Asesu effaith isafbris am alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: gwaelodlin (crynodeb)
Ymchwil i effaith cyflwyno isafbris am alcohol ar yfwyr cymedrol, peryglus a niweidiol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion a methodoleg yr ymchwil
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau ton gyntaf astudiaeth hydredol sy'n asesu effaith Isabris am Alcohol (MPA) ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Glyndŵr a Figure 8 Consultancy.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar ddata a gasglwyd cyn cyflwyno MPA (Mawrth 2020). Prif nod yr astudiaeth oedd archwilio effaith bosibl y ddeddfwriaeth newydd ar yfwyr yng Nghymru a chasglu gwybodaeth sylfaenol y gellir ei defnyddio i fonitro effaith MPA dros gyfnod pum mlynedd yr astudiaeth.
Casglwyd data sylfaenol ar ystod o faterion gan ddefnyddio arolwg holiadur ar-lein a chyfweliadau manwl. Ymhlith y themâu allweddol yr ymchwiliwyd iddynt yn yr astudiaeth mae:
- ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o MPA ac agweddau tuag ato
- paratoi a chynllunio ar gyfer cyflwyno MPA
- effaith bosibl MPA ar batrymau yfed a defnyddio sylweddau
- goblygiadau cymdeithasol ac iechyd posibl
- pharatoi a chefnogaeth ar gyfer goblygiadau posibl MPA
Cwblhawyd holiaduron arolwg ar-lein gan 179 o yfwyr a gafodd eu recriwtio trwy hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a chyhoeddiadau ar ddwy wefan fewnrwyd prifysgol yng Nghymru. Roedd cymhelliant i gymryd rhan yn yr arolwg ar ffurf cais am ddim i raffl i ennill talebau siopa gwerth £50.
Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 41 o yfwyr wedi'u recriwtio trwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, dwy brifysgol, mudiadau trydydd sector a'r arolwg ar-lein. Rhoddwyd taleb siopa gwerth £10 i'r holl gyfweleion am gymryd rhan a chytunodd pawb i gymryd rhan mewn cyfweliadau dilynol dros gyfnod pum mlynedd yr astudiaeth hydredol.
Canolbwyntiodd yr ymchwil ar yfwyr cyfredol 18 oed neu'n hŷn a oedd yn byw yng Nghymru. Roedd sampl y cyfweliadau hydredol a sampl yr arolwg trawstoriadol yn cynnwys yfwyr o bob rhan o Gymru a oedd yn amrywio o ran eu nodweddion cymdeithasol-ddemograffig, patrymau yfed, ansawdd bywyd canfyddiedig, defnydd o gyffuriau anghyfreithlon, incwm cartrefi a gwariant. Fodd bynnag, nid oedd grwpiau lleiafrifoedd ethnig wedi'u cynrychioli'n dda yn y naill sampl na'r llall, tra bod menywod a myfyrwyr prifysgol wedi'u gorgynrychioli yn sampl yr arolwg.
Cefndir a chyd-destun
Mae MPA yn golygu gosod isafbris na ellir gwerthu na chyflenwi alcohol yn gyfreithiol yn is na'r pris hwnnw. Mae polisïau isafbris am alcohol o ryw fath neu'i gilydd ar waith mewn rhai gwledydd ledled y byd, gan gynnwys Canada, Awstralia, yr Alban a Rwsia. Mae ymchwil o'r gwledydd hyn wedi darparu tystiolaeth gref bod cynyddu pris alcohol yn ffordd effeithiol o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol (Nelson et al, 2013; Wagenaar, 2009).
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir ers amser bod yn rhaid i ymyrraeth brisio fod yn rhan allweddol o unrhyw strategaeth sy'n ceisio lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. Yn 2014, comisiynodd Llywodraeth Cymru eu Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau a grŵp o ymchwilwyr o Grŵp Ymchwil Alcohol Prifysgol Sheffield i archwilio effaith bosibl ystod o bolisïau prisio alcohol fel dull o leihau niwed cysylltiedig ag alcohol. Daeth y ddau grŵp i'r casgliad y byddai cyflwyno polisi isafbrisio unedau ar gyfer alcohol yng Nghymru yn fecanwaith effeithiol i leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Yn dilyn hynny, lluniwyd bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) ac, ar ôl cyfnod o ymgynghori, cyflwynwyd y Bil i'r Cynulliad Cenedlaethol (a elwir bellach yn Senedd Cymru). Er bod cyflwyno MPA yn arwydd o ymrwymiad cadarn i wella ac amddiffyn iechyd poblogaeth Cymru gyfan, ei brif nod oedd amddiffyn iechyd yfwyr niweidiol a pheryglus a oedd yn yfed symiau mwy o gynnyrch alcohol o gost isel ond â lefel uchel o alcohol.
