1. Cefndir polisi

Mae Rhaglen Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth sy'n ymwneud â thai. Mae'r rhaglen yn helpu pobl sy'n agored i niwed i osgoi digartrefedd ac i fyw mor annibynnol â phosibl.

Mae Rhaglen Cefnogi Pobl yn bodoli i helpu pobl i ddod o hyd i gartref a'i gadw. Dylai'r cartref hwnnw ddiwallu eu hanghenion a hyrwyddo annibyniaeth mewn amgylchedd iach a diogel.

Yn 2017-18, cyllideb Rhaglen Cefnogi Pobl oedd £124.4 miliwn. Mae'r gyllideb flynyddol a chyfanswm y grant sydd ar gael yn newid yn ôl penderfyniadau a chyfyngiadau cyllidebol. Mae'r rhaglen yn cefnogi mwy na 57,000 o bobl bob blwyddyn, a'i nod yw atal problemau drwy gynnig help cyn gynted â phosibl.

Mae'r rhaglen yn darparu dau brif fath o gymorth.

  • Mae cymorth cynhaliaeth hirdymor yn helpu pobl i gadw neu sicrhau annibyniaeth. Mae hyn yn osgoi'r angen am ymyriadau mwy costus megis mynd i ofal.
  • Mae gwasanaethau ataliol byrdymor yn helpu pobl i osgoi digartrefedd, yn aml yn ystod cyfnod o argyfwng. 

Mae gwahaniaeth pellach yn natur y cymorth – sef rhwng cymorth sefydlog a chymorth fel y bo'r angen. Mae'r rhaglen yn cysylltu cymorth sefydlog neu gymorth ar sail llety â llety penodol. Gall cymorth sefydlog gynnwys hosteli i bobl ddigartref, llochesi neu gynlluniau tai â chymorth eraill. Mae hyblygrwydd cymorth fel y bo'r angen yn ei gwneud hi'n bosibl i'w ddarparu mewn nifer o leoedd, yn cynnwys rhoi cymorth i berson yn ei gartref ei hun. Mae'r rhaglen yn un ataliol yn bennaf ac mae hyn yn cyd-fynd â nodau Deddf Tai (Cymru) 2014.

Sefydlwyd Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl er mwyn helpu i ddatblygu gwaith ymchwil i fesur effaith, effeithiolrwydd a gwerth am arian Rhaglen Cefnogi Pobl.

Mae'r grŵp yn cynnwys:  

  • dau aelod o Fwrdd Cynghori Cenedlaethol Cefnogi Pobl
  • cynrychiolwyr o awdurdodau lleol
  • darparwyr gwasanaeth
  • Banc Data SAIL (Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Diogel)/Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol Cymru
  • Llywodraeth Cymru.

Roedd Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl yn dilyn Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru, a gyflwynodd adroddiad ym mis Mawrth 2016. Dangosodd Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl y byddai'n bosibl cynnal astudiaeth fwy cadarn ac ar raddfa fawr o effaith Rhaglen Cefnogi Pobl yng Nghymru, a hynny gan ddefnyddio data a gysylltwyd ym Manc Data SAIL. Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru ar gyllid ar gyfer prosiect pedair blynedd. Bydd adroddiad y rhaglen yn cael ei gyflwyno ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol hyd at fis Mawrth 2020.

Roedd y prosiect hefyd yn rhan o Raglen Llywodraeth Cymru i Wneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol. Cynhaliwyd y rhaglen Gwneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol o 2011 i 2018 a chafodd ei hariannu'n rhannol gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU. O 2018, cafodd y rhaglen ei hymgorffori yn Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, rhan o Ymchwil Data Gweinyddol y DU, a ariennir gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol. Bydd yr ymchwil yn llywio gwaith llunio polisi Llywodraeth Cymru ynghylch chwe thema â blaenoriaeth. Fel rhan o Ymchwil Data Gweinyddol y DU, mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn defnyddio technegau blaengar i lunio ymchwil sydd ar flaen y gad. Ar gyfer ei waith ymchwil, mae Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn defnyddio data dienw o bob adran o'r llywodraeth.

2. Nodau ac amcanion y prosiect

Datblygodd Llywodraeth Cymru Raglen Cefnogi Pobl i atal digartrefedd a helpu pobl i aros yn annibynnol. Byddai hyn yn galluogi pobl i barhau i fyw yn eu cartref eu hunain yn hytrach na mynd i ofal hirdymor. Fel rhan o'i phrif ddiben, byddai'r Rhaglen hefyd yn disgwyl lleihau'r galw ar y GIG a gwasanaethau eraill.

