Asesiad gwerthusadwyedd ar gyfer Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru a'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru: crynodeb
Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi canfyddiadau'r asesiad gwerthusadwyedd ac yn cynnwys y modelau a argymhellir ar gyfer gwerthuso'r Glasbrintiau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Nodau a methodoleg yr ymchwil
Mae'r papur hwn yn crynhoi canfyddiadau Asesiad Gwerthusadwyedd ar gyfer Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru [troednodyn 1] a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru [troednodyn 2]. Datblygwyd y Glasbrintiau i wella'r partneriaethau a'r gwasanaethau a ddarperir i fenywod a phlant a phobl ifanc yn y system gyfiawnder yng Nghymru.
Cynhaliwyd yr Asesiad Gwerthusadwyedd gan Opinion Research Services (ORS), gyda chymorth ymgynghorol gan Dr Helen Hodges a Dr Anthony Charles. Ei nod oedd sefydlu sut y gellir gwerthuso'r Glasbrintiau'n effeithiol.
Roedd pedwar cam yr ymchwil, sef ymarfer mapio ystadegol a pholisi [troednodyn 3]; grwpiau dylunio gwerthusiad menywod a phlant a phobl ifanc; ymgysylltu ag asiantaethau a rhanddeiliaid a datblygu modelau gwerthuso.
Prif ganfyddiadau
Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid Yng Nghymru
Atal; dargyfeirio cyn mynd i'r llys; cymuned; y ddalfa; ac ailsefydlu a phontio yw prif flaenoriaethau’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid Yng Nghymru. Mae gwaith ymchwil a gwerthuso yn flaenoriaeth drawsbynciol.
Atal
Roedd gan gyfranogwyr ddehongliadau gwahanol o weithgarwch atal. Gwnaethant hefyd dynnu sylw at yr angen i gomisiynwyr a gwasanaethau gydweithio; am staffio a chyllid cyson; ac i dargedu gwasanaethau atal yn gywir. Awgrymodd y cyfranogwyr fod angen mesur gweithgarwch atal yn briodol a chael fframwaith ar gyfer y canlyniadau er mwyn gwerthuso'r gweithgarwch atal.
Mae'r argymhellion ar gyfer gwerthuso’r gweithgarwch atal yn cynnwys defnyddio'r canlynol:
- data'r Dangosydd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru i ddangos ymgysylltiad ag addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, a datblygu mesurau cyfatebol ar gyfer mynediad i wasanaethau eraill
- data'r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed ynghylch amseroedd atgyfeirio i driniaeth i ddangos cyflenwad gwasanaeth yn erbyn galw
- mesurau dirprwyol megis presenoldeb i adlewyrchu ymgysylltiad ag ysgolion
- mesurau wedi'u dilysu gan Lywodraeth Cymru i bennu gwelliannau i iechyd a llesiant
- data ar gostau ar gyfer rhai mathau o droseddau, erlyniad, a lleoedd carchar i asesu arbedion cost atal
- cyfraddau cwblhau hyfforddiant staff
- datblygu metrig amgen i'r bobl ifanc sy'n dechrau yn y system am y tro cyntaf i gasglu’r cyswllt cyntaf â’r system cyfiawnder ieuenctid (gan ddefnyddio’r dull a ddefnyddir mewn Hysbysiadau Dulliau Dadansoddi iechyd y cyhoedd)
- gallai cysylltu data hefyd wella dealltwriaeth o risgiau a sbardunau ymyrraeth
Dargyfeirio cyn mynd i'r llys
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at yr angen i ddiffinio dargyfeirio yn glir, a sicrhau bod gwasanaethau dargyfeirio addas ar gael i bob plentyn ac unigolyn ifanc sydd eu hangen. Dywedwyd hefyd bod angen rhai newidiadau diwylliannol, megis gweithredu dull di-gosb sy'n rhoi'r plentyn yn gyntaf, nad yw'n troseddoli plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at yr angen i archwilio p'un a yw plant a phobl ifanc gwyn yn fwy tebygol o gael eu dargyfeirio na phlant a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig. Yn eu barn nhw, roedd hyd byr y mentrau dargyfeirio cyn mynd i'r llys a’r gwahaniaethau mewn ffigurau aildroseddu a gofnodwyd gan Dimau Troseddwyr Ifanc a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn gallu gwneud y gwaith gwerthuso’n heriol.
