Cydweithio ag awdurdod lleol a darparwyr trafnidiaeth i wella mynediad at amgueddfa werin Cymru.
Datblygwyd Cynllun Teithio ar gyfer Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan gyntaf yn 2012. Mae’r Cynllun Teithio wedi parhau i fod yn ddogfen fyw ac enillodd Wobr Efydd yn 2013, Gwobr Arian yn 2014, a Gwobr Aur yn 2015 gan Gydgysylltydd Cynlluniau Teithio Llywodraeth Cymru. Mae’r gwobrau’n cydnabod arfer gorau a rhagoriaeth o ran cynlluniau teithio a ddangoswyd gan sefydliadau yn Ne Ddwyrain Cymru.
Cafodd y Cynllun Teithio ei ddatblygu gyntaf i gefnogi’r cais i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer prosiect ailddatblygu. Mae staff wedi parhau i weithredu’r mesurau a nodir yn y Cynllun er mwyn gwella’r siwrne i staff ac ymwelwyr. Mae dadansoddiad yn y Cynllun Busnes yn datgelu bod ychydig yn llai na thraean o’r aelwydydd yng Nghaerdydd yn rhai nad ydynt yn berchen ar gar, ac y byddent felly’n ei chael yn anodd cyrraedd yr Amgueddfa heb gludiant cyhoeddus.
Mae’r Amgueddfa wedi cydweithio gyda’r awdurdod lleol a darparwyr bysiau lleol i sicrhau darpariaeth cludiant cyhoeddus rheolaidd, hygyrch i’r safle yn ystod y gwaith ailddatblygu ac wedi iddo gael ei gwblhau, pan fo disgwyl i ffigyrau ymwelwyr gynyddu.
Mae gwybodaeth am gludiant megis mapiau ac amserlenni bellach ar gael yn nerbynfa’r Amgueddfa, ac fe sicrhawyd caban aros bysiau ar gyfer yr Amgueddfa, sy’n cynnwys dangos gwybodaeth mewn amser real.
Hefyd, mae Hyfforddiant Teithio Doeth wedi cael ei gynnal gyda staff blaen tŷ yn y dderbynfa, lle darparodd Sustrans sesiwn hyfforddi hanner diwrnod ar gyfer staff sy’n ymwneud â’r cyhoedd ar ddarparu gwybodaeth am gludiant cyhoeddus. Mae gwefan yr Amgueddfa wedi cael ei gwella hefyd, yn dilyn cyngor gan Sewta, Sustrans a Chyngor Caerdydd. Mae’n rhestri ddulliau teithio a gwybodaeth well am deithio. Mae hyn yn cynnwys dolenni i Gynlluniwr Taith Traveline Cymru a Cycle Streets (gwefan i gynllunio teithiau beicio ledled y DU), tra bo cyfleusterau i staff newid a chael cawod wedi cael eu gosod ar y safle.