Edrychodd Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl ar effaith Rhaglen Cefnogi Pobl ar y defnydd o wasanaethau iechyd. Roedd hyn yn cynnwys edrych ar ddau awdurdod lleol braenaru (gweler adroddiad Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl). Nod Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl yw adeiladu ar hyn drwy gysylltu sampl Cymru gyfan o ddata Rhaglen Cefnogi Pobl â setiau data iechyd rheolaidd presennol a setiau data gweinyddol eraill ym Manc Data SAIL. Bydd hyn yn caniatáu i'r prosiect asesu effaith Rhaglen Cefnogi Pobl ar ddangosyddion sy'n ymwneud â llesiant ehangach defnyddwyr y gwasanaeth.

Mae'r Prosiect yn ceisio ateb y cwestiwn ymchwil eang canlynol “A yw cael gwasanaethau Cefnogi Pobl yn effeithio ar batrymau defnyddio gwasanaethau cyhoeddus?”.

Dros ei oes, nod y prosiect hwn yw canolbwyntio ar ddangosyddion llesiant penodol, sef y rhyngweithiad â:

  • gwasanaethau iechyd (gofal sylfaenol ac eilaidd)
  • gwasanaethau gofal cymdeithasol
  • gwasanaethau opsiynau tai
  • addysg cyn-16.

Bwriad y prosiect yw edrych ar ryngweithiadau â'r system cyfiawnder troseddol a chyfranogiad yn y farchnad lafur. Dim ond os bydd adnoddau'n caniatáu hynny y caiff y gwaith hwn ei wneud.

3. Amcanion y prosiect ar gyfer blwyddyn tri

O ganlyniad i'r gwaith a gwblhawyd yn ystod Blwyddyn Dau, cynigiodd y prosiect amcanion ar gyfer Blwyddyn Tri. Yr amcanion isod yw'r rhai a gynigiwyd ar gyfer Blwyddyn Tri yn adroddiad Cynnydd Blwyddyn Dau. Cariwyd rhai amcanion ymlaen o Flwyddyn Dau. Newidiodd yr amcanion yn ystod Blwyddyn Tri i adlewyrchu cynnydd gyda'r prosiect hwn a phrosiectau cysylltu data eraill Llywodraeth Cymru.

Mae'r amcanion wedi'u rhannu'n bedair is-adran:

  • Data Cefnogi Pobl

      Amcan 1: cyrchu data ôl-2016
      Amcan 2: asesu'r sefyllfa bresennol o ran y gwaith dadansoddol
      Amcan 3: cymharu dulliau Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi
                      Pobl a phrif gam Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl
      Amcan 4: adolygu ansawdd data Cefnogi Pobl
      Amcan 5: cytuno ar gwestiynau ymchwil
      Amcan 6: parhau i ehangu ar y gwaith dadansoddol blaenorol

  • Model gwrthbwyso cost

      Amcan 7: parhau i ymchwilio i'r opsiwn o greu model gwrthbwyso cost

  • Data nad ydynt yn ymwneud â Chefnogi Pobl

      Amcan 8: cyrchu setiau data ar gyfer dangosyddion pellach

  • Dadansoddi ac adrodd

      Amcan 9: llunio adroddiad ar ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r
                      dadansoddiad o ddata Cefnogi Pobl.

Tan fis Chwefror 2019, roedd dadansoddwr o Brifysgol Abertawe yn cyflawni Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Roedd y dadansoddwr yn adrodd i Ymchwilydd Tai Llywodraeth Cymru ac arweinydd y Rhaglen Gwneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol ar y cyd.

Fel y nodwyd uchod, mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol wedi ariannu Ymchwil Data Gweinyddol Cymru i lunio gwaith ymchwil gan ddefnyddio data gweinyddol. Roedd hyn yn rhoi'r cyfle i ddarparu'r dadansoddiad mewn ffordd lai costus gan ddefnyddio Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn Llywodraeth Cymru. I ddechrau, cytunodd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru i recriwtio secondai i wneud y gwaith. Tra bod y broses recriwtio yn parhau, byddai Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn parhau â'r dadansoddiad, ond oherwydd prinder adnoddau byddai'r gwaith yn arafach. Mae'r broses recriwtio ar gyfer y swydd wag yn parhau ar hyn o bryd.

Cafodd y broses o drosglwyddo'r dadansoddiad ei chwblhau erbyn mis Gorffennaf, ac ym mis Awst dechreuodd y gwaith i fodloni amcan dau, fel y rhestrir isod. Yn flaenorol, roedd tîm y prosiect wedi gobeithio cyhoeddi canfyddiadau pellach yn 2019. Mae oedi yn yr amserlen dadansoddi yn golygu bod hyn yn annhebygol o ddigwydd cyn diwedd 2019 bellach.

4. Data Cefnogi Pobl

Amcan 1: cyrchu data ôl-2016

Ni allai tri awdurdod lleol ddarparu data i'r Prosiect ym Mlwyddyn Dau. Ar gyfer yr awdurdodau lleol hyn, bydd y prosiect yn ceisio rhoi cytundebau datgelu data SAIL ar waith ac ychwanegu data ôl-16 at SAIL.

