Neidio i'r prif gynnwy

Sut y bu i Archifau Morgannwg helpu ysgolion ledled de Cymru i ymweld drwy gynorthwyo gyda chostau trafnidiaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cydwasanaeth yw Archifau Morgannwg, sy’n gwasanaethu 6 awdurdod lleol yn ne ddwyrain Cymru. Tan 2012, roedd y rhan fwyaf o ymweliadau gan ysgolion â’r Archifau wedi bod gan ysgolion o Gaerdydd. Roedd ysgolion sy’n bellach i ffwrdd yn profi anawsterau gyda chostau teithio, gan gynnwys un ysgol a ganslodd dri ymweliad mewn un flwyddyn ysgol oherwydd y gost. 

Yn 2012, fe wnaeth Archifau Morgannwg, gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru trwy MALD, gyflwyno Cynllun Peilot Cymhorthdal Cludiant ar gyfer Ysgolion.

Trwy gynnig cyllid i dalu costau cludiant ysgolion, ei nod oedd sicrhau mynediad cyfartal gan ddisgyblion o bob ysgol beth bynnag fo’r cyfyngiadau cyllidebol a gallu rhieni i dalu cost ymweliadau.

Cynigiwyd y cynllun i bob ysgol yn yr ardaloedd a wasanaethir gan yr Archifau y tu allan i Gaerdydd. Roedd yr ysgolion yn archebu cludiant ac roeddent yn cael ad-daliad a oedd yn cyfateb i 75% o’r gost ar ôl yr ymweliad.

Fe gynyddodd nifer yr ymweliadau gan ysgolion y tu allan i Gaerdydd. Yn nhymor cyntaf 2012/13 fe gymerodd 133 o ddisgyblion ran mewn gweithdai yn yr Archifau, disgyblion na fyddent wedi cael y cyfle i ymweld fel arall. 

Meddai Kerry Thomas o Ysgol Gynradd Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr:

‘Yn Ysgol Gynradd Bracla rydym yn gofyn i rieni/gwarcheidwaid am gyfraniad ariannol er mwyn gallu rhedeg gwibdeithiau ysgol. Yn amlwg, mae cost cludiant yn cynyddu’r costau hyn ac yn cyfyngu ar yr hyn y gallwn gymryd rhan ynddo. Fe wnaeth y cymhorthdal cludiant a ddarparwyd ar gyfer yr ymweliad ag Archifau Morgannwg alluogi ein disgyblion i gael budd o brofiad addysgol a phleserus wedi’i drefnu’n dda. Mae’r ganran Prydau Ysgol Am Ddim ar gyfer y ddau ddosbarth yma’n 33% felly roedd y cymhorthdal o fudd arbennig yn yr achos hwn.'