Neidio i'r prif gynnwy

Am y datganiad hwn

Yn dilyn datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog dros Addysg yng Ngorffennaf 2018, ac ymgynghoriad a orffennodd yn Ionawr 2018, ni fyddwn bellach yn cyhoeddi data'r Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 ar lefel ysgol, awdurdod na chonsortia. Mae hwn yn gam sylweddol i ffwrdd o gasglu gwybodaeth am berfformiad pobl ifanc fesul ysgol at ddibenion atebolrwydd.

Gallai canlyniadau eleni fod yn adlewyrchiad o’r newidiadau hyn, lle mae prif bwrpas asesiadau athrawon wedi dechrau symud yn ôl i ddysgwyr unigol ac i ffwrdd o ddwyn ysgolion i gyfrif.

Cyfnod Allweddol 3

Mae Cyfnod Allweddol 3 yn cyfeirio at y cwricwlwm a addysgir i ddisgyblion rhwng 11 a 14 oed. Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion 14 oed yn cyrraedd lefel 5.

Mae’r siart yma yn dangos gostyngiad yn 2019 ym mhob pwnc yn y canran o ddisgyblion a gyflawnodd y lefel disgwyliedig yng Nghyfnod Allweddol 3.

Rhwng 2015 a 2018, roedd cynnydd cyson yn rhan fwyaf o bynciau yn y canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5+, ond roedd gostyngiad ym mhob pwnc yn 2019.

Yn 2019 amrywiodd y canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5+ o 83.2% yng Nghymraeg ail iaith i 93.2% yn Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Rhwng 2018 a 2019 roedd y gostyngiad mwyaf yng Nghelf a Dylunio (2.1 pwynt canran) tra roedd y gostyngiad lleiaf yn TGCh (0.6 pwynt canran).

Er bod y canran o ddisgyblion a gyflawnodd lefel 5+ yn is yn 2019 nac yn 2018, roedd dal yn uwch nac yn 2015.

Mae’r siart yma yn dangos  fod cyflawniad merched yn uwch na bechgyn ym mhob pwnc yng nghyfnod Allweddol 3 yn 2019.

Roedd canran y merched a gyflawnodd lefel 5+ yn uwch na bechgyn ym mhob pwnc yn 2019. Amrywiodd y bwlch o 1.9 pwynt canran yn addysg gorfforol i 11.5(r) pwynt canran yng Nghymraeg ail iaith.

Culhaodd y bwlch rhwng merched a bechgyn rhwng 2010 a 2018. Yn 2019 mae’r bwch wedi cynyddu yn rhan fwyaf o bynciau, ond mae’n llai nac yn 2015.

Gweler yr holl ystadegau pynciau di-graidd Cyfnod Allweddol 3 ar StatsCymru.

(r) diwygiwyd ar 12 Awst 2019.

Cyfnod Allweddol 2

Mae Cyfnod Allweddol 2 yn cyfeirio at y cwricwlwm a addysgir i ddisgyblion rhwng 7 a 11 oed. Y disgwyliad cyffredinol yw y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion 11 oed yn cyrraedd lefel 4.

Cymraeg Ail Iaith yw’r  unig bwnc di-graidd yr ydym yn casglu data ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.

Mae’r siart yma yn dangos  fod cyflawniad merched yng Nghymraeg ail Iaith Cyfnod Allweddol 2 yn uwch na bechgyn dros yr holl gyfnod o 2011 i 2019.

Cynyddodd canran y disgyblion a gyflawnodd lefel 4+ yng Nghymraeg ail iaith ym mhob blwyddyn o 2011 i 2018, ond gostyngodd 0.4 pwynt canran yn 2019, i 80.9%.

Roedd cyflawniad merched yn uwch na bechgyn dros y cyfnod. Mae’r bwlch wedi culhau ychydig yn gyffredinol ers 2011. Yn 2019 roedd y bwlch yn 10.4 pwynt canran.

Mae’r siart yma yn dangos  fod mwy o ferched na bechgyn yn cyflawni o leiaf lefel 4 yng Nghymraeg ail Iaith yn 2019.

Roedd y canran o fechgyn a gyflawnodd lefel 4 ychydig yn uwch na merched. Ond cyflawnodd 34.9% o ferched lefel 5+ o’i gymharu â 21.8% ar gyfer bechgyn.

Nodiadau

Y cyd-destun

Polisi/gweithrediadol

Rhaid i bob un o’r dysgwyr sydd yn eu blwyddyn olaf yng Nghyfnodau Allweddol 2 a 3 gael eu hasesu drwy asesiadau athrawon. Mae penaethiaid yn gyfrifol am adrodd canlyniadau’r holl ddysgwyr sydd ar eu cofrestr ar yr ail ddydd Mawrth ym mis Mai, sef y ’dyddiad penodol ar y gofrestr’. Yn 2019, 14 Mai oedd y dyddiad ar gyfer hyn.

