Asesu effaith isafbris am alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: crynodeb
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau o'r bedwaredd don a'r olaf o astudiaeth hydredol yn asesu effaith Isafbris ar gyfer Alcohol (MPA) ar boblogaeth ehangach yfwyr Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Wrecsam a Ffigur 8 Consultancy.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Amcanion a methodoleg yr ymchwil
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau pedwaredd don, a’r olaf, o astudiaeth hydredol sy'n asesu effaith Isafbris am Alcohol (IA) ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Wrecsam a Figure 8 Consultancy.
Mae’r adroddiad terfynol hwn yn seiliedig ar ddata a gasglwyd 42 mis ar ôl cyflwyno'r IA gan ddefnyddio dau ddull ymchwil: (1) arolwg holiadur ar-lein trawstoriadol, dienw, o yfwyr sy’n oedolion sy’n byw yng Nghymru; a (2) chyfweliadau ansoddol ag yfwyr sy'n oedolion sy'n byw yng Nghymru.
Roedd y themâu allweddol yr ymchwiliwyd iddynt yn yr arolwg a'r cyfweliadau yn cynnwys: ymwybyddiaeth o IA; newidiadau mewn patrymau yfed ac ymddygiadau cysylltiedig; a safbwyntiau ar ffyrdd eraill o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. O bwysigrwydd arbennig ar gyfer y don olaf hon o gasglu data oedd cwestiynau a oedd yn archwilio agweddau tuag at IA, safbwyntiau ar ei effeithiolrwydd, a syniadau am ei ddyfodol yng Nghymru.
Cwblhaodd cant ac wyth deg un o yfwyr yr arolwg holiadur trawstoriadol ôl-weithredu, sy’n debyg i’r nifer a'i gwblhaodd yn y cyfweliad dilynol ar ôl dwy flynedd (n=186). Recriwtiwyd ymatebwyr yr arolwg trwy ein rhwydweithiau o gysylltiadau a thrwy rannu dolen i'r arolwg ar gyfryngau cymdeithasol.
Cynhaliwyd cyfweliadau gyda 34 o bobl a oedd wedi yfed alcohol yn y cyfnod ers cyflwyno IA. Recriwtiwyd cyfweleion trwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, yr arolwg trawstoriadol, a thrwy fudiad trydydd sector sy’n darparu cymorth tai yn Ne Cymru. Cyfwelwyd pymtheg o bobl bedair gwaith (h.y. ar y gwaelodlin, 9, 24 a 42 mis ar ôl cyflwyno'r IA).
Canolbwyntiodd yr ymchwil ar yfwyr cyfredol 18 oed neu'n hŷn a oedd yn byw yng Nghymru. Roedd y sampl cyfweliadau hydredol a’r sampl arolwg trawstoriadol yn cynnwys yfwyr o wahanol rannau o Gymru a oedd yn amrywio o ran eu nodweddion demograffig cymdeithasol a'u patrymau yfed.
Roedd rhai grwpiau demograffig wedi’u cynrychioli’n fwy nag eraill (e.e. llenwodd mwy o ddynion na merched yr arolwg, ac roedd y rhan fwyaf o aelodau’r arolwg a’r samplau cyfweld yn diffinio eu hunain fel Gwyn – Seisnig, Albanaidd, Cymreig, Gwyddelig o Ogledd Iwerddon, Prydeinig).
Cefndir a chyd-destun
Mae IA yn golygu gosod isafbris ar alcohol na ellir ei werthu na’i gyflenwi’n gyfreithiol islaw iddo.
Yng Nghymru, galluogodd Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 gyflwyno isafbris am alcohol ar sail iechyd cyhoeddus, maes o fewn cymhwysedd deddfwriaethol (ar y pryd) Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae’r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ac yna cyhoeddi adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth ar ddiwedd cyfnod adolygu pum mlynedd. Bydd canlyniadau’r adroddiad hwnnw’n chwarae rhan bwysig wrth benderfynu a gaiff rheoliadau eu gwneud i ddarparu ar gyfer parhad IA y tu hwnt i’w oes bresennol o chwe blynedd.
