Neidio i'r prif gynnwy

Menter anymataliaeth gwrywaidd yn dathlu llwyddiant yn ystod Wythnos Iechyd Dynion eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r fenter Dispose With Dignity, a arweinir ar y cyd gan Prostate Cancer UK a’r phs Group o Gaerffili, yn dathlu carreg filltir newydd wrth i 7,000 o finiau gael eu gosod cyn Wythnos Iechyd Dynion.

Mae phs, cyflenwr o dan Fframwaith Gwasanaethau Glanhau ac Ystafelloedd Ymolchi Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru yn arwain ar fenter iechyd dynion i gefnogi dynion, iechyd meddwl dynion a chyfrannu at Gymru fwy cynaliadwy a chyfartal.

Mae’r phs Group yn rhoi pwrpas wrth wraidd ei gynhyrchion a'i wasanaethau, ac mae ei fenter gyda Prostate Cancer UK yn anelu at godi ymwybyddiaeth am anymataliaeth ymhlith dynion, y diffyg mynediad at finiau nwyddau hylendid mewn ystafelloedd ymolchi dynion, a'r effaith ar iechyd corfforol, cymdeithasol a meddyliol dynion.

Mae anymataliaeth wrinol gwrywaidd yn sgil-effaith gyffredin o driniaeth canser y prostad sy'n achub bywyd. Bydd un o bob wyth dyn yn cael diagnosis o ganser y prostad, gan godi i un o bob pedwar dyn Du. O'r rhai sy'n cael eu trin am ganser y prostad, bydd 60% yn profi anymataliaeth ar ryw adeg. Er gwaethaf hyn, anaml y caiff dynion eu cefnogi gyda'r cyfleusterau sydd eu hangen arnynt mewn ystafelloedd ymolchi cyhoeddus yn yr un modd ag y mae menywod yn gallu cael mynediad at finiau nwyddau hylendid i fenywod ar gyfer cynhyrchion mislif.

Lansiwyd ymgyrch Dispose With Dignity ym mis Chwefror 2023, ac ers hynny mae mwy na 7,000 o finiau anymataliaeth gwrywaidd wedi'u gosod ledled y DU. Mae hyn yn golygu bod angen i lai o ddynion fod yn bryderus i adael y tŷ, rhag ofn na fyddant yn gallu gwaredu eu cynnyrch yn ddiffwdan y tu ôl i ddrws y ciwbicl.

Mae Raymond Starr, 67, yn was cyhoeddus wedi ymddeol o Gonwy yn y gogledd. Cafodd ddiagnosis o ganser y prostad yn 2017, a chafodd ei brostad ei dynnu, sydd wedi ei adael â phroblemau anymataliaeth. Dywedodd:

"Gall anymataliaeth gynyddu pryder ac achosi iselder. Mae pobl yn teimlo'n chwithig, felly maen nhw'n mynd yn ynysig ac yn dechrau meddwl na allan nhw fynd allan a delio â'r pad gwlyb a'r frwydr i'w waredu, felly maen nhw'n aros gartref. Dim ond bin priodol sydd ei angen arnon ni.

"Dwi ddim yn gwybod beth alla i ei ddweud i gael miloedd o sefydliadau i gymryd rhan, ond byddai cost fach i fusnes mor fanteisiol i grŵp o bobl sy’n anobeithio go iawn pan maen nhw'n profi anymataliaeth."

Dywedodd John Coyne, Cyfarwyddwr Caffael a Masnachol, Cyflawni Masnachol Llywodraeth Cymru:

'Rydyn ni’n falch iawn o allu cynnig gwasanaethau anymataliaeth gwrywaidd drwy ein Fframwaith Gwasanaethau Deunyddiau Glanhau ac Ystafelloedd Ymolchi am y tro cyntaf. Mae darparu'r gwasanaethau hyn yn hanfodol i sicrhau bod anghenion pobl ag anymataliaeth gwrywaidd yn cael eu diwallu mewn ffordd ymarferol a mwy cynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan phs, neu cysylltwch â phs’r Group trwy e-bostio keyaccountspublicsector@phs.co.uk.

Am fwy o fanylion am y Fframwaith Deunyddiau Glanhau a Gwasanaethau Ystafelloedd Ymolchi ewch i GwerthwchiGymru (bydd gofyn i chi fewngofnodi): Cofrestr Contractau Prynwyr - Gweld Manylion Contract - GwerthwchiGymru

Neu e-bostiwch CaffaelMasnachol.Adeiladau@llyw.cymru