Neidio i'r prif gynnwy

Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach.

Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru
  • Yr Adran Addysg a Sgiliau yn Llywodraeth Cymru
  • Adrannau llywodraethol eraill
  • Y gymuned ymchwil
  • Awdurdodau lleol ac ysgolion
  • Estyn
  • Myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • Dinasyddion unigol, cwmnïau preifat a’r cyfryngau

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd.

Dyma rai enghreifftiau:

  • cefndir cyffredinol ac ymchwil
  • i’w cynnwys mewn adroddiadau a dogfennau briffio
  • cyngor i Weinidogion
  • i lywio’r broses benderfynu ym maes polisi addysg yng Nghymru gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • maes addysg ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru
  • i gynorthwyo â gwaith ymchwil i gyrhaeddiad addysgol

Cywirdeb

Rydym yn gweithio'n agos ag ysgolion ac awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod yr holl ddata'n cael eu dilysu cyn cyhoeddi'r tablau. Os bydd unrhyw anomaleddau yn y data o'u cymharu â'r flwyddyn flaenorol, mae Llywodraeth Cymru yn herio ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â’r anomaleddau hynny yn y data. Mae'r data terfynol yn cael eu cymeradwyo gan ysgolion ac awdurdodau lleol bob blwyddyn. Mae'r data'n cael eu cynnwys mewn taenlen electronig a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru drwy DEWi – system ar-lein ddiogel i drosglwyddo data a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses, ceir nifer o gamau awtomatig i ddilysu a gwirio'r synnwyr, er mwyn sicrhau data o ansawdd uchel.

Amseroldeb a phrydlondeb

Roedd DEWi ar gael i lanlwytho ffeiliau ar 14 Mai 2019, a gofynnwyd i ysgolion gyflwyno data ar gyfer yr holl ddisgyblion ar y gofrestr yn yr ysgol ar 14 Mai ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Cyfnodau Allweddol perthnasol a’r Profion Darllen Cenedlaethol. Wedyn gofynnwyd i ysgolion ac awdurdodau lleol ddilysu eu data yn y cyfnod dilysu, a ddaeth i ben ar 5 Gorffennaf 2019.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Yn cyd-fynd ag ef mae tablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth y gellir ei ddefnyddio am ddim sy’n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cymaroldeb

Ni chyflwynodd unrhyw ysgolion annibynnol ddata Cyfnod Allweddol 2 neu 3 yn 2019. Cyflwynodd un ysgol annibynnol ddata Cyfnod Allweddol 2 yn 2012 – darparodd yr un ysgol annibynnol ganlyniadau yn 2009 a 2010 hefyd. Ni fydd data ysgolion annibynnol yn cael eu cynnwys mewn canlyniadau awdurdodau lleol. Ond fe fydd y data'n ymddangos yn y canlyniadau cyffredinol ar gyfer Cymru.

Ni ellir cymharu data Cymru â gwledydd eraill y DU. Mae Lloegr yn cyhoeddi datganiadau ar wahân ar Gyfnodau Allweddol 1 a 2, er nad yw’n cyhoeddi datganiadau ar gyfer Cyfnod Allweddol 3 mwyach. Yn y datganiadau ar gyfer Lloegr, cyhoeddir ffigurau ar asesiadau athrawon, yn ogystal ag arholiadau swyddogol.

Ystadegau Addysg yr Alban

Ystadegau addysg Gogledd iwerddon

 

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus. Cadarnhawyd dynodiad yr ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol ym mis Gorffennaf 2010 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan Swyddfa ar gyfer Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • wedi'i ychwanegu at a gwella'r wybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi
  • cynhyrchu'r datganiad diweddaraf mewn fformat syml newydd yn HTML am y tro cyntaf.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddfell Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.