Neidio i'r prif gynnwy

Mae dysgu gydol oes yn ganolog i amcanion Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer creu cyfiawnder cymdeithasol a llwyddiant economaidd.

Ond tra bod y sector ôl-16 yn darparu darpariaeth o ansawdd rhagorol a bod iddo sawl cryfder. Mae'n wynebu nifer o heriau, gan gynnwys:

  • mae ymateb i newidiadau demograffig dros y blynyddoedd nesaf yn rhoi rhagor o bwysau ar yr adnoddau cyfyngedig ar gyfer dysgu ôl-16
  • sicrhau bod dysgwyr yn cael rhagor o ddewis a safonau uwch, gydag amrywiaeth ehangach o raglenni academaidd a galwedigaethol
  • sicrhau ansawdd uchel yn y ddarpariaeth holl-amrywiol drwyddi draw
  • galluogi oedolion sy'n dysgu i gael gwell mynediad i ddarpariaeth ar gyfer sgiliau sylfaenol
  • hyfforddiant i weithio a dysgu ar gyfer datblygiad personol
  • cydweithio'n llawer mwy effeithiol gyda chyflogwyr i ddiwallu anghenion sgiliau lleol a gwella cynhyrchiant.

Hefyd, mae problemau hirdymor, sef safonau cyflawniadau dysgwyr sy'n amrywio'n eang, etifeddu traddodiad o ddiffyg buddsoddi yn y sector dysgu a sgiliau ac etifeddu modelau cyllido anghynaladwy, anghyflawn sydd wedi annog dyblygu gwastraffus, cystadleuaeth ddibwys, ac sy'n cynnal gormod o ddarpariaeth wael.

Mae llawer o weithgareddau ar waith a fydd yn ein galluogi i hwyluso dysgu sy'n diwallu anghenion unigolion, busnesau a chymunedau, gan wella dewis a sicrhau cyfleoedd dysgu mwy hyblyg, hygyrch gyda llwybrau dilyniant academaidd a galwedigaethol clir. Mae arwyddion o newidiadau addawol eisoes - er enghraifft, mwy o bobl yn cymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu - ond mae angen gwneud mwy. Mae'r Asesiad o Ddysgu hwn - elfen allweddol yn y System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol - yn adolygu rhywfaint o'r datblygiadau polisi dysgu a'r heriau sy'n wynebu'r rhwydwaith dysgu ac yn amlygu'r blaenoriaethau newydd y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cynulliad Cymru a darparwyr dysgu fynd i'r afael â nhw yn y tymor canolig.

Mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud o ran casglu a dadansoddi data a deallusrwydd i gynorthwyo i hysbysu'r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol. Mae manylion sylfaenol yn cael eu cynhyrchu a'u diweddaru ddwywaith y flwyddyn sy'n cynnwys dangosyddion economaidd a chymdeithasol ar ddysgu a'r marchnadoedd llafur ar lefel genedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chyfoethogi gan wybodaeth a gesglir gan Gynghorau Sgiliau Sector, Pwyllgorau Rhanbarthol, CCET, ac amrywiaeth llawn o bartneriaid o'r sectorau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill. Wrth i ni symud ymlaen ein bwriad yw bod yn fwy soffistigedig yn y ffordd rydym yn defnyddio deallusrwydd wrth gynllunio ac ariannu, ond mae'n rhaid pwysleisio mai'r flaenoriaeth ar gyfer ymyriad fydd y meysydd lle cafwyd methiannau 'marchnad ddysgu' clir h.y. lle nad yw'r ddarpariaeth ddysgu yn diwallu anghenion unigolion, busnesau a chymunedau.

Adroddiadau

Asesiad dysgu a sgiliau blynyddol 2005 i 2006 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 541 KB

PDF
Saesneg yn unig
541 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.