Er mwyn llywio’r adroddiad ar weithrediad ac effaith, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwerthusiad o’r ddeddfwriaeth dros gyfnod o bum mlynedd. Mae’r adroddiad hwn yn rhan o’r gwerthusiad hwnnw a dyma’r olaf o dri adroddiad 'ôl-weithredu' sy'n archwilio patrymau yfed alcohol ac ymddygiadau cysylltiedig ymhlith yfwyr cymedrol, peryglus a niweidiol o fewn poblogaeth gyffredinol Cymru.
Prif ganfyddiadau
Ymwybyddiaeth o ac agweddau tuag at weithredu IA
Yn unol â chanfyddiadau ein hadroddiadau blaenorol, roedd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr yn ymwybodol o IA, ond roedd lleiafrif sylweddol nad oedd. Mae hyn yn tueddu i awgrymu naill ai nad oedd cyhoeddusrwydd am IA mor helaeth ag y gallai fod neu nad oedd rhai pobl wedi sylwi arno. Fodd bynnag, mae’r diffyg ymwybyddiaeth yn ddealladwy i ryw raddau o ystyried bod IA wedi’i gyflwyno ar anterth pandemig COVID-19 ar adeg o straen aruthrol a newid sylweddol.
Roedd ymwybyddiaeth yn fwy tebygol ymhlith yfwyr risg is a chynyddol nag yfwyr risg uwch. Roedd y rhai a oedd yn ymwybodol o IA yn amrywio o ran lefel eu dealltwriaeth o’r polisi, gyda rhai â dealltwriaeth amwys yn unig ac eraill â gwybodaeth fwy cynhwysfawr.
Disgrifiodd y rhai a oedd yn ymwybodol o IA ddysgu amdano trwy amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys teledu (adroddiadau newyddion), radio, cyfryngau cymdeithasol a ffynonellau ar-lein eraill. O ystyried yr amser sydd wedi mynd heibio ers cyflwyno IA (gan gynnwys cyfnod o gynnwrf sylweddol yn ystod pandemig COVID-19), nid oedd yn syndod canfod nad oedd rhai cyfranogwyr yn gallu cofio sut y clywsant amdano gyntaf.
Roedd y rhan fwyaf o bobl wedi sylwi ar gynnydd ym mhris alcohol ers cyflwyno IA. Dywedodd y rhai nad oeddent wedi sylwi ar unrhyw beth fod hyn oherwydd nad oedd IA yn effeithio ar eu diod o ddewis neu gan nad oeddent yn prynu alcohol yn ddigon aml i sylwi ar unrhyw newidiadau. Pan sylwyd ar newidiadau roedd hyn yn fwyaf cyffredin mewn perthynas â phris seidr cryf er bod rhai newidiadau hefyd wedi'u nodi ym mhris lager cryf, gwirodydd a gwin.
Priodolwyd y newid yn y pris gan rai i IA, ond hefyd i chwyddiant a’r argyfwng costau byw, a oedd yn achosi cynnydd ym mhris popeth. Cafodd effaith gystadleuol COVID-19 ac amrywiadau arferol mewn prisiau alcohol eu nodi fel ffactorau dryslyd sy’n effeithio ar welededd ac effeithiolrwydd IA.
Nododd rhai yfwyr brisiau rhatach a chynigion gwerth gwell a gostyngiadau ar alcohol yn Lloegr na Chymru, gan briodoli’r gwahaniaeth i IA. Ychydig o gyfranogwyr a nododd unrhyw newid yn argaeledd cynhyrchion alcohol, er bod rhai wedi gweld newidiadau ym maint a chryfder cynhyrchion amrywiol, yn enwedig seidr.
Newidiadau mewn cymeriant alcohol ac ymddygiadau cysylltiedig
Dywedodd tua hanner ymatebwyr yr arolwg eu bod yn yfed gyda’r un amlder a'r un cyfaint ag yr oeddent cyn i IA gael ei roi ar waith. Pan nodwyd newidiadau, roedd y rhain yn ostyngiadau yn fwy cyffredin na chynnydd.
