Beth i’w wneud os ydych chi’n hunanynysu ac yn rhannu eich cartref gydag eraill neu bod angen atgyweirio eich cartref.
Mae’n bwysig i’ch cartref fod yn ddiogel. Mae'ch landlord yn parhau i fod yn gyfrifol am gadw’r eiddo’n ddiogel ac mewn cyflwr da, hyd yn oed yn ystod y pandemig hwn.
Os bydd unrhyw broblemau yn codi gyda'ch cartref, dylech hysbysu eich landlord neu asiant gosod eiddo.
Hunanynysu pan fo angen atgyweirio eich cartref
Rhaid i chi roi gwybod i’ch landlord neu asiant gosod eiddo eich bod yn hunanynysu os ydynt wedi trefnu ymweld â’ch cartref am unrhyw reswm.
Dylech drefnu iddynt gysylltu â chi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy aelod o'r teulu neu ffrind. Rydym yn argymell na ddylid gwneud unrhyw waith ar aelwyd sy’n hunanynysu, oni bai bod angen atgyweirio nam sy’n achosi perygl uniongyrchol i ddiogelwch pobl, er enghraifft gwaith plymio brys. Mewn achosion o’r fath, gall Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor i fasnachwyr ac aelwydydd. Ni ddylai masnachwyr sy’n arddangos symptomau coronafeirws wneud unrhyw waith o gwbl, boed y symptomau yn rai difrifol neu beidio.
Mynediad i’ch cartref
Efallai y bydd eich landlord, neu rywun sy’n gweithio ar ei ran, yn gofyn i ymweld â’ch cartref i wneud gwaith atgyweirio, cynnal a chadw neu wasanaeth arall sy’n gysylltiedig â’r eiddo. Dylech ddefnyddio eich crebwyll personol eich hun wrth ystyried caniatáu i rywun ddod i’ch cartref.
Ymhlith y rhesymau dros ganiatáu mynediad i rywun mae’r canlynol:
- to sy’n gollwng
- boeler wedi torri
- problem gyda'r plymio, a dim modd i chi ymolchi neu ddefnyddio’r toiled
- peiriant golchi, oergell neu rewgell wedi torri, a dim modd i chi olchi dillad neu storio bwyd yn ddiogel
- ffenestr neu ddrws allanol wedi torri
- os bydd cyfarpar y mae person anabl yn dibynnu arno angen ei osod neu ei atgyweirio
Os bydd rhywun yn ymweld â’ch cartref, mae’n bwysig iawn iddyn nhw a chi ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol.
Os bydd rhywun yn ymweld â’ch cartref i drwsio problem ddifrifol, rhaid iddyn nhw (a chi) ddilyn y canllawiau cadw pellter yn y gweithle. Darllenwch y canllawiau ar fynd i gartrefi pobl eraill.
Gall arolygwyr neu weithwyr cynnal a chadw ymweld ag eiddo i wneud archwiliad diogelwch nwy neu drydanol o hyd. Os ydych yn byw mewn fflat gallant hefyd ymweld â'ch cartref i archwilio a phrofi larwm tân a systemau goleuo argyfwng.