Mae'r adroddiad yn cynnig damcaniaethau newid ar gyfer pob rhan o'r Ddeddf, ac yn gwneud argymhellion ar gwmpas, dulliau a mesurau ar gyfer gwerthuso’r Ddeddf.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Daeth Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 i rym yn llawn ym mis Ebrill 2023. Cynhaliwyd asesiad gwerthusadwyedd i ddatblygu argymhellion ar raglen briodol i werthuso gweithrediad y Ddeddf a’i heffaith. Roedd yn ystyried pob un o'r pedwar prif ddarpariaethau yn y Ddeddf: y Ddyletswydd Ansawdd, y Ddyletswydd Gonestrwydd, Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r gofyniad i ymddiriedolaethau'r GIG gael Is-gadeirydd statudol.
Mae'r adroddiad yn cyflwyno damcaniaeth newid a tabl ar fesurau canlyniadau arfaethedig ar gyfer pob rhan o'r Ddeddf.
Mae'r adroddiad yn argymell dull cymysg o ddadansoddi cyfraniadau er mwyn gwerthuso’r Ddeddf. Byddai'r dull hwn yn ceisio nodi i ba raddau y mae'r Ddeddf wedi effeithio ar y canlyniadau a arsylwyd drwy brofi’r damcaniaethau newid yn erbyn tystiolaeth newydd a phresennol, gan gydnabod y cyd-destun cymhleth y mae'n cael ei gweithredu ynddo a chydnabod ffactorau dylanwadol eraill. Mae hyn yn debygol o gynnwys llinynnau gwerthuso proses ac effaith.
Mae'r adroddiad yn nodi cymysgedd o ffynonellau data presennol a chasglu data newydd y gellid eu defnyddio i lywio'r gwerthusiad.
Mae pob rhan o'r Ddeddf yn wahanol, gyda'i theori newid ei hun, felly mae'r adroddiad yn argymell un gwerthusiad trosfwaol gydag elfennau ar wahân ar gyfer pob rhan.
Adroddiadau
![](/sites/default/files/styles/file_thumb/public/statistics-and-research-thumbs/Asesu_Gwerthusadwyedd_Deddf_Iechyd_a_Gofal_Cymdeithasol__Ansawdd_ac_Ymgysylltu___Cymru__2020.jpg?itok=UtdfW4FE)
Asesu Gwerthusadwyedd Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Eleri Jones
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.