Er mai ychydig o ddata cyhoeddedig sydd ar gael ynghylch dargyfeirio cyn mynd i'r llys, mae argymhellion ar gyfer gwerthuso dargyfeirio cyn mynd i'r llys yn defnyddio'r canlynol:
Cofnodion lleol i bennu aildroseddu ymhlith y rhai sydd wedi cael eu dargyfeirio cyn mynd i’r llys
Cysylltu data'r heddlu a'r Tîm Troseddwyr Ifanc â setiau data gweinyddol i olrhain canlyniadau dros amser
Creu metrig amgen i'r bobl ifanc sy'n dechrau yn y system am y tro cyntaf sy’n goresgyn unrhyw anghysondebau wrth gofnodi canlyniadau
Cymuned
Teimlai’r cyfranogwyr y gallai asiantaethau wreiddio arfer wedi'i lywio gan drawma ymhellach drwy benodi 'hyrwyddwyr trawma' a darparu hyfforddiant pellach. Gwnaethant nodi y dylai gwasanaethau cymunedol fod ar gael yn gynnar, wedi’u hariannu’n briodol, a dylai fod ganddynt fframweithiau llywodraethu ac atebolrwydd clir. Gwnaeth y cyfranogwyr hefyd awgrymu y dylai gwerthusiadau o’r flaenoriaeth gymunedol archwilio dylanwad arfer wedi'i lywio gan drawma ar wasanaethau.
Dyma'r argymhellion ar gyfer gwerthuso’r flaenoriaeth gymunedol:
- ymgynghori â phlant a phobl ifanc ar ddechrau a diwedd eu hymgysylltiad â chymorth yn y gymuned (ac ymgorffori eu hachwyniadau a’u cwynion)
- cynnal ymchwil ansoddol gyda'r rhai sydd wedi derbyn cymorth yn y gymuned a'r rhai sydd heb dderbyn y cymorth hwnnw
- defnyddio mesurau amser atgyfeirio i driniaeth iechyd cyhoeddus gyda metrigau gan asiantaethau partner i ddeall yr angen am wasanaethau sydd heb ei ddiwallu
- archwilio cyfraddau aildroseddu sylfaenol a thros amser sy'n gysylltiedig â mesurau cydraddoldeb ac amrywiaeth
- casglu ffigurau hyfforddiant staff a'i gysylltu â data rheoli perfformiad gwasanaethau
- cysylltu data'r Tîm Troseddwyr Ifanc / Y Weinyddiaeth Cyfiawnder a chronfa ddata'r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw i ddeall anghenion ac amgylchiadau defnyddwyr gwasanaeth dros amser
Y Ddalfa
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at yr angen i wella darpariaeth ddiogel i ferched, a darpariaeth addysg a hyfforddiant ar gyfer pob plentyn ac unigolyn ifanc yn y ddalfa. Gwnaethant nodi, hefyd, y dylid rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod lleoliadau carcharol yn fwy ystyriol o deuluoedd, ac i weithredu’r model carcharu arfaethedig o uned fach sydd wedi’i lywio gan drawma ac sy’n ymwneud â chael gwasanaeth prif ganolfan a lloerennau a gwasanaethau cysylltiedig ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru. Teimlai’r cyfranogwyr hefyd y byddai’n gymharol hawdd ymgysylltu plant a phobl ifanc yn y ddalfa ag ymchwil.
Mae'r argymhellion ar gyfer gwerthuso blaenoriaeth y ddalfa yn archwilio'r canlynol:
- cyfradd aildroseddu yn ôl dedfryd a'r math o ddatrysiadau (cymunedol o gymharu â charcharol)
- mae proffil y datrysiadau ar gyfer grwpiau gwahanol, yn ôl y math o drosedd a'i difrifoldeb, yn newid dros amser, ac a fu cynnydd yn y defnydd o ddatrysiadau y tu allan i'r llys a gostyngiad yn y defnydd o'r ddalfa
- sicrhau cydymffurfedd y lleoliad â Safonau'r Gymraeg a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
- y defnydd o fesurau remand, rhyddhau'n gynnar, a pharhad gofal
Ailsefydlu a phontio
Yn ôl y cyfranogwyr, roedd mynd â phlant a phobl ifanc o Gymru i'r ddalfa yn Lloegr yn heriol o ran cyflawni’r flaenoriaeth hon. Roeddent yn teimlo ei fod yn hanfodol cael llety addas ar gael ar ôl rhyddhau. Gwnaethant hefyd nodi'r angen am ailsefydlu a phontio mwy priodol ar gyfer plant a phobl ifanc, sydd â mewnbwn eu teuluoedd neu fodelau rôl ac sy'n cynnwys staff y ddalfa a'r holl asiantaethau perthnasol. Wrth werthuso'r flaenoriaeth hon, dylid ystyried y gwahaniaethau o ran darparu a monitro cymorth ailsefydlu, yn ogystal â'r diffyg cyffredinol o ddata ar ailsefydlu a phontio.