Nododd rhai yfwyr absenoldeb cynigion a gostyngiadau yng Nghymru a oedd yn dal i fod ar gael yn Lloegr, ac ymatebodd rhai i’r gwahaniaeth pris hwn drwy deithio i Loegr i brynu alcohol am brisiau rhatach.
Esboniodd cyfweleion fod gostyngiadau mewn defnydd o ganlyniad i amrywiaeth o ffactorau yr oedd cost yn brif ystyriaeth yn eu plith. Roedd ffactorau eraill yn cynnwys newidiadau i ffordd o fyw, materion iechyd corfforol a meddyliol, aeddfedrwydd a heneiddio, anghenion dietegol, a ffactorau cymdeithasol.
Roedd cynnydd mewn defnydd hefyd yn gysylltiedig ag amrywiaeth o ffactorau gan gynnwys cynnydd mewn cymdeithasu (e.e. yn dilyn llacio mesurau amddiffynnol COVID-19), digwyddiadau bywyd trawmatig, diflastod, a straen byw mewn amgylchedd ansefydlog.
Er nad oedd y rhan fwyaf o yfwyr wedi gwneud unrhyw newidiadau i’r math, y brand, na’r amgylchiadau cymdeithasol yr oeddent yn yfed alcohol ynddynt, roedd cyfran fach wedi gwneud hynny, ac roedd y rhain yn fwy cyffredin ymhlith yfwyr risg uwch nag yfwyr eraill.
Pan adroddwyd am newidiadau, roedd natur y newidiadau yn gymysg ac yn cynnwys symudiadau tuag at win ac i ffwrdd o wirodydd ymhlith rhai yfwyr a symudiad oddi wrth seidr tuag at wirodydd, ymhlith eraill. Nododd rhai hefyd gynnydd yn y defnydd o gynhyrchion di-alcohol/alcohol isel, y credwyd eu bod ar gael yn fwy ac yn well o ran ansawdd nag yn y gorffennol.
Roedd IA yn un ffactor yn unig ymhlith llawer a ysgogodd newidiadau mewn ymddygiad. Yn bwysig, roedd pris yn sbardun amlwg wrth achosi symudiad o seidr i wirodydd ymhlith yfwyr risg uwch.
Newidiadau mewn gwariant cartref a phatrymau prynu alcohol
Nid oedd tua hanner yr ymatebwyr i’r arolwg wedi profi unrhyw newid yn fforddiadwyedd alcohol ers mis Mawrth 2020. Roedd y rhai a oedd wedi profi newid yn fwy tebygol o ddweud ei fod wedi dod yn llai fforddiadwy, y gellid ei ddisgwyl yn dilyn cyflwyno isafbris a chynnydd yng nghostau byw.
Dywedodd y rhan fwyaf o ymatebwyr nad oeddent wedi newid faint yr oeddent yn ei wario ar alcohol. Yn ddiddorol, roedd yfwyr risg is yn fwy tebygol o adrodd bod alcohol yn dod yn llai fforddiadwy, gan gyfrannu o bosibl at pam eu bod yn fwy tebygol o fod wedi lleihau maint ac amlder eu defnydd yn y cyfnod ers cyflwyno IA.
Pan adroddwyd am newidiadau mewn gwariant, roedd y rhain yn fwy cyffredin yn gynnydd na gostyngiad, yn bennaf oherwydd y cynnydd ym mhris alcohol. Roedd rhai yn gallu fforddio’r cynnydd mewn prisiau, gan amsugno’r cynnydd yng nghyllidebau eu haelwydydd. Roedd eraill, yn enwedig yfwyr risg uwch, yn cael trafferth ond serch hynny yn parhau i yfed.
Pan adroddwyd am ostyngiadau mewn gwariant, roedd y rhain yn aml yn cael eu priodoli i lai o incwm cartref, er y crybwyllwyd ffactorau cysylltiedig ag iechyd hefyd.
