Yr hyn yr ydym ni’n ei wneud
Mae Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru (IEPAW) yn goruchwylio sut y caiff cyfreithiau amgylcheddol eu gweithredu yng Nghymru. Mae hefyd yn rhoi cyngor i Weinidogion Cymru er mwyn gwella canlyniadau amgylcheddol.
Os oes gennych bryderon ynghylch sut y caiff cyfreithiau amgylcheddol eu gweithredu yng Nghymru, llenwch y ffurflen gyflwyno a’i hanfon i IEPAW@llyw.cymru.
Mae hon yn broses dros dro yng Nghymru wrth i’r gwaith o sefydlu corff parhaol i oruchwylio cydymffurfedd â chyfreithiau amgylcheddol fynd rhagddo. Mae’r broses yn canolbwyntio ar sut y caiff cyfraith amgylcheddol ei gweithredu, nid ar achosion o dorri’r gyfraith honno.
Gosodir pryderon ynghylch sut y caiff cyfraith amgylcheddol ei gweithredu i mewn i dri chategori eang.
- Nid yw’r gyfraith yn cyflawni’r amcanion na’r canlyniadau a fwriedir. Mae hyn naill ai oherwydd:
I. ei bod wedi dyddio, neu
II. nid yw’n cael ei gweithredu mewn modd sy’n diogelu’r amgylchedd neu’n cyflawni’r canlyniadau amgylcheddol a fwriedir. - Nid yw canllawiau neu wybodaeth ynghylch y gyfraith yn hygyrch, neu
- Mae’r gwaith ymarferol o roi’r gyfraith ar waith wedi’i rwystro. Er enghraifft, pan fo gwelliannau y gellid eu hymgorffori o ganlyniad i ddatblygiadau gwyddonol neu dechnolegol, neu pan fo rhwystrau yn bodoli sy’n rhwystro neu’n atal y gwaith ymarferol o roi’r gyfraith ar waith.
Wrth ddatgan pryder, bydd angen ichi gynnwys yr wybodaeth a ganlyn:
- pa faes o gyfraith amgylcheddol (a, lle bo hynny’n berthnasol, pa sefydliad) y mae’r pryder yn ymwneud ag ef. Rhannwch gymaint o fanylion ag sy’n bosibl gan gynnwys:
- yr adrannau penodol o Ddeddfau,
- Rheoliadau,
- darpariaethau cyfreithiol eraill rydych chi o’r farn y mae angen eu hystyried.
- gwybodaeth fanwl ynghylch pam eich bod o’r farn nad yw’r gyfraith yn cael ei gweithredu yn gywir.
Gallwch dynnu eich pryder yn ôl ar unrhyw adeg a hynny drwy anfon e-bost atom.
Nid oes modd i Asesydd Interim Diogelu’r Amgylchedd Cymru ystyried cwynion ynghylch achosion honedig o dorri cyfraith amgylcheddol. Yn yr achosion hyn dylech ddilyn dulliau presennol o wneud iawn (er enghraifft adolygiad barnwrol), fel y bo’n briodol. Dylech geisio cyngor cyfreithiol annibynnol er mwyn cael cadarnhad am yr hyn a allai fod yn ddull priodol o wneud iawn.
Er mwyn cwyno am achos posibl o dorri cyfraith amgylcheddol gan awdurdod cyhoeddus yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon, ewch i wefan Swyddfa Diogelu’r Amgylchedd (OEP).
Er mwyn cwyno am achos posibl o dorri cyfraith amgylcheddol yn yr Alban, cysylltwch â Safonau Amgylcheddol yr Alban (ESS).