Mae'r argymhellion ar gyfer gwerthuso ailsefydlu a phontio'n cynnwys y canlynol:
- archwilio cyfraddau aildroseddu yn ôl y math o ddedfryd, a chydymffurfedd â dedfrydau cymunedol (fel gyda’r flaenoriaeth yn y ddalfa) o ran unrhyw wahaniaethau rhwng plant a phobl ifanc â gwahanol anghenion a/neu nodweddion gwarchodedig
- ymgorffori'r amser i gyfiawnder (yr amser o gael ei arestio i fynd i'r llys)
- creu proffil croestoriadol o'r rhai sy'n cael eu rhyddhau o'r ddalfa
- ymgorffori'r defnydd o remand
- archwilio addasrwydd llety, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a mynediad at driniaethau yn y gymuned trwy fesurau parhad gofal
Ymchwil a gwerthuso
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at yr ystyriaethau canlynol ar gyfer gwerthuso’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru:
- ymgorffori mewnbwn gan yr holl asiantaethau perthnasol
- cyllid priodol ar gyfer y gwaith ymchwil a gwerthuso
- cynnwys gwaith ymchwil a gwerthuso ym musnes craidd gwasanaethau o'r cychwyn cyntaf
- defnyddio'r gwaith ymchwil a gwerthuso i ddylanwadu ar arfer i raddau mwy
- sicrhau bod y gwaith ymchwil a gwerthuso yn ystyrlon ac nid yn symbolaidd
- dylai'r gwaith ymchwil a gwerthuso gyfuno data ansoddol a meintiol, bod yn annibynnol, ac yn fwy hirdymor
- dylai fod yn haws i ymchwilwyr gael gafael ar ddata ar gyfer y gwaith ymchwil a gwerthuso
- cynnwys plant a phobl ifanc fel ymchwilwyr cymheiriaid
- defnyddio technegau sy'n briodol i oedran
- sicrhau bod unigolyn y gellir ymddiried ynddo i gyflwyno ymchwilwyr ac annog ymgysylltiad
- sicrhau bod plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael eu dilysu drwy gymryd rhan
- cynnal ymchwil dros sawl sesiwn mewn lleoliad lle mae plant a phobl ifanc yn teimlo’n ddiogel
- osgoi dulliau papur, hunanlenwi fel taflenni gwaith
- cynnig cymelliadau addas
Mewn perthynas â'r gwaith ymchwil a gwerthuso, dywedodd y rhan fwyaf o blant a phobl ifanc y byddent yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan mewn gwaith ymchwil a gwerthuso yn y dyfodol. Nid oedd rhywedd, oedran nac ethnigrwydd yr ymchwilwyr yn bwysig iddynt, er iddynt dynnu sylw at y pwysigrwydd o ystyried cyflwr emosiynol y plant a'r bobl ifanc cyn eu cynnwys mewn ymchwil. Byddai'n well gan y mwyafrif ohonynt gymryd rhan mewn ymchwil yn y prynhawn neu gyda'r nos; ar sail un-i-un neu grŵp; a byddai'n well ganddynt beidio â chwblhau dyddiaduron at ddibenion ymchwil.
Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru
Mae'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru'n blaenoriaethu ymyrraeth gynnar ac atal; atebion cymunedol; y ddalfa ac ailsefydlu; ac ymchwil a gwerthuso.
Ymyrraeth gynnar ac atal
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at yr angen i ddiffinio a mesur ymyrraeth gynnar ac atal yn briodol. Roeddent yn pwysleisio pwysigrwydd cysylltiadau cryf rhwng comisiynwyr gwasanaethau, darparwyr, a sefydliadau goruchwylio. Roedd sicrhau gwasanaethau priodol i bob menyw a’u hannog i ymgysylltu â nhw hefyd yn cael ei ystyried yn bwysig, yn ogystal â chael mynediad at gyllid cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau, a goresgyn cystadleuaeth am adnoddau.