Ar gyfer y 22 o Awdurdodau Lleol, bydd y prosiect yn ceisio ychwanegu data ôl-16 pellach at SAIL.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Mae'r prosiect wedi cwblhau cytundebau rhannu data â'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Mae cyfanswm o 21 o'r 22 o Awdurdodau Lleol wedi darparu data.

Nod Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yw parhau â'r gwaith hwn drwy ddod â data blynyddoedd pellach i Fanc Data SAIL ar gyfer y 22 o Awdurdodau Lleol. Bydd y Tîm yn adeiladu ar y cydberthnasau da a ddatblygwyd gan y dadansoddwr o Brifysgol Abertawe â thimau Rhaglen Cefnogi Pobl. Lle y bo'n bosibl, bydd y Tîm yn symleiddio'r broses cyrchu data i wella effeithiolrwydd, dibynadwyedd ac effeithlonrwydd. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phrosiectau fel y Prosiect Datblygu Llif Data.

Bwriad y Prosiect Datblygu Llif Data yw creu'r gallu mewn Awdurdodau Lleol i awtomeiddio'r broses o hollti ffeiliau. Mae'r broses o hollti ffeiliau yn broses ar gyfer cyflwyno data dienw ar lefel unigol i Fanc Data SAIL at ddibenion ymchwil ac ystadegol.

Amcan 2: asesu'r sefyllfa bresennol o ran y gwaith dadansoddol

Bydd dadansoddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn asesu'r gwaith dadansoddol a gwblhawyd i ddod o hyd i feysydd i ychwanegu gwerth.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Datblygodd y dadansoddwr o Brifysgol Abertawe yr amcanion dadansoddol o Flwyddyn Dau. Roedd hyn yn cynnwys glanhau data, llunio cod a dadansoddi. Bydd Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn ymgyfarwyddo â'r gwaith a gwblhawyd. Bydd y Tîm yn asesu cyflawnrwydd ac ansawdd y data a'r dulliau a ddefnyddir i nodi unrhyw botensial i ychwanegu gwerth.

Ar ôl deall y data a'r dulliau a ddefnyddir, bydd y Tîm yn adeiladu ar waith a gwblhawyd i ddarparu dadansoddiad pellach. Gyda mynediad i'r cod a setiau data blaenorol, mae adolygiad o waith blaenorol yn parhau.

Amcan 3: cymharu dulliau dadansoddi rhwng Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl a phrif gam Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl.

Bydd hyn yn nodi unrhyw esboniadau ar gyfer gwahaniaethau a welwyd. Mae hwn yn amcan newydd.

Roedd patrymau o ddefnydd o wasanaethau iechyd yn amrywio rhwng Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl ac adroddiad ‘Canfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg’ prif gam Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Nod y prosiect yw ymchwilio i'r rhesymau dros y gwahaniaethau hyn. I wneud hyn, bydd y prosiect yn sicrhau mynediad at ddadansoddiad yr Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl a chymharu dulliau.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Roedd dadansoddiad Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl yn awgrymu y byddai gwerthusiad meintiol ar sail data gweinyddol cyffredinol cysylltiedig yn debygol o lunio canfyddiadau ystadegol gadarn o sylwedd. Drwy gymharu nodweddion defnyddwyr gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl yn yr awdurdodau lleol y gellir cysylltu data ar eu cyfer â defnyddwyr gwasanaethau yn yr awdurdodau lleol sy'n weddill, gellid dangos yn gryf gyffredinoladwyedd y canfyddiadau i Gymru gyfan.

Er mwyn cymharu'r dulliau a ddefnyddiwyd yn y ddau brosiect, mae Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn cael gafael ar y gwaith a gwblhawyd a'r data a ddefnyddiwyd yn Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Bydd y Tîm yn defnyddio'r dull o Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl i ddadansoddi data ar gyfer prif gam Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl i gymharu'r canlyniadau a cheisio nodi'r rhesymau dros unrhyw wahaniaethau.

Gofynnwyd am fynediad at Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl o SAIL, ynghyd ag estyniad IGRP.

Mae'r Panel Adolygu Llywodraethu Gwybodaeth (IGRP) yn darparu arweiniad a chyngor annibynnol ar bolisïau, gweithdrefnau a phrosesau Llywodraethu Gwybodaeth ar gyfer Banc Data SAIL. Mae'r Panel yn adolygu pob cynnig i ddefnyddio Banc Data SAIL i sicrhau ei fod yn briodol ac er budd y cyhoedd, ac mae'n cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau a sectorau amrywiol.

