Asesiadau rheoliadau cynefinoedd: diogelu safle Ewropeaidd
Sut y mae'n rhaid i awdurdod cymwys benderfynu a yw cynllun neu gynnig prosiect sy'n effeithio ar safle Ewropeaidd yn gallu mynd yn ei flaen.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Gan: Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Natural England, a Cyfoeth Naturiol Cymru
Yn berthnasol i: Gymru a Lloegr
Mae'r canllaw hwn yn berthnasol i safleoedd Ewropeaidd yng Nghymru a Lloegr a dyfroedd eu glannau (o fewn 12 milltir forol i'r arfordir).
Diogelir safle Ewropeaidd gan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 fel y'u diwygiwyd (a elwir yn Rheoliadau Cynefinoedd).
Fel awdurdod cymwys, rhaid i chi gwblhau asesiad o dan y Rheoliadau Cynefinoedd, a elwir yn asesiad rheoliadau cynefinoedd (HRA), i brofi a allai cynllun neu gynnig prosiect niweidio nodweddion dynodedig safle Ewropeaidd yn sylweddol.
Ar sail canlyniad yr asesiad, gallwch benderfynu a ddylid cymeradwyo prosiect neu fabwysiadu cynllun ("cynnig”). Mae hyn yn cynnwys cynnig y byddwch yn ei gyflawni eich hun.
Defnyddiwch y canllaw hwn i ddilyn y broses HRA.
Awdurdod cymwys yw:
- corff cyhoeddus sy'n penderfynu rhoi trwydded, caniatâd, cydsyniad neu hawl arall i wneud gwaith, mabwysiadu cynllun neu wneud gwaith drosto'i hun, fel awdurdod cynllunio lleol
- ymgymerwr statudol yn cyflawni ei waith, fel cwmni dŵr neu ddarparwr ynni
- gweinidog neu adran llywodraeth, er enghraifft sy'n llunio polisi cenedlaethol neu'n penderfynu apêl yn erbyn penderfyniad awdurdod cymwys arall
- unrhyw un sy'n dal swydd gyhoeddus, fel arolygydd cynllunio, ombwdsmon neu gomisiynydd
Os ydych yn ddatblygwr neu'n gynigydd sy'n cynllunio gweithgaredd a allai effeithio ar safle Ewropeaidd, gallwch ddarllen y canllaw hwn i ddeall beth ddylai awdurdod cymwys ei wneud i asesu eich cynnig. Hefyd, dylech ddarllen y canllaw ar pa wybodaeth y mae angen i gynigwyr ei darparu i awdurdodau cymwys ar gyfer HRA.
Safleoedd Ewropeaidd
Mae'r safleoedd Ewropeaidd canlynol wedi'u diogelu gan y Rheoliadau Cynefinoedd, a bydd angen HRA ar gyfer unrhyw gynigion a allai effeithio arnynt:
Byddai angen HRA ar gyfer unrhyw gynigion sy'n effeithio ar y safleoedd canlynol hefyd gan eu bod yn cael eu diogelu gan bolisi'r llywodraeth:
- ACA arfaethedig
- AGA posibl
- Safleoedd Ramsar - gwlyptiroedd o bwysigrwydd rhyngwladol (wedi'u rhestru ac arfaethedig)
- ardaloedd sydd wedi'u diogelu fel [safleoedd sy'n gwneud iawn am ddifrod i safle Ewropeaidd]
Cyn dechrau cynnal HRA
Cyn i chi ddechrau HRA, mae angen i chi ystyried sawl ffactor.
Penderfynu a yw'r cynnig yn gynllun neu'n brosiect
Dylech benderfynu a yw'r cynnig yn gynllun, yn brosiect neu'r naill na'r llall. Mae unrhyw gynnig a allai effeithio ar safle Ewropeaidd yn debygol o fod yn gynllun neu'n brosiect.
Os ydych yn siŵr nad yw'r cynnig yn gynllun nac yn brosiect, nid oes angen i chi gynnal HRA. Rhaid i chi barhau i ystyried eich [dyletswydd gyffredinol i ddiogelu, gwarchod ac adfer safleoedd Ewropeaidd] cyn i chi wneud penderfyniad neu gwblhau eich gwaith eich hun.
Dylech roi ystyr eang iawn i'r termau 'cynllun' a 'phrosiect' i gwmpasu ystod eang o weithgareddau.
Pan fydd cynnig yn gynllun
Mae cynllun yn nodi lle y dylai gweithgareddau neu ddatblygiadau yn y dyfodol ddigwydd mewn ardal benodol. Gall hyn gynnwys unrhyw newidiadau sy'n cael eu cynnig i gynllun sy'n bodoli eisoes.
Mae enghreifftiau o gynlluniau yn cynnwys:
- cynlluniau lleol a chynlluniau datblygu lleol
- cynlluniau cymdogaeth
- datganiadau polisi cenedlaethol
- cynlluniau gofodol morol
- cynlluniau ariannu
- cynlluniau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol
- cynlluniau rheoli basnau afonydd
Pan fydd cynnig yn brosiect
Gall prosiect fod yn unrhyw weithgaredd neu nifer o weithgareddau sydd angen caniatâd newydd neu adnewyddu caniatâd gan awdurdod cymwys cyn iddo fynd yn ei flaen, neu'n weithgaredd y mae awdurdod cymwys yn bwriadu ei gyflawni ei hun. Hefyd, mae'n gallu cynnwys cynigion i newid prosiect sy'n bodoli eisoes.
