdurdodau lleol ei chwarae i gefnogi'r ymgysylltu hwn, megis helpu ysgolion i ddeall y partneriaid allweddol y gallant weithio gyda nhw yn lleol
Er mwyn helpu awdurdodau lleol i gefnogi trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol, datblygodd Estyn restr o argymhellion ar eu cyfer, sef:
- Sicrhau bod cynlluniau strategol yn cynnwys camau gweithredu sy'n ymwneud â sut y byddant yn datblygu mentrau awdurdod cyfan i helpu ysgolion i fod yn ysgolion cymunedol effeithiol.
- Cryfhau gwaith ar draws cyfarwyddiaethau i gynllunio ffyrdd o leoli amrywiaeth o wasanaethau mewn ysgolion.
- Sicrhau bod cynllunio ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif yn ystyried yr angen am fannau ac ystafelloedd sylfaen i deuluoedd a’r gymuned eu defnyddio.
- Helpu ysgolion i benodi staff ymgysylltu â theuluoedd a’r gymuned, gan gynnwys datblygu swydd ddisgrifiad ar gyfer yr aelodau hyn o'r staff.
- Cynnig cyfleoedd dysgu proffesiynol i staff cymorth ysgolion, cyrff llywodraethu a phartneriaid strategol i ddatblygu ysgolion cymunedol.
Mae rhai awdurdodau lleol wedi cefnogi ysgolion drwy ddatblygu cyfeiriadur o wasanaethau (pyrth) ar gyfer eu hardal leol. Mae'r pyrth hyn yn rhoi gwybodaeth am yr amrywiaeth o gymorth a chysylltiadau sydd ar gael. Mae un enghraifft o'r dull gweithredu hwn wedi'i chynnwys yn yr astudiaeth achos gan Awdurdod Lleol Wrecsam.
Adnoddau ychwanegol a deunydd darllen pellach
Astudiaethau achos
Mae'r astudiaethau achos hyn yn tynnu sylw at ysgolion, awdurdodau lleol a gwasanaethau sydd wedi datblygu trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol.
Ysgol Morgan Llwyd
Astudiaeth ysgol gan Estyn am Gefnogi datblygiad dysgu a lles disgyblion drwy gymorth Hwb Bugeiliol a Hwb Dysgu.
Ysgol Golwg y Cwm, Powys
Astudiaeth ysgol gan Estyn am Weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o asiantaethau i gefnogi teuluoedd a hybu lles disgyblion.
SPACE-Wellbeing Gwent
Astudiaeth achos gan Gomisiynydd Plant Cymru.
Ysgol Gynradd Groes-Wen
Astudiaeth achos gan Glybiau Plant Cymru.
Gwaith mewngymorth CAMHS
Mae'r astudiaeth achos ar dudalen 55 o Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yn tynnu sylw at waith mewngymorth CAMHS a'r ffordd mae'n helpu i atal anawsterau.
Atodiadau
Atodiad A: Enghreifftiau o ddulliau systemau cyfan yng Nghymru
Cymunedau addysg gynnar
Mae Achub y Plant wedi sefydlu 2 Gymuned Addysg Gynnar yng Nghymru. Nod y rhaglen hon yw:
- cynnull a chydlynu partneriaid allweddol o bob rhan o'r system addysg gynnar leol
- datblygu gweledigaeth leol a rennir o ran sut mae angen i systemau addysg gynnar newid er mwyn sicrhau canlyniadau gwell i blant
- cydweithio i sicrhau newid
Mae cymuned addysg gynnar Betws yn enghraifft o gymuned addysg gynnar yng Nghymru.
Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar
Rhaglen beilot am gyfnod penodol yw Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar. Mae'r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygu system fwy cydgysylltiedig ac ymatebol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i blant, cyn iddynt gael eu geni hyd at 7 oed. Rhwng 2017 a 2024, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ledled Cymru a ymunodd â'r rhaglen fel prosiectau braenaru wedi bod yn archwilio sut i ddarparu gwasanaethau'r blynyddoedd cynnar mewn ffordd fwy systematig. Mae hyn wedi sicrhau bod y plant a'r teuluoedd cywir yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ar yr adeg gywir, yn y lle cywir ac yn y ffordd gywir. Mae'r prosiectau braenaru wedi bod yn ystyried sut beth ddylai elfennau craidd system ar gyfer y blynyddoedd cynnar fod ac yn treialu modelau cyflawni a dulliau gweithredu amlasiantaethol gwahanol. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiadau a'r adnoddau canlynol:
- ‘Getting it Right for Families’
- Llyfr gwaith matrics aeddfedrwydd yr EIF: Mamolaeth a’r blynyddoedd cynnar
- Adroddiad 10 mewnwelediad o 20 o leoedd ledled Cymru a Lloegr
Atodiad 2: Strwythur llywodraethu pob sector
Iechyd
Ceir 7 bwrdd iechyd lleol yng Nghymru a 3 ymddiriedolaeth y GIG. Maent yn gyfrifol am gynllunio a darparu gwasanaethau'r GIG yn eu hardal.