Pan adroddwyd am newidiadau yn lleoliad prynu alcohol, roedd hyn yn fwyaf cyffredin yn newid i brynu alcohol yn Lloegr, lle’r oedd yn rhatach oherwydd absenoldeb IA. Amlygwyd effaith negyddol ganfyddiedig hyn ar economi ac amgylchedd Cymru (oherwydd llygredd gyrru) gan nifer fach o gyfweleion ac ymatebwyr.
Roedd newidiadau eraill mewn patrymau prynu yn cynnwys symud oddi wrth y 'pedair archfarchnad mawr' ac oddi wrth yfed allan mewn tafarndai a bwytai i yfed gartref.
Newidiadau mewn defnydd o sylweddau eraill
Fel y rhagwelwyd ac a ddisgrifiwyd eisoes, ychydig o yfwyr a nododd unrhyw newidiadau yn eu defnydd o sylweddau eraill neu faint o fwyd maen nhw'n bwyta.
Nid oedd y rhan fwyaf o yfwyr wedi defnyddio cyffuriau anghyfreithlon cyn cyflwyno IA yng Nghymru ac nid oeddent wedi dechrau gwneud hynny yn y cyfnod ers mis Mawrth 2020. Ar yr ychydig adegau pan adroddwyd am newidiadau, roedd y rhain ymhlith y rhai â hanes o ddefnyddio ac yn cynnwys cynnydd yn y defnydd o heroin, crac a chanabis, lle’r deallwyd eu bod yn cynnig gwell gwerth am arian nag alcohol.
Nododd nifer fach o yfwyr newidiadau yn eu defnydd o gyffuriau presgripsiwn a meddyginiaeth dros y cownter, a oedd yn cynnwys cynnydd (oherwydd problemau corfforol ac iechyd meddwl) a gostyngiadau (oherwydd gwell iechyd).
Yn groes i’r rhagfynegiadau, nid oedd unrhyw dystiolaeth glir bod yfwyr yn yfed alcohol yn lle bwyta bwyd. Lle nodwyd newidiadau mewn dewisiadau bwyd, roedd hyn yn gysylltiedig â chostau byw uwch.
Newidiadau mewn yfwyr eraill
Ychydig a sylwodd ar unrhyw effaith IA ar fywydau yfwyr yr oeddent yn eu hadnabod a phan nodwyd newid, y meddwl yn aml oedd ei fod yn deillio o’r cynnydd cyffredinol mewn costau byw. Roedd hyn yn golygu bod llai o bobl yn mynd allan i yfed, a phobl yn yfed llai pan fyddent yn mynd allan.
Dywedodd nifer fach eu bod wedi gweld yfwyr yn newid o seidr cryf i lager oherwydd y pris rhatach. Nododd eraill fod eu ffrindiau yn yfed llai nag yr oeddent yn arfer gwneud, gan briodoli hyn i gyfuniad o ffactorau gan gynnwys aeddfedu, newid mewn ffordd o fyw, ac am resymau iechyd.
Safbwyntiau ar effeithiolrwydd a dyfodol IA
Roedd llawer o bobl yn ansicr ynghylch effeithiolrwydd IA o ran lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, yn bennaf gan nad oeddent wedi gweld unrhyw dystiolaeth i awgrymu ei fod yn effeithiol. Fodd bynnag, roedd rhai yn cydnabod bod yr effaith yn amrywio ymhlith gwahanol fathau o yfwyr tra bod eraill yn awgrymu bod angen mwy o amser i deimlo'r effeithiau a'u deall yn llawn.
Pan fynegwyd barn am effeithiolrwydd IA, roedd yn fwy aml i gyfeiriad negyddol na chadarnhaol. Roedd safbwyntiau negyddol yn cael eu cyfiawnhau’n gyffredin o ran effaith annheg ganfyddiedig y polisi ar bobl â phroblemau alcohol ac ar y tlotaf mewn cymdeithas.
Roedd y rhai a ymatebodd yn fwy cadarnhaol yn canolbwyntio ar y gred bod cynyddu pris alcohol wedi’i wneud yn llai fforddiadwy, ac felly’n llai hygyrch. Nodwyd hefyd bod cyflwyno ystod ehangach o ddiodydd di-alcohol/alcohol isel o ansawdd gwell yn effaith gadarnhaol i’r polisi.