Mae enghreifftiau o brosiectau yn cynnwys:
- adeiladu neu osod cynlluniau trafnidiaeth, tai, datblygiadau manwerthu a diwydiannol, ffermydd gwynt, cynlluniau ynni'r llanw, ac echdynnu mwynau, dŵr neu bren
- trwyddedu, caniatáu neu reoleiddio gweithgaredd, er enghraifft, ceisiadau am ganiatâd cynllunio, cydsyniad, neu drwyddedau a gyhoeddir o dan is-ddeddfau a deddfwriaeth arall, a gweithgareddau o dan hawliau datblygu a ganiateir
- eich gweithgareddau statudol eich hun, megis cynnal priffyrdd ac amddiffynfeydd rhag llifogydd, atgyweirio ceblau tanddaearol neu gadw llinellau pŵer yn glir
Cadarnhau a allai cynnig effeithio ar safle Ewropeaidd
Nid oes angen i chi gwblhau HRA os na fydd y cynnig yn effeithio ar safle Ewropeaidd. Gall effaith eich cynnig ddibynnu ar ei leoliad. Gallai fod:
- ar y safle
- ger y safle
- cryn bellter i ffwrdd, er enghraifft drwy achosi llygredd aer, dŵr neu sŵn neu effeithio ar fan bwydo a ddefnyddir gan un o rywogaethau dynodedig y safle
Gallwch ddod o hyd i safle Ewropeaidd trwy ddefnyddio Magic map.
Gallwch wirio a oes parth perygl effaith (IRZ) o amgylch safle gwarchodedig. Bydd hyn yn eich helpu i asesu a allai cynnig effeithio ar safle. Gweler data IRZ ar Magic map.
Gwneud penderfyniadau'n gyflymach
Er mwyn penderfynu'n gyflymach a ddylai cynnig fynd yn ei flaen, gallwch:
- helpu'r cynigydd gyda'r broses, er enghraifft, ceisio sicrhau cyn lleied o oedi â phosibl a rhoi gwybod iddo am amseriadau ar gyfer penderfyniadau
- dweud wrth y cynigydd cyn gynted â phosibl os oes problemau gyda'r cynnig, fel gwybodaeth sydd ar goll
- sicrhau cyn lleied o ddyblygu â phosibl, er enghraifft, efallai y gallwch ddefnyddio gwybodaeth o benderfyniadau tebyg blaenorol yn ymwneud â HRAs os ydynt yn parhau i fod yn berthnasol ac yn gyfoes
- cytuno bod y cynigydd yn gallu darparu gwybodaeth ar gyfer yr HRA ochr yn ochr ag asesiadau eraill, megis asesiad o'r effaith amgylcheddol neu asesiad amgylcheddol strategol
Gweithredu mewn ffordd strategol
Gweithredu mewn ffordd strategol drwy ymdrin â chynigion sydd â risgiau neu effeithiau tebyg yn yr un modd.
Dylech chi a'r cynigydd ystyried gweithio gydag:
- awdurdodau cymwys eraill yn yr ardal
- y Corff Cadwraeth Natur Statudol (SNCB) perthnasol
- grwpiau neu sefydliadau arbenigol eraill yn yr ardal
Cydweithio ag awdurdodau cymwys eraill
Os oes mwy nag un awdurdod cymwys yn cynnal HRA ar gyfer yr un cynnig, dylech gydweithio ar yr asesiad. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd angen caniatâd awdurdod lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd neu Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer cynnig i echdynnu mwynau.
Cytuno ar awdurdod cymwys arweiniol lle mae cyfrifoldebau'n gorgyffwrdd
Os yw cynnig yn gorgyffwrdd â meysydd cyfrifoldeb awdurdodau cymwys eraill, dylech gytuno pwy yw'r awdurdod cymwys arweiniol.
Ar gyfer pob cynnig, mae angen penderfynu pa awdurdod ddylai arwain, yn seiliedig ar bwy sydd â'r canlynol:
- yr arbenigedd technegol gorau - pan mai mater technegol yw'r ffactor pwysicaf wrth asesu effaith y cynnig
- prif ddiddordeb mewn achosion trawsffiniol
- y gallu i reoli lle mae llawer o faterion cymhleth a thrawsffiniol
Bydd angen i'r awdurdod cymwys arweiniol:
- weithredu fel yr un pwynt cyswllt ar gyfer yr HRA
- sicrhau bod pob awdurdod cymwys yn deall ei rôl a'i gyfrifoldeb
- cytuno ar amserlen ar gyfer penderfyniadau
- ymgynghori â phob SNCB a phenodi corff arweiniol os oes cyfrifoldebau rhanedig
- rhannu tystiolaeth sy'n bodoli eisoes a nodi bylchau yn y dystiolaeth
- paratoi'r HRA ar ran yr awdurdodau cymwys eraill
- cydgysylltu ymgynghoriadau ac unrhyw argymhellion
- sefydlu memorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng pob parti - ar gyfer achosion cymhleth
Defnyddio HRA awdurdod cymwys arall
Gallwch ddefnyddio HRA a gwblhawyd gan awdurdod cymwys arall ar gyfer yr un cynnig:
- os nad oes unrhyw wybodaeth na thystiolaeth newydd a allai arwain at gasgliad gwahanol
- os yw’r asesiadau a wnaed eisoes yn berthnasol, yn drylwyr ac yn gywir
- os yw’r casgliadau'n drylwyr ac yn gadarn
- os nad oes unrhyw gyfraith achos newydd sy'n newid y ffordd y dylid cynnal neu ddehongli HRA
Os ydych yn penderfynu defnyddio tystiolaeth a chasgliadau HRA blaenorol, dylech barhau i sicrhau na fydd eich penderfyniad terfynol yn cael unrhyw effaith negyddol ar y safle Ewropeaidd. Eich cyfrifoldeb chi yw'r penderfyniad terfynol.
Ni ddylech asesu unrhyw ran o gynnig y mae gan awdurdod cymwys arall rôl i'w asesu. Bydd yr awdurdod cymwys perthnasol yn cynnal ei asesiad ei hun.
Pan fyddwch yn penderfynu a all cynnig fynd yn ei flaen ai peidio, dylech gofnodi eich bod wedi defnyddio HRA, neu ran o HRA, a gwblhawyd gan awdurdod arall.
 phwy i ymgynghori wrth gynnal HRA
Rhaid i chi ymgynghori â'r Corff Cadwraeth Natur Statudol (SNCB) perthnasol yn ystod cam asesu priodol y broses HRA, ond gallwch ofyn am gyngor ar unrhyw adeg o'r broses. Rhaid i chi ystyried y cyngor a gewch a'i gynnwys yn eich HRA, os yw'n berthnasol. Os ydych yn anghytuno â'r cyngor, dylech ei gofnodi yn eich asesiad ac egluro pam.
