Neidio i'r prif gynnwy

Amcanion a methodoleg yr ymchwil

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau terfynol astudiaeth sy’n asesu effaith Isafbris am Alcohol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau ledled Cymru ar bwynt pedair blynedd ar ôl gweithredu’r ddeddfwriaeth newydd.  Mae’r astudiaeth yn un rhan o gyfres o bedair astudiaeth werthuso a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru i asesu proses ac effaith cyflwyno MPA yng Nghymru, gyda’r tair astudiaeth arall yn: ddadansoddiad o gyfraniad; gwaith gydag adwerthwyr; ac asesiad o’r effaith ar y boblogaeth ehangach o yfwyr. Dyma’r ail o ddau adroddiad ‘ôl-weithredu’ a fydd yn archwilio patrymau yfed alcohol ac ymddygiad cysylltiedig ymysg yfwyr peryglus, niweidiol a dibynnol sy’n ymgysylltu ar hyn o bryd â gwasanaethau triniaeth alcohol Cymru. Cyhoeddwyd yr adroddiad cyntaf, 24 mis ar ôl gweithredu’r MPA, sy’n cynnwys canfyddiadau gwerthusiad interim, ym mis Mehefin 2023 (Perkins et al., 2023).

Cynhaliwyd yr astudiaeth hon gan gonsortiwm o ymchwilwyr o Figure 8 Consultancy (Dundee), Prifysgol De Cymru, a Phrifysgol Wrecsam.

Nod benodol yr elfen hon o’r ymchwil oedd asesu profiad ac effaith MPA ar ddefnyddwyr gwasanaethau a gwasanaethau ledled Cymru (gan gynnwys edrych i ba raddau y gallai newid rhwng sylweddau fod wedi bod yn ganlyniad i’r ddeddfwriaeth ac effeithiau isafbris ar gyllidebau aelwydydd). Yn fwy penodol, roedd gan yr astudiaeth ddeg amcan, chwech yn canolbwyntio ar bobl sy’n cael cymorth gan wasanaethau alcohol (h.y. defnyddwyr gwasanaeth a fyddai’n cael eu hystyried yn yfwyr niweidiol, peryglus neu ddibynnol), a phedwar yn canolbwyntio ar unigolion sy’n gweithio fel darparwyr gwasanaethau i bobl â phroblemau alcohol (h.y. darparwyr gwasanaethau).

Defnyddwyr gwasanaethau

  • Archwilio sut mae defnyddwyr gwasanaethau yn paratoi ar gyfer y newid yn y ddeddfwriaeth.
  • Archwilio canfyddiadau defnyddwyr gwasanaethau o’r ddeddfwriaeth.
  • Archwilio pa newidiadau a wnaeth defnyddwyr gwasanaethau, os o gwbl, i’w defnydd o alcohol ar ôl cyflwyno isafbris uned am alcohol.
  • Archwilio pa newidiadau a wnaeth defnyddwyr gwasanaethau, os o gwbl, i’w defnydd o sylweddau amgen ar ôl y newid mewn deddfwriaeth.
  • Archwilio canfyddiadau defnyddwyr gwasanaethau o newidiadau (gan gynnwys newid sylweddau) a wnaed gan bobl eraill ar ôl cyflwyno’r ddeddfwriaeth.
  • Archwilio effaith y ddeddfwriaeth newydd ar wariant cartref defnyddwyr gwasanaethau ac agweddau eraill ar eu bywydau (e.e., perthnasoedd, cyflogaeth, iechyd).

Darparwyr gwasanaethau

  • Archwilio’r dulliau a ddefnyddir gan ddarparwyr gwasanaethau i helpu pobl i baratoi ar gyfer cyflwyno isafbris am alcohol.
  • Archwilio canfyddiadau darparwyr gwasanaethau o newidiadau yn y defnydd o sylweddau (gan gynnwys newid sylweddau) a wnaed gan ddefnyddwyr gwasanaethau ar ôl cyflwyno’r isafbris uned am alcohol. 
  • Archwilio gyda darparwyr gwasanaethau effaith y ddeddfwriaeth newydd ar fywydau defnyddwyr gwasanaethau (e.e. gwariant y cartref, iechyd, perthnasoedd, cyflogaeth ayb).
  • Trafod gyda darparwyr gwasanaeth pa mor ddefnyddiol oedd y deunyddiau cefnogi neu’r canllawiau a ddarparwyd, yn ogystal ag unrhyw ddeunyddiau ychwanegol a allai fod yn ofynnol.

