Neidio i'r prif gynnwy

Paratowyd y testun enghreifftiol isod i’w ddefnyddio mewn ysgolion er mwyn sicrhau bod disgyblion yn gwybod sut i fynegi pryderon.

Gellir addasu’r testun ar gyfer posteri, taflenni, llythyrau neu wefan neu fewnrwyd yr ysgol.

Dweud eich dweud

Oes gennych chi awgrym, cwyn neu fater sy’n achosi pryder i chi?

Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth.

Rydym am i chi deimlo’n ddiogel ac yn hapus yn yr ysgol, ond weithiau efallai y byddwch yn poeni neu’n pryderu am rywbeth, neu am wneud awgrym. Rydym hefyd am glywed pa agweddau ar fywyd yr ysgol rydych chi’n eu mwynhau ac yn eu gwerthfawrogi.

Os ydych chi’n poeni am rywbeth, dywedwch wrth aelod o staff yn syth er mwyn i ni fedru ymchwilio i’r mater. Byddwn yn ystyried eich pryderon ac unrhyw faterion y byddwch yn eu codi o ddifrif.

Os nad ydych chi am fynegi’r pryder eich hun, gallwch ofyn i aelod o gyngor yr ysgol, aelod o staff neu rywun arall rydych chi’n ymddiried ynddo godi’r mater ar eich rhan. Fel arfer bydd [nodwch enw] yn gwneud hyn.

Pan fyddwch chi’n mynegi pryder neu gŵyn neu’n gwneud awgrym:

  • byddwn yn gwrando ar bopeth rydych chi’n ei ddweud
  • byddwn yn gofyn cwestiynau i chi i helpu i wneud pethau’n glir
  • byddwn yn eich trin yn deg
  • gall rhywun eich helpu, fel rhiant/gofalwr, ffrind, perthynas neu rywun arall
  • bydd y sawl sy’n delio â’r mater sy’n achosi pryder i chi yn dweud wrthych beth sy’n digwydd.

Preifatrwydd

Fel arfer, ni fyddwn yn dweud wrth unrhyw un beth rydych chi’n ei ddweud oni bai bod yr unigolion hynny’n gysylltiedig â’r gwaith o ddelio â’r mater sy’n achosi pryder i chi. Weithiau, byddwn yn dweud wrth bobl eraill, er enghraifft, os ydych chi neu rywun arall mewn perygl o gael niwed neu ofid. Os felly, byddwn yn esbonio’r sefyllfa i chi.

Pan fydd mater yn achosi pryder i chi neu pan fydd gennych gŵyn yn erbyn unigolyn arall, fel arfer bydd gan yr unigolyn hwnnw hawl i gael gwybod am y pryder neu’r gŵyn a chyflwyno ei ochr ef o’r stori.

Cyngor yr ysgol

Os yw’r mater sy’n achosi pryder i chi neu’ch awgrym yn effeithio ar yr ysgol gyfan neu ar grŵp o ddisgyblion, efallai y byddwn ni’n awgrymu bod cyngor yr ysgol yn ei ystyried, neu gallwch ofyn i gyngor yr ysgol ei ystyried eich hun.