Neidio i'r prif gynnwy

Sicrhau bod y celfyddydau ar gael i bobl hŷn yn Sir Benfro gan ddefnyddio trafnidiaeth gymunedol a Bws y Bobl.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o brosiect Cymru gyfan i ennyn ymgysylltiad pobl hŷn sydd wedi’u hynysu â phrosiectau celf, bu Engage Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gydag Oriel y Parc, Tyddewi, Sir Benfro; Fforwm 50+ Sir Benfro; Bws y Bobl; Ysgol Dewi Sant; Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r artist Helen Astley. 

Cafodd y prosiect ei gyllido ag arian y Loteri, trwy Gyngor Celfyddydau Cymru. Ei nod oedd cryfhau cysylltiadau rhwng pobl iau a phobl hŷn, cyfrannu at Strategaeth Iechyd, Lles a Gofal Cymdeithasol Sir Benfro, a chryfhau safle’r parc a’r oriel fel rhan annatod o’r gymuned. 

Mynychodd cyfranogwyr 12 sesiwn – cymysgedd o weithgareddau yn yr oriel a gwibdeithiau gan ddefnyddio Bws y Bobl. Roedd gwibdeithiau’n cynnwys arddangosfa yn Oriel y Parc, ‘Tirweddau Newidiol’ gyda gwaith gan Graham Sutherland, Brendan Burns ac Alfred Sisley, ac ymweliadau i ysbrydoli gwerthfawrogiad o’r dirwedd a’r paentiadau eu hunain. Darparwyd cludiant yn rhad ac am ddim gan Fws y Bobl ac fe’i trefnwyd gan y Parc Cenedlaethol. 

Roedd canlyniadau’n cynnwys rhyngweithio cymdeithasol gwell rhwng gwahanol genedlaethau, gwerthfawrogiad gwell o’r hyn y gallai’r oriel a’r dirwedd ei gynnig a mwy o ymwneud gan bobl hŷn â gweithgarwch corfforol trwy archwilio’r dirwedd. Roedd yr holl gyfranogwyr yn bwriadu dychwelyd i’r oriel gyda theulu a ffrindiau.