Roedd yr argymhellion ar gyfer y gwaith o werthuso ymyrraeth gynnar ac atal yn cynnwys defnyddio'r canlynol
- Defnyddio data gwasanaeth lleol i fonitro perfformiad, e.e., atgyfeirio a/neu asesu, a data’r heddlu, e.e., arestiadau a stopio a chwilio.
- Defnyddio data ar yr amseroedd rhwng atgyfeirio a chael ei drin ar gyfer gwasanaethau i helpu i bennu cyflenwad yn erbyn galw; a data ar gostau ar gyfer rhai mathau o droseddau, erlyniadau, a lleoedd carchar i helpu i ddangos arbedion.
- Ystyried dewis arall o ran y bobl sy'n dechrau yn y system am y tro cyntaf er mwyn asesu atal a dargyfeirio gan ddefnyddio'r dull a ddefnyddir mewn Hysbysiadau Dulliau Dadansoddi iechyd y cyhoedd.
- Defnyddio'r dull o gysylltu data i wella'r broses werthuso (e.e., olrhain menywod sydd wedi cyrchu gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal trwy ddata gweinyddol).
- Archwilio gwahaniaethau mewn canlyniadau ar gyfer menywod a gafodd eu harestio a heb eu cyhuddo, ac a oedd â datrysiadau y tu allan i’r llys gwahanol.
- Olrhain merched a oedd wedi bod drwy'r Swyddfa/Brysbennu i bennu eu canlyniadau.
Llysoedd a dedfrydu
Nododd y cyfranogwyr yr angen i sicrhau dealltwriaeth gyson o ddewisiadau amgen i gyhuddo menywod, a'r angen i leihau'r defnydd o'r ddalfa i fenywod. Roedd yr agweddau ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso yn cynnwys y trothwyon is arfaethedig ar gyfer dedfrydau o garchar i fenywod nag ar gyfer dynion; deall sut mae dedfrydu yn amrywio ledled Cymru; a beth sy'n gweithio i leihau aildroseddu ymhlith menywod.
Yr argymhellion ar gyfer gwerthuso llysoedd a dedfrydu oedd yr angen i wneud y canlynol
- Cynyddu'r sylfaen dystiolaeth ar y pwnc hwn.
- Defnyddio’r ffyrdd presennol y gall menywod roi adborth ar eu profiadau (e.e., grwpiau ffocws a gweithdai, fforymau profiadau byw, rhestrau gwirio camau pwysig, a chyfweliadau ymadael).
- Sefydlu a yw’r trothwy carcharu yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion (gan ddefnyddio'r rhaglen Data yn Gyntaf gan yr ynadon a llys y goron).
- Sefydlu unrhyw wahaniaethau yn y ffordd y mae menywod â nodweddion gwarchodedig yn cael eu dedfrydu o’u cymharu â’r rheini sydd heb ddefnyddio cofnodion y rhaglen Data yn Gyntaf (byddai cysylltu data’n gwella hyn), archwilio a yw tueddiadau’n newid dros amser, ac archwilio materion cydymffurfio.
- Archwilio proffil y datrysiadau ar gyfer grwpiau gwahanol, yn ôl y math o drosedd a'i difrifoldeb, p'un a yw'n newid dros amser, a ph'un a oes cynnydd yn y defnydd o ddatrysiadau y tu allan i'r llys a gostyngiad yn y defnydd o'r ddalfa.
- Ymgorffori data amser i gyfiawnder.
- Archwilio penderfyniadau ac agweddau ymhlith dedfrydwyr a staff llys ehangach trwy gyfweliadau ansoddol.
- Archwilio effeithiolrwydd yr hyfforddiant ar gyfer ymarferwyr, staff asiantaethau partner, a'r farnwriaeth trwy gynnal arolygon cyn ac ar ôl a chyfweliadau ansoddol.
