Ers 2016, mae plant yng Nghymru wedi'u hasesu drwy Broffil y Cyfnod Sylfaen, yn ystod eu chwe wythnos gyntaf ar ôl dechrau mewn ysgol gynradd (dosbarth derbyn).
Y cyhoeddiad diweddaraf
Defnyddir yr asesiadau hyn i bennu cam datblygu a diddordebau'r plentyn yn ôl Proffil a Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.
Mae'r asesiadau hyn yn seiliedig ar gyfres o sylwadau pwyllog am bob plentyn wrth iddynt ddechrau mewn Dosbarth Derbyn.
Mae pedwar maes dysgu dan sylw.
- Sgiliau iaith, llythrennedd a chyfathrebu (yn y Gymraeg neu'r Saesneg).
- Datblygiad mathemategol.
- Datblygiad corfforol.
- Datblygiad personol a chymdeithasol, lles
- Amrywiaeth ddiwylliannol.
Mae'r ffordd hon o weithio'n helpu ymarferwyr i ddeall dull dysgu a diddordebau plentyn, yn ogystal â'i gam datblygu.
Mae’r data yn adlewyrchu’r ystod eang o aeddfedrwydd datblygiadol a ddisgwylir ar gyfer yr oedran hwnnw, sydd o fewn yr ystod safonol ar gyfer plant wrth ddechrau yn yr ysgol. Yn enwedig o ystyried oed amrywiol plant sy’n dechrau’r ysgol.
Mae'r penawd hyn yn cynnwys un o'r dangosyddion cenedlaethol a ddefnyddir at ddibenion mesur y cynnydd tuag at gyflawni 7 nod llesiant Cymru. Dangosydd cenedlaethol 6 yw hwn, sy'n mesur datblygiad plant ifanc, ac rydym yn cadw golwg ar y cynnydd drwy ddefnyddio maes dysgu Datblygiad Personol a Chymdeithasol, Lles ac Amrywiaeth Ddiwylliannol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Prif bwyntiau
- Mae tua 6 o bob 10 disgybl 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad mewn mathemateg ac iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn Saesneg a fyddai’n gyson â’u hoed yn ôl y fframwaith, neu’n well, ac mae tua 9 o bob 10 disgybl o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â‘u hoed.
- Mae’r sefyllfa o ran iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn y Gymraeg yn wahanol. Mae 1 o bob 3 disgybl wedi cyrraedd cam datblygiad sy’n gyson â’u hoed, neu’n well. Gellir egluro hyn drwy’r nifer o ddisgyblion o gartrefi lle nad ydynt yn siarad Cymraeg y mae eu rhieni yn dewis eu cofrestru mewn ysgol cyfrwng Cymraeg. I roi hyn mewn cyd-destun, erbyn diwedd y Cyfnod Sylfaen mae tua 90% o ddisgyblion yn cyflawni’r deilliant a ddisgwylir ar gyfer y maes dysgu hwn.
- O ran datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol, mae tua 7 o bob 10 disgybl 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad yn y maes dysgu hwn a fyddai’n gyson â’u hoed yn ôl y fframwaith, neu’n well, ac mae tua 9 o bob 10 disgybl o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â‘u hoed.
- Ar gyfer pob maes dysgu mae patrwm gwahanol o ran cynnydd datblygiadol rhwng bechgyn a merched gan eu bod yn aeddfedu ar gyflymdra gwahanol ac, ar gyfartaledd, mae merched wedi cyrraedd cam datblygiad uwch. Mae hyn yn gyson ag astudiaethau eraill megis Astudiaeth Carfan y Mileniwm a data’r Rhestr Sgiliau Tyfu a gasglwyd o dan raglen Dechrau’n Deg.
Y dyddiad cyhoeddi nesaf
O 2019 ymlaen, caiff canlyniadau'r asesiadau dechreuol eu cyhoeddi ym mis Awst ochr yn ochr â chanlyniadau asesiadau athrawon ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 a’r Cyfnod Syflaen.
Adroddiadau
Asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn, Medi 2017 i Awst 2018: nodiadau , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 308 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Asesiadau dechreuol o ddisgyblion dosbarth derbyn, Medi 2017 i Awst 2018: tablau , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 74 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.