Data Cyrchfannau yw’r term a ddefnyddir i ddisgrifio’r data sy’n nodi i ble mae pobl ifanc yn mynd ar ôl gorffen eu cyrsiau addysgol neu alwedigaethol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd yr astudiaeth yn cynnwys:
- adolygiad o’r dogfennau sy’n berthnasol i’r data sydd ar gael, a’r defnydd o’r data hynny, o ran cyrchfannau dysgwyr yn Ewrop, yn rhannau eraill o’r DU ac yng Nghymru
- adolygiad o’r canllawiau a dogfennau eraill sy’n ymwneud â chasglu a defnyddio data ar gyrchfannau ymadawyr addysg bellach yng Nghymru
- cyfweliadau â Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r sefydliadau sy’n bartneriaid
- trafodaethau gyda phedwar rhwydwaith 14-19
- grŵp ffocws yn cynnal dwy drafodaeth gyda chynghorwyr gyrfaoedd, athrawon a staff colegau addysg bellach
- cyfweliadau dros y ffôn gydag adrannau ac asiantaethau llywodraethau eraill y DU
- trafodaeth ar y casgliadau newydd gyda grŵp llywio’r prosiect.
Adroddiadau
Astudiaeth gwmpasu ar sut mae data cyrchfannau addysg bellach (AB) yng Nghymru yn cael eu casglu a’u defnyddio , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 628 KB
PDF
Saesneg yn unig
628 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.