Neidio i'r prif gynnwy

Mae Galeri Caernarfon Cyf yn fenter gymunedol ddielw preifat sy’n gweithredu fel ymddiriedolaeth ddatblygu yn nhref hanesyddol Caernarfon yng Ngwynedd.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Tachwedd 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae Galeri Caernarfon Cyf yn fenter gymunedol ddielw preifat sy’n gweithredu fel ymddiriedolaeth ddatblygu yn nhref hanesyddol Caernarfon yng Ngwynedd, Gogledd Cymru. Fe’i sefydlwyd yn 1992 (o dan ei enw blaenorol, Cwmni Tref Caernarfon) er mwyn “cynnal prosiectau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol er lles y gymuned yng Nghaernarfon a’r cylch” gan y Prif Weithredwr presennol Gwyn Roberts mewn partneriaeth â chydweithwyr o amryw fusnesau preifat a grwpiau cymunedol, yn ogystal â’r Awdurdod Lleol.

Business

Mae canol Caernarfon erbyn hyn yn Safle Treftadaeth y Byd, ond yng nghanol y 1980au roedd dros hanner adeiladau’r dref furiog yn adfeilion, yn wag neu ar werth. Briff cyntaf Cwmni Tref Caernarfon oedd prynu ac yna adnewyddu detholiad o’r adeiladau pwysicaf yn eu plith. 

Roedd ganddynt weledigaeth menter gymdeithasol glir o’r cychwyn, a hyd yma maent wedi adnewyddu ac ailwampio dros 28 o adeiladau gwag a segur yn y dref, sydd erbyn hyn yn nwylo tenantiaid, yn cynnwys siopau, swyddfeydd, fflatiau, dau gaffi, canolfan hyfforddi cerddoriaeth a thafarn.

Datblygu ‘Canolfan Menter Greadigol Galeri’ fu prosiect mwyaf a mwyaf uchelgeisiol yr Ymddiriedolaeth hyd yma. Mae hon yn Ganolfan Fenter Greadigol newydd sy’n werth £7.5m, ac agorodd ei drysau yn Noc Fictoria ar 7 Mawrth 2005. 

Mae’r ganolfan yn gartref i awditoriwm hyblyg gyda 400 o seddi, sydd hefyd yn cael ei defnyddio fel sinema (y lleoliad cyntaf ar gyfer adloniant byw yng Nghaernarfon ers 20 mlynedd), nifer o stiwdios ymarfer, gofod celf, caffi a bar, ystafelloedd i’w llogi, cyfleusterau cynadledda a 27 swît i fentrau, sydd ar hyn o bryd yn gartref i 15 o gwmnïau creadigol, a phob un yn ymwneud â gwaith artistig neu greadigol.

Buddion

  • Dod â phobl yn ôl i ganol y dref fel trigolion, siopwyr neu ymwelwyr
  • Roedd adfywio’n gatalydd ar gyfer adfywiad economaidd Caernarfon, gan greu safleoedd manwerthu a swyddfeydd newydd a gwella’r amgylchedd adeiledig drwy wneud gwaith adnewyddu ac ailwampio o safon uchel yn yr adeiladau hyn
  • Mae’r gymuned wedi ei grymuso ac fe’i cefnogir fel rhan ddeiliad allweddol yn y prosiect
  • Fel menter gymdeithasol ac ymddiriedolaeth ddatblygu, mae Galeri yn gwbl annibynnol a chaiff ei gyrru yn ei blaen gan ei chenhadaeth gymdeithasol, ddiwylliannol ac economaidd. Mae 20 o adeiladau wedi cael eu hadfer ers 1992, yn cynnwys adeiladau masnachol a phreswyl a thafarn. Roedd nifer yn adeiladau rhestredig yn y dref furiog ac mae’r dref erbyn hyn wedi derbyn Statws Treftadaeth y Byd
  •  Adeiladwyd ar fuddion, profiad a hanes Caernarfon a throsglwyddwyd hynny i’r 5 dyffryn chwareli llechi sy’n amgylchynu Caernarfon, oedd yn dioddef o esgeulustod cymdeithasol, ffisegol ac economaidd sylweddol
  • Bu i lwyddiant Prosiectau Celf Caernarfon (SBARC) helpu i lunio’r achos o blaid a’r angen am Ganolfan Menter Greadigol Galeri
  • Mae’r rhent a dderbynnir o bob eiddo a gwblhawyd yn helpu i dalu am waith adnewyddu dilynol. Mae gwargedion ariannol yn helpu i ariannu’r Ganolfan Menter Greadigol Galeri newydd

Gwersi a ddysgwyd

  • Gellir gwireddu gweledigaethau mawr – gyda llawer o gymhelliant a phenderfyniad, ond hyblygrwydd hefyd
  • Wrth gynllunio eich prosiect, sicrhewch fod datblygiad ased a chynhyrchu incwm yn rhan o’r broses gynllunio o’r cychwyn
  • Roedd angen datblygu agweddau sefydliadol, adnoddau dynol a sgiliau er mwyn cynyddu’r staff o 4 yn 2002 i 40 yn 2006. Mae nifer o’r aelodau staff wedi datblygu eu hunain yn y sefydliad ac wedi aros yn y sefydliad, ac mae ganddynt fwy o rolau neu gyfrifoldebau
  • Sicrhewch fod eich syniadau wedi eu llunio’n ofalus, yn effeithiol, eu bod yn cynnig y gwerth gorau am arian a’u bod (yn bwysicach na dim) yn ddeniadol i fuddsoddwyr statudol neu fuddsoddwyr o’r sector preifat
  • Gweithiwch ag unigolion, grwpiau a sefydliadau lleol, fel bod eich cymuned leol yn rhan o’r hyn sy’n digwydd
  • Peidiwch fyth ag ildio, hyd yn oed os na fydd y partneriaid allweddol yn parhau i ymrwymo i’ch gweledigaeth

Mwy o wybodaeth

Gwyn Roberts 

Prif Weithredwr

Rhif ffôn: 01286 685250

Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru

Rhif ffôn: 02920 190 260