Atebion cymunedol
Nodwyd ehangu llety, gwasanaethau a gwybodaeth addas i fenywod (yn enwedig i'r rhai sydd wedi cael eu cam-drin) yn y gymuned fel blaenoriaeth ar gyfer gwella atebion cymunedol, yn ogystal â sefydlu'r ganolfan breswyl arfaethedig i fenywod. Dywedwyd y dylai menywod a chymunedau helpu i lunio gwasanaethau cymunedol. Roedd rhai o'r farn y dylid cysylltu'r gymuned a'r llysoedd a blaenoriaethau dedfrydu o fewn y Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod. Dywedwyd bod diffinio a mapio atebion cymunedol, a chynnwys menywod â phrofiadau byw yn bwysig wrth werthuso atebion cymunedol.
Roedd yr argymhellion ar gyfer gwerthuso’r flaenoriaeth atebion cymunedol yn cynnwys y canlynol
- Canolbwyntio ar fynediad amserol menywod at wasanaethau a chymorth.
- Defnyddio ffigurau amseroedd aros iechyd cyhoeddus i ddeall yr angen am wasanaethau a chymorth sydd heb ei ddiwallu.
- Defnyddio cyfraddau aildroseddu sylfaenol a thros amser sy'n gysylltiedig â mesurau cydraddoldeb ac amrywiaeth.
- Archwilio cydymffurfedd â dedfrydau cymunedol gan ddefnyddio ffigurau o ran torri amodau ac adalw, a data o fonitro electronig a phrofion cyffuriau, gan nodi rhesymau dros ddiffyg cydymffurfedd.
- Casglu ffigurau hyfforddi staff.
- Cysylltu data o'r gwasanaeth prawf ac o'r rhaglen Gwell Canlyniadau drwy Ddata Cysylltiol i ddarganfod mwy am anghenion ac amgylchiadau defnyddwyr gwasanaeth.
Y Ddalfa ac ailsefydlu
Teimlai’r cyfranogwyr fod y ddalfa ac ailsefydlu i fenywod yng Nghymru yn cael ei gymhlethu o ganlyniad i’w lleoli mewn carchardai yn Lloegr. Gellid gwella’r ddarpariaeth yn y ddalfa ac ailsefydlu drwy fwy o gydweithio rhwng lleoliadau a gwasanaethau carcharu yng Nghymru, a sicrhau bod cyfleoedd addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar gael yn gyson i fenywod sy’n dychwelyd i’w cymunedau. Roedd darparu llety diogel i fenywod hefyd yn bwysig, yn ogystal â lleihau'r defnydd o ddedfrydau byr. Dylai gwerthusiadau o'r ddalfa ac ailsefydlu archwilio achosion o aildroseddu a dulliau lleoliadau gwahanol o weithio gyda menywod, monitro a chasglu gwybodaeth am fenywod.
Roedd yr argymhellion ar gyfer gwerthuso'r ddalfa ac ailsefydlu yn cynnwys y canlynol
- Cyfraddau aildroseddu yn ôl math o ddedfryd o ran unrhyw wahaniaethau rhwng menywod â nodweddion gwarchodedig a'r menywod hebddynt.
- Proffil y datrysiadau ar gyfer grwpiau gwahanol, yn ôl y math o drosedd a'i difrifoldeb, p'un a yw hyn wedi newid dros amser, a ph'un a fu cynnydd yn y defnydd o ddatrysiadau y tu allan i'r llys a gostyngiad yn y defnydd o'r ddalfa.
- Data amser i gyfiawnder.
- Data ynghylch mynediad at wasanaethau cymorth trwy ddatblygu proffil croestoriadol cyson ar draws yr holl fenywod o Gymru yn y ddalfa gan ddefnyddio'r system Prison-Nomis.
- Nifer y menywod sy'n gwneud cais am unedau mamau a babanod a dangosyddion mamolaeth.
- Sicrhau cydymffurfedd sefydliadau â Safonau'r Gymraeg a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
- Ffigurau ynghylch cydymffurfio â dedfrydau cymunedol, defnyddio remand, rhyddhau ar drwydded dros dro, a mesurau parhad gofal.
- Archwilio addasrwydd llety ar ôl rhyddhau.
Ymchwil a gwerthuso
Gwnaeth y cyfranogwyr dynnu sylw at y ffaith y dylai'r canlynol fod yn ystyriaethau ar gyfer gwerthuso’r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod
- Ymrwymiad a mewnbwn gan yr holl sefydliadau perthnasol.
- Cael eu cefnogi gan ddiwylliant o ddysgu agored a strategaeth ymchwil ar y cyd (ar draws y ddau Lasbrint).