Defnyddiwyd cyfuniad o gyfweliadau a holiaduron arolwg ar-lein i gyflawni amcanion yr ymchwil.

Roedd yr ymchwil yn canolbwyntio ar oedolion 18 oed a hŷn a oedd naill ai’n byw yng Nghymru neu’n ymwneud â darparu gwasanaethau alcohol yng Nghymru.

Cynhaliwyd pymtheg cyfweliad gydag 17 o ddefnyddwyr gwasanaethau, gydag un cyfweliad yn cynnwys tri defnyddiwr gwasanaeth. Roedd pedwar o’r cyfweleion wedi cael eu cyfweld yn flaenorol ar gyfer yr adroddiad canfyddiadau interim, gydag 13 o bobl newydd yn cael eu cyfweld y tro hwn.

Cynhaliwyd tri ar ddeg o gyfweliadau gyda 15 o ddarparwyr gwasanaethau (gan gynnwys rheolwyr gweithredol a staff rheng flaen), gydag un cyfweliad yn cynnwys tri aelod o staff. Roedd chwech o’r cyfweleion wedi cael eu cyfweld yn flaenorol ar gyfer yr adroddiad canfyddiadau interim, gyda naw o bobl newydd yn cael eu cyfweld y tro hwn.

Cwblhawyd arolygon gan 121 o ddefnyddwyr gwasanaethau o 14 o’r 22 ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru, a 90 o ddarparwyr gwasanaethau o 21 o’r 22 ardal Awdurdod Lleol.

Cefndir a chyd-destun

Mae cefndir a chyd-destun MPA wedi cael eu nodi’n fanwl mewn tri adroddiad blaenorol (Holloway et al., 2019; Buhociu et al., 2021; Holloway et al., 2022), gyda’r diweddaraf ohonynt yn darparu adolygiad llenyddiaeth wedi’i ddiweddaru sy’n adeiladu ar yr adolygiadau a gwblhawyd yn y ddau adroddiad blaenorol. Mae rhagor o ddiweddariadau sy’n cwmpasu’r llenyddiaeth ddiweddaraf ar gael yn adroddiad terfynol y Dadansoddiad o Gyfraniad (Adroddiad Terfynol - Adolygiad o Gyflwyno Isafbris am Alcohol yng Nghymru - Llywodraeth Cymru) a’r adroddiad terfynol ‘Asesu Effaith MPA ar boblogaeth ehangach yfwyr’ (Asesu effaith Isafbris am Alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: Adroddiad Terfynol - Llywodraeth Cymru), a dyma lle byddem yn cyfarwyddo darllenwyr i chwilio am y cyfeiriadau diweddaraf.

Ystyrir mai’r cyntaf o’r tri adroddiad blaenorol (Holloway, et al., 2019) yw’r adroddiad sylfaenol ar gyfer yr astudiaeth hon gan ei fod yn ystyried y potensial ar gyfer newid sylweddau ar ôl cyflwyno MPA yn seiliedig ar safbwyntiau’r un grwpiau rhanddeiliaid wedi’u targedu (h.y. defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau), ac felly mae’n cynnwys deunydd cefndir perthnasol.

Mae lefelau o niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ac yfed peryglus a niweidiol yn dal yn broblem yng Nghymru er bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu amrywiaeth o weithgareddau sy’n cyd-fynd â’i strategaeth camddefnyddio sylweddau bresennol (Livingston et al., 2018). Mae tystiolaeth academaidd ryngwladol gref mai cynyddu pris alcohol yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o reoli lefelau yfed alcohol a lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol (Nelson et al., 2013; Wagenaar et al. 2009).  Fodd bynnag, hyd at yn ddiweddar, nid yw prisio fel elfen allweddol wedi bod yn rhan o ddull Llywodraeth Cymru o leihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol.