Ymgynghori â'r canlynol:
- Cyfoeth Naturiol Cymru yng Nghymru neu ddyfroedd glannau Cymru
- Natural England yn Lloegr neu ddyfroedd glannau Lloegr
Os yw safle Ewropeaidd yn gorgyffwrdd â gwledydd eraill y DU neu â dyfroedd môr, rhaid i chi ymgynghori â'r canlynol hefyd:
- Scottish Natural Heritage yn yr Alban neu ddyfroedd glannau'r Alban
- Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig yng Ngogledd Iwerddon neu ddyfroedd glannau Gogledd Iwerddon
- y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) y tu hwnt i 12 milltir forol o'r lan
Dilyn egwyddorion HRA
Os yw'r cynnig yn gynllun neu'n brosiect a allai effeithio ar safle Ewropeaidd, bydd angen i chi wneud y canlynol:
- deall yr amcanion cadwraeth ar gyfer y safle Ewropeaidd perthnasol sy'n cael ei effeithio - mae'r rhain yn disgrifio'r rhesymau ecolegol am ei ddiogelu - maent ar gael yng nghronfeydd data'r safleoedd dynodedig ar gyfer Cymru neu Lloegr
- defnyddio'r cronfeydd data hyn i gael gwybod am fygythiadau neu bwysau presennol ar y safle - gall hyn gynnwys effeithiau unrhyw weithgareddau heb eu rheoleiddio neu effeithiau'r caniatâd a roddwyd yn y gorffennol
- ystyried holl effeithiau posibl y cynnig, yn ystod pob cam, ar nodweddion dynodedig y safle - gan gynnwys effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol, dros dro ac yn barhaol
- ystyried effeithiau cyfunol posibl ar y safle gyda chynlluniau a phrosiectau eraill
- llunio barn yn seiliedig ar ffeithiau'r sefyllfa unigol a chyflwr ecolegol nodweddion y safle
- defnyddio'r wybodaeth wrthrychol a gwyddonol orau sydd ar gael i wneud penderfyniadau hyderus
- gweithio gyda'r cynigydd i ddod o hyd i ffordd o ganiatáu prosiectau neu fabwysiadu cynlluniau wrth barhau i ddiogelu safleoedd, os oes modd
- gofyn am wybodaeth gan y cynigydd sy'n gymesur, er enghraifft dim ond gofyn am y wybodaeth neu'r dystiolaeth sydd ei hangen arnoch i fodloni'r rheoliadau
- ystyried y cyngor a gewch gan yr SNCB perthnasol
- cadw cofnod ysgrifenedig manwl o'r HRA a rhoi rhesymau a thystiolaeth glir am eich penderfyniadau
- sicrhau bod eich asesiad yn drylwyr ac yn gyflawn a'i fod yn cynnwys casgliadau clir a manwl gywir
Dylech hefyd:
- gytuno â'r cynigydd, ar ddechrau'r broses, ynglŷn â pha dystiolaeth y mae angen iddo ei darparu, er enghraifft, cytuno ar gynlluniau tystiolaeth ar gyfer prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (Nhsips)
- siarad ag arbenigwyr perthnasol cyn gynted â phosibl
- penderfynu a ddylech ymgynghori â'r cyhoedd ar eich asesiad
Sut i gwblhau HRA
Gall y broses gynnwys hyd at 3 cham. Mae'n bosibl na fydd angen i chi gwblhau pob cam, gan ddibynnu ar yr hyn rydych chi'n ei benderfynu ar bob cam. Mae’r camau fel a ganlyn:
1. Sgrinio - i benderfynu a yw'r cynnig yn debygol o gael effaith arwyddocaol ar amcanion cadwraeth y safle. Os nad yw hynny'n debygol, nid oes angen i chi fynd drwy'r camau asesu neu randdirymiad priodol
2. Asesiad priodol - i asesu effeithiau arwyddocaol tebygol y cynnig yn fanylach a nodi ffyrdd o osgoi neu leihau unrhyw effeithiau
3. Rhanddirymiad - i ystyried a yw cynigion a fyddai'n cael effaith andwyol ar safle Ewropeaidd yn gymwys ar gyfer esemptiad
Holwch ecolegydd neu'r [SNCB perthnasol] i'ch helpu i wneud penderfyniadau, os ydych yn ansicr.
Mabwysiadu dull rhagofalus o wneud penderfyniadau
Rhaid i chi fabwysiadu dull rhagofalus o wneud penderfyniadau yn ystod pob cam o'r broses HRA.
Er enghraifft, os na allwch ddiystyru:
- perygl y bydd cynnig yn cael effaith arwyddocaol ar amcanion cadwraeth safle Ewropeaidd yng ngham 1: sgrinio, rhaid i chi gwblhau asesiad priodol
- pob amheuaeth wyddonol resymol o effaith andwyol ar uniondeb safle yng ngham 2: asesiad priodol, rhaid i chi wrthod y cynnig oni bai bod modd cyfiawnhau esemptiad (cam 3: rhanddirymiad)
1. Sgrinio
Mae'r cam hwn yn asesiad syml er mwyn cadarnhau neu sgrinio a oes gan gynnig:
- gysylltiad uniongyrchol â rheoli cadwraeth safle Ewropeaidd neu a yw’n angenrheidiol ar gyfer y broses
- effaith arwyddocaol bosibl ar safle Ewropeaidd ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynigion eraill
Dylech ystyried nodweddion neu briodweddau dylunio hanfodol y cynnig, megis ei ddiwyg, ei amseriad a'i leoliad i lywio eich penderfyniad sgrinio. Gall y rhain olygu bod unrhyw berygl i safle Ewropeaidd yn cael ei hosgoi ac nad oes angen i chi gwblhau asesiad priodol.