- Cyllid priodol ar gyfer y gwaith ymchwil a gwerthuso.
- Cynnwys gwaith ymchwil a gwerthuso ym musnes craidd gwasanaethau o'r cychwyn cyntaf.
- Dylai'r gwaith ymchwil a gwerthuso gyfuno data ansoddol a meintiol, bod yn annibynnol, ac yn fwy hirdymor.
- Dylai'r gwaith ymchwil a gwerthuso geisio sefydlu effeithiolrwydd gwaith aml-asiantaeth i gyflawni nodau'r Glasbrint.
- Dylai fod yn haws i ymchwilwyr gael gafael ar ddata ar gyfer y gwaith ymchwil a gwerthuso.
- Dylai darnau gwahanol o'r gwaith ymchwil a gwerthuso cael eu halinio'n agosach ar draws y Glasbrint.
- Dylid cydnabod yr anhawster o ynysu effeithiau'r Glasbrint oddi wrth rai mentrau presennol.
- Cynnwys cyn-droseddwyr benywaidd fel ymchwilwyr cymheiriaid a mentoriaid (gyda hyfforddiant a chymorth priodol).
- Sicrhau bod unigolyn y gellir ymddiried ynddo i gyflwyno ymchwilwyr ac annog ymgysylltiad.
- Sicrhau bod menywod yn teimlo eu bod wedi'u dilysu drwy gymryd rhan a'u bod yn gwybod y bydd eu cyfraniad yn helpu i sicrhau newid.
- Defnyddio dulliau creadigol, gweledol.
- Dewis y menywod 'cywir'.
- Cynnig cymhellion priodol.
Ychydig iawn o’r menywod a gymerodd ran yn y cyfweliadau sy'n rhan o’r prosiect a ddywedodd eu bod wedi bod yn ymwneud â gwaith ymchwil a gwerthuso o’r blaen, ac roedd y rhan fwyaf yn cydnabod pwysigrwydd gwneud hynny ac yn dweud y byddent yn hapus i wneud hynny yn y dyfodol. Teimlai’r rhan fwyaf mai’r ffordd orau o gynnwys menywod mewn ymchwil oedd, yn syml, trwy siarad â nhw, naill ai un-i-un, neu mewn grŵp bach. Mynegodd merched farn wahanol ynghylch cynnal arolygon a chadw dyddiaduron ysgrifenedig neu fideo fel rhan o'r gwaith ymchwil a gwerthuso. Teimlai’r rhan fwyaf nad oedd unrhyw amseroedd da neu ddrwg i gymryd rhan yn y gwaith ymchwil a gwerthuso, gyda rhai yn tynnu sylw at bwysigrwydd cymryd rhan hyd yn oed pan oeddent yn teimlo’n isel. Nid oedd profiad blaenorol o’r system cyfiawnder troseddol yn cael ei ystyried yn hanfodol i’r rhai sy’n cynnal ymchwil. Nid oedd merched yn ystyried bod cefndir hiliol ac ethnig ymchwilwyr yn bwysig, er y gallai eu rhywedd fod yn bwysig.
Argymhellion
Model gwerthuso a argymhellir
Yn unol ag adborth rhanddeiliaid, rydym yn argymell gwerthuso'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru ar wahân i nodi eu naws, gyda chrynodeb trosfwaol yn dwyn ynghyd eu themâu cyffredin o'r gwerthusiadau i lywio polisi ac arfer yn y dyfodol.
Yn ddelfrydol, dylai'r gwerthusiad gynnwys llinynnau prosesu a chanlyniadau, gan ymgorffori rhywfaint o ddata sy'n bodoli eisoes, megis dangosfwrdd Rheoli Integredig Troseddwyr Cymru; dadansoddiad mewnol yn cael ei wneud gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid; a setiau data sydd ar gael i'r cyhoedd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a'r Swyddfa Gartref.
Lle nad oes modd mynd i'r afael â bylchau yn y data hwn trwy gasglu data fel mater o drefn gan asiantaethau partner, dylid casglu data ychwanegol i gefnogi gwerthusiad mwy trylwyr. Fel y nodwyd, rhestrir mesurau canlyniadau y gellid eu defnyddio i werthuso'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a'r Glasbrint Chyfiawnder i Fenywod Cymru yn yr adroddiad llawn.