Cafodd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ei basio drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru (a elwir bellach yn Senedd Cymru) ym mis Mehefin 2018 a chafodd Gydsyniad Brenhinol, gan ddod yn Ddeddf, ar 9 Awst 2018. Roedd yn cynnwys darpariaethau i gyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru (50c yr uned o alcohol) ac i’w gwneud yn drosedd i alcohol gael ei werthu neu ei gyflenwi o dan y pris hwnnw. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 2 Mawrth 2020.

Ym marn Llywodraeth Cymru, er mai amcan y Bil oedd mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, a dull epidemiolegol effeithiol ar gyfer diogelu iechyd, roedd hefyd yn debygol o dargedu’r yfwyr peryglus a niweidiol hynny sy’n tueddu i yfed mwy o gynnyrch cost isel â chynnwys alcohol uchel. 

Er bod y ddeddfwriaeth newydd yn seiliedig ar ddull poblogaeth gyfan o fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, comisiynwyd yr ymchwil hon yn benodol i ganolbwyntio ar brofiadau ac effaith MPA ar y rheini sy’n cael cymorth ar gyfer problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol. Felly, rhaid ystyried y canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn y cyd-destun hwn.

Canfyddiadau allweddol

Newidiadau i’r defnydd o alcohol a chyffuriau eraill

Nid oes llawer sy’n newydd i’w ychwanegu at y sylfaen dystiolaeth bresennol ynghylch newidiadau i’r defnydd o alcohol a/neu gyffuriau eraill gan yfwyr peryglus, niweidiol a dibynnol o ganlyniad i gyflwyno MPA yng Nghymru. 

Mae canfyddiadau’r astudiaeth hon yn cadarnhau’r hyn sydd eisoes yn hysbys yn y cyswllt hwn (h.y. gostyngiad sylweddol yn argaeledd alcohol rhad (islaw 50c yr uned) ( seidr yn enwedig), gyda rhai yfwyr sy’n sensitif i brisiau yn adrodd am siopa am alcohol rhatach ac yn symud tuag at gynnyrch cryfach, premiwm (yn enwedig fodcas) oherwydd y gwahaniaethau pris lleiaf. Ychydig iawn o dystiolaeth a welsom sy’n awgrymu bod unigolion a oedd yn yfwyr sylfaenol (ac nad oeddent eisoes yn defnyddio cyffuriau) yn debygol o newid i ddechrau defnyddio cyffuriau o ganlyniad i brisiau alcohol uwch. Mae defnyddio polysylweddau yn dal yn gyffredin ymysg y boblogaeth hon o yfwyr, gyda rhywfaint o gynnydd yn y defnydd o gocên crac, cetaminau a bensodiasepinau anghyfreithlon.

Nid yw’n ymddangos bod caledi ariannol, sy’n cael ei waethygu gan yr argyfwng costau byw, yn atal defnydd yng ngharfan yr astudiaeth. Yn hytrach, dywedodd yfwyr dibynnol yn benodol eu bod yn rhoi mwy o flaenoriaeth i alcohol na chostau byw hanfodol, gan arwain at fod yn fwy agored i niwed.

Cafodd MPA ei ddisgrifio gan ddarparwyr gwasanaethau fel rhywbeth sy’n digwydd mewn tuedd gyffredinol o newid cyflwyniadau alcohol i wasanaethau, gyda dim ond elfen fach o gyfraniad yn cael ei briodoli i MPA yn hytrach na ffactorau eraill, mwy sylweddol, fel pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Nododd ymatebwyr fod ystod ehangach o bobl wedi bod yn ceisio triniaeth alcohol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys unigolion hŷn, pobl gyflogedig a defnyddwyr iau. Nodwyd cynnydd hefyd yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer menywod. Mae rhai darparwyr gwasanaeth wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau rheoli diddyfnu alcohol dros gyfnod yr astudiaeth ac maent yn cysylltu hyn, yn rhannol o leiaf, â’r ffaith bod alcohol yn fwy anfforddiadwy.

Ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a dehongliad o MPA, a chefnogaeth i weithredu

Nodwyd bod yr ymatebion cychwynnol i gyflwyno MPA wedi bod yn gymysg ymysg defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau, gyda rhai’n cofio ei gyflwyno ac eraill dim ond yn sylwi ar ei effeithiau’n ddiweddarach. Roedd rhai defnyddwyr gwasanaethau yn cefnogi’r polisi i ddechrau, gan obeithio y byddai’n lleihau’r defnydd o alcohol, ond yn ddiweddarach mynegwyd siom ar ôl profi ei effaith. Dywedodd llawer o ddarparwyr gwasanaethau mai anaml iawn y mae’r polisi’n cael ei drafod erbyn hyn, ac yn aml nid yw staff mwy newydd a defnyddwyr gwasanaethau yn ymwybodol ohono.

Yn gyson â chanfyddiadau’r astudiaeth interim ar gyfer yr ymchwil hon (Perkins et al., 2023), roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr gwasanaeth a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon yn tybio’n anghywir ac yn lleihau eu dealltwriaeth o’r polisi i un o dargedu’r boblogaeth sy’n ddibynnol ar alcohol, yn hytrach na gwahaniaethu rhwng y boblogaeth darged wirioneddol a fwriadwyd (h.y. yfwyr peryglus a niweidiol) a’r rhai yr effeithir fwyaf arnynt (h.y. y boblogaeth yfed sy’n ddibynnol ar yr incwm isaf). Oherwydd y dybiaeth ffug hon, canfuom fod y rhan fwyaf o’r ymatebwyr i’r astudiaeth yn dal i ystyried y polisi hwn fel un sy'n cosbi’r boblogaeth sydd eisoes yn agored i niwed. Yn yr un modd, er bod y rhan fwyaf o ddarparwyr gwasanaethau yn cynnig cefnogaeth i nodau’r MPA, ar yr un pryd roeddent yn mynegi pryderon am ei effeithiau ymarferol. Mae llawer yn credu bod y polisi’n effeithio’n anghymesur ar unigolion tlotach ac yfwyr dibynnol, gan greu baich ariannol heb wasanaethau cymorth digonol.

Mae’r darparwyr gwasanaethau yn yr astudiaeth yn cwestiynu’n eang pam nad yw’n bosibl ail-fuddsoddi refeniw o’r polisi mewn gwasanaethau trin alcohol, yn enwedig dadwenwyno ac adsefydlu, yr ystyrir nad ydynt yn cael eu hariannu’n ddigonol.

Roedd darparwyr gwasanaethau yn dadlau nad yw MPA yn unig yn ddigon i leihau yfed niweidiol. Roeddent yn tynnu sylw at yr angen am strategaethau ychwanegol i fynd i’r afael ag achosion sylfaenol dibyniaeth ar alcohol, fel problemau iechyd meddwl ac arwahanrwydd cymdeithasol.

Effaith MPA

Fel y soniwyd uchod, mae’r rhan fwyaf o safbwyntiau ymatebwyr yr astudiaeth yn awgrymu, er nad dyma’r brif gynulleidfa darged ar gyfer y polisi, mai’r grŵp o yfwyr dibynnol, incwm isel yng Nghymru yw’r rhai y mae’r effaith fwyaf negyddol arnynt. Darparodd ymatebwyr yr astudiaeth adroddiadau uniongyrchol ac ail law o sut mae unigolion o’r fath yn blaenoriaethu alcohol yn gyson dros gostau byw hanfodol, gan arwain at ragor o galedi ariannol, dirywiad mewn iechyd, a mwy o ddibyniaeth ar fanciau bwyd a gwasanaethau cymdeithasol.

Dywedodd defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr y bu rhywfaint o gynnydd mewn gweithgareddau troseddol lefel isel dros y blynyddoedd diwethaf, fel dwyn o siopau, camfanteisio gan gymheiriaid, a bwlio ymosodol, wrth i unigolion chwilio am ffyrdd o ariannu eu defnydd o alcohol. Hefyd, nododd rhai darparwyr gynnydd mewn gwaith rhyw a benthyca i gynnal arferion yfed.