Yn ystod y cam hwn, ni ddylech ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd wedi'u cynnwys gan y cynigydd at ddibenion osgoi neu leihau risg i safle Ewropeaidd. Mae angen ystyried y mesurau lliniaru hyn yn ystod y cam asesu priodol.
1.1 Cynigion rheoli cadwraeth
Yn gyntaf, rhaid i chi gadarnhau a yw'r cynnig cyfan yn ymwneud â rheoli cadwraeth y cynefinoedd neu'r rhywogaethau y mae'r safle Ewropeaidd wedi'i ddynodi ar eu cyfer. Os ydyw, nid oes angen i chi gwblhau asesiad priodol.
Rhaid i chi barhau i sgrinio'r cynnig os yw'n cynnwys:
- proses rheoli cadwraeth a allai effeithio'n negyddol ar nodwedd wahanol neu safle Ewropeaidd gwahanol
- gweithgareddau rheoli nad ydynt yn ymwneud â chadwraeth, megis datblygu, gweithrediadau masnachol neu ddigwyddiadau hamdden
1.2 Asesu'r effaith arwyddocaol debygol
Rhaid i chi gadarnhau a allai'r cynnig gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd a allai effeithio ar ei amcanion cadwraeth.
Dylech gadarnhau a oes perygl neu bosibilrwydd o effaith arwyddocaol yn seiliedig ar y dystiolaeth. Dylech ystyried peryglon gwirioneddol yn unig, nid peryglon damcaniaethol.
Gallwch ddod o hyd i'r amcanion cadwraeth ar gyfer safleoedd Ewropeaidd ar dir ac ar y glannau yn y mannau canlynol:
- Cymru: cronfa ddata safleoedd dynodedig Cyfoeth Naturiol Cymru
- Lloegr: cronfa ddata safleoedd dynodedig Natural England
Dylech ystyried:
- yr ardal lle y byddai'r gweithgaredd arfaethedig yn digwydd
- unrhyw orgyffwrdd neu ryngweithio â nodweddion gwarchodedig safle mewn ffordd uniongyrchol neu anuniongyrchol
- effaith unrhyw rannau hanfodol o'r cynnig, megis ei leoliad, ei amseriad neu ei ddyluniad
Os na allwch ddiystyru'r posibilrwydd y bydd y cynnig yn cael effaith arwyddocaol, bydd angen i chi gwblhau asesiad priodol.
1.2.1 Chwilio am effeithiau cyfunol
Gall eich cynnig ar ei ben ei hun gael effaith ar safle Ewropeaidd nad yw'n arwyddocaol. Rhaid i chi gadarnhau a allai'r effaith hon gyfuno ag unrhyw gynnig arall sydd wedi'i gynllunio neu sydd ar y gweill ac sy'n effeithio ar yr un safle, nad yw'n cael effaith arwyddocaol ar ei ben ei hun. Pe gallai'ch cynnig chi a chynnig arall ar y cyd gael effaith arwyddocaol ar y safle Ewropeaidd, bydd angen i chi gwblhau asesiad priodol.
Chwilio am gynigion sy'n cael eu hystyried gan awdurdodau cymwys eraill, megis:
- ceisiadau am ganiatâd newydd
- ceisiadau i newid caniatâd presennol
- caniatâd a roddwyd nad yw wedi dechrau neu wedi'i gwblhau
- caniatâd a roddwyd sydd angen ei adnewyddu
- cynlluniau sydd wedi'u drafftio ond nad ydynt wedi'u mabwysiadu eto
Gallai cynnig, ar ei ben ei hun neu ar y cyd â chynigion eraill, gael effaith arwyddocaol ar safle Ewropeaidd os oes:
- gostyngiad yn nifer neu ansawdd cynefinoedd dynodedig neu'r cynefinoedd sy'n cefnogi rhywogaethau dynodedig
- terfyn i'r potensial ar gyfer adfer cynefinoedd dynodedig yn y dyfodol
- aflonyddu arwyddocaol ar y rhywogaeth ddynodedig
- amharu ar y prosesau naturiol sy'n cynnal nodweddion dynodedig y safle
- mai dim ond mesurau lleihau neu wrthbwyso sydd ar waith
Os nad oes unrhyw effaith arwyddocaol debygol ar y safle, naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd, nid oes angen i chi gwblhau asesiad priodol.
Dylech gofnodi eich penderfyniad sgrinio a'ch rhesymau amdano.
2. Asesiad priodol
Rhaid i chi gwblhau asesiad priodol yn y sefyllfaoedd canlynol:
- os ydych yn penderfynu bod perygl o effaith arwyddocaol debygol ar safle Ewropeaidd
- os nad oes gennych ddigon o dystiolaeth i ddiystyru perygl
Dylai'r asesiad fod:
* yn fwy manwl a thrylwyr na'r gwiriad sgrinio
* yn briodol ar gyfer natur a chymhlethdod y cynnig gan eich galluogi i gwblhau'r prawf uniondeb y safle.
Dylai eich asesiad priodol:
- asesu effeithiau arwyddocaol tebygol cynnig ar uniondeb y safle a'i amcanion cadwraeth
- ystyried ffyrdd o osgoi neu leihau (lliniaru) unrhyw botensial ar gyfer 'effaith andwyol ar uniondeb y safle’
Profi uniondeb y safle
Rhaid i'ch asesiad priodol ddangos a ellir diystyru effaith andwyol y cynnig ar uniondeb y safle.
