Neidio i'r prif gynnwy

Dal ati.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Decorative
Gyda’r dechnoleg gywir ar waith, gall contractwyr Adeiladu LCB gymryd rhan mewn cyfarfodydd rhithwir gyda’r tîm – p’un a ydynt ar y safle neu yn y fan.

Pan darodd COVID-19 yng ngwanwyn 2020, roedd LCB Construction, a’i weithlu o 200, yn wynebu her ddigynsail: sef helpu eu cleientiaid awdurdod lleol a chymdeithas tai i gartrefu’r digartref yn ogystal â pharhau i wneud atgyweiriadau brys i gartrefi eu cleientiaid.

Roedd maint y gwaith yn gwbl wahanol i bopeth roedd y cwmni wedi’i wneud yn y gorffennol ac yng ngeiriau’r rheolwr gyfarwyddwr, Liam Bevan, “roedden ni mewn twll”.

Dros nos, fe wnaeth tîm yr LCB yn y cwmni adeiladu, atgyweirio a chynnal a chadw yng Nghaerdydd symud o’u swyddfa er mwyn i’w staff, i gefnogi’r gweithwyr masnach, weithio’n bennaf o’u cartref.

Meddai Liam:

“Tan hynny, y cyfan roedden ni’n gyfarwydd ag ef oedd y swyddfa. Pan fyddai galwad yn dod i mewn am waith lle’r oedd angen mewnbwn rheolwr, byddai’r person sy’n staffio ein desg gymorth yn cerdded i mewn i’r ystafell nesaf i siarad â rheolwr contract a byddent yn datrys y mater.

“Roedd angen newid ar frys mawr oherwydd yn amlwg allen ni ddim gwneud hynny bellach. Roedden ni o dan yr un pwysau â phawb arall wrth i ni geisio mynd ati i brynu gliniaduron a ffonau. Yn y pen draw, aeth llawer o staff â’u desgiau a’u cyfrifiaduron personol o’r swyddfa a’u sefydlu gartref. Fodd bynnag, roedden ni ar y blaen gyda chyfarpar diogelu personol ac fe wnaethon ni sefydlu ein cadwyn gyflenwi uniongyrchol ein hunain yn gyflym – ac roedd modd i ni ddarparu masgiau i lawer o’n cleientiaid hefyd.

“Er bod gan ein tîm swyddfa rywfaint o brofiad o Teams a Zoom, doedd hynny ddim yn wir am ein gweithredwyr yn y maes. Doedden nhw ddim wedi gorfod gwneud hynny ond yn sydyn, oherwydd ein bod ni i gyd yn gweithio o bell, roedd yn rhaid iddyn nhw fynd i’r afael ag ef – hyd yn oed os oedd yn golygu deialu i mewn o’r fan. Roedden nhw’n wych, serch hynny, ac oherwydd bod ganddyn nhw 4G, gallen nhw fod ar-lein gyda’r gweddill ohonom.

Er bod yr wythnosau cyntaf yn anodd yn logistaidd, ni lithrodd dangosyddion perfformiad allweddol y cwmni erioed.

Ychwanegodd Liam:

“Rhoddwyd statws gweithiwr hanfodol i ni, ac roedd hyn yn ein helpu i wneud ein gwaith. Roedd yn golygu y gallem ymateb heb unrhyw drafferth i’r rhai oedd ein hangen. Allwch chi ddim gadael pobl agored i niwed heb rywbeth fel dwˆ r poeth neu wres mewn pandemig. Roedd ysbryd y tîm yn wych. Roedden ni i gyd yn sefyll gyda’n gilydd ac roedd ymddiriedaeth yn rhan bwysig iawn.

Unwaith i bethau sefydlogi ac wrth i’r tîm yn LCB Construction ddod yn fwy cyfforddus gyda gweithio o bell, roedd modd i Liam, a oedd yn ei eiriau ei hun “wedi heneiddio 10 mlynedd”, bwyso’r botwm ailosod.

Meddai:

“Yn ystod yr ychydig fisoedd cyntaf fe wnaethon ni roi neges naid ar ein gwefan yn dweud “we’re keeping on keeping on” i roi cysur i’n cleientiaid ein bod yn gweithio i brotocolau Iechyd a Diogelwch COVID-19 llym iawn ac yn blaenoriaethu diogelwch eu preswylwyr a’n gweithwyr wrth barhau i wneud gwaith hanfodol i gartrefi pobl ac i eiddo gwag.”

“Wrth i bethau sefydlogi, gallem gymryd cam yn ôl ac ail-werthuso ein gweithdrefnau. Fe wnaethon ni fuddsoddi mewn system deleffoni newydd ar y cwmwl fel bod modd i’n switsfwrdd gael gafael ar weithredwyr pan oedden nhw allan ar y safle, ac fe wnaethon ni ddigideiddio nifer o systemau rheoli eraill yn gyflym hefyd, fel taflenni amser a cheisiadau gwyliau.

Gwnaeth tîm rheoli LCB Construction yng Nghaerdydd ymdrech i gyfathrebu â staff yn rheolaidd trwy gydol y cyfyngiadau symud a chychwyn sawl arolwg sydd wedi helpu’r cwmni i benderfynu ar ffordd ymlaen ar ôl y pandemig.

Dywedodd Liam:

“Ein pobl yw ein blaenoriaeth, ac roedd yn bwysig i ni eu bod yn gwybod ein bod yn gwneud ein gorau i ofalu amdanyn nhw. Rwy’n credu ei fod wedi ein gwneud ni’n gryfach.

"Dangosodd arolwg diweddar gyda staff y byddai’r mwyafrif helaeth yn ein hargymell fel cyflogwr. Ar ôl y flwyddyn rydyn ni wedi’i chael, mae hynny’n wych i’w weld.

Mae Liam yn credu bod y gwersi maen nhw wedi’u dysgu trwy COVID-19 wedi trawsnewid y cwmni. Meddai:

“Rydyn ni’n dychwelyd mewn sefyllfa well ar ôl hyn a bydd gweithio ystwyth yn rhan o’r cynllun. Rydyn ni’n gwybod bod pobl eisiau dewis ac rydyn ni wedi profi y gallwn ni i gyd ymddiried yn ein gilydd i fwrw ymlaen â’r gwaith. Mewn gwirionedd, rwy’n credu bod pobl yn ymateb hyd yn oed yn well pan fyddwch chi’n rhoi hyblygrwydd iddyn nhw.

“Dyma hefyd y peth iawn i’w wneud ar gyfer ansawdd bywyd. Nawr, os oes angen i rywun fynd i apwyntiad personol yn ystod y diwrnod gwaith, does dim angen iddyn nhw gymryd gwyliau blynyddol. Gallant weithio gartref a phicio allan. Dydy hynny ddim yn gwneud gwahaniaeth mawr i mi – rwy’n gwybod ein bod yn ymgysylltu fel tîm a does dim amheuon am ansawdd eu gwaith. Mae’n rhaid i chi edrych ar y pethau cadarnhaol ac mae hynny’n rhywbeth y mae’r pandemig wedi’i ddysgu i ni i gyd.