Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio’r arfer o brofi llythrennedd a rhifedd ymgeiswyr i gael mynediad at gyrsiau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yng Nghymru.

Mae hefyd yn archwilio argaeledd ac addasrwydd profion i brofi sgiliau llythrennedd a rhifedd sy’n gyfwerth â Gradd B ar lefel TGAU ac asesiad o opsiynau ar gyfer profi cyfwerthedd yn y dyfodol.  

Mae darparwyr, rhanddeiliaid ac ymgeiswyr yn credu bod y gofyniad Gradd B yn rhwystr rhag recriwtio ac yn cyfrannu at y gostyngiad yn nifer yr ymgeiswyr AGA, er bod y dystiolaeth ar gyfer hyn yn anecdotaidd.  Nid yw darparwyr yn cofnodi nifer yr ymgeiswyr sydd heb Radd B mewn Saesneg a mathemateg fel mater o drefn, er bod rhai darparwyr yn cofnodi’r wybodaeth hon.  

Mae darparwyr a rhanddeiliaid yn gyfarwydd â’r gofynion mynediad ar gyfer AGA yng Nghymru, ond nid ydynt bob amser yn eglur i ymgeiswyr.  Nid yw pob ymgeisydd yn gwybod am y gofyniad Gradd B, cymwysterau yr ystyrir eu bod yn gyfwerth a’r gwahanol opsiynau ar gyfer sefyll prawf cyfwerthedd tan iddynt gael cynnig amodol gan eu darparwr.  

Safodd cyfanswm o 214 o ymgeiswyr brofion cyfwerthedd Saesneg i gael mynediad yn 2017/18, a safodd 286 brofion cyfwerthedd mathemateg.  Mae’r holl ddarparwyr, heblaw am Teach First Cymru (sy’n cyfeirio ymgeiswyr at y darparwyr eraill), wedi datblygu neu gomisiynu eu profion cyfwerthedd Saesneg a mathemateg eu hunain.  

Mae bron pob aelod o staff darparwyr AGA o blaid cyflwyno rhyw fath o brawf cyfwerthedd cenedlaethol.  Mae rhanddeiliaid hefyd yn cydnabod yr angen am gysondeb, ond pwysleisiodd ambell un gymesuroldeb o ran cyd-destun yr heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio athrawon.  Byddai ymgeiswyr a oedd wedi sefyll sawl prawf cyfwerthedd gan ddarparwyr gwahanol yn croesawu prawf cenedlaethol oherwydd buasai wedi bod yn fwy cyfleus.

Adroddiadau

Astudiaeth ynglŷn â Phrawf Mynediad Cyfwerthedd Cenedlaethol ar gyfer Ymgeiswyr Addysg Gychwynnol Athrawon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB

PDF
3 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

David Roberts

Rhif ffôn: 0300 062 5485

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.