Bydd effaith andwyol ar uniondeb y safle os oes perygl y bydd cynnig yn arwain at unrhyw un o'r canlynol, er enghraifft:
- dinistrio, difrodi neu newid cynefin dynodedig cyfan neu ran ohono yn arwyddocaol
- amharu'n arwyddocaol ar boblogaeth rhywogaeth ddynodedig, er enghraifft, adar bridio neu ystlumod sy'n gaeafgysgu
- niweidio cysylltedd ecolegol y safle â'r dirwedd ehangach, er enghraifft, niweidio coetir sy'n helpu i gynnal y rhywogaethau dynodedig o safle Ewropeaidd cyfagos
- niweidio swyddogaeth ecolegol y safle, neu ei allu i oroesi difrod, a lleihau ei allu i gynnal rhywogaeth ddynodedig
- newid amgylchedd ffisegol y safle, er enghraifft, drwy newid cyfansoddiad cemegol ei bridd, cynyddu'r perygl o lygredd neu newid hydroleg y safle
- cyfyngu ar fynediad i adnoddau y tu allan i'r safle sy'n bwysig i rywogaeth ddynodedig, er enghraifft, ffynonellau bwyd neu dir bridio
- atal neu darfu ar waith adfer, neu'r potensial ar gyfer gwaith adfer yn y dyfodol, os yw'n tanseilio amcanion cadwraeth y safle
Rhaid i chi allu diystyru pob amheuaeth wyddonol resymol na fyddai'r cynnig yn cael effaith andwyol ar uniondeb y safle cyn y gallwch ganiatáu i'r cynnig fynd yn ei flaen.
Sut i asesu effeithiau ar uniondeb safle
Er mwyn cwblhau'r asesiad a chynnal y prawf uniondeb, dylech ystyried:
- gofynion ecolegol, amcanion cadwraeth a statws cadwraeth cyfredol (os yw'n hysbys) nodweddion dynodedig y safle y gallai'r cynnig effeithio arnynt
- pob effaith bosibl ar y safle Ewropeaidd, gan gynnwys y perygl o effeithiau cyfunol â chynigion eraill, a sut y gallent effeithio ar amcanion cadwraeth y safle
- graddfa, graddau, amseriad, hyd, cildroadedd a thebygolrwydd yr effeithiau posibl
- pa mor sicr ydych chi y bydd yr effeithiau'n digwydd
- mesurau lliniaru sydd wedi'u cynnig neu amodau y gallwch eu gosod i osgoi neu gyfyngu ar effeithiau
- pa mor hyderus ydych chi y bydd mesurau lliniaru yn effeithiol dros oes gyfan y cynnig - er enghraifft, effeithiau adeiladu, gweithredu a datgomisiynu
Rhaid i chi ymgynghori â'r SNCB perthnasol a dylech anfon copi o'ch asesiad drafft priodol. Rhaid i chi ystyried y cyngor a gewch yn ôl. Ni ddylech anghytuno â'r cyngor heb reswm da.
Dylech gadw cofnod o'ch asesiad priodol terfynol, yn enwedig os nad ydych yn dilyn cyngor yr SNCB. Mae'n bosibl y bydd angen y cofnod arnoch os oes apêl neu gais rhyddid gwybodaeth yn dilyn, er enghraifft.
Os ydych yn awdurdod cynllunio lleol yn Lloegr sy'n gwneud penderfyniad ar geisiadau cynllunio, dylech ddarllen y canllaw ar asesiadau priodol a goblygiadau cyfreithiol ar gyfer cynlluniau cymdogaeth a chaniatâd mewn egwyddor.
Ystyried mesurau lliniaru
Fel rhan o'ch asesiad priodol, dylech ystyried unrhyw fesurau lliniaru sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r cynnig i ddileu neu leihau effeithiau andwyol posibl.
Gallwch chi neu'r cynigydd gael cyngor ar fesurau lliniaru gan yr SNCB perthnasol neu gynghorydd ecolegol.
Dylech asesu pa wahaniaeth y byddai'r mesurau lliniaru yn ei wneud i effeithiau'r cynnig ar y safle. Rhaid i chi fod yn siŵr y bydd y mesurau lliniaru'n effeithiol. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i'ch asesiad ddangos:
- sut y byddai'r mesurau'n cael eu gweithredu a'u monitro, ac am ba hyd
- sut y byddech yn gorfodi'r mesurau pe bai angen
- pa mor sicr ydych chi y byddai'r mesurau'n llwyddo i osgoi neu leihau effeithiau ar y safle
- faint o amser sydd ei angen i'r mesurau ddod i rym
- lefel y llwyddiant disgwyliedig, neu ba newidiadau y byddech yn eu gwneud os yw gwaith monitro'n dangos y gallai'r mesurau fethu
Rhaid i chi sicrhau bod unrhyw fesurau lliniaru angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith yn syth heb aros am effeithiau andwyol.
Cynnwys amodau
Os oes angen mesurau lliniaru i osgoi effeithiau andwyol, dylech gynnwys amodau neu gymryd camau angenrheidiol eraill i sicrhau bod y mesurau'n cael eu cyflwyno.
Gallwch wneud yr amodau'n hyblyg. Er enghraifft, gallech ddileu amodau os yw'r gwaith monitro yn dangos nad yw'r perygl o effeithiau negyddol cynddrwg â'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Dylech ymgynghori â'r SNCB perthnasol i sicrhau bod yr amodau newydd yn parhau i fod yn effeithiol.
Dylech fod yn siŵr y gallwch orfodi'r amodau os oes angen, a bod y cynigydd yn gallu eu cyflawni.
Amodau dylunio neu ddulliau gweithredu
Gallwch osod amodau ar gyfer nodweddion dylunio neu ddulliau gweithredu cynnig er mwyn osgoi difrodi cynefinoedd sensitif.
Er enghraifft, ar gyfer gwaith adeiladu ger cwrs dŵr, gallech gynnwys amod bod angen creu bwnd i atal gwaddod neu lygredd rhag mynd i mewn i'r cwrs dŵr.
Amodau amseru
Gallwch gynnwys amodau amseru er mwyn sicrhau nad yw gwaith yn cael ei wneud yn ystod adegau sensitif o'r flwyddyn neu'r dydd.
Er enghraifft, er mwyn osgoi amharu ar:
- adar, morloi ac ystlumod yn ystod eu tymor bridio
- adar ar dir neu ar y môr pan fyddant yn gorffwys neu'n bwydo yn ystod misoedd y gaeaf
Amodau monitro
Gallwch osod amodau monitro i gadarnhau a yw'r mesurau lliniaru yn gweithio yn ôl y disgwyl. Gallwch ddefnyddio mesurau monitro fel rhybudd cynnar i nodi'r perygl o unrhyw effeithiau newydd posibl.