Gellir gweld y trefniadau asesu statudol ar gyfer blwyddyn ysgol 2018/19.

Mae pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru wedi’u rhannu i ddau gategori, sef pynciau craidd a phynciau di-graidd.

Dyma’r pynciau craidd:

  • Saesneg
  • Cymraeg iaith gyntaf
  • Mathemateg
  • Gwyddoniaeth.

Dyma’r pynciau di-graidd:

  • Celf a dylunio
  • Dylunio a thechnoleg
  • Daearyddiaeth
  • Hanes
  • Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu
  • Ieithoedd tramor modern
  • Cerddoriaeth
  • Addysg gorfforol
  • Cymraeg ail iaith.

Rhaglen wirio allanol ar gyfer asesiadau athrawon

Ar 18 Mai 2015, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddatganiad ar Datganiad Ysgrifenedig - Sicrhau dibynadwyedd a chysondeb o ran Asesiadau Athrawon yng Nghymru: Rhaglen Wirio Allanol. O 2016 ymlaen, mae posibilrwydd y bydd gwell trylwyredd mewn asesiadau athrawon yn arwain at effaith ar ddosbarthiad Lefelau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a ddyfernir. Mae'r rhaglen wirio allanol bellach wedi dod i ben.

Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad Annibynnol o’r Cwricwlwm a’r Trefniadau Asesu yng Nghymru

Ym mis Mawrth 2014 gofynnwyd i'r Athro Graham Donaldson gynnal adolygiad sylfaenol o'r trefniadau cwricwlwm ac asesu o'r Cyfnod Sylfaen i Gyfnod Allweddol 4. Yn yr adroddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2015, gwnaeth yr Athro Donaldson 68 o argymhellion eang i wella'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu yn Cymru. Bydd yr adolygiad annibynnol hwn yn cael effaith arwyddocaol ar drefniadau asesu ac ar gyhoeddi ystadegau swyddogol.

Dyfodol Llwyddiannus: adolygiad o'r cwricwlwm a'r trefniadau asesu

Cyhoeddiadau cysylltiedig

Cyhoeddwyd Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd: 2019 ar 7 Awst 2019.

Ffynhonnell data

Casglu Data Cenedlaethol yw casglu data yn electronig ynghylch asesiadau athrawon ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a Chyfnodau Allweddol 2 a 3. Caiff data eu hanfon gan ysgolion at y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddeg yn Llywodraeth Cymru dan ofal eu Hawdurdod Lleol.

Gwybodaeth casglu data cenedlaethol ar gyfer 2019

Diffiniadau

Cwmpas

Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn 11 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 neu’n 14 oed ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 3. Mae’n bosibl y bydd rhai’n hŷn neu’n iau, ac mae’n bosibl y bydd rhai’n cael eu haddysgu mewn dosbarth lle mae’r rhan fwyaf o’r dysgwyr o oedran gwahanol. Ar gyfer pob Cyfnod Allweddol, rhaid i ddysgwyr gael asesiad statudol (h.y. rhaid iddynt gael asesiad athro ar ddiwedd y Cyfnod Allweddol) unwaith yn unig.

O 2010 ymlaen roedd ysgolion yn gallu darparu canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer Cymraeg Ail Iaith.

Lefelau disgwyliedig

Cyfnod Allweddol 2: y disgwyliad cyffredinol yw y bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion 11 oed yn cyrraedd lefel 4 ym mhob pwnc.

Cyfnod Allweddol 3: yn yr un modd, bydd disgyblion 14 oed yn cyrraedd lefel 5.

Mae ‘D’ yn cynrychioli disgyblion sydd wedi’u datgymhwyso o dan adrannau 113-116 o Ddeddf Addysg 2002, neu ddisgyblion na allai athrawon ddarparu asesiad ar eu cyfer. Mae ‘N’ yn cynrychioli disgyblion na ddyfarnwyd lefel iddynt am resymau heblaw datgymhwyso.

Yn 2010 cafodd lefel deilliant ‘W’ (gweithio tuag at lefel 1) ei dileu a’i disodli gan dri deilliant dilys newydd ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2 a 3 – Deilliannau 1, 2 a 3 y Cwricwlwm Cenedlaethol. Cyflwynwyd y lefelau newydd hyn i ddisgrifio cyflawniad islaw lefel 1. At ddibenion cyhoeddi, mae’r tri deilliant hyn wedi cael eu grwpio gyda’i gilydd a’u henwi ‘NCO 1, 2 a 3’.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Yn rhoi crynodeb o’r wybodaeth am yr allbwn hwn o dan bum agwedd ar ansawdd.

Gwybodaeth allweddol am ansawdd

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Steve Hughes
Ffôn: 0300 025 5060
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

National statistics

SFR 62/2019