Mae'r sector lletygarwch yn gyfrifol am oddeutu 4% o'r Cynnyrch Mewnwladol Crynswth ledled y DU, gan gyflogi mwy na 1.6 miliwn o bobl i gyd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Yng Nghaerdydd yn unig, amcangyfrifir bod mwy na 700 o fusnesau lletygarwch ac mae'n debyg y bydd y sector yn ehangu'n barhaus wrth i gyfleusterau newydd fel y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol £700 miliwn arfaethedig gael ei gwblhau ym Mae Caerdydd - ochr yn ochr â datblygiadau pwysig eraill fel Stadiwm y Mileniwm, yr adfywio presennol ym Mae Caerdydd a Chanolfan y Mileniwm.
Fodd bynnag, mae'r diwydiant yn dioddef diffygion sgiliau a llafur, yn rhannol yn sgil y ddelwedd a geir o oriau hir ac anghymdeithasol, amodau gwaith gwael a chyflog isel. Er enghraifft, o'r 3,800 o weinyddwyr a gweinyddesau sy'n gweithio yn rhanbarth y De Ddwyrain, roedd bron i 75% yn gweithio'n rhan-amser, ac yn ennill £80 yr wythnos ar gyfartaledd.
Mae'r diffygion sgiliau a nodwyd yn bennaf ymhlith cogyddion sgiliedig a rheolwyr gwestai/bwytai. Mae diffygion llafur yn fwy tebygol o fod ymhlith gweinyddwyr/gweinyddesau a chynorthwywyr cegin.
Mae ffigurau ymrestru ar gyrsiau arlwyo ysgolion a cholegau wedi bod yn gostwng yn gyson dros gyfnod maith, yn ddiweddar oherwydd poblogrwydd disgyblaethau newydd fel gwyddor chwaraeon.
Mae cyflogwyr yn ffafrio hyfforddiant yn y gweithle ac nid ydynt yn hoffi rhyddhau staff ar gyfer hyfforddiant oddi ar y safle, heblaw am hyfforddiant iechyd a diogelwch/hylendid bwyd sylfaenol, sy'n ofyniad lled-gyfreithiol.
Mae CCET Caerdydd wedi nodi Arlwyo a Lletygarwch fel sector allweddol i'w ddatblygu ac mae'n dymuno gwella'r ddarpariaeth ddysgu ar gyfer y diwydiant, yn arbennig darpariaeth AB yn y ddinas.