Ar ôl pasio trwy dri cham o drafod, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y Bil ar 19 Mehefin 2018 a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol ar 9 Awst 2018. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ledled Cymru ar 2 Mawrth 2020. Ar adeg ysgrifennu (Ionawr 2021), yr Alban a Chymru yw'r unig ddwy wlad yn y byd sydd â pholisïau cenedlaethol o isafbrisio unedau sy'n berthnasol i bob math o alcohol.
Yn unol â'r Ddeddf, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad o weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth dros gyfnod o bum mlynedd. Mae'r adroddiad hwn yn rhan o'r gwerthusiad hwnnw ac mae'n seiliedig ar ddata a gasglwyd yn ystod y misoedd cyn cyflwyno MPA pan oedd pandemig COVID-19 yn dechrau dod i'r amlwg yn y DU. Fodd bynnag, nid oedd unrhyw rai o fesurau sylweddol y cyfnod cloi wedi cael eu cyflwyno ar yr adeg honno sy'n golygu bod y data a gyflwynwyd yn adlewyrchu patrymau yfed a gwariant cyn-COVID a chyn-MPA.
Prif ganfyddiadau
Ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac agweddau tuag at MPA
Roedd mwyafrif y cyfweleion a thua hanner ymatebwyr yr arolwg yn gefnogol i ddeddfwriaeth MPA, yn bennaf oherwydd ei fuddion cymdeithasol ac iechyd disgwyliedig. Tynnodd sawl ymatebydd sylw penodol at ei botensial i leihau goryfed mewn pyliau fel effaith bosibl i'w chroesawu.
Roedd cefnogaeth i'r ddeddfwriaeth yn llai cyffredin ymhlith yfwyr dibynnol, o risg uwch, gyda llawer ohonynt yn teimlo y byddai'r ddeddfwriaeth yn effeithio'n anghymesur arnynt. Roedd rhai o'r yfwyr mwy cymedrol, risg is hefyd yn cydnabod yr annhegwch a'r effaith negyddol bosibl ar boblogaethau sy'n agored i niwed ac yn mynegi agweddau llai cadarnhaol tuag at y ddeddfwriaeth o ganlyniad.
Roedd barn negyddol am MPA ymysg yfwyr hefyd yn gysylltiedig â'r cynnydd posibl mewn troseddau a allai ddigwydd os na all yfwyr fforddio talu am eu halcohol mwyach.
Mae'r patrwm eang o ganfyddiadau mewn perthynas ag ymwybyddiaeth, dealltwriaeth ac agweddau yn adlewyrchu'r rhai a adroddwyd gan Holloway et al. (2019). Yn wir, mynegodd defnyddwyr a darparwyr gwasanaeth bryderon tebyg i'r boblogaeth ehangach o yfwyr ynghylch effaith bosibl MPA ar grwpiau agored i niwed. Nid oedd lefelau ymwybyddiaeth o MPA yn uwch chwaith ymhlith y rhai a gafodd eu cyfweld ychydig cyn i'r ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno nag ymhlith y rhai a gafodd eu cyfweld gan Holloway et al. (2019) dros flwyddyn cyn hynny.
Paratoi a chynllunio ar gyfer MPA
Ychydig o yfwyr oedd yn bwriadu cymryd unrhyw gamau i baratoi ar gyfer cyflwyno MPA. I lawer, nid oedd amser i wneud unrhyw beth oherwydd eu bod newydd ddysgu am neu ddeall beth fyddai'r ddeddfwriaeth yn ei olygu iddyn nhw. I eraill, ni chynlluniwyd unrhyw gamau oherwydd nad oeddent yn yfed digon o alcohol i'r cynnydd yn y pris effeithio arnynt neu oherwydd eu bod yn gallu fforddio'r cynnydd mewn prisiau. Roedd rhai yfwyr eisoes yn gwario mwy na 50c yr uned ar eu diod o ddewis gan olygu na fyddai angen gweithredu.
