Neidio i'r prif gynnwy

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru yn atgoffa pawb sy'n cadw dofednod yng Nghymru o bwysigrwydd bioddiogelwch ac i gadw golwg am arwyddion Ffliw'r Adar ar ôl achos o'r clefyd yn Dorset

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi heddiw bod straen Ewropeaidd feirws H5N6 pathogenig iawn Ffliw’r Adar wedi’i ddarganfod mewn 17 o adar gwyllt yn Dorset. Caiff “parth gwarchod ffliw’r adar” ei sefydlu yn yr ardal dan sylw yn Dorset lle bydd gofyn i geidwaid adar caeth gynnal mesurau bioddiogelwch llym.  Ystyrir bod y perygl i iechyd y cyhoedd yn fach neu fach iawn.   Dywedodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd hefyd nad oedd ffliw’r adar yn peryglu diogelwch bwyd yn y DU. 

Does dim Ffliw'r Adar yng Nghymru ar hyn o bryd, ond gan ei bod yn dymor mudo adar gwyllt, mae risg i'r clefyd ddod i'r wlad. 

Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru'n cynghori pawb sy'n cadw dofednod yng Nghymru, o'r haid leiaf yn yr ardd gefn i'r fferm fasnachol fwyaf, i gadw golwg ar eu mesurau bioddiogelwch, i gofrestru am rybuddion a chofrestru'u hadar gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)  trwy ffonio llinell gymorth Cofrestr Ddofednod Prydain ar 0800 634 1112.   Mae hefyd yn atgoffa ceidwaid bod angen iddyn nhw roi gwybod i'w milfeddyg am unrhyw farwolaeth neu salwch anesboniadwy.

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol:  

"Er nad oes Ffliw'r Adar yng Nghymru ar hyn o bryd, mae tymor mudo adar gwyllt  wedi hen ddechrau ac mae risg gyson y gallai'r clefyd ddod i'r wlad. 

"Nid peth anghyffredin yw cael hyd i Ffliw'r Adar mewn adar gwyllt ym Mhrydain yr adeg hon o'r flwyddyn a chafwyd Ffliw'r Adar mewn gwledydd eraill ledled Ewrop hefyd yn yr wythnosau diwethaf. 

"Mae cael hyd i'r clefyd mewn adar gwyllt yn Dorset yn pwysleisio bod angen i geidwaid dofednod fod yn wyliadwrus a chadw golwg ar eu hadar am arwyddion o'r clefyd. 

"Ni allaf bwysleisio digon pa mor bwysig yw hi i geidwaid dofednod gadw at y safonau bioddiogelwch uchaf. Rwy'n eu hannog i ymbaratoi a chymryd camau, er enghraifft, bwydo a dyfrio adar o dan do, i amddiffyn eu hadar rhag cael eu heintio.

"Dylai pawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill wneud popeth yn eu gallu i'w rhwystro rhag dod i gysylltiad ag adar gwyllt. Dylech osgoi symud eich dofednod, a dylech wastad diheintio dillad ac offer  cyn ac ar ôl eu defnyddio." 

Os oes ceidwad adar yn poeni am iechyd ei adar, dylai holi'i filfeddyg. Os oes lle ganddo gredu bod y ffliw ar ei adar, dylai gysylltu â'r  Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (dolen allanol) (Saesneg yn unig).

Os bydd aelodau'r cyhoedd yn cael hyd i elyrch, gwyddau, hwyaid neu wylanod marw, neu bum neu fwy o adar gwyllt o rywogaeth arall yn farw yn yr un lle, cysylltwch â llinell gymorth Defra ar: 03459 33 55 77 neu e-bostiwch: defra.helpline@defra.gsi.gov.uk. Dyma wasanaeth ar gyfer Prydain gyfan.

Rydyn ni'n annog pawb sy'n cadw dofednod i'w cofrestru. Os oes gennych 50 o adar neu fwy, rhaid ichi eu cofrestru o dan y gyfraith. Rydyn ni'n annog ceidwaid â llai na 50 o adar i'w cofrestru'n (dolen allanol) (Saesneg yn unig) wirfoddol. 

Cynghorir ceidwaid i gofrestru am rybuddion (Saesneg yn unig) am y clefyd. 

Cewch fwy o wybodaeth am Ffliw'r Adar, y sefyllfa fel ag y mae yng Nghymru ac ar draws y DU a chyngor ar fioddiogelwch ac ati i bobl sydd â heidiau yn eu gardd gefn, ar wefan Llywodraeth Cymru.