Dylai amodau monitro nodi'n glir pa gamau y bydd angen i'r cynigydd eu cymryd i sicrhau nad yw effeithiau andwyol yn digwydd:
- os yw'r effeithiau'n debygol o fod yn waeth na'r disgwyl; neu
- os nad yw camau lliniaru'n gweithio yn ôl y disgwyl
Enghraifft o fesurau lliniaru ac amodau priodol
Mae asesiad priodol o ddatblygiad diwydiannol arfaethedig yn dangos y gallai goleuadau a thraffig o waith adeiladu amharu ar nifer sylweddol o adar ar safle Ewropeaidd cyfagos a ddynodwyd ar gyfer adar bridio.
Gallwch osod amodau ar y cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn pasio'r prawf uniondeb. Er enghraifft, er mwyn sicrhau bod cynigydd:
- yn gosod sgriniau gweledol ac acwstig dros dro o amgylch y gwaith adeiladu
- yn amseru'r gwaith er mwyn sicrhau ei fod yn dechrau ac yn gorffen y tu allan i dymor bridio'r adar
- yn monitro'r safle i gadarnhau a yw'r mesurau lliniaru yn llwyddiannus
- yn ychwanegu mesurau ychwanegol os nad yw'r mesurau gwreiddiol yn gweithio yn ôl y disgwyl
Penderfynu a yw'r cynnig yn pasio neu'n methu'r prawf uniondeb
Bydd cynnig yn pasio'r prawf uniondeb os yw eich asesiad priodol yn gallu dangos nad oes unrhyw amheuaeth wyddonol resymol na fydd y cynnig yn cael effaith andwyol ar uniondeb y safle.
Mae hyn yn golygu y gallwch gyflwyno, caniatáu neu fabwysiadu'r cynnig - ar ôl asesu unrhyw ffactorau eraill y mae angen i chi eu hystyried - fel llygredd sŵn, difrod i'r dirwedd neu berygl llifogydd.
Os yw'r cynnig yn methu'r prawf uniondeb oherwydd na allwch ddiystyru effaith andwyol ar uniondeb y safle, rhaid i chi wrthod y cynnig yn ei ffurf bresennol. Mae hyn yn golygu gwrthod rhoi caniatâd. Ni ellir bwrw ymlaen â'r gwaith na mabwysiadu'r cynllun oni bai ei fod yn gallu pasio 3 phrawf cyfreithiol sy'n golygu bod y cynllun wedi'i eithrio. Yr enw am hyn yw 'rhanddirymiad’.
3. Rhanddirymiadau: caniatáu eithriadau
Mewn rhai amgylchiadau, gallwch ganiatáu i gynnig sydd wedi methu'r prawf uniondeb fynd yn ei flaen. Yr enw am hyn yw rhanddirymiad.
Dylech hysbysu'r cynigydd cyn gynted â phosibl os ydych yn fodlon ystyried rhanddirymiad ar gyfer cynnig sydd wedi methu'r prawf uniondeb. Rhaid i'r cynnig basio pob un o'r 3 phrawf cyfreithiol i fod yn gymwys ar gyfer rhanddirymiad.
Rhanddirymiadau: 3 phrawf cyfreithiol
Er mwyn penderfynu a yw'r cynnig yn gymwys ar gyfer rhanddirymiad, rhaid i chi gyflwyno'r 3 phrawf cyfreithiol yn y drefn ganlynol:
- Nid oes unrhyw atebion amgen dichonadwy a fyddai'n llai niweidiol neu'n osgoi difrod i'r safle.
- Mae angen rhoi'r cynnig ar waith am resymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig.
- Gellir sicrhau'r mesurau digolledu angenrheidiol.
Dylech sicrhau eich bod yn cofnodi'ch holl ganfyddiadau, gan gynnwys prawf sydd wedi methu.
3.1 Prawf 1 - Ystyried atebion amgen
Er mwyn caniatáu rhanddirymiad mae'n rhaid i chi benderfynu nad oes unrhyw ateb arall ar gael a fyddai'n llai niweidiol i'r safle.
Dylech weithio gyda'r cynigydd ac ystyried a oes unrhyw atebion amgen ar gael. Gallai hyn gynnwys ystyried a fyddai modd i'r cynnig:
- ddigwydd mewn lleoliad gwahanol
- defnyddio llwybrau gwahanol ar draws safle
- newid graddfa, maint, dyluniad, dull neu amseriad y cynnig
Rhaid i atebion amgen fod yn addas
Mae'n rhaid i atebion amgen fodloni amcanion gwreiddiol y cynnig.
Mae ateb amgen yn dderbyniol:
- os yw'n cyflawni'r un amcan cyffredinol â'r cynnig gwreiddiol
- os yw'n ymarferol yn ariannol, yn gyfreithiol ac yn dechnegol
- os yw'n llai niweidiol i'r safle Ewropeaidd ac nad yw'n cael effaith andwyol ar uniondeb y safle Ewropeaidd hwn neu unrhyw safle Ewropeaidd arall
Mae enghreifftiau o atebion amgen nad ydynt yn cyflawni'r amcan gwreiddiol o bosibl yn cynnwys cynnig sy'n:
- cynnig ynni niwclear yn hytrach nag ynni gwynt ar y môr
- darparu cludiant ar y rheilffordd yn hytrach nag ar y ffordd
- diogelu llai o gartrefi rhag llifogydd neu'n gorfodi pobl i adleoli
- mewnforio nwyddau mewn ffordd wahanol yn hytrach na chynyddu capasiti porthladdoedd
Dylai'r cynigydd ddarparu gwybodaeth am atebion amgen i chi, neu wybodaeth am ddiffyg atebion amgen. Bydd angen i chi benderfynu a oes unrhyw ddewisiadau amgen derbyniol.
Os oes un neu fwy o atebion amgen ar gael, ni allwch roi rhanddirymiad i'r cynnig gwreiddiol a rhaid i chi ei wrthod. Nid oes angen cwblhau prawf 2 neu brawf 3.
