Neidio i'r prif gynnwy

Bydd athrawon sydd newydd gymhwyso ac sy'n dechrau ar eu cyfnod ymsefydlu o 1 Medi ymlaen yn dechrau defnyddio safonau proffesiynol newydd ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wedi'u datblygu mewn partneriaeth ag athrawon o bob cwr o Gymru, mae'r safonau newydd yn canolbwyntio ar y nodweddion hanfodol hynny sy'n rhan o waith athrawon – addysgeg, cydweithio, arwain, arloesi, a dysgu proffesiynol drwy gydol eu gyrfa. Bydd y safonau newydd yn:

  • Disodli 55 o hen safonau â phump o safonau a disgrifyddion newydd sy'n caniatáu i athrawon eu defnyddio mewn ffordd sy'n briodol i'w swydd.
  • Ysbrydoli, herio a chefnogi pob ymarferwr, o'r athrawon dan hyfforddiant i'r penaethiaid mwyaf profiadol, i ganolbwyntio ar y sgiliau, yr wybodaeth a'r ymddygiadau y mae eu hangen arnynt i ddiwallu anghenion eu dysgwyr.
  • Rhoi mwy o gefnogaeth i unigolion sy'n newydd i'r proffesiwn addysg drwy gynnig gwell cyswllt rhwng addysg gychwynnol i athrawon, y cyfnod ymsefydlu, a'r datblygiad parhaus yn ystod eu gyrfa.
  • Cydnabod yr angen i athrawon gydweithio'n fwy effeithiol er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn elwa ar ddulliau dysgu ac addysgu rhagorol.
  • Datblygu'r gallu i arwain o fewn y system addysg drwy gefnogi pob un o'r athrawon i ddatblygu eu sgiliau arwain.
Bydd gofyn i'r holl athrawon ac arweinwyr sy'n gweithio yn y maes ddefnyddio’r safonau erbyn mis Medi 2018, yn ogystal â’r unigolion sy'n dilyn rhaglenni addysg gychwynnol i athrawon o fis Medi 2019 ymlaen. Bydd hyn yn rhoi cyfle i'r gweithlu ymgyfarwyddo â'r safonau newydd cyn eu bod yn orfodol.

Dywedodd Kirsty Williams:

"Ry'n ni'n gweld gwerth i'n gweithlu addysg yng Nghymru, ac ry'n ni eisiau eu cefnogi nhw i fod y gorau y gallan nhw ei fod drwy gydol eu gyrfa.

"Yn syml iawn, safon yr athrawon sy'n gwneud system addysg dda. Ochr yn ochr ag athrawon a rhieni, rwyf innau'n rhannu'r uchelgais i gael proffesiwn sy'n ymroddedig i'r safonau uchaf, i ddysgu gydol oes, ac i gynnal disgwyliadau uchel ar gyfer pob disgybl.

"Diben y safonau newydd hyn yw sicrhau bod athrawon yn datblygu'r sgiliau cywir gydol eu gyrfaoedd. Maen nhw'n grymuso'r unigolion sy'n addysgu yn ein hystafelloedd dosbarth i gydweithio er mwyn gwella deilliannau dysgwyr. Dyma elfen allweddol o'r gwaith hollbwysig i symud tuag at system sy'n cael ei hysgogi gan ddysgu gydol gyrfa. Fy ngweledigaeth i yw cryfhau arweinyddiaeth a sicrhau bod gwell cysondeb ar draws ein hysgolion.

"Rwy'n ddiolchgar i'r athrawon, yr arweinwyr, y consortia, a phartneriaid eraill a fu'n rhan  o'r gwaith o ddatblygu'r safonau newydd hyn. Dyma dystiolaeth o’r hyn y mae modd ei gyflawni drwy gydweithio."

Mae Cyngor y Gweithlu Addysg wedi datblygu ac ehangu'r Pasbort Dysgu Proffesiynol fel y gall athrawon fyfyrio ar eu harferion a chofnodi eu datblygiad yn erbyn y 5 safon.
Dywedodd Hayden Llewellyn:

"Fel rhywbeth ychwanegol i'r Pasbort, mae'r Safonau'n cael eu croesawu. Ry'n ni'n annog athrawon i'w defnyddio wrth gynllunio eu dysgu a'u datblygiad proffesiynol yn ystod eu gyrfa."

Bydd y pedwar consortia addysg rhanbarthol yn sicrhau bod gan yr holl athrawon sydd newydd gymhwyso fentor i'w cefnogi â'r gwaith o ddefnyddio'r safonau a chyflwyno tystiolaeth ohonynt drwy gydol eu cyfnod ymsefydlu.