Mae phs yn arloesi â gwasanaeth leiners ecogyfeillgar sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn arbed dŵr.
Mae phs, cyflenwr allweddol o dan Fframwaith Gwasanaethau Glanhau ac Ystafelloedd Ymolchi (NPS-CFM-0099-19) Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru (WGCD) yn arloesi â gwasanaeth leiners ecogyfeillgar sy’n lleihau allyriadau carbon ac yn arbed dŵr, gan helpu’r WGCD i hybu dyfodol carbon isel a chynaliadwy i Gymru.
Lleolir pencadlys phs yng Nghaerffili, de Cymru, ac mae’r cwmni wrthi’n trawsnewid gwasanaethau rheoli gwastraff nwyddau hylendid merched. Mae’r astudiaeth achos hon yn dwyn sylw at y gweddnewid strategol yn null gweithredu phs sy’n cyd-fynd â gwerthoedd WGCD ac effaith sylweddol y newid yn y broses ar gefnogi cwsmeriaid trwy gyflawni mwy o gynaliadwyedd a gwasanaethau mwy effeithlon.
Gweithredu atebion cynaliadwy
Gyda chefnogaeth tîm WGCD, mae phs yn darparu gwasanaeth leiners i gwsmeriaid sydd o dan eu fframwaith. Yn flaenorol, câi biniau nwyddau hylendid merched eu cyfnewid, a byddai unedau llawn yn cael eu dychwelyd i’w cynnal a’u cadw. Fodd bynnag, gwnaed penderfyniad arloesol i fabwysiadu gwasanaeth casglu leiners yn unig. Mae'r newid hwn i wasanaethau yn lleihau allyriadau carbon, yn arbed dŵr, ac yn gwella'r broses rheoli gwastraff gan symleiddio'r broses o ddarparu gwasanaethau.
Cyflawniadau a buddion allweddol:
1. Lleihau allyriadau carbon a’r defnydd o ddŵr
Mae buddsoddi mewn cerbydau ecogyfeillgar, systemau llwybryddion clyfar, a rhaglenni ymddygiad gyrwyr effeithlon wedi llwyddo ar y cyd i sicrhau gostyngiad o fwy na 12,000 tunnell fetrig yn yr allyriadau carbon ers 2020. Mae cynnig gwasanaeth cyfnewid leiners yn lle gwasanaeth cyfnewid biniau yn lleihau ôl troed carbon phs ymhellach drwy leihau’r defnydd o drydan a dŵr yn sylweddol, gan warchod yr adnoddau amhrisiadwy hyn.
2. Trawsnewid rheoli gwastraff
Mae’r WGCD yn cydnabod effaith gwastraff nwyddau hylendid ar ein hamgylchedd ac mae’n cefnogi strategaeth phs i ddargyfeirio gwastraff hylendid o safleoedd tirlenwi. Mae gwastraff bellach yn cael ei anfon i gyfleusterau adennill ynni (ERFs) trwy Strategaeth LifeCycle phs a'u partneriaeth â Viridor. Mewn ERFs, caiff y gwastraff ei losgi i gynhyrchu ynni, gan bweru gwahanol sectorau, ac mae’r lludw gwastraff wedi'i ailgylchu yn cyfrannu at y diwydiant adeiladu, gan greu system rheoli gwastraff gylchol.
3. Gwella effeithiolrwydd gwasanaethau a boddhad cwsmeriaid
Mae'r gwasanaeth cyfnewid leiners, a ddarperir i gwsmeriaid phs o dan Fframwaith WGCD, yn symleiddio effeithlonrwydd gwasanaethau. Trwy ddiddymu’r angen i gludo biniau yn rheolaidd, ceir llawer iawn llai o darfu. Mae'r dull synhwyrol ac effeithlon hwn yn gwella boddhad cwsmeriaid, gan ganiatáu i ystafelloedd ymolchi fod yn lân ac yn barod i'w defnyddio'n ddi-oed.
Amcanion cyflawni masnachol
Trwy gyfrannu’n weithredol at amcanion WGCD i greu cymdeithas lewyrchus, arloesol, carbon isel, mae phs yn pennu meincnod ar gyfer dull rheoli gwastraff sy’n gyfrifol o safbwynt amgylcheddol. Mae'r fenter hon yn gam sylweddol tuag at sicrhau dyfodol cynaliadwy i Gymru, gan gryfhau ymrwymiad WGCD i ddyfodol gwyrddach.
Dywedodd Paul Hughes, Pennaeth Sector Cyhoeddus phs:
“Mae gweithredu’r gwasanaeth hwn yn cyd-fynd â gweledigaeth Llywodraeth Cymru ynghylch Cymru carbon isel, gynaliadwy. Mae'n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth cyflymach a llai ymwthiol gan leihau ein heffaith ar yr amgylchedd yn sylweddol. Mae’r fenter hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad i nodau Sero Net Cymru ac rydyn ni’n gwerthfawrogi cefnogaeth a chydnabyddiaeth WGCD.”
Dywedodd Paul Griffiths, Pennaeth Cyflawni Caffael Llywodraeth Cymru:
“Rydyn ni’n falch iawn o gydweithio â chyflenwyr o Gymru o dan ein Cytundebau Fframwaith i gynnig atebion arloesol i gwsmeriaid y sector cyhoeddus. Mae’n wych gweld atebion sy’n helpu i leihau allyriadau carbon a chynorthwyo i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.”
Dywedodd James Beynon, Prif Swyddog Masnachol Cyngor Dinas Abertawe:
“Mae cyflwyno gwasanaeth leiners ecogyfeillgar phs yng Nghyngor Abertawe wedi bod yn wych a buaswn yn eu hargymell heb os. Mae phs wedi cyflwyno'r gwasanaeth hwn ym mhob safle ac maen nhw bellach yn cynnig gwasanaeth cyfnewid leiners ac yn glanhau'r biniau yn y fan a'r lle sy'n fuddiol o safbwynt carbon isel, cynaliadwyedd a hylendid. Mae hynny hefyd wedi gwella gallu phs i ymateb i geisiadau. Mae sefydlu gwasanaeth cyfnewid leiners yn lle gwasanaeth cyfnewid biniau wedi arwain at lai o allyriadau carbon a lleihau’r defnydd o ddŵr a darparu gwasanaethau symlach. Mae phs hefyd yn cyflogi gweithlu lleol sy'n darparu'r gwasanaeth hwn. Mae gweithredu Atebion Cynaliadwy fel y gwasanaeth leiners, dargyfeirio gwastraff nwyddau hylendid o safleoedd tirlenwi, gwella effeithlonrwydd gwasanaethau a chyflogi pobl leol yn cyd-fynd ag ymrwymiad Cyngor Abertawe i gyflawni Carbon Sero Net, cynaliadwyedd a nodau ehangach Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (WFGA).”