Os nad oes unrhyw atebion amgen, mae'r cynnig yn pasio prawf 1 a gallwch symud i brawf 2.
3.2 Prawf 2 - Ystyried rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig
Os nad oes unrhyw atebion amgen dichonadwy, rhaid i chi allu dangos bod yna resymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig pam y mae'n rhaid i'r cynnig fynd yn ei flaen. Rhaid i'r rhesymau hyn gyfiawnhau'r cynnig, er gwaethaf y difrod y gallai ei achosi i'r safle Ewropeaidd.
Rhaid i chi benderfynu a yw'r cynnig:
- yn hanfodol - mae'n angenrheidiol bod y cynnig yn mynd rhagddo am resymau budd y cyhoedd
- er budd y cyhoedd - mae'r cynnig yn fanteisiol i'r cyhoedd yn ogystal ag i fuddiannau preifat
- tra phwysig - mae budd y cyhoedd yn drech na'r niwed, neu'r perygl o niwed, i uniondeb y safle Ewropeaidd a ragwelir gan yr asesiad priodol
Mae cynlluniau strategol cenedlaethol, datganiadau polisi a phrosiectau mawr yn fwy tebygol o fod â lefel uchel o fudd y cyhoedd a gallu dangos eu bod yn hanfodol ac yn dra phwysig. Mae cynlluniau neu brosiectau sy’n darparu manteision tymor byr neu leol iawn yn unig yn llai tebygol o allu dangos rhesymau hanfodol o fudd cyhoeddus tra phwysig.
3.2.1 Ystyriwch Ardaloedd Cadwraeth Arbennig gyda chynefinoedd neu rywogaethau â blaenoriaeth, a phryd y mae'n rhaid i chi ofyn am farn
Mae rhai cynefinoedd a rhywogaethau dynodedig ACA yn cael eu hystyried yn flaenoriaeth arbennig ar gyfer cadwraeth. Mae enghreifftiau o gynefinoedd a rhywogaethau ACA â blaenoriaeth yng Nghymru neu Loegr yn cynnwys:
- palmentydd calchfaen
- gorgorsydd a chyforgorsydd gweithredol
- rhai twyni arfordirol
- coetir yw
- math prin, lliw coch o lysiau'r afu
Os oes nodweddion blaenoriaeth yn bresennol ar safle, byddant yn cael eu rhestru fel rhan o amcanion cadwraeth y safle. Mae'r rhain ar gael yng nghronfeydd data'r safleoedd dynodedig ar gyfer Cymru neu Lloegr.
Os yw eich asesiad priodol wedi dangos bod y cynnig wedi methu'r prawf uniondeb ar ACA ac y byddai'n effeithio ar gynefin neu rywogaeth â blaenoriaeth, dim ond y rhesymau budd y cyhoedd canlynol y cewch chi eu hystyried fel rheol:
- iechyd pobl
- diogelwch y cyhoedd
- manteision amgylcheddol pwysig
Fodd bynnag, os ydych yn ystyried rhesymau eraill er budd cyhoeddus tra phwysig, megis manteision cymdeithasol neu economaidd, rhaid i chi ofyn am farn y llywodraeth genedlaethol berthnasol yng Nghymru neu Loegr.
Yn gyntaf, dylai awdurdodau cymwys yn Lloegr ymgynghori ag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig. Nodwch ‘FAO Secretary of State: IROPI opinion request: protected European sites policy’ yn y maes pwnc os ydych yn defnyddio e-bost.
Dylai awdurdodau cymwys yng Nghymru gysylltu â Llywodraeth Cymru:
Tîm Polisi Bioamrywiaeth
Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth
Llywodraeth Cymru
Rhodfa Padarn
Aberystwyth
SY23 3UR
Cyfeiriad e-bost: bio.diversity@gov.wales ychwanegu 'At sylw Gweinidogion Cymru: cais am farn ar IROPI' ym maes pwnc eich e-bost.
Os yw'r cynnig yn cynnwys rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig, mae'n pasio prawf 2 a gallwch symud ymlaen i brawf 3.
Os nad yw'r cynnig yn cynnwys rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig, ni allwch roi rhanddirymiad ac nid oes angen cwblhau prawf 3. Rhaid i chi wrthod y cynnig.
3.3 Prawf 3 - Sicrhau mesurau digolledu
Os nad oes unrhyw atebion amgen dichonadwy ar gael a'ch bod wedi dangos bod yna resymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig, mae angen i chi sicrhau y bydd camau digolledu yn cael eu rhoi ar waith. Bydd angen i'r mesurau hyn wrthbwyso'n llawn y difrod a fydd neu a allai gael ei achosi i'r safle.
Dylech weithio gyda'r cynigydd a'r SNCB perthnasol i nodi, llunio a sicrhau mesurau digolledu addas. Bydd disgwyl i'r cynigydd dalu am y mesurau digolledu.
Ni ddylai'r mesurau digolledu eu hunain gael effaith negyddol ar y rhwydwaith cenedlaethol o safleoedd Ewropeaidd yn gyffredinol, er gwaethaf effeithiau negyddol y cynnig ar safle Ewropeaidd unigol.
Gall mesurau digolledu gynnwys gwaith i greu neu adfer yr un cynefin neu gynefin tebyg iawn mewn ardaloedd sydd ag ychydig iawn o werth cadwraeth, neu dim gwerth:
- ar yr un safle - os yw'n bodoli
- mewn lleoliad addas y tu allan i'r safle
Os nad yw'r ardal sy'n darparu mesurau digolledu o fewn y safle Ewropeaidd, dylid ei dynodi'n rhan o'r safle Ewropeaidd. Hyd nes y bydd hynny'n digwydd, mae'r safle wedi'i ddiogelu gan bolisi cynllunio'r llywodraeth.
Sut i benderfynu ar fesurau digolledu
Rhaid i chi fod yn hyderus y bydd y mesurau'n gwneud yn iawn am effeithiau negyddol y cynnig. Nid oes angen i chi ystyried mwy o fesurau digolledu nag sydd eu hangen.