Amcan 4: adolygu ansawdd data Cefnogi Pobl

Parhau i adolygu ansawdd data Rhaglen Cefnogi Pobl a ddarparwyd i'r prosiect. Mae hyn yn cynnwys cyfraddau cysylltu a nifer yr eitemau data coll. Bydd y prosiect yn rhoi adborth i awdurdodau lleol i wella'r ffordd y caiff data eu casglu. Bydd y prosiect yn ymchwilio i achosion pellach lle na chofnodwyd ‘prif angen’.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Bu gwelliant o ran pa mor gynhwysfawr yw'r data a ddarparwyd ar gyfer y prosiect yn ystod blynyddoedd dau a thri. Fodd bynnag, mae rhai problemau yn parhau, gan gynnwys cyflawnrwydd setiau data.

Amcan 5: cytuno ar gwestiynau ymchwil

Cytuno ar gwestiynau ymchwil â Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl, paratoi cynllun dadansoddi a chynnal dadansoddiad y cytunwyd arno.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Er mwyn sicrhau bod gwaith dadansoddol pellach yn rhoi'r gwerth gorau, penderfynodd Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl ganolbwyntio'r dadansoddiad ar nifer fach o dasgau dadansoddol. Roedd y dadansoddwr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu rhestr o dasgau dadansoddol posibl mewn ymgynghoriad ag Ymchwilydd Tai Llywodraeth Cymru ac arweinydd Gwneud Gwell Defnydd o Ddata Presennol. Cyflwynwyd y rhestr hon i Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl. Cytunwyd y byddai'r dadansoddwr o Brifysgol Abertawe yn cynnal dadansoddiad o grŵp ‘prif angen’ unigol o dderbynwyr. Byddai hyn yn dangos a oedd y dulliau arfaethedig yn cynnig canfyddiadau defnyddiol y gellir eu rhoi ar waith. Dewisodd y prosiect y grŵp Cam-drin Domestig fel ‘prif angen’ yr arddangosiad.

Gofynnodd y prosiect i Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl argymell pa grwpiau ‘prif angen’ o dderbynwyr fyddai'r flaenoriaeth fwyaf. Penderfynodd y grŵp mai Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau fyddai ffocws dadansoddiad pellach. Blaenoriaethodd Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl yr is-grwpiau hyn yn bennaf oherwydd eu blaenoriaeth debygol i bolisi a'r nifer mawr o ddigwyddiadau iechyd perthnasol sydd ar gael i'w dadansoddi. Cafodd ‘prif anghenion’ eu blaenoriaethu hefyd os oedd mwy o debygolrwydd o greu grŵp rheoli cadarn. Gweler isod drafodaeth am grŵp rheoli posibl ar gyfer Camddefnyddio Sylweddau.

Amcan 6: parhau i ehangu ar y gwaith dadansoddol blaenorol

Mae hyn yn cynnwys ceisio nodi grwpiau rheoli addas at ddibenion dadansoddi. Grŵp rheoli cadarn fyddai'r ffordd orau o ddangos effeithiolrwydd Rhaglen Cefnogi Pobl, a'r dystiolaeth fwyaf credadwy ei bod yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau ei defnyddwyr.

Grŵp o unigolion nad ydynt yn cael ymyrraeth yw grŵp rheoli. Caiff ei ddewis i fod yn debyg i'r unigolion sy'n destun ymyrraeth. Byddai'r prosiect yn cymharu'r grŵp ymyrraeth â'r grŵp rheoli er mwyn galluogi'r prosiect i briodoli unrhyw effaith a welir i Raglen Cefnogi Pobl.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Bydd Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn adeiladu ar y dadansoddiad o'r ‘prif angen’ Cam-drin Domestig i ddadansoddi Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.

Bydd Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn parhau i archwilio opsiynau ar gyfer darparu grwpiau rheoli. Nid oes grŵp rheoli perffaith ar gael i'r Prosiect, a hynny am fod y mwyafrif helaeth o bobl sy'n gwneud cais am gymorth yn cael gwasanaethau. Felly, roedd disgwyl y byddai cael data er mwyn datblygu grwpiau rheoli neu gymharu cadarn bob amser yn heriol. Ar y dechrau, ac mewn trafodaeth â Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl, roedd y prosiect yn rhagweld y byddai'n creu nifer o grwpiau rheoli o fathau gwahanol. Byddai pob un ohonynt yn cael ei ddefnyddio i ddod i gasgliadau gwahanol ynghylch effaith debygol Rhaglen Cefnogi Pobl. Byddai'r casgliadau yn amrywio yn seiliedig ar y graddau roeddent yn cymharu â defnyddwyr Rhaglen Cefnogi Pobl.

Nod camau dichonoldeb a phrif gam y Prosiect Cysylltu Data oedd nodi grwpiau rheoli addas. Mae'r prosiect wedi trafod creu grwpiau rheoli â Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl yn helaeth. Mae hyn yn cynnwys trafodaeth am ddulliau a ffynonellau data posibl. Parheir i wneud cynnydd tuag at greu'r grwpiau hyn.

Ceir disgrifiad o'r grwpiau rheoli posibl gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd isod.

