Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canlyniadau o'r bedwaredd don a'r olaf o astudiaeth hydredol yn asesu effaith Isafbris ar gyfer Alcohol (MPA) ar boblogaeth ehangach yfwyr Cymru. Cynhaliwyd yr ymchwil gan ymchwilwyr o Brifysgol De Cymru mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr o Brifysgol Wrecsam a Ffigur 8 Consultancy.

Mae hwn yn adroddiad terfynol, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd 42 mis ar ôl gweithredu MPA gan ddefnyddio dau ddull ymchwil: (1) arolwg holiaduron trawstoriadol, dienw, ar-lein o yfwyr sy'n oedolion sy'n byw yng Nghymru; a (2) cyfweliadau ansoddol gydag yfwyr sy'n oedolion sy'n byw yng Nghymru.

Roedd y themâu allweddol yr ymchwiliwyd iddynt yn yr arolwg a'r cyfweliadau yn cynnwys: ymwybyddiaeth o MPA; newidiadau mewn patrymau yfed ac ymddygiadau cysylltiedig; a barn ar ffyrdd eraill o leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru. O bwysigrwydd arbennig ar gyfer y don olaf hon o gasglu data oedd cwestiynau yn archwilio agweddau tuag at MPA, barn am ei effeithiolrwydd, a meddyliau am ei ddyfodol yng Nghymru.

Adroddiadau

Asesu effaith isafbris am alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesu effaith isafbris am alcohol ar boblogaeth ehangach o yfwyr: adroddiad atodiad , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Dr Chris Roberts

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.