Mae’n bwysig nodi nad oes modd priodoli adroddiadau a chanfyddiadau ymatebwyr ynghylch effeithiau MPA arnynt eu hunain, eu cylchoedd cymdeithasol, a’r gymuned ehangach o bobl sydd â phroblem alcohol (gan gynnwys yr effeithiau a nodir uchod) yn uniongyrchol i’r polisi prisio. Yn hytrach, mae’r MPA yn dal i gael ei ystyried fel rhywbeth sy’n cyfrannu at yr heriau sy’n wynebu’r rheini sy’n rheoli yfed dibynnol, y gallai canlyniadau iechyd, cymdeithasol a chyfreithiol yr adroddwyd amdanynt gael eu deall yn well fel swyddogaeth yfed gormod o alcohol, anfantais economaidd, ac argaeledd/hygyrchedd gwasanaethau cymorth (yng nghanol COVID-19 a’r argyfwng costau byw) sy’n aml yn annigonol i ddiwallu anghenion.

Dywedodd llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau eu bod yn gwario llai ar hanfodion fel bwyd a biliau oherwydd cost uwch alcohol, ynghyd â dibyniaeth gynyddol ar fenthyciadau, banciau bwyd, a gwasanaethau cymorth eraill.

Ffactorau drysu

Mae defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau yn cytuno bod y dirywiad economaidd dros y blynyddoedd diwethaf, y cynnydd mewn costau byw, a lefelau budd-daliadau lles wedi cael effaith sylweddol ar yfed alcohol, bron yn sicr mewn ffordd fwy arwyddocaol nag MPA ar ei ben ei hun. Dywedodd llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau ar incwm isel eu bod yn cael trafferth cydbwyso costau byw hanfodol â chostau alcohol o ganlyniad i’r holl ffactorau hyn.

Tynnodd y ddau grŵp sylw at effaith ddwys pandemig COVID-19 ar yfed alcohol. Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth, arweiniodd mesurau diogelu iechyd y cyhoedd at yfed mwy yn y cartref ac yfed mwy o alcohol oherwydd ynysu a diflastod. Yn yr un modd, adroddodd darparwyr gwasanaethau am gynnydd mewn atgyfeiriadau alcohol a dibyniaeth, gan nodi bod llawer o unigolion wedi parhau i gael trafferth gydag yfed alcohol ar ôl y pandemig.

Soniodd defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr fel ei gilydd am anawsterau i unigolion o ran cael gafael ar wasanaethau triniaeth, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell. Mae gwahaniaethau daearyddol o ran argaeledd gwasanaethau wedi golygu bod unigolion mewn ardaloedd penodol yn wynebu mwy o heriau wrth geisio cymorth, ac mae’r mynediad anghyson hwn at wasanaethau wedi cymhlethu’r gwaith o werthuso effaith MPA.

Yn gyffredinol, roedd darparwyr gwasanaethau yn ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng y cyfraniad mae MPA wedi’i wneud at leihau’r niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol ledled Cymru. Mae hyn oherwydd ei bod yn anodd iddynt wahaniaethu rhwng newidiadau y gellir eu priodoli i bandemig COVID-19 yn ogystal â’r argyfwng costau byw presennol, yn hytrach na chyflwyno MPA yn unig.

Y camau nesaf ar gyfer y polisi MPA

Pwysleisiodd darparwyr gwasanaethau yr angen am adolygiadau rheolaidd o MPA i sicrhau ei fod yn berthnasol ac yn effeithiol. Roeddent yn gefnogol i gynnal neu hyd yn oed godi’r isafbris uned. Fodd bynnag, roedd defnyddwyr gwasanaethau yn gyffredinol yn mynegi mwy o amheuaeth ynghylch effaith y polisi ar leihau yfed niweidiol, gan ystyried ei fod yn cael ei dargedu’n annigonol. Yn gyffredinol, roeddent yn llai argyhoeddedig y dylid parhau â’r polisi, er bod safbwyntiau cymysg ynghylch y pwynt hwn.

Roedd darparwyr gwasanaethau yn cydnabod y risg o gael effaith anghymesur ar unigolion sy’n agored i niwed yn ariannol drwy barhau ag MPA, ac roedd y ddau grŵp yn galw am ymgyrchoedd iechyd cyhoeddus gwell a gwasanaethau cymorth hygyrch fel ffordd o liniaru. Awgrymodd darparwyr gwasanaethau y gallai cymorth wedi’i dargedu helpu’r rheini sy’n cael trafferth gyda dibyniaeth ar alcohol, tra bod defnyddwyr gwasanaethau yn eiriol dros fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau alcohol. Mynegodd defnyddwyr gwasanaethau hefyd rwystredigaeth ynghylch y canfyddiad o ddiffyg tryloywder o ran pwy sydd â rheolaeth dros gynnydd mewn refeniw o MPA.