Roedd safbwyntiau ar barhad IA yn gymysg ond eto’n cynnwys cyfran sylweddol a oedd heb benderfynu neu nad oeddent yn gwybod beth i’w feddwl. Unwaith eto, priodolwyd hyn i ddiffyg tystiolaeth ynghylch effeithiolrwydd IA yng Nghymru neu oherwydd nad oedd y polisi yn effeithio arnynt yn bersonol. Roedd y rhai a fynegodd farn yn rhanedig o ran bod o blaid neu yn erbyn IA yn aros yn ei le.
Roedd y rhai a oedd o blaid IA yn parhau i fod mewn grym yn dueddol o ganolbwyntio ar fanteision iechyd a chymdeithasol lleihau’r defnydd o alcohol, er y nodwyd hefyd yr angen i gynyddu refeniw ar gyfer gwasanaethau cymorth i’r rhai â phroblemau alcohol.
Nid fynegwyd unrhyw thema gyffredin gan y rhai a oedd yn erbyn IA yn parhau, a nodwyd amrywiaeth o resymau, gan gynnwys: yr hawl i wneud dewisiadau personol heb ymyrraeth gan y llywodraeth; pryderon am y baich ariannol, yn enwedig ar y rhai ar incwm is; ac effaith negyddol bosibl siopa trawsffiniol ar economi Cymru.
Roedd y rhai a oedd o blaid lleihau’r isafbris uned a godir yn pryderu am yr effaith ar bobl mewn cartrefi incwm isel a siopa trawsffiniol posibl, tra bod y rhai a oedd o blaid iddo aros ar 50c yn dadlau bod angen mwy o dystiolaeth cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Roedd y rhai a oedd yn meddwl y dylid cynyddu’r isafbris uned yn teimlo bod effaith IA wedi’i erydu gan chwyddiant a bod angen cynyddu’r pris er mwyn cael yr effaith fwyaf posibl. Roedd barn gymysg ynghylch a ddylid cynyddu’r isafbris uned ychydig iawn i leihau’r effaith ar adeg pan fo costau popeth wedi cynyddu neu’n sylweddol i gael yr effaith fwyaf posibl ar ddefnydd.
Lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol
Credwyd yn gyffredinol bod angen cynyddu ymwybyddiaeth o bolisi IA, gan gynnwys rhoi cyhoeddusrwydd i negeseuon ynghylch pam y’i cyflwynwyd a sut y’i gweithredwyd, er mwyn gwella effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.
Roedd rhai’n meddwl y gallai IA weithio’n fwy effeithiol pe bai’n cael ei dargedu at fathau penodol o ddiodydd alcoholig yn hytrach na phob diod, tra bod eraill yn awgrymu y dylid defnyddio mwy o refeniw i ddarparu mwy o gymorth i bobl â phroblemau alcohol yn hytrach nag aros gyda’r diwydiant alcohol, gan gynnwys manwerthwyr[troednodyn 1]. Soniwyd hefyd am atal mewnforion rhatach o alcohol o Loegr.
Sefydlwyd pum thema gan gyfeirio at fentrau eraill i leihau niwed cysylltiedig ag alcohol yn ehangach:
- Codi ymwybyddiaeth o’r niwed posibl sy’n gysylltiedig ag yfed alcohol, gan gynnwys gosod labeli rhybuddio ar becynnau, lansio ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd, gwella addysg camddefnyddio sylweddau mewn ysgolion, a gwahardd hysbysebion alcohol.
- Cynyddu cymorth i bobl â phroblemau alcohol drwy wella hygyrchedd, lleihau amseroedd aros, a gwella cysylltiadau â gwasanaethau iechyd meddwl.
- Cyfyngu ar argaeledd alcohol trwy gyfyngu ar gyfleoedd prynu yn ôl amser a lleoliad.
