Neidio i'r prif gynnwy

Coleg Penybont yn mynd i’r afael â gweithio o bell a dysgu o bell.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:
Image
Mae Kathryn Adams, cynghorydd dysgu a datblygu yng Ngholeg Penybont, yn dal i fyny â gwaith ar-lein yn gyflym iawn tra’n gofalu am Oscar y babi.

Fel sefydliadau academaidd ledled y wlad, roedd gan Goleg Penybont, y cyfrifoldeb o gynnal addysg cenhedlaeth yn ystod pandemig COVID-19.

Gyda mwy na 6,000 o fyfyrwyr llawn amser a 720 aelod o staff ar draws pedwar campws ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Pencoed, Queens Road a Maesteg, roedd yr her o gyrraedd pob unigolyn o bell yn ystod y cyfyngiadau symud yn aruthrol.

Eglura Sam Morgan, cyfarwyddwr pobl yng Ngholeg Penybont:

“Cyn y pandemig, roedd yr holl addysgu bron, yn digwydd wyneb yn wyneb. Ac er ein bod yn gweithio tuag at atebion digidol i’n darpariaeth ar y pryd, fe wnaeth y pandemig gyflymu’r trawnewidiad digidol.

“Y prif fater yn ystod dyddiau cynnar y cyfyngiadau symud oedd sut i drawsnewid addysgu wyneb yn wyneb i ddysgu o bell. Ychydig iawn o’n staff a’n myfyrwyr oedd â gliniaduron, ond diolch byth, roedd Llywodraeth Cymru yn hynod gefnogol ac wedi rhyddhau cyllid ychwanegol ar gyfer dyfeisiau digidol, fel y gallai myfyrwyr astudio a dysgu gartref.

Cyn y pandemig, roedd Coleg Penybont wedi bod yn gweithio ar raglen i gynyddu llythrennedd digidol ymhlith staff ac roedd newydd gael ei enwi fel Coleg Cyfeirio Google cyntaf Cymru.

Fodd bynnag, nid oedd y staff addysgu wedi gorfod defnyddio technoleg eto i gyflwyno eu gwersi o bell i addysgu gartref.

Meddai Sam:

“Roedd ein buddsoddiad mewn defnyddio Google yn golygu bod canran fawr o’n staff yn magu hyder yn y platfform, ond nid at ddibenion gweithio o bell.

"Roedd yn gromlin ddysgu anhygoel, gyda chymorth tîm o hyfforddwyr addysgu a dysgu a thechnolegwyr digidol, a oedd yn caniatáu i staff ehangu eu gallu ar Google a chynhyrchu gwersi diddorol o ansawdd uchel ar-lein yn gyflym iawn.

Er bod technoleg yn chwarae rhan fawr yn null y coleg o addysgu ar-lein o gartref, gwnaeth y tîm rheoli hefyd yn siwˆ r bod asesiadau risg yn cael eu cynnal ar gyfer staff agored i niwed.

Meddai Sam:

“Roedd iechyd a lles ein cydweithwyr a’n myfyrwyr yn ganolog i’n holl benderfyniadau. Roeddem yn benderfynol o beidio â rhoi pwysau afresymol ar ein staff. Roedd yn bwysig i ni fod pobl yn teimlo’n ddiogel, yn cael eu deall a’u cefnogi.

"Roeddem am ddangos tosturi, dealltwriaeth a derbyniad.

"Roedd hyn yn arbennig o bwysig pan gaeodd yr ysgolion ac roedd staff yn gorfod cydbwyso addysg gartref a gweithio ar yr un pryd. Weithiau, roedd gennym fam â babi ar ei glin yn ystod cyfarfod rhithwir ac roedd hynny’n iawn.

Un o’r mentrau cymorth a ddatblygodd y coleg oedd rhaglen iechyd meddwl a lles i helpu staff i osgoi gorweithio, cysgu’n dda a rheoli straen.

Roedd ymdrech wirioneddol i helpu pobl i ddeall y gefnogaeth a oedd ar gael a rhannwyd fideos gan ddefnyddwyr gwasanaethau lles y coleg yn eang i annog pobl i gymryd rhan.

Meddai Sam:

“Mae pobl wedi dangos lefelau aruthrol o ymrwymiad, ac mae ymddiriedaeth yn uchel rhwng rheolwyr llinell a’u timau.

"Rydyn ni wedi dod yn llawer mwy arloesol ac yn mwynhau lefelau uwch o ymreolaeth.

"Rydyn ni hefyd wedi gweld y gall staff reoli eu bywyd cartref a’u gwaith ar yr un pryd ac wrth i’r farchnad swyddi agor, rydyn ni’n gobeithio dangos i staff benywaidd, yn benodol, nad yw symud i fyny’r ysgol yn golygu gorfod aberthu amser teulu.

Wrth edrych i’r dyfodol, dywedodd Sam:

“Y peth mwyaf amlwg i ni ei ddysgu o hyn yw nad oes un ateb sy’n addas i bawb o ran ffyrdd o weithio yn y dyfodol. Mewn arolwg diweddar, nododd mwyafrif ein staff yr hoffent dreulio’r rhan fwyaf o’u hamser ar y campws, ond gyda’r gallu i addysgu o gartref hefyd.

“Byddwn yn mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, gan ganolbwyntio ar anghenion a dymuniadau unigolion wrth ystyried natur ymarferol pob cwricwlwm.

"Mae dull cyfunol wedi bod o fudd i staff a myfyrwyr ac mae’n rhywbeth yr ydym am ei gadw wrth i ni symud ymlaen i’r flwyddyn academaidd newydd.

"Mae’n arbrawf cymdeithasol o fath, y byddwn yn ei addasu wrth i ni ddysgu mwy am yr hyn sydd ei angen ar ein staff a’n myfyrwyr. Byddwn yn seilio ein penderfyniadau ar egwyddorion gweithio yn hytrach nag ar restr o reolau caeth.