Cefnogi cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol drwy gydol y pandemig a thu hwnt
I Race Equality First, nid yn unig y cafodd pandemig COVID-19 effaith enfawr ar ei staff, ond cafodd effaith ar y rhai sy’n dibynnu ar ei wasanaethau hefyd.
Mae’r elusen, sydd wedi datblygu dros y 45 mlynedd diwethaf i fod y prif gorff yn Ne Cymru ar gyfer mynd i’r afael â gwahaniaethu a throseddau casineb, yn gweithredu o Fae Caerdydd. Nid oedd y tîm erioed wedi gweithio gartref o’r blaen, rhywbeth y mae’r prif swyddog gweithredol, Aliya Mohammed, yn cyfaddef wnaeth achosi tipyn o gur pen i ddechrau.
“Rydyn ni’n dîm bach, clos, a oedd bob amser wedi dibynnu ar ryngweithio a chyfarfodydd wyneb yn wyneb, felly roedd symud i’r hyn a oedd yn teimlo fel dull mwy ynysig o weithio yn newid byd.
“Fodd bynnag, y tu hwnt i rai problemau cychwynnol gyda rhaglenni fideogynadledda, dechreuodd y tîm ffynnu’n gyflym wrth weithio o bell – sy’n brawf o allu ein tîm i addasu.
Er bod y gweithlu wedi gweld buddion gweithio o bell yn fuan, roedd her lawer mwy yn wynebu’r union bobl y mae’r elusen yn eu cefnogi. Mae llawer o waith Race Equality First yn helpu unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd wedi dioddef troseddau casineb, gan eu cyfeirio at wasanaethau cefnogi ac eirioli ar eu rhan os ydynt am fynd i’r llys. Mae’r elusen hefyd yn cynorthwyo’r rhai sy’n dioddef caledi ariannol i’w helpu i sicrhau cyllid i gael talebau bwyd, offer digidol a hanfodion eraill.
Dim ond gwaethygu’r materion hyn wnaeth effaith COVID-19. Mae llawer o bobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn gweithio mewn gwaith ansicr neu â chyflog isel a nhw oedd y cyntaf i deimlo effaith y diffyg gweithgarwch economaidd.
Ynghyd â’r newid sydyn i addysg gartref – gyda llawer o deuluoedd yn ei chael hi’n anodd fforddio’r dechnoleg angenrheidiol i’w plant – roedd ymdeimlad o banig yn y cymunedau hyn, a gwelodd Race Equality First gynnydd enfawr mewn galwadau am gefnogaeth frys.
Parhaodd Aliya:
“Mae llawer o’r cymunedau rydym yn eu cefnogi wedi’u hallgáu’n ddigidol, naill ai trwy fynediad cyfyngedig i ddyfeisiau neu Wi-Fi o ansawdd uchel, neu ddiffyg sgiliau.
Roedd cyfarfodydd roeddem yn arfer eu cynnal wyneb yn wyneb yn cael eu cynnal yn rhithwir, ond gyda llawer yn barod, ond eto’n methu, ymuno – mewn un achos roedd 43 allan o 45 unigolyn a oedd i fod yn bresennol yn absennol, oherwydd materion technegol – roedd yn her go iawn. Roedd pynciau y gellid eu cynnwys mewn un cyfarfod bellach yn cael eu trafod gyda buddiolwyr unigol dros y ffôn ar sail achosion unigol, a ddaeth yn dasg arbennig o lafurus i’n tîm.
Nid dyma’r unig reswm y tu ôl i’r cynnydd mewn galwadau a negeseuon e-bost i’r elusen.
Yn dilyn llofruddiaeth George Floyd ym mis Mehefin 2020 – a’r protestiadau dilynol ledled y byd – cysylltodd amrywiol sefydliadau â Race Equality First ar gyfer hyfforddiant rhithwir ar amrywiaeth, gwasanaeth arall y mae’r tîm yn ei ddarparu. Cyn y llynedd, byddai’r elusen fel arfer yn derbyn llond llaw o geisiadau hyfforddi’r flwyddyn, ond cafodd fwy na 100 o geisiadau yn ystod chwe mis olaf 2020 yn unig, wrth i sefydliadau geisio bod yn fwy cynhwysol ac ymwybodol o faterion yn ymwneud â hil.
Ond sut mae rheoli’r twf cynyddol hwn mewn ceisiadau gan sicrhau nad yw gwirfoddolwyr a staff yn ei gorwneud hi wrth weithio gartref? Roedd Aliya yn gwybod bod hyblygrwydd yn allweddol.
“Mae lles staff wedi bod yn brif flaenoriaeth trwy gydol y pandemig, yn enwedig yn ystod wythnosau a misoedd pryderus y cyfyngiadau symud cyntaf,” meddai. “Heb y cyfle i gael sgwrs dros y peiriant oeri dwˆ r, anogais staff i gadw sgyrsiau i fynd ar WhatsApp neu i wneud galwad ffôn syml pan oedd angen iddynt drafod pethau. Rwy’n credu bod cael tîm bach wedi gwneud y dull llai ffurfiol hwn yn fwy hyfyw.
“Roedd agwedd hyblyg tuag at oriau gwaith yn hanfodol hefyd. Mae’n anochel bod rhai dyddiau’n brysurach nag eraill, ond mae’r cyfyngiadau symud wedi caniatáu i ni gymryd cam yn ôl a gweithio mewn ffordd ddoethach. Yn hytrach na chadw at 9-5, roeddwn yn hapus i staff weithio’r oriau a oedd yn gweddu orau iddyn nhw o ddydd i ddydd i adlewyrchu cyfnodau prysurach a thawelach o ran eu hamserlen waith – yn hytrach na meddwl eu bod yn gorfod bod yn gweithio drwy’r amser.
Wrth edrych tua’r dyfodol, bydd Race Equality First yn mabwysiadu polisi gweithio hybrid o’i swyddfa yng Nghaerdydd, gan ymgynghori â staff i ddeall beth sy’n gweddu orau iddynt.
Ychwanegodd Aliya:
“Er gwaetha’r ffaith mai tîm bach sydd gennym, mae yna ystod eang o safbwyntiau ar ddychwelyd i’r swyddfa.
"I rai, nid yw gweithio gartref yn ateb tymor hir, naill ai oherwydd eu trefniadau byw neu yn syml, oherwydd eu bod yn ffynnu yn amgylchedd y swyddfa. Fodd bynnag, i eraill, mae peidio teithio i’r gwaith bob dydd yn eu galluogi i fwynhau mwy o amser hamdden, fel y gallant fwynhau teithiau cerdded hir gyda’r nos a gweithgareddau awyr agored eraill gyda’u hanwyliaid.
“Bydd cael yr hyblygrwydd hwn yn hanfodol os ydym am weithio’n effeithiol trwy gydol y pandemig – a thu hwnt.