- Darparu dewisiadau amgen i weithgareddau sy’n gysylltiedig ag alcohol, megis gweithgareddau cymdeithasu nad ydynt yn gysylltiedig ag alcohol, yn enwedig ar gyfer pobl ifanc, sicrhau bod mwy o ddewisiadau di-alcohol/alcohol isel ar gael, a mynd i’r afael â diwylliant sy’n hudoli alcohol.
- Cyflwyno mwy o weithgareddau sy’n ymwneud â gorfodi megis gwella’r ffordd y mae’r heddlu’n ymateb i ddigwyddiadau sy’n ymwneud ag alcohol a chyflwyno rheoliadau llymach ar gyfer trwyddedau i werthu alcohol.
Roedd rhai cyfranogwyr yn dadlau bod penderfyniadau ynghylch ymddygiad yfed yn nwylo yfwyr unigol, fel na ddylai Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid ymyrryd.
Casgliadau
Mae nifer o gasgliadau pwysig i’w tynnu o’r asesiad terfynol hwn o effaith IA ar y boblogaeth gyffredinol o yfwyr yng Nghymru.
Yn gyntaf, bedair blynedd ar ôl ei roi ar waith, ymddengys na chafodd IA fawr o effaith ar batrymau yfed y bobl a gymerodd ran yn yr astudiaeth hon. Dim ond lleiafrif bach o bobl a adroddodd am newidiadau yn amlder yfed alcohol a faint maen nhw'n ei yfed.
Yn ail, er bod llawer o bobl yn ymwybodol o IA, roedd eraill nad oeddent. Ymhellach, ymhlith y rhai a oedd yn ymwybodol o IA, dealltwriaeth amwys yn unig o’r polisi oedd gan y mwyafrif.
Yn drydydd, dywedodd rhai pobl (yn nodweddiadol y rhai sy’n byw yn agos at y ffin neu’n teithio’n rheolaidd i Loegr) eu bod wedi osgoi’r ddeddfwriaeth drwy brynu alcohol yn Lloegr am brisiau rhatach.
Yn bedwerydd, nid oedd goblygiadau negyddol IA a ragwelwyd yn eang yn cael eu nodi'n gyffredin ymhlith yfwyr yn yr astudiaeth hon. Fodd bynnag, nid yw hynny'n golygu eu bod yn gwbl absennol. Mae'r newid o seidr i wirodydd a'r defnydd o gyffuriau anghyfreithlon fel dewis rhatach yn lle alcohol ymhlith nifer fach o yfwyr yn enghreifftiau.
Argymhellion dros dro
Mae canlyniadau'r astudiaeth hon wedi dangos bod IA yn fecanwaith effeithiol ar gyfer cael gwared ar gynhyrchion alcohol rhad iawn. Mae pris seidr gwyn cryf wedi cynyddu’n sylweddol yn dilyn cyflwyno IA ac mae bellach yn absennol o silffoedd siopau i raddau helaeth. Fodd bynnag, cymysg yw effeithiau ehangach IA, ac ymddengys bod rhai poblogaethau yn fwy agored i’w heffeithiau negyddol nag eraill.
Yn seiliedig ar ein gwerthusiad, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gosod rheoliadau i barhau â’r ddeddfwriaeth IA. Er mwyn sicrhau bod IA mor effeithiol â phosibl a lleihau canlyniadau negyddol anfwriadol, rydym yn argymell ar ben hynny bod Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfres o gamau gweithredu ategol ar waith. Amlinellir pob argymhelliad isod, ynghyd â rhesymwaith byr:
Diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
Er bod llawer o gyfranogwyr yn ymwybodol o IA, nid oedd lleiafrif sylweddol. At hynny, dealltwriaeth amwys yn unig o'r polisi oedd gan y rhan fwyaf o'r rhai a oedd yn ymwybodol, a allai danseilio ei effeithiolrwydd.
Argymhelliad
Cynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth mwy helaeth ac wedi'u targedu i addysgu'r cyhoedd am IA, ei sail resymegol, a'i weithrediad.
Annhegwch canfyddiedig ac effaith ar grwpiau agored i niwed
Roedd rhai yfwyr yn gweld IA fel rhywbeth sy’n effeithio’n annheg ar y rheini â phroblemau alcohol a chartrefi incwm is.