Pan gynlluniwyd camau paratoi roedd hwn fel arfer yn ymateb tymor byr a fyddai’n golygu pentyrru alcohol ar brisiau cyn cyflwyno. Roedd rhai yfwyr dibynnol yn ofni'r datrysiad penodol hwn gan eu bod yn rhagweld cael eu temtio i oryfed y cyflenwadau ychwanegol mewn pyliau.
Anaml y soniodd yfwyr am atebion tymor hwy, er y nododd un cyfwelai ei bod yn bwriadu symud i Loegr i osgoi MPA a pharhau i yfed am brisiau isel.
Anaml y byddai cyfweleion neu ymatebwyr yr arolwg yn sôn am atebion tymor hwy, a allai fod yn iachach megis torri i lawr neu roi'r gorau iddi. Roedd rhywfaint o awgrym, fodd bynnag, y gallai MPA sbarduno newid cadarnhaol ymhlith yfwyr a oedd eisoes yn ystyried rhoi’r gorau i yfed.
Effaith bosibl ar batrymau yfed a defnyddio sylweddau
Ystyriwyd bod newid sylweddau yn ganlyniad annhebygol o MPA ymhlith yr yfwyr yn yr astudiaeth hon. Yn unol â'r canfyddiadau a adroddwyd gan Holloway et al. (2019), credwyd mai dim ond posibilrwydd i'r rheini â hanes o ddefnyddio'r sylweddau hyn oedd newid i gyffuriau anghyfreithlon (canabis fel arfer a chyffuriau caletach yn anaml).
Roedd y rhan fwyaf o yfwyr o'r farn ei bod yn annhebygol y byddai eu patrymau yfed yn newid o ganlyniad i MPA. I yfwyr dibynnol, ysgogwyd y diffyg newid gan yr angen corfforol i ddal ati i yfed er mwyn osgoi rhoi'r gorau, cael ffitiau ac o bosibl marwolaeth. I yfwyr eraill roedd hyn naill ai oherwydd eu bod yn gallu fforddio'r costau ychwanegol neu am nad oeddent yn yfed digon i'r cynnydd yn y pris effeithio arnynt.
Er bod y rhagfynegiadau yn negyddol ar y cyfan yn yr ystyr o ragolygon cyfyngedig ar gyfer newid, roedd nifer fach o yfwyr (gan gynnwys yfwyr dibynnol) o'r farn y gallai MPA sbarduno gostyngiad yn eu hyfed.
Goblygiadau cymdeithasol ac iechyd posibl
Roedd consensws eang ymhlith ymatebwyr yr arolwg a'r cyfweleion mai yfwyr niweidiol neu ddibynnol oedd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan MPA o ran problemau iechyd a chymdeithasol.
Un pryder penodol oedd y potensial am gynnydd mewn troseddau meddiannu ymhlith yr yfwyr hynny nad oeddent yn gallu fforddio talu am eu cyflenwadau arferol. Nodwyd hefyd y potensial i ail-gyllidebu cyllid cartref i ryddhau arian i dalu am alcohol fel dull o gynhyrchu arian ar gyfer alcohol. Roedd hwn yn destun pryder o ystyried y goblygiadau posibl i blant bregus. Mewn achosion eithafol, rhagwelwyd y posibilrwydd o droi allan a digartrefedd ymhlith yfwyr a fyddai’n gorfod dewis prynu alcohol yn hytrach na thalu rhent.
Cydnabuwyd yr effaith bosibl ar berthnasoedd hefyd gan yfwyr, gyda rhai ohonynt yn rhagweld y byddai dadleuon a chwalfa perthnasoedd yn sgil y straen cynyddol a ddaw gyda MPA, yn enwedig ar yfwyr dibynnol. Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd y potensial i MPA ddod â phobl ynghyd a gwneud yfwyr yn ‘fwy presennol’.
Ar y cyfan, roedd y goblygiadau posibl ar iechyd yn cael eu hystyried yn negyddol i raddau helaeth. Roedd sylwadau ar y mater pwysig hwn, unwaith eto, yn ymwneud yn bennaf ag yfwyr dibynnol y rhagwelwyd y byddai'n profi niwed corfforol naill ai o ganlyniad i roi'r gorau i alcohol neu o ddefnyddio alcohol ffug fel dewis amgen rhatach.
Paratoi a chefnogaeth
Ymhlith y cyfweleion, y consensws barn oedd bod angen mwy o gefnogaeth (a chyllid) i helpu yfwyr, yn enwedig yfwyr dibynnol, i ymdopi â'r cynnydd mewn prisiau.
