Cynnwys y Grant Datblygu Disgyblion o fewn y cyllid ar gyfer y celfyddydau i ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig.
Ysgol gynradd Gymraeg ym mhentref Bethesda, Gwynedd yw Ysgol Pen-y-Bryn. Mae’r ysgol yn gwasanaethu ardal sy’n ddifreintiedig yn economaidd ac mae tuag 20 y cant o’r dysgwyr yn yr ysgol yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Mae’r ysgol yn ceisio creu cyfleoedd symbylol i ddatblygu sgiliau llythrennedd dysgwyr ar draws y cwricwlwm. Y testun ar gyfer y tymor oedd y ‘Chwarel Gymreig’ ac fe drefnodd yr ysgol i’r dysgwyr ym Mlwyddyn 6 ymweld â’r Amgueddfa Lechi Genedlaethol yn Llanberis er mwyn ysbrydoli’r dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau i gynhyrchu darn estynedig o waith ysgrifennu creadigol. Mae gan yr ysgol bolisi o gynorthwyo dysgwyr i gymryd rhan mewn ymweliadau oddi ar y safle a sicrhau cyfleoedd i bawb fel modd i gau’r bwlch rhwng grwpiau o ddysgwyr. Er bod mynediad i’r amgueddfa’n rhad ac am ddim, fe roddodd yr ysgol gymhorthdal tuag at gostau teithio gan ddefnyddio’i Grant Amddifadedd Disgyblion, er mwyn sicrhau bod yr holl ddysgwyr yn y dosbarth ym Mlwyddyn 6 yn cael cyfle i ymweld. Mae’r amgueddfa’n codi ar grwpiau o ysgolion am rai sesiynau a hwylusir, ond fel rhan o’i hymrwymiad i agenda trechu tlodi Llywodraeth Cymru, nid oes tâl i’r ysgolion hynny y mae mwy nag 20 y cant o’u dysgwyr yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Yn ystod yr ymweliad, fe glywodd dysgwyr am waith peryglus gweithwyr y chwarel, a buont yn archwilio tai’r chwarelwyr i gael blas ar fywyd dros ganrif yn ôl.
Fe gasglodd yr ysgol dystiolaeth i ddangos effaith yr ymweliad ei hun a’r gweithgareddau dilynol ar lythrennedd dysgwyr. Fe gynhaliodd yr athrawes ddosbarth asesiad o ddysgwyr is eu gallu a’r rhai sy’n gymwys i gael PYADd a ddangosodd hyder gwell mewn ysgrifennu estynedig a gallu gwell i ddefnyddio idiomau a chymariaethau yn eu gwaith. Meddai’r athrawes ddosbarth:
‘Go brin y byddai’r dysgwyr hyn yn cael y cyfle y tu allan i’r ysgol i ymweld â’r lleoliadau diwylliannol hyn. Fel arfer byddai’r grŵp yma o ddysgwyr yn ei chael yn anodd tynnu ar brofiadau allanol, ond yn sicr fe gafodd y profiad uniongyrchol yn ystod yr ymweliad â’r amgueddfa effaith gadarnhaol ar eu gwaith. Mae’r profiad wedi arwain at nifer o ganlyniadau cadarnhaol sy’n cysylltu â gallu’r dysgwyr i ddangos eu gwybodaeth am agweddau penodol ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Yn y dyfodol gallaf adeiladu ar y profiadau hyn i ddyfnhau eu dealltwriaeth.’
Nodwyd hefyd fod diddordeb bechgyn yn yr elfennau ymarferol o’r ymweliad wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol: ‘Roedd arnynt eisiau cyfranogi yn y gweithgaredd ysgrifennu estynedig, gan fod ganddynt brofiad go iawn i ysgrifennu amdano.’