Gwynedd Council’s Estates Department accepted a recommendation to transfer the freehold of Neuadd Ogwen, an arts and music centre, to the responsibility of Tabernacl (Bethesda) Cyf, a social enterprise.
Cefndir
Ym mis Medi 2012, derbyniodd Adran Ystadau Cyngor Gwynedd argymhelliad i drosglwyddo rhydd-ddaliad canolfan gelfyddydau a cherddoriaeth, Neuadd Ogwen, i gyfrifoldeb menter gymdeithasol y Tabernacl (Bethesda) Cyf.
Roedd y trosglwyddiad yn cynnwys parsel o dir sy’n ffinio â’r adeilad. Pwrpas y trosglwyddiad oedd sicrhau cyllid i ailddatblygu’r ganolfan.
Busnes
Sefydlwyd menter gymdeithas y Tabernacl 20 mlynedd yn ôl i ddathlu’r bywyd celfyddydol lleol ym Methesda, cartref i nifer o artistiaid Cymreig llwyddiannus gan gynnwys y cerddor o fri rhyngwladol, Gruff Rhys, prif ganwr Super Furry Animals.
Roedd y Tabernacl yn gallu manteisio ar arian nad oedd ar gael i’r awdurdod lleol. Roedd wedi sicrhau grant o £600 mil gan raglen Trosglwyddo Asedau Cymuned y Gronfa Loteri Fawr i ailddatblygu Neuadd Ogwen. Yn ogystal, roedd wedi sicrhau £312 mil o gronfa leol Adfywio Môn Menai ar gyfer y prosiect adeiladu.
Manylion
Trosglwyddwyd yr ased am swm nominal o £1. Roedd hyn oherwydd yr amod yn y les a oedd yn cyfyngu sut y gellid ei ddefnyddio, bwriad y Cyngor i gynnwys y ‘cymal adfachu’ yn y telerau trosglwyddo ac yn olaf, fod yr adeilad eisoes wedi’i osod i’r Tabernacl.
Manteision
Ar bapur, roedd trosglwyddo Neuadd Ogwen i fusnes menter gymdeithasol yn broses syml. Roedd nifer o ffactorau’n help i Gyngor Gwynedd a’r Tabernacl yn y broses drosglwyddo.
- Trosglwyddo baich cyhoeddus i asedau cymunedol
- Hyrwyddwr awdurdod lleol
- Mentora gan gymheiriaid i fentrau cymdeithasol
Nid oedd y Tabernacl wedi llwyddo yn ei gais cyntaf i’r Gronfa Loteri Fawr ar gyfer grant Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Wrth baratoi ar gyfer ei gais i’r rownd ymgeisio derfynol, cefnogwyd y fenter gymdeithasol gan fentor-cymheiriad, Promo Cymru. Roedd y mentor wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffennol yn ei gais am arian grant ac roedd yn gallu rhoi cyfarwyddyd a gwybodaeth i’r Tabernacl.
Gwersi a ddysgwyd
Dylai awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol sy’n ystyried trosglwyddo ased ystyried y materion a ganlyn:
- Cyfrifoldebau’r ddau barti sy’n ymwneud ag ased
- Annog mentro ac arloesi ar ôl pwyso a mesur
- Cydweithio priodol a llwyddiannus rhwng y rhanddeiliaid
- Ffioedd cyfreithiol yn gymwys mewn ceisiadau am grant
Mwy o wybodaeth
Anwen Davies
Rheolwr Cyswllt Mentrau Cymdeithasol
Cyngor Gwynedd
Rhif ffôn: 01286 679810
E-bost: Anwendavies@gwynedd.gov.uk