O bwysigrwydd penodol oedd yr angen i godi ymwybyddiaeth o'r ddeddfwriaeth sydd ar ddod i ddarparu eglurder ynghylch yr hyn y byddai'n ei olygu yn ymarferol a gwybodaeth ehangach ynghylch pryd y byddai'n cael ei chyflwyno.
O ran cefnogaeth, nododd y cyfweleion nifer o fentrau penodol yr oeddent yn credu a allai fod o gymorth gan gynnwys yr angen i leihau amseroedd aros am driniaeth, yr angen am fwy o staff, gwelliannau mewn cyfeirio a chefnogaeth gyda chyllidebu.
Fodd bynnag, roedd rhai yfwyr yn cydnabod bod cefnogaeth eisoes yn bodoli mewn rhai ardaloedd o Gymru ac mai'r prif fater oedd cael yfwyr dibynnol i gyrchu'r gefnogaeth honno.
Casgliadau
Mae'r ymchwil yn wahanol i ymchwil flaenorol yn ei ffocws ar yfwyr nad ydynt ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn triniaeth ar gyfer problemau cysylltiedig ag alcohol ac yn ei agosrwydd mewn amser i gyflwyno MPA. Er gwaethaf y gwahaniaethau hyn, mae llawer o debygrwydd wedi dod i'r amlwg o ran ymwybyddiaeth o MPA a'i agweddau tuag ato a'i effaith bosibl ar batrymau yfed ac ymddygiadau cysylltiedig. Bydd tonnau dilynol yr ymchwil ar ôl cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ein galluogi i archwilio newidiadau mewn patrymau yfed a gweld a yw rhagfynegiadau yfwyr o ymddygiadau yn cael eu cadarnhau gan ddigwyddiadau.
Ar y cyfan, roedd yfwyr yn rhagweld na fyddai MPA yn cael fawr o effaith ar eu hymddygiad yfed. Rhannwyd y farn hon gan bob math o yfwr gan gynnwys y rhai y mae'r ddeddfwriaeth yn eu targedu'n benodol (h.y. yfwyr peryglus a niweidiol). Fodd bynnag, roedd cytundeb cyffredinol ymhlith cyfranogwyr yr ymchwil y byddai MPA yn cael effeithiau anghymesur ar un math penodol o yfwr, sef y rhai a oedd yn ddibynnol ar alcohol rhad, cryf. Cynigiwyd yr angen i roi cymorth ychwanegol ar waith i helpu'r yfwyr hyn i ymdopi â'r canlyniadau posibl gan nifer o'r ymatebwyr.
Mynegwyd barn negyddol am y polisi newydd gan rai yfwyr gan gynnwys beirniadaeth o'r llywodraeth am ganolbwyntio'n ormodol ar faterion ariannol ac am beidio â chymryd camau mwy radical i leihau niwed.
Fodd bynnag, cydnabuwyd hefyd bod awydd i wella iechyd y boblogaeth, yn enwedig yfwyr peryglus a niweidiol, yn sail i MPA. Crynhodd un ymatebydd i'r arolwg hyn yn dda gan gydnabod cymhlethdod y mater a datgan ‘weithiau mae'n rhaid i lywodraeth gyfrifol weithredu i orfodi newid yn ei chymdeithas, oherwydd ni fydd newid, waeth pa mor amhoblogaidd, yn digwydd ar ei phen ei hun.'
Camau nesaf
Yr adroddiad hwn yw'r cyntaf o dri adroddiad sydd ar y gweill ar gyfer asesu effaith MPA ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru. Bydd yr ail adroddiad yn canolbwyntio ar ddata a gasglwyd 18 mis ar ôl gweithredu'r ddeddfwriaeth a bydd y trydydd adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau yn seiliedig ar ddata a gasglwyd 42 mis ar ôl ei chyflwyno. Bydd y ddau adroddiad dilynol hyn yn tynnu ar y data a gyflwynir yn yr adroddiad hwn er mwyn asesu a monitro newidiadau mewn patrymau yfed alcohol ac ymddygiadau cysylltiedig, gan gynnwys patrymau prynu alcohol, dros amser.
