Mae ELITE Clothing Solutions, y gwneuthurwr dillad a menter gymdeithasol o Lyn Ebwy, ar gael i gyflenwi dillad llachar, cyfarpar diogelu personol (PPE), gwisgoedd unffurf, dillad gwaith a dillad hamdden.
Ychwanegwyd ELITE at System Brynu Ddeinamig (DPS) a Dosbarthu Masnachol (NPS gynt) PPE a Dillad Gwaith Llywodraeth Cymru, a gafodd ei dendro ar sail neilltuedig, gan ganiatáu i fentrau cymdeithasol cymwys yn unig wneud cais.
Mae’r DPS yn darparu llwybr uniongyrchol i gwsmeriaid at fentrau cymdeithasol yng Nghymru sy’n gallu diwallu amrywiaeth o anghenion dillad.
Ar hyn o bryd, mae 30% o weithwyr ELITE yn cael eu cyfrif fel naill ai gweithwyr anabl neu ddifreintiedig. Ers agor, mae'r ffatri wedi cyflogi 10 unigolyn lleol ac wedi rhoi cyfle i saith hyfforddai ag anghenion amrywiol. Mae gan lawer o'r gweithwyr parhaol sy'n helpu i hyfforddi gweithwyr newydd oes o brofiad yn y sector, ar ôl gweithio yn y gorffennol mewn ffatrïoedd dillad lleol a gaeodd yn dilyn dirywiad y diwydiant gweithgynhyrchu yn Ne Cymru.
Yn ogystal â chynnig hyfforddiant yn y gwaith, mae ELITE yn cynnig cyngor cyflogaeth i'r rheini yn y gymuned trwy gynghorwyr cyflogaeth ymroddedig, sy'n dod i adnabod pob unigolyn a darparu cefnogaeth wedi'i theilwra i’w cael nhw’n barod ar gyfer gwaith; o gyngor cyfweliadau i'w helpu i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus am y tro cyntaf.
Dywedodd Andrea Wayman, Prif Swyddog Gweithredol ELITE:
“Pan gyflwynwyd y DPS, roedd yn galonogol gweld bod y broses ymgeisio yn glir, yn syml ac yn gyflym, yn hytrach nag yn feichus. Mae ein hapwyntiad yn symleiddio'r broses dendro ar gyfer ni ein hunain ac, yr un mor bwysig, i gwsmeriaid, gan greu sefyllfa gadarnhaol iawn o ran caffael. Bydd defnyddio'r broses hon yn creu cymaint o gyfleoedd ac effaith gymdeithasol i'n staff, hyfforddeion a chymunedau, gan alluogi cyflogaeth gynhwysol i bobl anabl a difreintiedig.”
Mae'r DPS yn helpu i gyfrannu at nodau polisi i greu Cymru lewyrchus a chyfartal wrth fod yn gynaliadwy ac yn gymdeithasol gyfrifol ,ac yn rhoi arian yn ôl yn yr economi leol.
Am ragor o fanylion am y fframwaith, anfonwch neges e-bost at: CommercialProcurement.PeopleCorporate@gov.wales