Grŵp rheoli A: 'Dull rheolaethau cyfatebol'

Mae'r dull hwn yn defnyddio'r cofnodion rheolaidd dienw a ddelir ym Manc Data SAIL i ddewis achosion o boblogaeth gyffredinol Cymru er mwyn cyfateb i broffil demograffig-gymdeithasol defnyddwyr gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl. Caiff y rheolaethau eu cyfateb ar sail oedran, rhyw, ardal ddifreintiedig a lleoliad daearyddol.

Cwblhaodd y dadansoddwr o Brifysgol Abertawe y gwaith o greu'r grŵp rheoli hwn yn ystod Blwyddyn Dau. Am nad oedd yn hysbys p'un a oedd yr unigolion a ddewiswyd ar gyfer y grŵp rheoli hwn yn wynebu argyfwng yn gysylltiedig â thai – yn wir, damcaniaethwyd ei bod llawer llai tebygol mai felly y bu – teimlwyd bod hyn yn annhebygol o gynnig cymhariaeth dda.

Fodd bynnag, mae tîm polisi Llywodraeth Cymru a Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl wedi magu diddordeb mewn dadansoddiadau cymharol â'r boblogaeth gyffredinol. Yn benodol, mewn atgynhyrchu astudiaethau o rywle arall lle nodwyd bod grwpiau fel derbynwyr Rhaglen Cefnogi Pobl yn hŷn yn gronolegol. Mae hyn yn golygu bod clwstwr problemau iechyd a gweithredol oedolion digartref hŷn yn debyg i broblemau pobl geriatrig yn y boblogaeth gyffredinol. Yn benodol, roedd Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl yn awyddus i weld dadansoddiad wedi'i efelychu yn cael ei gynnal mewn astudiaethau eraill gan ddefnyddio grwpiau rheoli tebyg. Mae gwaith ar gyfer ailgynhyrchu'r dadansoddiad hwn ar gyfer ‘prif angen’ enghreifftiol Cam-drin Domestig wedi'i gwblhau. Caiff y gwaith hwn ei gwblhau, fel rhan o'r dadansoddiad ehangach a nodwyd uchod, ar gyfer ‘prif anghenion’ Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau.

Grŵp rheoli B: 'Dull sy'n deillio o astudiaeth cysylltu data Cefnogi Pobl'

Mae'r dull hwn yn defnyddio'r cofnodion rheolaidd dienw ar gyfer unigolion a gyfeiriwyd at Raglen Cefnogi Pobl ond na chawsant gymorth. Defnyddiodd Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl y dull hwn. Canfu Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl fod defnyddwyr gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl yn mynd at eu meddyg teulu tua unwaith yn fwy y mis ar gyfartaledd na'r grŵp cymharu hwn yn y misoedd cyn i gymorth Rhaglen Cefnogi Pobl ddechrau. Gall yr esboniad am y gwahaniaeth yn lefel y defnydd o feddygon teulu gynnwys llawer o ffactorau. Er enghraifft, efallai fod aelodau'r grŵp cymharu wedi methu ag ymgysylltu am eu bod yn profi argyfyngau a oedd yn gymharol lai difrifol na'r rhai a wnaeth ymgysylltu. Yn yr un modd, gallai eu hargyfyngau fod wedi bod mor ddifrifol nes eu bod yn tynnu'n ôl nid yn unig o Raglen Cefnogi Pobl ond hefyd o wasanaethau gofal sylfaenol. Felly, er y gallai hyn fod yn ddadlennol, mae cyfyngiadau i'r grŵp cymharu hwn.

Mae angen gwneud rhagor o waith i archwilio'r data ar gyfer y grŵp cymharu hwn er mwyn dysgu mwy am y graddau y mae'r esboniadau uchod yn debygol o egluro'r gwahaniaethau a welwyd, yn ymarferol. Bydd y prosiect yn cwblhau dadansoddiad ymchwiliol pellach o'r grŵp rheoli hwn. Bydd hyn yn rhan o'r adolygiad i gymharu'r dulliau a ddefnyddir yn Astudiaeth Ddichonoldeb Cysylltu Data Cefnogi Pobl â dulliau'r adroddiad ar Ganfyddiadau sy'n Dod i'r Amlwg.

Grŵp rheoli C: 'Dull sy'n deillio o ddata opsiynau tai'

Caiff dyletswyddau digartrefedd eu cyflawni gan y Gwasanaethau Opsiynau Tai. Mae gan Dimau Opsiynau Tai ddyletswydd i asesu anghenion a chymryd camau rhesymol i atal digartrefedd a helpu i'w liniaru. Mae'r gwasanaeth yn galluogi pobl sydd angen tai i archwilio eu hopsiynau tai a'u hopsiynau cymorth pellach. Mae hyn yn cynnwys y rhai sy'n ddigartref neu sy'n wynebu risg o fod yn ddigartref. Mae'r opsiynau hyn yn cynnwys tai cymdeithasol ac opsiynau amgen i dai cymdeithasol yn ogystal â gwasanaethau atal/lliniaru digartrefedd a gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl. Os gellir cael data ar Opsiynau Tai, gellid creu grŵp rheoli drwy ddewis y cofnodion rheolaidd dienw ar gyfer unigolion a gyfeiriwyd at Opsiynau Tai ond na chawsant gymorth drwy Raglen Cefnogi Pobl.

