Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod bod aderyn gwyllt marw wedi'i ddarganfod yn y Barri, Bro Morgannwg â'r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 arno.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Dyma straen y feirws a gafwyd mewn adar gwyllt yn Lloegr dros yr wythnosau diwethaf ond dyma'r tro cyntaf iddo gael ei weld yng Nghymru eleni. 

Cafwyd hyd i'r aderyn gwyllt, boda (bwncath), yn farw a chafodd ei gyflwyno fel rhan o swmp rheolaidd gan Gorff Anllywodraethol i'w brofi fel rhan o'r mesurau i gadw gwyliadwriaeth ar adar gwyllt. 

Cafodd y clefyd ei ddarganfod ar ôl cyhoeddi'r Parth Atal yng Nghymru ar 25 Ionawr, lle roed gofyn i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gymryd camau priodol ac ymarferol i rwystro'r clefyd rhag lledaenu. 

Nid yw'r risg ym marn milfeddygon yn uwch i adar gwyllt na dofednod/adar caeth yng Nghymru o ganlyniad i ddarganfod yr haint. Mae'r gofynion bioddiogelwch cryfach yn para mewn grym a dyna'r ymateb priodol a chymesur meddir. 

Mae'r straen hwn o'r ffliw yn effeithio ar adar ac nid ar bobl, a bach iawn yw'r risg i iechyd y cyhoedd o ganlyniad i'r darganfyddiad. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

"Cyn darganfod yr aderyn gwyllt â'r ffliw adar pathogenig iawn H5N6 arno yn y Barri, cafodd achosion eu darganfod hefyd mewn adar gwyllt yn Lloegr a gweddill Ewrop. Nid yw'n syndod gweld y ffliw adar yr adeg hon o'r flwyddyn ac mae wastad risg o wneud hynny. 

"Mae hyn yn dilyn ein hapêl ddiweddar ar geidwaid adar i gadw golwg ar eu hadar ac i ddilyn y mesurau bioddiogelwch llymaf a chyflwyno Parth Atal ledled Cymru ar 25 Ionawr i leihau'r risg i ddofednod ac adar caeth eraill. Mae'r Parth yn dal i fod yn ei le a rydyn ni'n teimlo bod y gofynion bioddiogelwch presennol yn ddigon cryf er darganfod yr aderyn marw." 

Dywedodd y Prif Swyddog Milfeddygol, Dr Gavin Watkins: 

"Dyma'r achos gyntaf o'r ffliw adar yng Nghymru eleni ac mae'n ein hatgoffa ni i gyd o berygl yr haint. Rhaid i geidwaid adar gadw golwg am arwyddion y clefyd ac ni allaf bwysleisio digon mor bwysig yw cadw at y lefelau bioddiogelwch uchaf. 

"Prif ffynhonnell yr haint i adar caeth yw adar y dŵr, a rhaid i'r mesurau bioddiogelwch ddiogelu'r mannau y mae adar domestig yn cael eu cadw rhag cael eu heintio, boed yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.  Mae adar ysglyfaethus fel y boda yn cael eu heintio fwy na thebyg trwy fwyta adar dŵr heintiedig a dydyn nhw ddim yn debygol o gyfrannu at ei drosglwyddo. Dylech osgoi symud eich dofednod, a dylech wastad diheintio dillad ac offer cyn ac ar ôl eu defnyddio."

Os oes ceidwad adar yn poeni am iechyd ei adar, dylai holi'i filfeddyg. Os oes lle ganddo gredu bod y ffliw ar ei adar, dylai gysylltu â'r  Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (dolen allanol) (Saesneg yn unig).

Os bydd aelodau'r cyhoedd yn cael hyd i elyrch, gwyddau, hwyaid neu wylanod marw, neu bum neu fwy o adar gwyllt o rywogaeth arall yn farw yn yr un lle, cysylltwch â llinell gymorth Defra ar: 03459 33 55 77 neu e-bostiwch: defra.helpline@defra.gsi.gov.uk. Dyma wasanaeth ar gyfer Prydain gyfan.

Rydyn ni'n annog pawb sy'n cadw dofednod i'w cofrestru. Os oes gennych 50 o adar neu fwy, rhaid ichi eu cofrestru o dan y gyfraith. Rydyn ni'n annog ceidwaid â llai na 50 o adar i'w cofrestru'n (dolen allanol) (Saesneg yn unig) wirfoddol. 

Cynghorir ceidwaid i gofrestru am rybuddion am y clefyd. 

Cewch fwy o wybodaeth am Ffliw'r Adar, y sefyllfa fel ag y mae yng Nghymru ac ar draws y DU a chyngor ar fioddiogelwch ac ati i bobl sydd â heidiau yn eu gardd gefn, ar wefan Llywodraeth Cymru.