Sefydliad Glyn Ebwy yw’r Sefydliad hynaf o’i fath yng Nghymru. Mae’n adeilad rhestredig Gradd II ac fe’i codwyd yn 1849. Roedd perygl iddo ddiflannu oherwydd bod angen gwaith atgyweirio ac adnewyddu helaeth arno. Ni allai’r perchennog, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, ymrwymo i’w ariannu.
Cefndir
Yn 2007, daeth proMo-Cymru at y Cyngor i ysgwyddo’r dasg fawr o achub ac adfer adeilad hanesyddol y sefydliad a’i droi’n ganolfan ddiwylliannol gynaliadwy ar gyfer gweithgarwch cymunedol a dysgu; sef ei swyddogaeth wreiddiol pan agorodd ei ddrysau.
Hwn oedd y sefydliad addysgol cyntaf yng Nghymru. Dechreuodd y daith i adfer y Sefydliad i’w hen ogoniant drwy gael arian cychwynnol gan Brosiect Blaenau’r Cymoedd.
Ar ôl lansio Cronfa Drosglwyddo Asedau Cymunedol y Loteri Fawr, daeth ProMO-Cymru wedyn at y Cyngor i ofyn am drosglwyddo ased cymunedol dan rydd-ddaliad.
Cwblhawyd y trosglwyddiad ym mis Mai 2012 a sicrhawyd grant gwerth £750,000 gan y Loteri Fawr i gwblhau’r gwaith adfer.
Busnes
Cafodd ProMo-Cymru Ltd, sy’n elusen gofrestredig, ei sefydlu yn 1982 fel Cymdeithas Ddatblygu Gydweithredol ar gyfer De Cymru i ddatblygu, hyfforddi a helpu busnesau, gan ddefnyddio egwyddorion gweithio’n gydweithredol ac agweddau ar ddatblygu cymunedol lle bynnag y bo’n bosibl.
Mae’r themâu sy’n sail i waith ProMo-Cymru yn cynnwys grymuso, cynnal a datblygu pobl ifanc a gweithio mewn partneriaeth â phobl eraill mewn cyd-destun cymdeithasol ac economaidd ar gyfer dysgu gydol oes a datblygiad personol a chymunedol. Mae Sefydliad Glyn Ebwy a Phrosiect y Ganolfan Ddiwylliannol yn un o fentrau arloesol ProMo-Cymru.
Manylion
Mae’r Sefydliad yn darparu’r gwasanaethau a ganlyn:
- Caffi – sydd ar agor i’r cyhoedd ac yn cynnig byrbrydau a phrydau a wifi am ddim;
- Hyfforddiant a gweithdai – mae’r cyrsiau’n cynnwys gwersi cerddoriaeth, rheoli digwyddiadau, dosbarthiadau celf a ffotograffiaeth. Gellir llogi cyfleusterau hyfforddi at ddefnydd preifat;
- Lleoliad gyda Bar Trwyddedig – digwyddiadau, cyngherddau, brecwastau priodas a phartïon;
- Cyfleusterau Cynadledda – cyfleusterau cynadledda llawn, gan gynnwys lle ar gyfer cyfarfodydd y bwrdd ac ystafelloedd llai ar gyfer grwpiau trafod;
- Stiwdio Recordio – cyfleusterau recordio o’r math diweddaraf un ar gael ar gyfer hyfforddiant, gweithdai a llogi preifat;
- Ystafelloedd Ymarfer – ystafelloedd ymarfer cerddoriaeth â’r holl gyfarpar sydd ei angen a stiwdios dawns;
- Golygu Fideo – Ystafell golygu fideo gyda rhaglenni Apple, ar gael ar gyfer gweithdai hyfforddi ac i’w llogi’n breifat; a
- Canolfan Ddeori i Fusnesau – yn darparu desgiau poeth, cyfleusterau proffesiynol a chymorth i fusnesau sy’n dymuno datblygu a thyfu.
Mae’r adeilad bellach yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ystod eang o swyddogaethau gan gynnwys seremonïau gwobrwyo, cyfarfodydd busnes, priodasau, digwyddiadau cerddorol, hyfforddiant ac addysg, cymdeithasu cymunedol a llawer mwy.
Bydd ProMo-Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o grwpiau a sefydliadau gan gynnwys:
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
- Ymddiriedolaeth y Tywysog
- Cymdeithas Addysg y Gweithwyr
- BRFM (gorsaf radio gymunedol)
- y Clwb Rotari
- Academi Encore
- Sêr Ifanc Blaenau Gwent
- Cymdeithas Operatig Glyn Ebwy
- Coleg Gwent
Manteision
Y prif fanteision yn sgil Promo Cymru’n ysgwyddo perchnogaeth Sefydliad Glyn Ebwy yw:
- Mae’r adeilad wedi’i achub fel cyfleuster i’r gymuned; a
- Drwy newid perchnogion, gellid defnyddio arian grant nid dim ond i wneud y gwaith brys angenrheidiol i achub yr adeilad, ond hefyd i adnewyddu’r tu mewn i safon uchel gan gynnwys bwyty/caffi, stiwdio recordio o’r math diweddaraf un, Prif Neuadd i ddigwyddiadau sy’n gwasanaethu’r gymuned a busnesau lleol ac ystafelloedd a chyfleusterau hyfforddi at ddibenion addysgiadol. Gan mai elusen yw ProMoCymru, gall fod yn llawer mwy hyblyg yn yr hyn y mae’n gallu ei gynnig o ran gwasanaeth. Mae ganddi hefyd y rhyddid i wneud cais am arian grant i helpu i gynnal a chadw’r cyfleuster. Mae hyn yn cynnwys sefydlu a chynnal ystod eang o brosiectau gan gynnwys cerddoriaeth, drama, addysg oedolion a chyrsiau cymunedol, rhai sy’n arwain at dystysgrif, eraill er mwyn pleser yn unig.
Gwersi a ddysgwyd
- Bod yn hyblyg o ran pa fath o ddeiliadaeth i’w throsglwyddo; a
- Roedd trosglwyddo’r ased cymunedol hwn yn gofyn i’r Cyngor fod yn fwy hyblyg ynghylch y math o ddeiliadaeth yr oeddent yn barod i’w drosglwyddo. Ar y dechrau, dim ond les-ddaliad yr oeddent yn barod i’w ystyried. Ond, roedd amodau’r cyrff rhoi grantiau a oedd yn buddsoddi arian sylweddol megis y Loteri Fawr yn pennu bod rhaid cael trosglwyddiad rhydd-ddaliad. Felly, sicrhaodd y Cyngor wedyn y byddai eu Polisi Trosglwyddo Asedau Cymuned, er y rhagdybid mai ar sail les-ddaliad y byddai trosglwyddiadau’n digwydd, yn dal i gynnig yr hyblygrwydd i drosglwyddo rhydd-ddaliad o dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft lle’r oedd arian grant sylweddol yn dibynnu ar hynny.
Mwy o wybodaeth
Samantha James
Cydlynydd Gweithrediadau
EVi Glyn Ebwy
Rhif ffôn: 01495 708022
E-bost: sam@ebbwvaleinstitute.org
Mark Howland
Swyddog Asedau Eiddo ac Adolygu
CBS Blaenau Gwent