Neidio i'r prif gynnwy

Canfyddiadau o asesiad o werthusadwyedd o'r contract arfaethedig ar gyfer y llinell gymorth Byw Heb Ofn yng Nghymru. Mae hefyd yn ystyried opsiynau i werthuso'r Llinell Gymorth yn y dyfodol.

Prif ganfyddiadau

Roedd cefnogaeth gref o blaid gwerthuso'r Llinell Gymorth ymhlith staff a rhanddeiliaid fel ffordd i nodi asesiadau defnyddwyr o'r gwasanaeth.

Nodwyd nifer o heriau wrth fynd ati i werthuso effaith y Llinell Gymorth yn cynnwys:

  • diffyg dealltwriaeth glir a rennir o nodau ac amcanion y Llinell Gymorth
  • prinder adnoddau a/neu ddiffyg arbenigedd i gynllunio a theilwra systemau monitro a gwerthuso er mwyn sicrhau y caiff canlyniadau ac effeithiau eu hasesu fel rhan o'r contract
  • data cyfyngedig am ymgysylltiad defnyddwyr gwasanaethau a phroblemau gyda mesur a phriodoli
  • cyfyngiadau moesegol

Awgrymwyd cymysgedd o ddulliau gwerthuso fel opsiwn ar gyfer contractau yn y dyfodol, yn cynnwys:

  • gwerthusiad proses sy'n ymchwilio i'r broses o gyflawni
  • defnydd o'r Llinell Gymorth a wneir gan ddefnyddwyr gwasanaethau
  • canfyddiadau o effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, ynghyd ag ymchwiliad meintiol posibl o ganlyniadau ac effeithiau a ragwelwyd y Llinell Gymorth

Cefndir

Nod yr ymchwil oedd asesu gwerthusadwyedd y Llinell Gymorth Byw Heb Ofn er mwyn llywio'r broses o ddatblygu manyleb dendro ddiwygiedig ar gyfer contract nesaf i ddechrau o 1 Hydref 2020.

Adroddiadau

Asesiad o werthusadwyedd llinell gymorth Byw Heb Ofn , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Asesiad o werthusadwyedd llinell gymorth Byw Heb Ofn: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 510 KB

PDF
510 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Nerys Owens

Rhif ffôn: 0300 025 8586

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.