Mae’r Rhaglen Cefnogi Pobl yn rhoi cymorth sy’n gysylltiedig â thai er mwyn helpu pobl sy’n agored i niwed i fyw mor annibynnol â phosibl.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl
Mae'r adroddiad terfynol yn edrych ar y posibilrwydd o ddefnyddio cysylltu data i werthuso rhaglen Cefnogi Pobl.
Nod cyffredinol y prosiect hwn oedd archwilio'r cyfraniad y gallai cysylltu data ei wneud i'r gwerthusiad o'r rhaglen Cefnogi Pobl, drwy asesu'r ffyrdd roedd defnydd o'r gwasanaeth iechyd yn amrywio yn ôl nodweddion defnyddwyr gwasanaethau Cefnogi Pobl.
Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl
Dangosodd yr astudiaeth ddichonoldeb ei fod yn bosib cynnal astudiaeth feintiol fwy cadarn ac ar raddfa fawr o effaith y Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru gan ddefnyddio data cysylltiedig. O ganlyniad i hyn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant wedi cytuno i gyllido prosiect data cysylltiedig dros bedair blynedd i archwilio effaith y Rhaglen Cefnogi Pobl ar ddefnydd o wasanaethau cyhoeddus gan y rhai sy'n cael gafael ar gymorth.
Adroddiadau
Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl - adroddiad terfynol , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Astudiaeth ddichonoldeb cysylltu data Cefnogi Pobl - adroddiad terfynol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 705 KB
Cyswllt
Lucie Griffiths
Rhif ffôn: 0300 025 5780
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.