Yn ail a thrydedd don yr ymchwil, y bwriad yw cynnal cyfweliadau ailadroddus gyda sampl ein cyfweliad (gan ddisodli unrhyw bobl sy'n gadael gyda mathau tebyg o yfwr) ac ailadrodd yr arolwg trawstoriadol gydag yfwyr ledled Cymru.
Bydd cynnal cyfweliadau ailadroddus gyda'r un sampl o yfwyr yn ein galluogi i fonitro effaith uniongyrchol MPA ar fywydau yfwyr. Mae'r elfen hon o'r gwerthusiad yn hanfodol ar gyfer asesu effeithiolrwydd MPA wrth gyflawni ei nodau. Mae cynnal arolygon trawstoriadol ailadroddus yn llai defnyddiol fel offeryn ar gyfer mesur effeithiolrwydd oherwydd bod pob sampl yn un ffres a allai gynnwys ymatebwyr newydd. Fodd bynnag, fel y noda Bryman (2016), mae dyluniadau trawstoriadol serch hynny yn ddefnyddiol, yn enwedig yn eu gallu i olrhain newidiadau ehangach mewn ymddygiad dros amser ymhlith samplau mwy.
Wrth gynllunio ymlaen llaw ar gyfer tonnau 2 a 3 y gwerthusiad, er mwyn mynd i’r afael â gorgynrychiolaeth rhai is-grwpiau yn sampl yr arolwg, rydym yn cynnig monitro nodweddion ymatebwyr yr arolwg yn ofalus a defnyddio ymgyrch hyblyg ond wedi’i thargedu i ennyn diddordeb ac annog cyfranogiad ymhlith unrhyw is-grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Y nod fydd cael ymatebion gan sampl mor gynrychioliadol â phosibl.
Yn ail, lle mae maint samplau yn caniatáu, byddwn yn archwilio amrywiadau rhwng gwahanol grwpiau (e.e. dynion o gymharu â menywod; myfyrwyr o gymharu â phobl mewn cyflogaeth; yfwyr risg is o gymharu ag yfwyr peryglus a niweidiol) o ran newidiadau mewn patrymau yfed ac ymddygiadau cysylltiedig ar ôl cyflwyno MPA. Bydd rhannu'r dadansoddiadau yn y modd hwn yn ein galluogi i reoli or-gynrychiolaeth unrhyw is-grŵp penodol.
Wrth symud ymlaen, mae'n bwysig nodi, o fewn wythnos i gyflwyno MPA (2 Mawrth 2020), bod Cymru, fel llawer o wledydd eraill ledled y byd, wedi gweld patrymau ymddygiad newidiol mewn siopa (panig) a'r defnydd o alcohol, ac o fewn tair wythnos roedd yn destun cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol llym. Tra bod adeiladau trwyddedig ‘ar y safle’ ar gau, rhoddwyd caniatâd i adeiladau â thrwyddedau ‘i ffwrdd o'r safle’ (h.y. siopau) barhau i weithredu fel ‘busnesau hanfodol’ (Reynolds a Wilkinson, 2020). Yn y cyd-destun hwn, mae'n bwysig cydnabod ei bod yn debygol o gymryd peth amser i sefydlu a yw'r rhagfynegiadau yn ymwneud ag ymddygiad mewn ymateb i MPA a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn cael eu cadarnhau gan ddigwyddiadau.
Mae hefyd yn bwysig cydnabod y bydd angen i unrhyw asesiad o effaith MPA ar batrymau yfed alcohol yng Nghymru ystyried effeithiau dryslyd a chystadleuol ymatebion yfwyr i bandemig byd-eang COVID-19. I'r perwyl hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu'r tîm gwerthuso i gynnal ton ychwanegol o gyfweliadau ôl-gyflwyno yn hydref 2020. Bydd y canlyniadau'n taflu goleuni ar batrymau yfed ar ôl cyflwyno MPA ac yn helpu i ddatgysylltu effeithiau MPA oddi wrth effeithiau COVID-19 ac unrhyw ffactorau cysylltiedig eraill.
Manylion cyswllt
Awduron: Marian Buhociu and Katy Holloway, Prifysgol De Cymru; Tom May, Coleg Prifysgol Llundain; Wulf Livingston, Prifysgol Glyndŵr (Wrecsam);
Andy Perkins, Figure 8 Consultancy Services Ltd (Dundee)
Nid barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid yw'r farn hon o reidrwydd yn cyd-fynd â barn Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Janine Hale
ymchwil.iechydagwasanaethaucymdeithasol@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 45/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-615-4