Athrawon a chynorthwywyr addysgu a warchodir yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19): Mehefin 2020
Dadansoddiad gan ddefnyddio data cysylltiol i amcangyfrif nifer yr athrawon a chynorthwywyr addysgu a warchodir yng Nghymru ym mis Mehefin 2020.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Prif ganlyniadau
- Mae 459 o athrawon sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir. Mae hyn yn cynrychioli 1.6% o'r athrawon yng Nghymru.
- Mae canran yr athrawon sydd ar y Rhestr yn amrywio fesul awdurdod lleol, gyda'r ganran uchaf ym Merthyr Tudful (2.5%) a'r ganran isaf yn Ynys Môn (0.8%).
- Mae 574 o gynorthwywyr addysgu sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir. Mae hyn yn cynrychioli 2.3% o'r cynorthwywyr addysgu yng Nghymru.
- Yn Sir Ddinbych y mae'r ganran uchaf o gynorthwywyr addysgu ar y Rhestr (3.3%) ac mae'r ganran isaf (1.3%) yng Ngwynedd.
2. Staff sydd ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir yn ôl cyfnod a chyfrwng yr ysgol
Athrawon
Mae 416 o athrawon ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir, sydd wedi'u rhannu'n gyfartal rhwng ysgolion cynradd, canol ac uwchradd. Mae 21 o'r athrawon hyn yn gweithio mewn ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ond nid oes ysgol wedi'i chofnodi ar gyfer y gweddill.
Mae 112 o athrawon o ysgolion cyfrwng Cymraeg ar y Rhestr o gymharu â 304 o athrawon o ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae'r gweddill yn gweithio mewn ysgolion nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol (Ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion) neu nid oes ysgol wedi'i chofnodi ar eu cyfer.
Cynorthwywyr addysgu
Mae 385 o gynorthwywyr addysgu’r ysgolion cynradd yng Nghymru ar y Rhestr o Gleifion a Warchodir tra bod 109 o gynorthwywyr addysgu ysgolion canol ac uwchradd ar y Rhestr. Mae 62 o'r cynorthwywyr addysgu sydd ar y Rhestr yn gweithio mewn ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion, ond nid oes ysgol wedi'i chofnodi ar gyfer y gweddill.
Mae 117 o'r cynorthwywyr addysgu sydd ar y Rhestr yn gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg o gymharu â 377 sy'n gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. Mae'r gweddill yn gweithio mewn ysgolion nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol (Ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion) neu nid oes ysgolion wedi'u cofnodi ar eu cyfer.
3. Gwybodaeth am y setiau data
Mae'r Rhestr o Gleifion a Warchodir yn rhestr o bobl sy'n eithriadol o agored i niwed, sef y rheini sy'n fwyaf tebygol o fynd yn sâl pe baent yn dal y coronafeirws. Dylai pobl sy'n gwarchod fod wedi cael llythyr neu gael gwybod gan eu meddyg teulu eu bod yn y grŵp hwn. Lluniwyd y Rhestr o Gleifion a Warchodir drwy ddefnyddio amryw o ffynonellau data o'r Gwasanaeth Iechyd. Ceir rhagor o wybodaeth am y ffynonellau a'r fethodoleg ar Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Mae'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion yn cynnwys dau gasgliad data sy'n ymwneud â blwyddyn academaidd 2018/19. Mae'r casgliad cyntaf yn ddata ynghylch contractau a chyflogau gan yr awdurdodau lleol ac mae'r ail yn ddata ynghylch y gweithlu a ddaw yn uniongyrchol wrth yr ysgolion. Mae'r ddau gasgliad data'n cynnwys cofnodion staff sy'n gorgyffwrdd ond nad ydynt yn union yr un peth. Felly, efallai bydd rhai aelodau o staff yn ymddangos mewn un casgliad data ond nid yn y llall. Defnyddiwyd y ddau gasgliad data ar gyfer ein dadansoddiad ni.
4. Gwybodaeth am ansawdd a’r fethodoleg
Mae Uned Ymchwil Data Gweinyddol Llywodraeth Cymru'n cynnal prosiectau ymchwil er budd y cyhoedd drwy ddefnyddio setiau data gweinyddol sefydledig. Yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19), mae'r Uned wedi cynnal nifer o prosiectau cysylltu data. Roedd un o'r prosiectau hyn yn cynnwys cysylltu'r Rhestr o Gleifion a Warchodir a'r Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion i amcangyfrif nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr addysgu a warchodir yng Nghymru. Mae'r dadansoddiad hwn yn defnyddio'r Rhestr fel ag yr oedd ar 15 Mehefin 2020 pan oedd 127,095 o rifau GIG unigryw arni, a'r Cyfrifiad Blynyddol fel ag yr oedd ar 5 Tachwedd 2019. Ni wnaeth pedair ysgol o blith 1,502 ddychwelyd gwybodaeth ar gyfer y Cyfrifiad Blynyddol ac felly mae eu data nhw ar goll o'r dadansoddiad hwn. Gweler gwefan y Cyfrifiad Blynyddol o'r Gweithlu Ysgolion am ragor o wybodaeth ynghylch data’r Cyfrifiad.
