Sut y gall cronfa Go and See Cyngor Celfyddydau Cymru helpu plant ysgol brofi'r celfyddydau.
Cyflwynodd Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside yn Sir Benfro gais i’r Gronfa Ewch i Weld i fynd â Dosbarth Cadno i Ganolfan yr Aifft ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd disgyblion Dosbarth Cadno, sy’n rhoi cyfrif am ganran uchel o’r disgyblion yn yr ysgol sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol Am Ddim, yn astudio’r Eifftiaid ar y pryd.
Aeth yr ysgol â 19 o ddisgyblion Blwyddyn 6 i Ganolfan yr Aifft i gael y cyfle i drin a thrafod arteffactau a chymryd rhan mewn gweithdai cerdd a drama ymarferol. Nôl yn yr ysgol, roeddent yn ail-greu rhai o’r arteffactau yn eu gwersi Celf a Dylunio a Thechnoleg yn ogystal â chreu ffilmiau ac animeiddiadau yn seiliedig ar y storïau gan y curaduron. Cafodd y disgyblion y cyfle i drin a thrafod arteffactau, gweld yr arddangosfa, gwisgo gwisgoedd, creu mymi a chymryd rhan mewn llawer o weithgareddau eraill. Oherwydd pellter a chost ni fyddai’r profiad hwn wedi bod yn bosibl heb y cyllid o’r Gronfa Ewch i Weld.