Mae fframwaith sydd wedi ennill sawl gwobr ac sy’n darparu Deunydd Ysgrifennu a Phapur Copïo i’r sector cyhoeddus yng Nghymru mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Lyreco wedi profi sut y gall caffael effeithio ar yr economi leol.
Yn ogystal â darparu deunydd ysgrifennu i’r sector cyhoeddus yng Nghymru, mae’r fframwaith £5m y flwyddyn yn darparu chwe rhaglen les sy’n gymdeithasol gyfrifol ac yn cyflawni ar sail blaenoriaethau Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan helpu i gadw’r bunt Gymreig yng Nghymru.
Mae Lyreco yn darparu cynlluniau lles drwy’r fframwaith ac maent wedi gweithio gyda’r cwmnïau y maent yn prynu ganddynt i sicrhau bod nwyddau’n cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru. Drwy ddatblygu datrysiadau masnachol ac ychwanegu cynhyrchwyr Cymreig gan gynnwys mentrau cymdeithasol (busnes ag amcanion cymdeithasol) at y gadwyn gyflenwi, mae’r fframwaith wedi creu swyddi lleol i bobl leol.
Mae hyn hefyd wedi helpu i leihau gwastraff a’r defnydd o ynni, felly mae’n cyflawni ymrwymiadau Llywodraeth Cymru i sero net.
Dywedodd Angharad Simmonds, Uwch Reolwr Categori yn Llywodraeth Cymru:
“Gall gyrfa ym maes caffael yn y sector cyhoeddus, lle rydych chi’n prynu nwyddau neu wasanaethau i’r llywodraeth, wneud gwahaniaeth enfawr yng Nghymru.
“Gan ddefnyddio pŵer swmp-brynu’r sector cyhoeddus yng Nghymru rydw i wedi gallu gweithio gyda chyflenwyr i’w helpu i greu swyddi, prentisiaethau, a buddion amgylcheddol wrth fuddsoddi eu harian yn ein busnesau a’n cymunedau lleol. Mae'n werth chweil gweld manteision mor ddiriaethol o ganlyniad i hynny."