Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Carl Sargeant wedi galw heddiw ar denantiaid i ddweud eu dweud am y cynigion deddfwriaethol i ddileu gallu asiantiaid gosod i godi ffioedd arnynt.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr ymgynghoriad ymgynghoriad yw'r cam cyntaf tuag at gyflawni Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil Ffioedd a Godir gan Asiantiaid Gosod ar Denantiaid er mwyn mynd i'r afael â ffioedd a godir yn y sector rhentu preifat.

Daeth yr alwad wrth i ymchwil ar oblygiadau posibl gwahardd y ffioedd hyn gael ei chyhoeddi heddiw. Yn ôl yr ymchwil, mae 84% o’r asiantiaid wnaeth ymateb yn codi ffi ddechreuol a’r gost o ymrwymo i denantiaeth ar gyfartaledd yw £178. Mae’r ffioedd hyn yn cyfateb i 19% o incwm yr asiantiaid - cyfanswm o ryw £10 miliwn i gyd.

Dywedodd Mr Sargeant:

“Lansiais yr ymgynghoriad ar y ffioedd a godir ar denantiaid yn y sector rhentu preifat y mis diwethaf ond, hyd yn hyn, mae’r ymateb mwyaf wedi dod o blith landlordiaid ac asiantiaid gosod. Er y byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y mater i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn rwyf am glywed yn arbennig gan denantiaid er mwyn sicrhau bod gennym ystod mor eang â phosibl o ymatebion.

"Hoffwn wybod beth yw ystod y ffioedd a godir, yr hyn y mae'r ffioedd hynny yn ei gwmpasu a'r effaith y byddai gwahardd y ffioedd hyn yn ei chael ar asiantiaid gosod, landlordiaid, tenantiaid ac unrhyw drydydd parti sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat."