Mae perthynas Llywodraeth Cymru gydag Aston Martin wedi ei gryfhau ymhellach heddiw yn dilyn gwerthu’r safle yn Sain Tathan i’r cwmni Prydeinig sy’n cynhyrchu ceir moethus.
Cafodd cwblhau y broses o werthu’r eiddo ei groesawu gan Carwyn Jones y Prif Weinidog ac Andy Palmer, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Aston Martin. Mae’n paratoi’r ffordd ar gyfer dechrau’r gwaith ar Gam 1 canolfan weithgynhyrchu newydd Aston Martin yn Sain Tathan.
Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Aston Martin eu bod wedi dewis Sain Tathan allan o 20 o leoliadau ledled y byd yr oeddent wedi eu hystyried ar gyfer eu hail ganolfan weithgynhyrchu, fel rhan o fuddsoddiad o £200 miliwn mewn cynnyrch a chyfleusterau newydd.
Roedd y cyhoeddiad yn dilyn ymgyrch recriwtio gan Aston Martin i ddod o hyd i 750 o weithwyr newydd i weithio yng nghanolfan newydd Aston Martin. Mae nifer o’r gweithwyr hyn wedi dechrau ar eu hyfforddiant eisoes ac yn helpu i adeiladu’r DB11 newydd yng Nghanolfan Aston Martin yn Gaydon. Mae Aston Martin yn bwriadu dechrau cynhyrchu SUV yng Nghymru yn 2020.
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Rydym yn falch iawn bod Aston Martin wedi dewis lleoli ei ganolfan gweithgynhyrchu newydd yma yng Nghymru a bod y tir bellach wedi ei werthu.
“Mae’r ffaith bod Aston Martin yn symud yma yn newyddion gwych i Fro Morgannwg a’r ardal gyfagos, a bydd yn rhoi hwb gwirioneddol i’r economi leol, gan arwain at filoedd o swyddi o safon uchel gydag Aston Martin a’r gadwyn gyflenwi yn ehangach.
“Mae hyn yn llwyddiant mawr i Gymru ac yn dangos yn amlwg yr hyder sydd gan fusnesau yn y cymorth sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru.”
Meddai Andy Palmer, Llywydd a Phrif Swyddog Gweithredol Aston Martin:
“Bydd cyfnewid y contract hwn, gan roi y cyfle cyntaf inni brynu canolfan Sain Tathan, yn garreg filltir yn ein hanes dros y 103 mlynedd diwethaf. Mae’r gwaith bellach yn dechrau o ddifrif i wireddu ein cynlluniau.
“Ers gwneud y penderfyniad i adeiladu ein SUV cyntaf yng Nghymru, mae’r ymrwymiad a’r dull o weithio gan Y Weinyddiaeth Amddiffyn a Llywodraeth Cymru i wneud i’r prosiect hwn weithio wedi creu argraff arnom. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru mewn meysydd fel recriwtio i sicrhau bod modd inni gadw at amserlenni ein prosiectau.”
Mae Aston Martin bellach wedi dechrau gweithio ar ‘Cam I’ safle St Athan sy’n cynnwys creu ardal ar gyfer cwsmeriaid a staff, swyddfeydd gweinyddu a rheoli a bwyty i’r gweithwyr. Cafodd y contract ar gyfer y gwaith hwn ei roi i gwmni lleol, TRJ Contracting, a enillodd y gystadleuaeth yn erbyn nifer o gwmnïau cenedlaethol mwy.
Bydd ‘Cam II’ y gwaith yn dechrau ar Ebrill 2017 pan fydd Aston Martin yn dechrau defnyddio tri hangar enfawr, ble y bydd y ganolfan weithgynhyrchu newydd.