Mae'n annhebygol y bydd hon yn set ddata Cymru gyfan yn y byrdymor. Mae'n debygol bod unigolion sy'n cael cymorth Opsiynau Tai yn wynebu argyfwng yn gysylltiedig â thai. Felly, gallai'r grŵp hwn fod yn grŵp cymharu dadlennol ar gyfer y dadansoddiad. Fodd bynnag, byddai'r unigolion hynny yr oedd angen cymorth pellach arnynt a ddarperir gan Raglen Cefnogi Pobl wedi cael eu hatgyfeirio at Raglen Cefnogi Pobl.

Mae gwaith wedi dechrau gan brosiect ymchwil academaidd er mwyn canfasio pob Awdurdod Lleol yng Nghymru ar ei allu a'i barodrwydd i ddarparu data Opsiynau Data. Mae prosiect peilot ar gyfer Awdurdod Lleol Abertawe yn mynd rhagddo a chafwyd data Opsiynau Tai ar gyfer SAIL.

Mae rhai awdurdodau lleol hefyd yn casglu'r statws tai a gofnodwyd ar ddiwedd cymorth Rhaglen Cefnogi Pobl.

Felly gall Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl archwilio ffyrdd o greu'r grŵp rheoli hwn yn ystod Blwyddyn 4.

Grŵp rheoli D: 'Defnyddio dull segmentu ar batrwm gofal iechyd hanesyddol”

Nod y dull hwn oedd nodi unigolion o fewn Banc Data SAIL â phatrymau tebyg o ran defnyddio gofal iechyd â defnyddwyr gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl. Cwblhaodd y prosiect waith i greu'r grŵp rheoli hwn. Fodd bynnag, nid oedd nifer digonol o dderbyniadau i'r ysbyty i greu grwpiau rheoli ystadegol gadarn. Penderfynodd y prosiect beidio â defnyddio'r dull hwn yn y dyfodol.

Datblygu grwpiau rheoli pellach

Bydd Tîm Ymchwil Data Gweinyddol Cymru yn parhau â gwaith i nodi grwpiau rheoli cadarn. Gall hyn gynnwys ystyried dichonoldeb defnyddio dulliau ystadegol eraill megis dadansoddiad clwstwr. Yna gall hyn gael ei ddefnyddio i nodi pobl yn y boblogaeth gyffredinol sydd â nodweddion tebyg i dderbynwyr Rhaglen Cefnogi Pobl.

Fel y nodwyd yn Adroddiad Cynnydd Blwyddyn Dau, mae'r set ddata Camddefnyddio Sylweddau a ddelir gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru bellach wedi cael ei fewnforio i SAIL ac mae ar gael ar gyfer y prosiect. Mae'r set ddata yn casglu data ar bob unigolion sy'n cael triniaeth Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc ac oedolion. Mae'n ofynnol i ddarparwyr yng Nghymru sy'n darparu triniaeth Camddefnyddio Sylweddau ac sy'n cael cyllid refeniw Camddefnyddio Sylweddau gan Lywodraeth Cymru gyflwyno data. Dechreuodd dadansoddiad ymchwiliol yn ystod Blwyddyn Tri y prosiect. Bydd gwaith dadansoddi yn parhau fel rhan o'r dadansoddiad Camddefnyddio Sylweddau a nodir uchod.

Byddai data gofal cymdeithasol yn ei gwneud yn bosibl i archwilio effaith Rhaglen Cefnogi Pobl ar ryngweithiadau â gwasanaethau gofal cymdeithasol, fel y trafodwyd yn yr adroddiad Dichonoldeb. Byddai data Awdurdodau Lleol hefyd yn helpu i ddatblygu grwpiau rheoli neu gymharu. Byddai manteision a chyfyngiadau defnyddio data gofal cymdeithasol at ddibenion cymharu yn debyg i'r rhai ar gyfer Opsiynau Tai. Mae'n debygol y byddai unigolion sy'n cael cymorth gofal cymdeithasol yn wynebu argyfwng, a gallent fod wedi cael eu hatgyfeirio am reswm sy'n debyg i ‘brif anghenion’ Rhaglen Cefnogi Pobl. Y cyfyngiad fyddai petai'r unigolion hynny hefyd yn wynebu risg o fod yn ddigartref, y dylent eisoes fod yn cael cymorth gan Raglen Cefnogi Pobl. Serch hynny, fel un o ystod o grwpiau cymharu, mae'r prosiect yn parhau i geisio cyfleoedd i ddod o hyd i ddata gofal cymdeithasol, gan gynnwys drwy Brosiect Datblygu Llif Data'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru. Mae rhai awdurdodau lleol sy'n rhan o gynllun peilot y Prosiect Datblygu Llif Data wedi cynnig darparu amrywiaeth o setiau data i Fanc Data SAIL, y mae data gofal cymdeithasol ar eu cyfer yn parhau i gael ei drafod.