Cynigiodd rhai darparwyr gwasanaethau reoliadau llymach ar werthu alcohol cryfder uchel, gyda’r nod o leihau hygyrchedd i’r poblogaethau mwyaf agored i niwed. Roedd rhai defnyddwyr gwasanaethau yn cytuno ond yn rhybuddio y gallai cynnydd mewn prisiau wthio unigolion tuag at ffynonellau alcohol nad ydynt yn cael eu rheoleiddio, a allai fod yn niweidiol.

Casgliadau

Yn gyffredinol, prif neges yr astudiaeth hon yw bod y dystiolaeth a arsylwyd yn parhau i gyd-fynd â’r dystiolaeth bresennol a gasglwyd dros y pum mlynedd diwethaf gan ein tîm ymchwil ar ffurf wyth astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru (Ymchwil i isafbris am alcohol (MPA) - Llywodraeth Cymru).

Mae’r dystiolaeth yn cyd-fynd yn fwy eang â chanfyddiadau’r ystod ehangach o astudiaethau gwerthuso ar raddfa fwy a gynhaliwyd neu a gomisiynwyd naill ai gan Public Health Scotland rhwng 2018 a 2023 (Evaluation of minimum unit pricing (MUP) of Alcohol - Public Health Scotland).

Neges allweddol arall y mae angen tynnu sylw ati o ganlyniad i’r astudiaeth hon yw’r camddealltwriaeth a’r camddehongli parhaus ynghylch y polisi MPA ymysg defnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau. Felly, mae angen i ni ailadrodd y neges allweddol o’r adroddiad interim (Perkins et al., 2023), bod y camddealltwriaeth a’r camddehongli hwn yn ymwneud â bwriad y polisi ac mae’n dangos bod rhagor o waith i Lywodraeth Cymru ei wneud o hyd i addysgu’r sector a’r gweithlu triniaethau alcohol a chyffuriau. 

Mae archwilio MPA gyda’r poblogaethau hyn o yfwyr a darparwyr wedi tynnu sylw at y ffaith bod y pwysau ariannol ar y rheini sy’n ceisio cynnal dibyniaeth wedi cynyddu’n sylweddol drwy ddileu cynhyrchion alcohol rhad yn bwrpasol (islaw 50c yr uned). Canlyniad hyn yw polisi sy’n aml yn cael ei gamddeall fel targedu yfwyr agored i niwed o’r fath ar incwm isel yn hytrach na’u gweld fel grŵp yr effeithir arnynt yn andwyol o ganlyniad i fesur poblogaeth gyffredinol ehangach. Mae hyn wedi arwain at agwedd negyddol tuag at MPA ymysg darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau, a chanfyddiad o bolisi sy’n methu â chefnogi yfwyr dibynnol.

Soniodd darparwyr gwasanaethau nad yw MPA bellach yn bwnc sgwrsio rheolaidd ymysg staff na defnyddwyr gwasanaeth, a allai leihau ei effaith a’i effeithiolrwydd yn y tymor hir. Yn yr un modd, nododd defnyddwyr gwasanaeth ddiffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth barhaus, gyda llawer yn ymddangos fel eu bod yn anghofio am fodolaeth y polisi. Mae hyn yn awgrymu nad yw MPA wedi cael ei integreiddio’n llawn yn y drafodaeth gyhoeddus ehangach ar yfed alcohol ac iechyd y cyhoedd gyda’r grwpiau hyn.

Mae darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau wedi nodi newid demograffig ehangach ymysg y rheini sy’n wynebu problemau sy’n ymwneud ag alcohol ar ôl rhoi’r MPA ar waith, er mai dim ond elfen fach o gyfraniad oedd wedi cael ei briodoli i MPA yn hytrach na ffactorau eraill, mwy sylweddol fel pandemig COVID-19 a’r argyfwng costau byw. Dros y pedair blynedd diwethaf gwelwyd cynnydd yn nifer yr oedolion hŷn, yr unigolion cyflogedig a’r bobl iau sy’n cydnabod effaith eu defnydd o alcohol a chyffuriau. Mae’n werth nodi bod cynnydd wedi’i gofnodi yn nifer y menywod sy’n chwilio am gymorth.