Dylech ystyried:
- pa mor dechnegol ymarferol ac effeithiol fydd y mesurau - yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol ac enghreifftiau blaenorol
- pa mor hyfyw yn ariannol yw'r mesurau - rhaid i'r cynigydd fod â digon o gyllid i dalu'r costau
- sut y byddai'r mesurau digolledu yn cael eu rhoi ar waith, gan gynnwys sut y byddant yn cael eu rheoli a'u monitro dros yr amser perthnasol, a sut y maent wedi'u sicrhau
- pellter o'r safle sydd wedi'i effeithio - mae mesurau digolledu yn nes at y safle yn well yn gyffredinol, oni bai y bydd mesurau ymhellach i ffwrdd yn fanteisiol i'r rhwydwaith o safleoedd Ewropeaidd yn gyffredinol
- faint o amser sydd ei angen i'r mesurau digolledu gyrraedd ansawdd a maint y cynefin gofynnol
Cadarnhau bod mesurau digolledu wedi'u cyflwyno
Dylech sicrhau y bydd y mesurau digolledu yn mynd rhagddynt fel y cytunwyd ac y byddant yn parhau i fod ar waith gydol yr amser y bydd eu hangen, sef am gyfnod amhenodol yn y rhan fwyaf o achosion. Dylech gynnwys y mesurau hyn yn yr amodau sydd ynghlwm wrth eich caniatâd. Rhaid i chi gyflwyno'r holl drefniadau cyfreithiol, technegol, ariannol a monitro angenrheidiol.
Fel arfer, dylai mesurau digolledu effeithiol fod ar waith cyn y gellir caniatáu'r effaith negyddol ar safle.
Enghraifft o fesurau digolledu priodol
Bydd cais i ehangu porthladd yn dinistrio cyfran o fflat llaid. Mae'r fflat llaid yn rhan o safle Ewropeaidd sydd wedi'i ddynodi ar gyfer bwydo adar. Rydych yn rhoi caniatâd oherwydd eich bod yn penderfynu:
- nad oes unrhyw atebion amgen sy'n llai niweidiol
- rhesymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig pam y dylai'r cynnig fynd yn ei flaen
Rhaid i'r cynigydd greu cynefin bwydo newydd ar gyfer yr adar sydd wedi'u dadleoli:
- cyn y gellir bwrw ymlaen â'r broses ehangu
- cyn i unrhyw gynefin presennol gael ei ddifrodi
Rhoi caniatâd o dan randdirymiad
Os yw'r cynnig yn pasio pob un o'r 3 phrawf, gallwch ganiatáu iddo fynd yn ei flaen o dan randdirymiad HRA.
Cyn i chi roi caniatâd ar gyfer prosiect, cyflwyno prosiect eich hun neu fabwysiadu cynllun, rhaid i chi roi gwybod i Ysgrifennydd Gwladol adran berthnasol llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru. Dylech anfon:
- crynodeb o'r cynnig
- gwybodaeth am y safleoedd Ewropeaidd sy'n cael eu heffeithio
- eich HRA sy'n dangos sut y daethoch i'ch penderfyniad y bydd neu y gallai'r cynnig gael effaith andwyol ar uniondeb y safleoedd
- tystiolaeth i ddangos nad oes atebion amgen
- tystiolaeth i ddangos bod yna resymau hanfodol er budd cyhoeddus tra phwysig pam y dylai'r cynnig fynd yn ei flaen
- manylion y mesurau digolledu a thystiolaeth i ddangos y byddant yn llwyddo
- cyngor a gawsoch gan yr SNCB a rhanddeiliaid eraill, a sut yr aethoch chi ati i'w ystyried
Dylech ddefnyddio'r [ffurflen hysbysiad rhanddirymiad HRA] i gyflwyno'r wybodaeth hon.
Beth fyddwch chi'n ei dderbyn yn ôl
Dylech gael ymateb o fewn 21 diwrnod calendr. Os nad ydych yn cael ymateb o fewn 21 diwrnod gallwch gyflwyno, cymeradwyo neu fabwysiadu'r cynnig.
Os nad yw'r llywodraeth yn fodlon bod y cynnig wedi bodloni un neu fwy o'r 3 phrawf, efallai y bydd yn dweud wrthych am wrthod neu ohirio cymeradwyaeth. Gall hyn ddigwydd oherwydd nad yw'n glir sut y bydd y cynigydd yn cyflwyno mesurau digolledu.
Adolygu cynlluniau a phrosiectau presennol os yw safleoedd Ewropeaidd yn newid
Weithiau gallai cynllun neu brosiect sy'n bodoli eisoes rydych wedi'i gymeradwyo neu ei fabwysiadu o'r blaen effeithio ar dir, neu ran o'r môr:
- sy'n dod yn safle Ewropeaidd newydd
- sydd wedi'i gynnwys mewn estyniad i safle Ewropeaidd presennol
- sy’n cynnal mathau ychwanegol o gynefinoedd neu rywogaethau sydd wedi'u hychwanegu at safle Ewropeaidd presennol
Mae Ysgrifennydd Gwladol Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig neu Weinidogion Cymru yn dynodi neu'n diwygio safleoedd Ewropeaidd.
Bydd yr SNCB perthnasol yn cyhoeddi cynigion at ddibenion ymgynghori cyn gwneud penderfyniad i greu neu newid safle Ewropeaidd.
Mae unrhyw newid yn golygu y bydd angen i chi adolygu'r penderfyniadau a wnaethoch am gynigion ar y safle Ewropeaidd. Bydd angen i chi gwblhau HRA newydd i weld a oes unrhyw effeithiau negyddol newydd ar uniondeb y safle.
Nid yw gwaith sydd eisoes wedi'i gwblhau yn cael ei effeithio.
Mae'r adolygiad hwn yn bwysig os ydych wedi cymeradwyo cynnig o'r blaen, ond nad yw'r gwaith wedi dechrau neu wedi gorffen eto, megis cynllun echdynnu mwynau ar raddfa fawr.
Gallwch gysylltu â'r SNCB perthnasol ynglŷn ag adolygu cynigion presennol.