Neidio i'r prif gynnwy

Mae Yard yn ehangu ei swyddfa yng Nghaerdydd ac yn dyblu nifer ei staff gan greu 37 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd mae’r cwmni yn cyflogi 18 o bobl yn ei bencadlys yn Eastgate House, Caerdydd.  Mae 17 o aelodau staff yng Nghaeredin a Llundain ac mae’r cwmni eisoes wedi denu buddsoddiad gan Gyllid Cymru. 

 

Mae’r prosiect ehangu, dan nawdd Llywodraeth Cymru, yn cefnogi bwriad y cwmni i gynyddu ei werthiant 40% dros y tair blynedd nesaf a dyblu ei drosiant erbyn 2018.  

 

Cafodd Yard ei greu yn 2006 gan ei sylfaenwyr, Paul Newbury Prif Swyddog Technegol a Stephen Briggs, Prif Swyddog Gweithredol ac mae’n darparu amrywiaeth o wasanaethau digidol megis dadansoddi data, optimeiddio peiriannau chwilio, ac adeiladu a dylunio gwefannau. 

 

Mae’r cwmni yn arbenigo mewn dadansoddi gwefannau gan ddarparu systemau dadansoddol i dros 100 o gwmnïau ledled y DU ac Ewrop, ac mae wedi creu cynhyrchion gwe i gwmnïau megis Legal & General, Nwy Prydain a Banc Sainsbury.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

“Mae cefnogi busnesau cyfryngau digidol a all gystadlu’n fyd-eang a denu buddsoddiad i Gymru yn flaenoriaeth i’r sector. Rwy’n hynod falch y bydd cymorth gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau’r ehangu hwn yng Nghymru ac yn helpu’r cwmni wrth iddo ddechrau’r cyfnod newydd hwn o dwf. 

Bydd y staff ychwanegol yn gyfrifol am ddatblygu busnes newydd a gwasanaethu contractau newydd gan y Rank Group, Virgin Atlantic a Camelot. Byddant hefyd yn cefnogi  strategaeth gwerthu’r cwmni er mwyn iddo dyfu ymhellach.  

Dywedodd Paul Newbury am y newyddion: 

“Rydyn ni wrth ein bodd bod Yard wedi cael y cymorth hwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn sicrhau y gallwn wireddu ein cynlluniau uchelgeisiol o ran twf a recriwtio. Drwy gydweithio â phrifysgolion lleol a diwydiant lleol, gallwn helpu i sicrhau ein bod yn denu buddsoddiad i Gymru a hybu Cymru fel Canolfan Ragoriaeth ar gyfer sgiliau dadansoddol a digidol.

Mae’r busnes wedi tyfu bob blwyddyn ers ei sefydlu ac mae’n cael ei gydnabod yn asiantaeth farchnata dechnegol flaenllaw sy’n darparu cynhyrchion a gwasanaethau digidol arbenigol i nifer cynyddol o gleientiaid byd-eang. Mae ei restr o gwsmeriaid adnabyddus yn cynnwys: J.P. Morgan, S4C, Rank Group, B&Q a Penguin Random House.

 

Mae Yard wedi bod yn gyfrifol am greu nifer o gynhyrchion meddalwedd gwe gan gynnwys CUBED, offeryn modelu priodoliad uwch, a SiteTagger sef system ar gyfer reoli tagiau. Caiff tagiau eu rheoli drwy ddefnyddio platfform sy’n galluogi cwmnïau marchnata i gysylltu, rheoli ac uno eu rhaglenni marchnata digidol megis dadansoddi gwefannau, marchnata peiriannau chwilio a hysbysebu.