Addysg
Cymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru (CCAC) yw'r grŵp proffesiynol o swyddogion awdurdodau lleol sy'n atebol am swyddogaethau addysg statudol ym mhob un o'r awdurdodau lleol yng Nghymru.
Cymuned
Mae partneriaethau diogelwch cymunedol yn dod â phartneriaid ynghyd i lunio a chyflawni strategaethau i fynd i'r afael â throsedd ac anrhefn yn eu cymunedau.
Gwasanaethau cymdeithasol
Mae pob awdurdod lleol, bwrdd iechyd lleol, prif swyddog heddlu, gwasanaeth prawf a gwasanaeth troseddau ieuenctid yng Nghymru yn bartneriaid statudol ar Fwrdd Diogelu Plant eu hardal. Gall y bwrdd hwn fod wedi'i gyfuno â Bwrdd Diogelu Oedolion yr ardal honno, er mwyn creu'r hyn a elwir yn Fwrdd Diogelu Rhanbarthol.
Strwythurau sector trawsbynciol
Mae 2 strwythur gwasanaeth trawsbynciol sy'n gwella'r cydweithio strategol ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru. Er na fyddai ysgolion yn rhan o'r byrddau hyn yn unigol, fel strwythurau sy'n bodoli eisoes maent yn rhoi'r cyfle i gynrychiolwyr addysg gysoni strategaethau â gwasanaethau allweddol eraill.
Byrddau gwasanaethau cyhoeddus
Ceir 13 o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus sy'n gwneud y canlynol:
- cynnal asesiad llesiant
- cyhoeddi cynllun llesiant lleol
- cyhoeddi adroddiad blynyddol
Mae'r cynllun yn nodi sut y byddant yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Mae aelodau statudol pob Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys:
- yr awdurdod lleol
- y bwrdd iechyd lleol
- yr awdurdod tân ac achub
- Cyfoeth Naturiol Cymru
At hynny, estynnir gwahoddiad i'r canlynol gymryd rhan:
- gweinidogion Cymru
- prif gwnstabliaid
- comisiynydd yr heddlu a throseddu
- gwasanaethau prawf perthnasol
- o leiaf un corff sy'n cynrychioli sefydliadau gwirfoddol
Enghreifftiau o'r ffordd y mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi hwyluso trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol
Rhoi Plant yn Gyntaf
Cynhaliwyd rhaglen Rhoi Plant yn Gyntaf mewn 11 o leoliadau ledled Cymru. O blith y rhain, gweithiodd Castell-nedd Port Talbot gyda'i Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngorllewin Sandfields i sicrhau ffyrdd mwy cydgysylltiedig o gyflawni strategaethau cefnogol, ataliol ac ymyrryd yn gynnar mewn ardal benodol. Comisiynwyd adroddiad i adlewyrchu safbwyntiau rhanddeiliaid a'r gymuned, yn ogystal â thystiolaeth o arferion gorau mewn modelau 'Cymuned Plant' allanol. Roedd y model a ddatblygwyd yn seiliedig ar fodel Timau Rheng Flaen Amlasiantaethol, gydag asiantaethau yn cydweithio i gefnogi plant a theuluoedd mewn cymuned benodol.
Rhaglen Drawsnewid Integreiddio'r Blynyddoedd Cynnar
Nod y rhaglen hon yw sicrhau dull mwy cydlynol a chydgysylltiedig o ddarparu cymorth i blant bach a theuluoedd. Cymerodd 9 Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, neu brosiect braenaru, ran yn y rhaglen gychwynnol. Gwnaethant gyfrannu at y gwaith o ddatblygu a threialu ffyrdd integredig o weithio. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad werthuso.
Byrddau partneriaeth rhanbarthol
Ceir 7 Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a sefydlwyd fel rhan o'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant i wella'r ffordd y caiff gwasanaethau iechyd a gofal eu darparu.
Mae'r aelodau yn wahanol ym mhob rhanbarth ond gallant gynnwys:
- aelod etholedig o un awdurdod lleol yn y rhanbarth
- aelod o'r bwrdd iechyd lleol
- Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol o bob awdurdod lleol yn y rhanbarth
- cynrychiolydd tai awdurdod lleol
- landlord cymdeithasol cofrestredig
- cynrychiolydd addysg awdurdod lleol
- o leiaf un unigolyn o'r trydydd sector sy'n cydweithio â'r awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd lleol
- aelod o'r cyhoedd
- gofalwr
Enghreifftiau o'r ffordd y mae byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi cefnogi trefniadau ymgysylltu amlasiantaethol
NYTH/NEST ‘ar waith’: Enghreifftiau o Arferion Da wrth weithredu fframwaith NYTH/NEST 2023