Mae cyllid y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ar gyfer Ymchwil Data Gweinyddol Cymru wedi cefnogi'r gwaith o greu rhaglenni gwaith Rhaglenni Effaith Strategol wedi'u cynllunio ar sail strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ffyniant i Bawb yw ein strategaeth genedlaethol sydd wedi'i chynllunio i nodi'r heriau cymdeithasol mawr a wynebir gan y wlad a sicrhau integreiddio a chydweithio ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae'r 5 maes â blaenoriaeth o Ffyniant i Bawb yn llunio sail 5 o'r Rhaglenni Effaith Strategol. Mae Rhaglen Effaith Strategol Gofal Cymdeithasol yn ceisio gyrru data gofal cymdeithasol gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru i Fanc Data SAIL.

At hynny, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi trefnu ‘Gweithgor mynediad at ddata gofal cymdeithasol a'u defnyddio’. Mae hyn yn rhan o'r Strategaeth ymchwil a datblygu gofal cymdeithasol i Gymru 2017-2022. Nod y grŵp yw dod â chyrff allweddol ym maes gofal cymdeithasol ynghyd sydd â diddordeb yn y maes hwn neu rôl i'w chwarae ynddo. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys arweinydd Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ar gyfer ei Raglen Effaith Strategol Gofal Cymdeithasol. Mae'r grŵp yn gweithio gyda Chymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i ddatblygu cwestiynau ymchwil sydd o ddiddordeb i'r Gymdeithas. Mae'r grŵp yn gobeithio y bydd gweithio gyda'r Gymdeithas yn helpu i yrru data gan awdurdodau lleol i Fanc Data SAIL.

Mae Banc Data SAIL hefyd yn datblygu cofrestr cartrefi gofal dynamig. Gallai hyn roi cyfle i edrych ar dderbyniadau i gartrefi gofal ar gyfer ‘prif angen’ Pobl Hŷn. Byddai'n bosibl darparu grŵp rheoli ar gyfer Pobl Hŷn.

5. Model gwrthbwyso cost

Amcan 7: parhau i ymchwilio i'r opsiwn o greu model gwrthbwyso cost gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig

Gweithio gydag economegydd o Lywodraeth Cymru i ymchwilio i ddichonoldeb creu model gwrthbwyso cost ymhellach. Byddai'r model yn defnyddio amrywiaeth o setiau data cyffredin cysylltiedig.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Yn ystod Blwyddyn Dau, cafwyd cyfle i weithio gydag economegydd sy'n gysylltiedig â phroffesiwn Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn ymchwilio ymhellach i ddichonoldeb datblygu model gwrthbwyso cost gan ddefnyddio'r data dienw ar lefel unigolyn ar gyfer Rhaglen Cefnogi Pobl ar y cyd â'r cofnodion rheolaidd a oedd eisoes yn rhan o Fanc Data SAIL. Cwblhaodd yr economegydd rywfaint o waith cychwynnol i ddatblygu model gwrthbwyso cost, a nododd fod angen tua 6 i 8 wythnos o waith pellach i gwblhau'r model.

Mae rhoi mwy o amser i economegydd gwblhau'r model wrthi'n cael ei drafod yn Llywodraeth Cymru.

6. Data nad ydynt yn ymwneud â Chefnogi Pobl

Amcan 8: cyrchu setiau data ar gyfer dangosyddion pellach

Mynd ar drywydd cyrchu setiau data sy'n ymwneud â dangosyddion pellach. Bydd y prosiect yn blaenoriaethu data gofal cymdeithasol, opsiynau tai a chyrhaeddiad addysgol. Os bydd adnoddau'n caniatáu, bydd y prosiect yn mynd ar drywydd data ar gyfer cyfiawnder troseddol a chyfranogiad yn y farchnad lafur. Bydd y prosiect hefyd yn cytuno ar amserlenni ar gyfer cyrchu gyda Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Mae setiau data yn cael eu cyrchu drwy Ymchwil Data Gweinyddol y DU i'w hychwanegu at bob Canolfan Ymchwil Data Gweinyddol yn y DU. Mae'r bartneriaeth yn targedu nifer o setiau data gweinyddol ac arolygon Prydain Fawr a'r Deyrnas Unedig. Mae setiau data yn cynnwys data SYG, megis Cyfrifiad 2011 a'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, a data gan Adrannau eraill y DU megis yr Adran Addysg, yr Adran Gwaith a Phensiynau a CThEM. Mae prosiectau unigol yn mynd rhagddynt hefyd sy'n cynnwys cydweithio rhwng Ymchwil Data Gweinyddol Cymru ac adrannau llywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, sy'n ceisio cyrchu data gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ymhlith eraill.