Os bydd adnoddau ac amser yn brin, gellid cynnal gwerthusiad “ciplun” untro, ar yr amod yr eir i’r afael â’r holl egwyddorion sylfaenol a grybwyllir yma, ond byddai’n llai craff na gwerthusiad hydredol.
Dylai’r gwerthusiad gyfuno dadansoddiad data meintiol â mewnwelediad ansoddol o gyfweliadau a/neu grwpiau ffocws gyda menywod/plant a phobl ifanc, eu teuluoedd, eu dioddefwyr, rhanddeiliaid, ac ymarferwyr. Dylai'r gwerthusiad fod yn hydredol, gan fesur canlyniadau ar wahanol adegau, yn ddelfrydol gyda'r un menywod/plant a phobl ifanc. Bydd hyn yn cynnig y cyfle i feincnodi a rhoi trosolwg mwy hirdymor o lwyddiant neu fethiant. Byddai angen cymhellion i gynnal ymgysylltiad cyfranogwyr.
Yn unol â'r dull sy'n seiliedig ar hawliau menywod a phlant ac sydd wedi'i lywio gan drawma, dylai menywod/plant a phobl ifanc sy'n ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol / system cyfiawnder ieuenctid ar wahanol gamau gyd-gynhyrchu’r offerynnau ymchwil a chwestiynau cyfweliad/grŵp ffocws. Gellid cyflawni hyn trwy gynnal grwpiau dylunio.
Dylid hefyd archwilio'r defnydd o ymchwil cymheiriaid a dulliau amgen megis fideos / dyddiaduron fideo, yn amodol ar hyfforddiant, arweiniad a chymorth priodol.
Argymhellion penodol ar gyfer gwerthuso'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru
Mae mwy o ddata ar lefel unigol yn bodoli mewn perthynas â phlant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â menywod yn y system cyfiawnder troseddol. Gallai'r Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid neu'r Weinyddiaeth Gyfiawnder neilltuo adnoddau i gynnal ymarfer sylfaenol systematig a sefydlu'r mecanwaith sydd ei angen er mwyn gallu monitro tueddiadau mewn data dros amser. Os bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn sicrhau bod data cyfiawnder troseddol ar gael yng nghronfa ddata'r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw, byddai’n bosibl ei gysylltu ag addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a data iechyd i ddysgu mwy am anghenion ac amgylchiadau’r rhai yn y system cyfiawnder ieuenctid / y system cyfiawnder troseddol. Gallai cronfa ddata’r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw gynnwys data allanol hefyd, a allai alluogi proses o olrhain hydredol plant a phobl ifanc sydd wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch atal a dargyfeirio, sef dau fwlch mawr yn y sylfaen dystiolaeth. Mae angen gallu dadansoddol i gyflawni hyn, o bosibl drwy gymrodoriaethau a ariennir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Argymhellion penodol ar gyfer gwerthuso'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru
Gan fod yr holl fenywod o Gymru sydd yn y ddalfa ar hyn o bryd yn cyflawni eu dedfrydau yn Lloegr, maent yn anoddach eu hadnabod. Mae hyn, ynghyd â'r newidiadau i wasanaethau prawf a'r diffyg parhad cysylltiedig yn y data yn Lloegr, yn ei gwneud yn anos monitro'r tueddiadau dros amser.
Mae data ar fenywod ar lefel unigol yn cael ei gadw gan wasanaethau amrywiol fel yr heddlu, llysoedd, a byrddau cyfiawnder lleol y gellir eu cydgrynhoi i greu darlun cenedlaethol. Nid yw bob amser yn bosibl ei ddadgyfuno yn ôl rhywedd. Mae niferoedd isel o fenywod Cymru yn y ddalfa yn creu her ychwanegol. Ni chesglir data ar nodweddion gwarchodedig yn gyson.
Yn yr un modd â’r system cyfiawnder ieuenctid, mae bylchau nodedig yn y sylfaen dystiolaeth ynghylch dargyfeirio ac ymyriadau yn y gymuned. Mae lle i fynd i'r afael â hyn trwy goladu data o ffurflenni sgrinio / atgyfeirio, er bod yn rhaid casglu data'n gyson, a rhaid cysoni cwestiynau rhwng asiantaethau. Felly, argymhellir y dull a ddefnyddir o fewn Iechyd Cyhoeddus i greu Hysbysiadau Dulliau Dadansoddi.