Mae darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth wedi gweld rhai newidiadau tuag at brynu diodydd alcoholaidd cryfach, fel gwirodydd a gwin, oherwydd y cyfyngiadau prisio a osodir gan MPA. Mae’r newid hwn yn cael ei weld fel ffordd i ddefnyddwyr gwasanaeth yfed mwy o alcohol er gwaethaf prisiau uwch.

Ers rhoi’r MPA ar waith, mae llawer o ddryswch wedi bod ynghylch anawsterau o ran cynnal fforddiadwyedd rhwng MPA, COVID-19, newidiadau i’r system budd-daliadau, a’r argyfwng costau byw. Ceir cyd-ddealltwriaeth ymysg darparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth bod caledi ariannol bron bob amser yn arwain unigolion i flaenoriaethu alcohol dros gostau byw hanfodol. I’r rhan fwyaf o yfwyr, nid yw hyn yn cynnwys gweithgarwch torri’r gyfraith (e.e. dwyn o siopau i dalu am brisiau alcohol uwch) neu mewn perthynas â newid i gynnyrch neu sylweddau rhatach o ganlyniad i brisiau alcohol uwch (e.e. newid i ddefnyddio alcohol anghyfreithlon, alcohol wedi’i ddwyn, neu alcohol nad yw’n ddiod, neu sylweddau eraill).

Nododd y ddau grŵp fod nifer fach o yfwyr wedi troi at brynu dros y ffin i gael alcohol rhatach, er bod hyn yn cael ei nodi’n gyffredinol fel rhywbeth ar gyfer y rheini sydd â’r modd (incwm) a’r dull (trafnidiaeth) o ganlyniad i fod fewn cyrraedd hawdd i’r ffin â Lloegr.

Cafwyd rhai adroddiadau am gynnydd yn y defnydd o gyffuriau lluosog a nodwyd gan ddarparwyr gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaeth, gyda rhai unigolion yn cynyddu eu defnydd o gyffuriau fel crac cocên a bensodiasepin anghyfreithlon, naill ai fel dewis arall rhatach neu fel ychwanegiad at alcohol.

Roedd stigma cymdeithasol a mynediad cyfyngedig at wasanaethau yn rhwystrau sylweddol a amlygwyd gan y ddau grŵp. Roedd defnyddwyr gwasanaeth yn aml yn teimlo eu bod yn cael eu barnu neu eu stigmateiddio wrth geisio cymorth, a oedd yn cael ei waethygu gan brinder darpariaeth gwasanaethau hygyrch, yn enwedig mewn ardaloedd anghysbell.

Er gwaethaf yr amrywiaeth eang o agweddau a theimladau negyddol a fynegwyd tuag at y polisi, mae’n bwysig nodi bod y rhan fwyaf o’r unigolion a gyfwelwyd ar gyfer yr astudiaeth yn credu yn y pen draw y dylid cadw’r ddeddfwriaeth MPA. Y prif reswm dros hyn yw’r awydd i beidio â dychwelyd i’r cyfnod cyn-MPA lle’r oedd alcohol rhad iawn (yn enwedig seidr gwyn cryf) ar gael yn rhwydd ac yn cael ei yfed gan y rheini sy’n cael problemau gydag alcohol. Yr amod a fynegwyd gan lawer oedd, os bydd MPA yn cael ei gadw, mae angen rhoi blaenoriaeth i ddarparu opsiynau triniaeth a chymorth ychwanegol i liniaru’r effaith niweidiol ar yfwyr dibynnol ar incwm isel.