Mae'r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Llywodraeth Cymru yn cyd-ariannu'r Prosiect Datblygu Llif Data. Rhagwelir y bydd y Prosiect Datblygu Llif Data yn ymgymryd â rhywfaint o'r gwaith o gyrchu data ar gyfer Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl, yn benodol ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Opsiynau Tai.

Mae'r gwaith sy'n cynnwys y Prosiect Datblygu Llif Data yn mynd rhagddo. Y nod yw dod â data ychwanegol Awdurdodau Lleol i Fanc Data SAIL yn y dyfodol agos.

Yn ogystal â'r uchod, bydd setiau data yn ehangu'n fawr yr amrywiaeth o gwestiynau y gellid eu hateb am Raglen Cefnogi Pobl. Byddant yn helpu dadansoddwyr i gadarnhau effeithiolrwydd ei hymyriadau, ac archwilio effeithiau posibl newydd y polisi. Gallai hyn gynnwys asesiad o effaith Rhaglen Cefnogi Pobl ar ryngweithiadau derbynwyr â'r system gyfiawnder. Gallai archwilio rhyngweithiadau â'r systemau cyfiawnder troseddol a theuluol gynnig y potensial ar gyfer ymyriadau polisi newydd, er enghraifft drwy newid y dull y mae'r llysoedd yn ei ddefnyddio gydag unigolion a atgyfeiriwyd at Raglen Cefnogi Pobl neu y gellid eu hatgyfeirio at Raglen Cefnogi Pobl. Mewn is-set o ddefnyddwyr gwasanaethau Rhaglen Cefnogi Pobl, gallai fod yn bosibl cynllunio ymyriadau a fyddai'n digwydd cyn rhyngweithiadau â Rhaglen Cefnogi Pobl ar sail rhyngweithiadau â'r Heddlu.

Fel y nodwyd uchod, mae cynnwys data Opsiynau Tai a Gofal Cymdeithasol hefyd yn golygu bod potensial i ddarparu grŵp rheoli cadarn ar gyfer Prosiect Cysylltu Data Cefnogi Pobl. Byddai hyn yn gwella'r gallu i wneud casgliadau cadarn am effaith Rhaglen Cefnogi Pobl.

7. Dadansoddi ac adrodd

Amcan 9: llunio adroddiad ar ganfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'r dadansoddiad o ddata Cefnogi Pobl

Cwblhau gwaith glanhau data a chysoni ym mhob Awdurdod Lleol. Bydd y prosiect yn dechrau dadansoddiad ymchwiliol a dadansoddiad sylweddol cychwynnol o ddata Rhaglen Cefnogi Pobl sy'n gysylltiedig â chofnodion iechyd cyffredinol.

Cynnydd ym mlwyddyn 3

Fel y nodwyd uchod, bu oedi sylweddol o ran y gwaith dadansoddi ar y prosiect. Mae problemau argaeledd staff, y newid i gyflwyno'r dadansoddiad o fewn Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a'r broses recriwtio ar gyfer y secondai arfaethedig wedi cyfrannu at hyn.

Fel y nodwyd uchod, gwnaed penderfyniadau yn ystod y flwyddyn i ganolbwyntio ar gyflwyno dadansoddiad ar gyfer Cam-drin Domestig fel arddangosiad ac, os oedd y dadansoddiad yn gadarn ac yn ddadlennol, i gyflwyno dadansoddiad o Iechyd Meddwl a Chamddefnyddio Sylweddau. Cwblhaodd y dadansoddwr o Brifysgol Abertawe ddadansoddiad o'r arddangosiad Cam-drin Domestig. Mae ansawdd y dadansoddiad hwn yn cael ei sicrhau a'i adolygu cyn ei rannu â Grŵp Ymchwil a Gwerthuso Cefnogi Pobl.

Fel y nodwyd uchod mae'r set ddata Camddefnyddio Sylweddau a ddelir gan Wasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru bellach wedi cael ei mewnforio i SAIL ac mae ar gael ar gyfer y prosiect. Dechreuodd dadansoddiad ymchwiliol yn ystod Blwyddyn Tri y prosiect. Bydd y gwaith hwn yn parhau fel rhan o'r dadansoddiad Camddefnyddio Sylweddau a nodir uchod. Bydd y gwaith yn parhau i archwilio opsiynau ar gyfer creu grwpiau rheoli ychwanegol.

8. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craiger Solomons
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
Ebost: UYDG.Cymru@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Adroddiad ymchwil rhif: 37/2019

GSR logo

ADR Wales logo