Arbedion wedi’u cyflawni o ran amser ac arian wrth gyflogi gweithwyr dros dro
Mae cystadleuaeth fach gydweithredol ar gyfer datrysiadau gweithwyr dros dro wedi arbed £150,000 y flwyddyn ar draws dau sefydliad ar gyfer cwsmeriaid, yn ogystal ag arbedion sylweddol o ran amser ac adnoddau.
Gan ddefnyddio’r fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi, gweithiodd y GCC gyda dau awdurdod lleol yn ne-orllewin Cymru i nodi gofynion cyffredin a dyfarnu contract drwy gystadleuaeth fach. Arweiniodd hyn at:
- arbedion o ran rhyddhau arian parod
- parhau gweithredu gwasanaeth sy’n hanfodol i fusnes
- chyflwyno offeryn rheoli electronig yn ehangach.
Buddion i’r cwsmer
Mae’r gystadleuaeth fach dan arweiniad y GCC wedi arwain at arbedion masnachol ar elw cyflenwyr o 49% mewn perthynas â chyfraddau cwsmeriaid blaenorol. Mae hyn hefyd yn cynrychioli arbedion o 33% mewn perthynas â chyfraddau’r fframwaith newydd, pe bai’r cwsmer wedi dyfarnu’n uniongyrchol gyda’r un darparwr.
Roedd yr awdurdodau lleol a oedd yn cymryd rhan wedi caffael datrysiadau gweithwyr dros dro o’r blaen drwy eu cytundebau lleol eu hunain. Rhoddodd y GCC gymorth iddynt wrth ddyfarnu eu cytundeb cydweithredol cyntaf bedair blynedd yn ôl. Yn dilyn llwyddiant y cytundeb, roedd cwsmeriaid yn awyddus i fanteisio ar gymorth gan y GCC unwaith eto.
Wrth arwain y gystadleuaeth fach, lleihaodd y GCC y baich ar gwsmeriaid ar bob cam o’r broses gaffael:
- drwy helpu i lunio dogfennau’r gystadleuaeth
- cydlynu gofynion cwsmeriaid
- cyflwyno’r tendr yn electronig
- chynnig cymorth ar reoli cyfrifon.
Roedd cwsmeriaid yn cymryd rhan drwy gydol y broses. Drwy gyfarfodydd cwsmeriaid ar ddechrau ac ar ddiwedd y broses gaffael, cytunwyd ar y dull a chwblhawyd penderfyniad y dyfarniad.
Barn cwsmeriaid
Dywedodd cynrychiolydd caffael yng Nghyngor Sir Penfro:
“Ar adeg o bwysau sylweddol o ran adnoddau, roedd hwn yn gyfle ardderchog. Gofalodd y GCC am yr holl dasgau caffael swmpus yn ogystal â’r dyletswyddau gweinyddol llai, ac mae eu harbenigedd yn y maes hwn yn amlwg. Llwyddodd yr ymarfer hwn hefyd i sicrhau arbedion ar adeg pan mae’n anodd gwneud hynny.”
Dywedodd cynrychiolydd Adnoddau Dynol yng Nghyngor Sir Caerfyrddin:
“Mae’r gystadleuaeth fach wedi galluogi Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro i gyflawni lefel uwch fyth o arbedion nag a fyddai wedi bod yn bosibl heb gymorth ac anogaeth y GCC. Mae ymdrechion yr Uwch Reolwr Categori wrth oruchwylio’r broses wedi arwain at ganlyniad cadarnhaol iawn, ac wedi atgyfnerthu’r buddion sylweddol i sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn y GCC sy’n ymgymryd â’r contract gweithwyr dros dro.”
Rhagor o wybodaeth ac adborth
I gael rhagor o wybodaeth am y fframwaith gweithwyr dros dro ac athrawon cyflenwi, ewch i GwerthwchiGymru neu e-bostiwch: NPSPeopleServices@llyw.cymru
Ffôn: 0300 790 0170
@NPSWales
@GCCCymru