Argymhellion

Argymhelliad 1

Mae’n amlwg bod angen gwella’r ymatebion triniaeth ledled Cymru ar gyfer yfwyr dibynnol er mwyn sicrhau bod y math iawn o driniaeth ar gael sy’n ddigonol ac yn hygyrch o ran argaeledd ar draws y wlad. Byddem yn tynnu sylw’n benodol at yr angen am fwy o ddarpariaeth dadwenwyno i gleifion mewnol, ynghyd â ffocws ar lwybrau cyflymach i raglenni dadwenwyno o’r fath. Mae angen i hyn fynd law yn llaw â chymorth ar ôl dadwenwyno, yn enwedig i’r rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain. Byddem hefyd yn argymell rhoi sylw arbennig i anghenion yfwyr dibynnol ar incwm isel, a bod angen camau lliniaru eraill y tu hwnt i ddarparu rhaglenni dadwenwyno i gleifion mewnol, fel drwy ddatblygu rhaglenni alcohol a reolir.

Argymhelliad 2

Dylid darparu rhaglen benodol o gymorth i asiantaethau triniaeth i ganolbwyntio eu sylw a’u harbenigedd wrth ymgysylltu’n weithredol ag unigolion ynghylch rheoli eu harian a lliniaru tlodi wrth gael triniaeth. Y flaenoriaeth ddylai fod i asiantaethau triniaeth fod yn rhagweithiol wrth ymgysylltu â sgyrsiau am gyllid yn hytrach na dim ond cyfeirio at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth, banciau bwyd, ac ati.

Argymhelliad 3

Os adnewyddir yr MPA, yna mae angen ailedrych ar ymgyrch o hyrwyddo ymysg darparwyr ac o ran anghenion yfwyr. Dylai hyn gynnwys negeseuon penodol am (1) y gynulleidfa darged ar gyfer MPA, a (2) yr effaith ar yfwyr dibynnol ar incwm isel.

Cyfeiriadau

Buhociu, M., Holloway, K., May, T., Livingston, W., & Perkins, A. (2021). Asesu Effaith Isafbris am Alcohol ar Boblogaeth Ehangach o Yfwyr -Gwaelodlin. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Holloway, K., May, T., Buhociu, M., Livingston, W., Perkins, A., & Madoc-Jones, L. (2019). Ymchwil i'r potensial ar gyfer newid sylweddau ar ôl cyflwyno isafswm prisio ar gyfer alcohol yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Holloway, K., Buhociu, M., Murray, S., Livingston, W. & Perkins, A. (2022). Asesu Effaith COVID-19 ac Effaith Gynnar Isafbris Alcohol ar y Boblogaeth Ehangach o Yfwyr. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Holloway, K., Buhociu, M., Murray, S., Livingston, W. & Perkins, A. (2024). Asesu effaith Isafbris am Alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: Adroddiad Terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru

Livingston, W., Perkins, A., McCarthy, T., Madoc-Jones, I., Wighton, S., Wilson, F., & Nicholas, D. (2018). Adolygiad o Gweithio Gyda’n Gilydd i Leihau Niwed. Adroddiad Terfynol. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Livingston, W., Perkins, A., Holloway, K., Murray, S., Buhociu, M., & Madoc-Jones, I. (2024). Adroddiad Terfynol - Adolygiad o Gyflwyno Isafbris am Alcohol yng Nghymru. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Nelson TF, Xuan Z, Babor TF, Brewer RD, Chaloupka FJ, Gruenewald PJ, Holder H, Klitzner M, Mosher JF, Ramirez RL, Reynolds R, Toomey TL, Churchill V and Naimi TS. (2013). Efficacy and the strength of evidence of U.S. alcohol control policies. American Journal of Preventive Medicine, 45 (1):19–28.

Perkins, A., Livingston, L., Cairns, B., Dumbrell, J., Holloway, K., Buhociu, M., Murray, S., & Madoc-Jones, I. (2023). Asesu Profiadau ac Effaith Isafbris Alcohol ar Ddefnyddwyr gwasanaethau a Darparwyr gwasanaethau: canfyddiadau interim. Caerdydd: Llywodraeth Cymru.

Wagenaar, A. C., Salois, M. J., & Komro, K. A. (2009). Effects of beverage alcohol price and tax levels on drinking: a meta-analysis of 1003 estimates from 112 studies. Addiction, 104(2), 179-190.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: Andy Perkins, Wulf Livingston, Josh Dumbrell, Sophie McCluskey, Sam Steele, Katy Holloway, Marian Buhociu, Shannon Murray, and Iolo Madoc-Jones (2024)

Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru, Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ebost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 5/2025
ISBN digidol 978-1-83625-865-0

Image
GSR logo