Sut mae Ysgol Gyfun Llangefni yn datblygu ei dulliau gweithredu fel Ysgol Fro.
Cyd-destun yr ysgol
- Ysgol Gyfun Llangefni, awdurdod lleol Ynys Môn
- 686 o ddysgwyr ar y gofrestr (2022)
- 15.4% o ddysgwyr sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim dros gyfartaledd o dair blynedd (2022)
Dulliau Ysgol Fro a fabwysiadwyd
Cefnogi ymgysylltiad teuluol
Mae Ysgol Gyfun Llangefni yn cefnogi ac yn hyrwyddo ymgysylltiad teuluol.
Bob bore, croesewir y plant a’u teuluoedd i'r ysgol gan bob aelod o staff ac mae hyn wedi rhoi cyfle i deuluoedd a staff:
- ddod i adnabod ei gilydd
- cyfathrebu
- meithrin cydberthnasau cryf
Gan ddeall bod yn rhaid cefnogi’r rhwydwaith teuluol cyfan er mwyn cael y gorau o addysg eu plant, cyflwynodd yr ysgol rôl swyddog cyswllt teuluol.
Mae hyn yn golygu bod rhywun yn gwrando ar rieni a bod ganddynt fynediad i'r holl gymorth sydd ei angen arnynt, gan gynnwys:
- cymorth gyda budd-daliadau ac anghenion tai
- cefnogaeth emosiynol
- cyngor rhianta
- help gyda bancio a ffurflenni cais
Mae gan yr ysgol swyddogion lles llawn amser ar y safle hefyd. Mae hyn yn cynnig cefnogaeth ychwanegol i deuluoedd. Os ydynt yn profi unrhyw fath o broblemau neu drawma, gallant siarad â'r swyddogion lles mewn man diogel a chyfrinachol. Drwy'r sgyrsiau hyn gall, rhieni gael cyngor a chael eu cyfeirio at drydydd partïon lle bo angen.
Cefnogi ymgysylltiad cymunedol
Yn ystod pandemig Covid-19 (y pandemig) datblygodd yr ysgol ddealltwriaeth ddofn o'r gefnogaeth yr oedd ei hangen ar y gymuned. Roedd staff yr ysgol yn ymweld â theuluoedd yn rheolaidd, gan gynnig bwyd, gliniaduron a chyngor yn ystod y cyfnod ansicr hwn. Pan ddychwelodd y plant i'r ysgol ar ôl y pandemig, roedd yr ysgol yn deall bod angen i'r gymuned barhau â'r gefnogaeth hon.
Dywed y Dirprwy Bennaeth, Ffion Gough:
Cafodd ein dull gweithredu ei siapio drwy gydnabod mai cefnogi teuluoedd yw'r ffordd orau o gael y gorau o'n plant. Mae'n rhaid i chi roi yn ôl i bawb yn rhwydwaith y plant i weld canlyniadau go iawn.
Fel rhan o'i gwaith Ymgysylltu Cymunedol parhaus, mae'r ysgol hefyd wedi creu prosiect gardd gymunedol. Fe wnaeth gymryd maes chwaraeon nad oedd yn cael ei ddefnyddio a chyda chymorth ei myfyrwyr, fe wnaeth ddylunio, cynllunio a phlannu gardd gymunedol. Mae hwn bellach yn ofod lle gall y myfyrwyr dreulio amser yn dysgu sgiliau allweddol am dyfu bwyd a maeth. Mae hefyd yn fan i'r gymuned, lle mae cynnyrch ffres ar gael iddynt ei ddefnyddio.
Effeithiau cadarnhaol y dulliau a fabwysiadwyd
Mae'r ysgol wedi datblygu ymddiriedaeth a chydberthnasau dyfnach â'i chymuned. Cyn y pandemig, efallai bod yr ysgol wedi cael ei hystyried fel lle i addysgu plant yn unig. Ond, drwy gydol y cyfnod hwnnw, bu’r ysgol yn achubiaeth i lawer o deuluoedd, gan roi cymorth a chefnogaeth emosiynol. Mae'r gefnogaeth hon wedi parhau ymhell ar ôl y pandemig ac mae'r gymuned bellach yn gweld yr ysgol fel rhan annatod o'u rhwydwaith cymorth, man lle maent yn teimlo'n gyfforddus heb yr ofn y byddant yn cael eu barnu.
Camau nesaf fel Ysgol Fro
Mae'r ysgol wedi derbyn grant o £40,000 gan yr awdurdod lleol i drawsnewid un o adeiladau'r ysgol yn ganolfan gymunedol. Mae'r ysgol yn gweld hyn fel y cam nesaf allweddol i roi’r ysgol yn wirioneddol wrth galon y gymuned. Bydd y gofod yn ased cymorth hanfodol i'r gymuned, gyda'r gobaith y gall trydydd partïon gael canolfan secondiad yno, fel:
- gwasanaethau cymdeithasol
- cyngor ar bopeth
- swyddogion tai a budd-daliadau
Bydd y gofod hefyd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer:
- clybiau allgyrsiol
- banc bwyd
- cyfnewid gwisg ysgol
- dosbarthiadau coginio
- dosbarthiadau iechyd a lles
Bydd hyn yn cael ei ehangu ymhellach ac yn cynnig darpariaeth ar ôl ysgol, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol, gyda staff addysgu yn cael cynnig trefniadau gweithio hyblyg i gwrdd â’r gofynion.
Yn ogystal, bydd y ganolfan gymunedol yn cael ei llywio gan y gymuned gyfan, gyda'r ysgol yn agored i awgrymiadau ar gyfer y defnydd a wneir ohoni.
Dywed Ffion:
Rydym yn gwrando ar y gymuned ac mae eu barn nhw yn bwysig iawn i ni. Pan fydd y ganolfan yn cael ei lansio, bydd yn ddathliad i'r gymuned gyfan a bydd yn cael effaith fawr.