Gallai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder greu adnoddau penodol ar gyfer gosod sylfaen a monitro perfformiad, gan greu fersiwn Gymraeg o'u cyhoeddiad Women in the Criminal Justice System o bosibl, er mwyn ehangu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer troseddau menywod. Er mwyn cyflawni hyn, mae angen arweinyddiaeth strategol, a rhaid datrys materion yn ymwneud â diogelwch data, llywodraethu a throsolwg. Gallai data’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar lysoedd, ynghyd â data carchardai a phrawf, gael eu gwneud yn ddienw a’u cynnwys yng nghronfa ddata'r Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw a’u cysylltu â setiau data eraill er mwyn gallu olrhain dros amser, fel gyda’r data cyfiawnder ieuenctid. Byddai angen mewnbwn gan Iechyd a Gofal Digidol Cymru i’w wneud yn ddienw. Unwaith eto, fel gyda’r data cyfiawnder ieuenctid, mae angen cyllid ar gyfer dadansoddwyr data.
Egwyddorion sylfaenol ar gyfer gwerthuso'r Glasbrintiau
Dylai'r egwyddorion canlynol fod yn sail i unrhyw werthusiad o'r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a'r Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru.
Mae sylfaenu ac olrhain cynnydd defnyddwyr gwasanaeth trwy flaenoriaethau'r Glasbrintiau yn hanfodol. Er mwyn cyflawni hyn, rydym yn argymell datblygu fframwaith perfformiad a monitro aml-asiantaeth ag adnoddau digonol cyn unrhyw werthusiad.
Dylid defnyddio dull gwerthuso croestoriadol er mwyn deall unrhyw wahaniaethau mewn canlyniadau ar gyfer y rhai o grwpiau blaenoriaeth a'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Dylai asiantaethau ofyn cwestiynau sydd wedi'u cysoni mewn ffordd sensitif i nodi aelodaeth grŵp a nodweddion gwarchodedig.
Dylid cynnwys ymchwil a gwerthuso yn y gwasanaethau, y dulliau gweithredu a'r ymyriadau o'r cam comisiynu. Dylid archwilio addasrwydd mesurau canlyniadau presennol cyn creu rhai newydd.
Cyn y gwerthusiad, dylai asiantaethau ddiffinio beth sy'n cael ei ystyried yn “llwyddiant” ar gyfer pob menter sy'n ymwneud â'r Glasbrint, a dylai cytundebau rhannu data a/neu femoranda cyd-ddealltwriaeth fod ar waith.
Dylai asiantaethau cyfiawnder ieuenctid / asiantaethau cyfiawnder troseddol gefnogi'r gwaith gwerthuso trwy ddarparu'r data perthnasol a harneisio eu perthynas â defnyddwyr gwasanaeth i'w cynnwys yn y gwerthusiad.
Dylid datblygu “pasbort” sy'n cynnwys gwybodaeth allweddol i ddilyn plant, pobl ifanc a menywod drwy'r system cyfiawnder ieuenctid / system cyfiawnder troseddol i safoni casglu data a lleihau aildrawmateiddio.
Dylai fod gan y Glasbrintiau strategaeth werthuso gydlynol i sicrhau bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno iddynt.
Dylai'r gwaith ymchwil a gwerthuso gyfrannu at ganfyddiadau'r gwaith monitro a gwerthuso presennol. Dylai gael ei arwain gan ymchwilwyr annibynnol â’r sgiliau a’r cymwysterau priodol.
Dylai gwerthusiad fod yn bragmatig a realistig ynghylch i ba raddau y gellir ynysu effeithiau'r Glasbrintiau oddi wrth weithgareddau eraill a allai fod yn achosi newid; pa sefydliadau sydd â'r ysgogiadau ar gyfer newid; ac i ba raddau y gall newid ddigwydd mewn cyd-destun datganoledig.
Troednodiadau
[1] Cefnogi troseddwyr benywaidd
[2] Cefnogi troseddwyr ifanc
[3] Amlinellir canfyddiadau'r ymarfer mapio ystadegol yn fanwl yn adroddiad ar wahân yr Asesiad Gwerthusadwyedd ar gyfer Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru a’r Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru: Mapio Ystadegol
Manylion cyswllt
Awduron yr Adroddiad: Liz Puntan, Kelly Lock, a Helen Hodges
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Merisha Weeks
Ebost: PSLGResearchTeam@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 67/2022
ISBN digidol 978-1-80391-931-7