I gael darlun llawn o weithlu'r ysgolion, fe wnaethom ddefnyddio data'r Cyfrifiad gan yr awdurdodau lleol ac ysgolion. Cyfunwyd gwybodaeth adnabod y gweithlu o ffurflenni'r awdurdodau lleol a ffurflenni'r ysgolion, gan ddechrau gyda'r rhestr lawn o staff sydd gan yr awdurdod lleol ac ychwanegu’r staff hynny o ffurflenni'r ysgolion nad oeddent yn ymddangos ar ffurflenni'r awdurdodau lleol. O wneud hyn, cafwyd rhestr gyflawn o'r gweithlu. Dim ond y staff hynny nad oedd dyddiad wedi'i gofnodi ar gyfer diwedd eu contract neu yr oedd eu contract yn dod i ben ar ôl dechrau cyfnod y cyfyngiadau ar 23 Mawrth a gafodd eu cynnwys yn y dadansoddiad.
Cysylltwyd y rhestr hon o’r gweithlu â’r Rhestr o Gleifion a Warchodir drwy ddefnyddio enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni. Yn yr un modd â phob ymarfer cysylltu data lle nad oes unrhyw faes unigryw'n gyffredin i'r setiau data, ceir risg o baru anghywir. Fodd bynnag, dylai defnyddio cyfuniad o dri maes yn y dadansoddiad hwn leihau'r risg hon. Mae risg hefyd nad yw’r broses gysylltu'n nodi parau gwirioneddol rhwng y Rhestr o Gleifion a Warchodir a'r gweithlu ysgolion gan fod anghysonderau neu wallau yn y ffynonellau data gwahanol er enghraifft. Hynny yw, os yw cyfenw priodasol yn cael ei ddefnyddio mewn cofnodion meddygol ond nid yng nghofnodion gweithlu'r ysgolion. Er nad yw'n bosibl meintoli'r risg hon, mae'n debygol o fod yn fach.
Mae gan awdurdodau lleol systemau gweinyddol gwahanol i gofnodi eu data ar weithlu'r ysgolion, ac felly gallai contractau unigolion fod wedi’u cofnodi mewn ffordd wahanol. Mae'n bosibl bod y categorïau contract a gofnodwyd ar gyfer rhai unigolion sy'n gweithio fel athrawon neu gynorthwywyr addysgu yn wahanol i’r categorïau rydym ni'n eu defnyddio i adnabod staff addysgu a chynorthwywyr addysgu yn y dadansoddiad hwn, ac felly mae’n bosibl eu bod wedi’u colli. Dylid bod yn ofalus gyda'r ffigurau ar gyfer cynorthwywyr addysgu’n benodol gan fod nifer o godau gwahanol y gellir eu defnyddio i gategoreiddio staff cymorth, a gall y defnydd o'r rhain amrywio yn ôl awdurdod lleol ac ysgolion. Er enghraifft, gallai staff cymorth anghenion arbennig fod wedi'u cofnodi fel cynorthwywyr addysgu.
Gall staff fod â mwy nag un contract o'r un math neu o fathau gwahanol gyda'r un awdurdod lleol neu awdurdod lleol gwahanol. Mae ein ffigurau'n cyfrif rolau unigol ar gyfer cyfrwng, cyfnod ac awdurdod lleol penodol. Os oes gan aelod o staff fwy nag un rôl, neu'n gweithio ar draws cyfnodau, cyfryngau neu awdurdodau lleol, gellid eu cyfrif fwy nag unwaith.
Mae athrawon yn cynnwys pob athro dosbarth cymwysedig, athrawon sy’n arwain (penaethiaid, dirprwy benaethiaid, penaethiaid cynorthwyol etc), athrawon cyflenwi parhaol sy'n gweithio mewn ysgolion am gyfnod hirdymor, athrawon sydd heb gymhwyso ac athrawon dan hyfforddiant. Mae cynorthwywyr addysgu'n cynnwys cynorthwywyr addysgu, cynorthwywyr addysgu lefel uwch a chynorthwywyr addysgu ieithoedd tramor.
Mae ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cynnwys ysgolion a gofnodwyd fel ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog, trosiannol a dwy ffrwd. Mae ysgolion cyfrwng Saesneg yn cynnwys ysgolion a gofnodwyd fel ysgolion cyfrwng Saesneg ac ysgolion Saesneg lle ceir cryn dipyn o Gymraeg. Nid yw ysgolion arbennig, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac ysgolion meithrin yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y dadansoddiadau yn ôl cyfrwng.
Cafodd y gwaith trin data ei wneud yn Spyder gan ddefnyddio Python 3.7, ar lwyfan UKSeRP Llywodraeth Cymru (Llwyfan Ymchwil Diogel y DU).
Cynhaliwyd yr ymchwil hon fel rhan o raglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Mae rhaglen waith Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn cyd-fynd â’r themâu blaenoriaeth fel y’u nodir yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru: Ffyniant i Bawb. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n dod ag arbenigwyr gwyddor data o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, staff o Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) Prifysgol Caerdydd a thimau arbenigol Llywodraeth Cymru ynghyd i ddatblygu tystiolaeth newydd sy’n cefnogi Ffyniant i Bawb gan ddefnyddio Banc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe i gysylltu a dadansoddi data dienw. Mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru’n rhan o Ymchwil Data Gweinyddol Prydain sydd wedi’i hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (sy’n rhan o Ymchwil ac Arloesi yn y DU) (grant ES/S007393/1).
5. Manylion cyswllt
Kathryn Helliwell
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ADRUWales@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 100/2020