Argymhelliad
Rhoi mesurau ar waith i liniaru’r annhegwch canfyddiedig, megis darparu mwy o eglurder ynghylch bod IA yn fesur poblogaeth gyfan sy’n targedu yfwyr peryglus a niweidiol yn gyffredinol.
Siopa trawsffiniol a’r effaith ar economi Cymru
Dywedodd rhai yfwyr, yn enwedig y rhai sy’n byw’n agos at y ffin a’r rhai sy’n teithio’n rheolaidd i Loegr, eu bod yn prynu alcohol yn Lloegr er mwyn osgoi’r prisiau uwch yng Nghymru oherwydd IA, gan effeithio o bosibl ar economi Cymru a thanseilio effeithiolrwydd y polisi.
Argymhelliad
Asesu a monitro ystent ac effaith siopa trawsffiniol ledled Cymru ac archwilio strategaethau i fynd i’r afael â siopa trawsffiniol, megis cydlynu ag awdurdodau yn Lloegr neu roi mesurau ar waith i annog prynu’n lleol.
Effeithiau amnewid a chanlyniadau anfwriadol
Dywedodd nifer fach o yfwyr eu bod wedi amnewid alcohol am gyffuriau anghyfreithlon, a allai arwain at ganlyniadau iechyd a chymdeithasol negyddol anfwriadol.
Argymhelliad
Monitro a mynd i'r afael ag effeithiau amnewid posibl trwy ymchwil wedi'i dargedu, ymyriadau, addysg a gwasanaethau cymorth.
Diffyg tystiolaeth ar effeithiolrwydd hirdymor
Roedd llawer o yfwyr yn ansicr ynghylch effeithiolrwydd IA oherwydd diffyg tystiolaeth glir, yn enwedig yn yr hir dymor.
Argymhelliad
Parhau i fonitro a gwerthuso effaith IA ar yfed alcohol a’r niwed cysylltiedig yng Nghymru yn yr hir dymor (e.e. derbyniadau i’r ysbyty, marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol, gwerthiant alcohol), ond hefyd cyfosod canfyddiadau o wledydd eraill sydd â pholisïau prisio tebyg (e.e. yr Alban ac Iwerddon), a rhoi cyhoeddusrwydd i'r canfyddiadau yn rheolaidd ac yn ehangach.
Yr angen am fesurau cyflenwol
Awgrymodd yfwyr gyflwyno mesurau cyflenwol amrywiol i wella effeithiolrwydd IA, megis lansio ymgyrchoedd ymwybyddiaeth o niwed alcohol, gwella mynediad at wasanaethau cymorth, lleihau amseroedd aros ar gyfer dadwenwyno preswyl, cyfyngu ar gyfleoedd i brynu alcohol, a thynhau rheoliadau ar gyfer trwyddedau i werthu alcohol.
Argymhelliad
O fewn y pwerau sydd wedi’u datganoli i Lywodraeth Cymru, rhoi dull cynhwysfawr ar waith sy’n cyfuno IA ag ymyriadau a pholisïau eraill sy’n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol yn fwy cyfannol.
Addasiadau prisio
Roedd barn gymysg ynghylch a ddylai'r isafbris uned gael ei gynnal, ei ostwng, neu ei gynyddu i gyflawni'r effaith a ddymunir.
Argymhelliad
Adolygu ac addasu'r isafbris uned yn rheolaidd yn seiliedig ar fonitro a gwerthuso parhaus, gan ystyried ffactorau megis chwyddiant, newidiadau costau byw, ac effeithiolrwydd polisi.
Troednodiadau
[1] Nid treth yw IA, sy’n golygu nad yw Llywodraeth Cymru yn cynhyrchu incwm o ganlyniad i’w gweithredu.
Manylion cyswllt
Awduron yr adroddiad: Holloway, Buhociu, Murray, Livingston, a Perkins (2024)
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
E-bost: Ymchwil.IechydAGwasanaethauCymdeithasol@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 6/2025
ISBN Digidol: 978-1-83625-867-4