Data sydd yn dangos nifer yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd gan Fyrddau Iechyd Lleol ar gyfer apwyntiad cyntaf fel claf allanol ymgynghorol, waeth beth yw man preswyl y claf ar gyfer Ebrill 2017 i Mawrth 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Atgyfeiriadau GIG ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Roedd yna 1,279,494 o atgyfeiriadau ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol cyntaf yn 2017-18. Mae hyn yn ostyngiad o 16,941 (1.3%) o gymharu â flwyddyn diwethaf, ond cynnydd o 202,604 (18.8%) ers 2012-13.
- Ar gyfartaledd, mae atgyfeiriadau wedi bod yn sefydlog dros y 2 flynedd ddiwethaf ond maent wedi cynyddu o gymharu â 5 mlynedd yn ôl. Cafodd sylw atgyfeiriadau sydd heb wedi dod o feddyg teulu ei ehangu yn ystod yr amswer hwn, a gallai hyn fod yn gyfrifol am rywfaint o'r cynnydd.
- Mae’r ganran o atgyfeiriadau sydd wedi dod o wasanaethau meddyg teulu wedi gostwng dros amser, o 71.1% yn 2012-13 i 65.1% yn 2017-18. Mae’r nifer o atgyfeiriadau sydd yn dod o wasanaethau meddyg teulu wedi cynyddu, ond yn arafach. Eleni gwelwyd y gostyngiad gyntaf yn y nifer o atgyfeiriadau meddyg teulu.
- Y swyddogaethau triniaeth a derbyniwyd y nifer uchaf o atgyfeiriadau yn 2017-18 oedd (mewn trefn): trawma ac orthopedig, llawfeddygaeth gyffredinol, offthalmoleg, ENT (clustiau, trwyn a gwddf) a gynaecoleg.
Adroddiadau
Atgyfeiriadau GIG ar gyfer apwyntiadau cyntaf fel cleifion allanol, Ebrill 2017 i Mawrth 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 950 KB
PDF
Saesneg yn unig
950 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.