Mae’r ymchwil yn archwilio’r hyn sy’n ysgogi pobl i addysgu ar hyn o bryd, yr hyn sy’n achosi iddynt barhau i addysgu a’r hyn a allai achosi iddynt ystyried gadael.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Y prif ganfyddiadau
Mae’r ffactorau sy’n annog unigolion i ddilyn gyrfa addysgu ac aros yn y proffesiwn yn cynnwys y canlynol:
- teimlad bod addysgu yn alwedigaeth a’r cyfleoedd y mae hynny’n eu cynnig i gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant a phobl ifanc
- cyfleoedd am broffesiynoldeb creadigol, yn benodol rhywfaint o ymreolaeth dros y diwrnod gwaith
- strwythur gyrfa, fel datblygiad a’r hawl i wyliau
- cyfleoedd i hybu gwybodaeth a sgiliau
- ystyrir bod cymorth proffesiynol effeithiol a chyson yn ystod pob cam o’r hyfforddiant a drwy gydol gyrfa addysgu yn elfen hanfodol o ran cadw athrawon.
Mae’r ffactorau a all annog unigolion i beidio ag ystyried gyrfa addysgu a chyfrannu at benderfynu gadael y proffesiwn yn cynnwys y canlynol:
- roedd llwyth gwaith a straen yn troi darpar athrawon ac athrawon ar ddechrau eu gyrfa oddi ar addysgu
- y ddelwedd o addysgu – roedd rhai pobl ifanc yn credu y gallent gael cyflogau uwch a llai o straen a llwyth gwaith drwy ddilyn gyrfaoedd eraill
- yr angen am ragor o gymorth – nodwyd bod diffyg cymorth gan arweinwyr ysgol yn rheswm dros adael addysgu
- nododd yr ymchwil bwysigrwydd cynorthwyo athrawon a datblygu diwylliant lle maen nhw’n teimlo y gallant gyfaddef eu bod yn ei chael hi’n anodd.
Adroddiadau
Astudiaeth ymchwil ar ba mor ddeniadol yw gyrfa addysgu, a chadw athrawon , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Astudiaeth ymchwil ar ba mor ddeniadol yw gyrfa addysgu, a chadw athrawon: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 737 KB
Cyswllt
Ymchwilydd
Rhif ffôn: 0300 062 5103
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.