Casglodd yr astudiaeth hon ddata i lywio gweithgareddau Partneriaeth Achub Bywydau Cymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae Adfywio Cardio-pwlmonaidd (CPR) gan berson yn y fan a’r lle yn un o benderfynyddion allweddol goroesi yn dilyn ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty. Mae'r papur hwn yn ymchwilio gwybodaeth y cyhoedd, agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch pobl gyffredin sydd yn y fan a’r lle yn rhoi CPR ac yn defnyddio diffibriliwr mewn amgylchiadau ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty.
Prif ganfyddiadau
- Roedd cyfran o 56% o’r ymatebwyr yn dweud eu bod wedi derbyn hyfforddiant CPR. Fodd bynnag, yr oedd 45% o’r rheini a oedd wedi cael hyfforddiant wedi’u hyfforddi fwy na phum mlynedd yn ôl.
- Roedd y gyfran a hyfforddwyd i ddefnyddio diffibriliwr yn llawer is, gyda dim ond 23% yn adrodd eu bod wedi derbyn hyfforddiant.
- Ar y cyfan, nid oedd hyder ynglŷn â rhoi CPR i rywun yn uchel, gyda 48% o'r holl ymatebwyr yn dweud y byddent yn hyderus.
-
Dywedodd 27% o’r bobl a hyfforddwyd mewn CPR na fyddent yn hyderus i berfformio CPR ar rywun pe bai 'r sefyllfa yn galw am ymyriad.
Adroddiadau
Archwilio gwybodaeth y cyhoedd, agweddau ac ymddygiadau’r cyhoedd ynghylch pobl gyffredin sydd yn y fan a’r lle yn rhoi CPR ac yn defnyddio diffibriliwr mewn amgylchiadau ataliad y galon y tu allan i’r ysbyty: canfyddiadau rhagarweiniol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 364 KB
Cyswllt
Nina Prosser
Rhif ffôn: 0300 025 5866
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Media
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.